Iwan Jones Aelod Anweithredol o'r Bwrdd
Dechreuodd Iwan ei yrfa gyda Touche Ross (Deloitte bellach) ac mae'n aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr.
Mae'n meddu ar dros 30 mlynedd o brofiad mewn amrywiol rolau ym maes risg a chyllid mewn sefydliadau gwasanaethau ariannol yn y DU a thramor, gan gynnwys Lloyds TSB, Barclays, NatWest, JP Morgan Chase a Deutsche Banks, a Chymdeithasau Adeiladu Monmouthshire and Principality.
Mae gan Iwan brofiad eang a sylweddol ym maes rheolaeth ariannol gan gynnwys datblygu strategaethau, rheoli trysorlys, cynllunio cyfalaf, rheoli risg, rheoli prosiectau ac adrodd ariannol. Wedi'i eni yng Nghymoedd De Cymru a bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae wedi ymrwymo i gefnogi sefydliadau sy'n cyfrannu at wydnwch a chynaliadwyedd hirdymor cymunedau Cymru.
