Neidio i'r prif gynnwy

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mai 2026.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Gorchymyn yr A483 (Llanelwedd, Powys) a’r B4358 a’r A470 (Y Bontnewydd-ar-Wy, Powys) (Terfyn Cyflymder 30mya Dros Dro ar gyfer Cerbydau Esempt) 2026: hysbysiad cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 122 KB

PDF
122 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gorchymyn yr A483 (Llanelwedd, Powys) a’r B4358 a’r A470 (Y Bontnewydd-ar-Wy, Powys) (Terfyn Cyflymder 30mya Dros Dro ar gyfer Cerbydau Esempt) 2026: Gorchymyn , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 164 KB

PDF
164 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Effaith y Gorchymyn yw rhoi caniatâd dros dro i gerbydau modur a ddefnyddir gan swyddogion awdurdodedig y digwyddiad gael eu gyrru heb fod yn gyflymach na 30mya ar y darnau o’r cefnffyrdd a’r is-ffordd a bennir isod:  

  1. ar yr A483, Llanelwedd, o bwynt tua 60 metr i’r de‑orllewin o’r arwydd terfyn cyflymder 20mya a leolir ger ei chyffordd â’r A481, hyd at bwynt tua 40 metr i’r gogledd‑ddwyrain o’r groesfan sebra ar y gefnffordd honno, i gyfeiriad Llanfair-ym-Muallt.
  2. ar y B4358, Y Bontnewydd-ar-Wy, o bwynt tua 70 metr o’i chyffordd â’r ffordd ddiddosbarth o’r enw Sychpant, hyd at bwynt tua 100 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â’r A470 ym Mrynwern.

Bydd hyn yn eu galluogi i fod ychydig o flaen y ras er mwyn cyflawni eu dyletswyddau o sicrhau bod y ffordd yn glir a dal traffig, pan fo’n briodol. Bydd yn gweithredu “swigen ddiogelwch” a ddylai sicrhau bod y ras yn cael ei chynnal yn ddiogel i feicwyr a’r cyhoedd.