Neidio i'r prif gynnwy
Fiona Jones: Cadeirydd Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru

Mae gan Fiona brofiad helaeth o sefydlu ac arwain gweithrediadau mawr, cymhleth, ac mae ganddi angerdd dros gefnogi pobl agored i niwed a'r rhai sydd angen help ychwanegol.

Ymddeolodd o Lywodraeth y DU ar ôl 36 mlynedd o wasanaeth. Ei rôl ddiweddaraf oedd Cyfarwyddwr yn y Swyddfa Gartref, lle arweiniodd y timau sy'n gofalu am ac yn prosesu ceiswyr lloches wedi iddynt gyrraedd. Cyn hynny treuliodd bedair blynedd fel Cyfarwyddwr DWP Cymru, yn rhedeg y canolfannau gwaith a'r canolfannau cyswllt yng Nghymru - dyfarnwyd OBE iddi yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020 am wasanaethau i bobl ddi-waith yng Nghymru.

Mae Fiona hefyd yn Gadeirydd Tai Tarian - un o'r landlordiaid cymdeithasol mwyaf yng Nghymru sydd â chyfrifoldeb am dros 9,000 o gartrefi ar draws Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ac mae'n ymddiriedolwr Prime Cymru – elusen a sefydlwyd gan Ei Mawrhydi y Brenin Siarl III sy'n helpu pobl hyn i ddychwelyd i waith/entrepreneuriaeth.

Mae Fiona yn byw ym Morgannwg Ganol, ac mae ganddi fab, merch a dwy wyres. Mae hi'n mwynhau cerdded, rhedeg, nofio a threulio amser gyda'i theulu.