Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Grŵp Cwricwlwm Cymraeg, Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi cael canmoliaeth am y ffordd y mae wedi ymgorffori’r Gymraeg mewn gwaith ieuenctid. 

Mewn ymateb i alwadau gan staff a phobl ifanc am fwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac i ddysgu mwy am hanes a llên gwerin Cymru, mae’r gwasanaeth wedi ymrwymo i ddatblygu dull gweithio dwyieithog ym mhob un o leoliadau’r gwasanaeth ieuenctid. Sefydlwyd y Grŵp Cwricwlwm Cymraeg i ysgogi cynnydd tuag at y nod hwn. 

Ochr yn ochr â chyrsiau Cymraeg ffurfiol i staff, datblygodd y Grŵp ei lyfryn geirfa Cymraeg ei hun sy’n cynnwys yr ymadroddion mwyaf cyffredin a ddefnyddir mewn lleoliadau gwaith ieuenctid. Darparwyd ynganiadau seinegol ar gyfer pob ymadrodd a recordiadau sain a grëwyd gan weithwyr ieuenctid Cymraeg. 

Mae’r Grŵp hefyd wedi datblygu rhaglen newydd ar gyfer bobl ifanc, sef Rhaglen y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, ar ffurf 12 llyfryn cwricwlwm, un ar gyfer pob mis o’r flwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys cyfres o benodau sy’n annog pobl ifanc i ymgysylltu â gwahanol agweddau ar ddiwylliant, hanes a llên gwerin Cymru ac mae’n cynnwys Eisteddfod fisol lle mae pobl ifanc yn cystadlu ar ran eu llys. Mae’r llyfrynnau hefyd yn cynnwys adran ‘Y mis hwn rydyn ni’n dweud...’, sy’n cyflwyno geirfa Gymraeg newydd bob mis i ategu’r llyfryn geirfa Cymraeg. 

Mae’r llyfrynnau wedi cael ymateb da gan staff a phobl ifanc gyda chyfradd cyfranogiad o 85% mewn heriau Cymraeg misol a mwy na 1,200 o geisiadau unigol wedi’u cyflwyno gan bobl ifanc ar gyfer yr Eisteddfod mewn dim ond 8 mis. Mae gweithwyr ieuenctid wedi sôn bod cynnydd sylweddol ym mrwdfrydedd a defnydd pobl ifanc o’r Gymraeg.

Dywedodd un gweithiwr ieuenctid:

“Mae’r cwricwlwm yn teimlo’n ffres ac yn berthnasol. Trwy heriau byr, hwyliog a llyfrynnau bywiog, rydym wedi gwneud yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn gyffrous ac yn hygyrch mewn lleoliadau gwaith ieuenctid. Mae’r system llysoedd yn meithrin cysylltiadau a chystadleuaeth gyfeillgar. Yn hytrach na chanolbwyntio ar addysgu iaith, mae wedi sbarduno balchder mewn treftadaeth a diddordeb gwirioneddol mewn dysgu mwy am Gymru. Mae pobl ifanc wedi ymateb yn frwdfrydig, gan ddweud bod yr heriau wedi gwneud dysgu Cymraeg yn bleserus ac yn gynhwysol. Mae’r newid arloesol hwn wedi arwain at fwy o ymgysylltu ac wedi ysbrydoli rhai i ddilyn cymwysterau Cymraeg, sy’n dangos effaith barhaol.”