Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

RIFF, Menter Iaith Rhondda Cynon Taf

Mae prosiect ‘RIFF’ Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn brosiect a arweinir gan bobl ifanc sy’n grymuso pobl ifanc i ffurfio bandiau, ysgrifennu cerddoriaeth Gymraeg wreiddiol a pherfformio ar lwyfannau ledled Cymru.

Mae gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd y prosiect hwn, sy’n dwyn ynghyd cryfderau gweithwyr ieuenctid, cerddorion a sefydliadau fel Cerdd Gymunedol Cymru, Clwb y Bont a Gwasanaeth Cerddoriaeth Rhondda Cynon Taf i greu llwybr i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth a pherfformio.

I lawer o bobl ifanc, y prosiect hwn yw eu cyfle cyntaf i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol y tu allan i’r ystafell ddosbarth, sy’n helpu i’w gwreiddio fel iaith fyw, bob dydd. Ochr yn ochr â sgiliau perfformio, mae’r cyfranogwyr hefyd yn elwa ar gefnogaeth gan eu gweithwyr ieuenctid i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy. 

Roedd y beirniaid o’r farn bod y prosiect hwn yn enghraifft bwerus o ddatgloi potensial trwy iaith, creadigrwydd a chymuned. Canmolwyd y prosiect am ymateb i alwadau gan bobl ifanc am gyfleoedd lleol, sydd wedi datblygu i fod yn llwyfan bywiog ar gyfer hyder, hunanfynegiant a balchder diwylliannol. 

Dywedodd un o’r bobl ifanc a gymerodd ran:

“Mae’r prosiect wedi gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus i berfformio a chyfansoddi fel rhan o’r grŵp, ac mae holl aelodau’r grŵp yn teimlo’n fwy hyderus am berfformio yn Gymraeg ar ôl cael yr hyfforddiant yma.”