Neidio i'r prif gynnwy

Sut i sicrhau nad yw cymeradwyaeth rheoli adeiladu yn dod i ben os nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

O 1 Gorffennaf 2026 bydd effaith cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer hysbysiadau cychwynnol a cheisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn dod i ben yn awtomatig os na fydd y gwaith adeiladu a ddisgrifir mewn hysbysiad neu gais wedi cyrraedd y trothwy a ddiffinnir ar gyfer cychwyn gwaith.

Os na fydd y gwaith wedi cychwyn o fewn y terfyn amser o dair blynedd, bydd y gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer pob adeilad a gynhwysir yn y gymeradwyaeth wreiddiol yn dod i ben yn awtomatig, hyd yn oed os yw'r gwaith ar weddill y safle wedi cychwyn.

Hysbysu pryd mae'r gwaith yn dechrau ar y safle a phryd y bydd y gwaith wedi cychwyn

O 1 Gorffennaf 2026 ymlaen, er mwyn sicrhau nad yw cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn dod i ben am nad yw'r gwaith yn cael ei gwblhau o fewn 3 blynedd, mae'n ofynnol i ddeiliaid dyletswyddau hysbysu'r corff rheolaeth adeiladu perthnasol ddwywaith, i ddweud pryd y bwriedir dechrau'r gwaith, a phan y bydd yn bodloni'r diffiniad ei fod wedi cychwyn.

Rhaid hysbysu'r corff rheolaeth adeiladu perthnasol o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y bydd deiliaid dyletswyddau'n bwriadu dechrau'r gwaith. Mae'r terfyn amser hwn yn gymwys i adeiladau nad ydynt yn risg uwch ond caiff ei estyn i bum diwrnod gwaith ar gyfer adeiladau risg uwch. 

Rhaid cyflwyno hysbysiad arall dim mwy na phum diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y gwnaeth y gwaith fodloni'r diffiniad newydd ei fod wedi cychwyn. Os nad yw'r awdurdod rheolaeth adeiladu yn fodlon bod y gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi’i gychwyn, gall gyhoeddi hysbysiad gwrthod o fewn pedair wythnos ar ôl dyddiad cyflwyno'r hysbysiad cychwyn. Rhaid i'r hysbysiad gwrthod gynnwys y rheswm dros wrthod.

Ystyr "dechrau" a "cychwyn" gwaith adeiladu

Cyn 1 Gorffennaf 2026 gellir defnyddio'r termau "dechrau gwaith adeiladu" a "cychwyn gwaith adeiladu" i olygu'r un peth i bob pwrpas.

O 1 Gorffennaf 2026 ymlaen, pan ddaw Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 i rym, bydd ganddynt ystyron gwahanol. Nid yw'r rheoliadau yn diffinio "dechrau" gwaith adeiladu, ond disgwylir iddo olygu pryd mae gweithgarwch corfforol yn dechrau ar safle gwaith adeiladu hysbysadwy parhaol. 

O 1 Gorffennaf 2026 mae "cychwyn" gwaith adeiladu yn golygu bod gwaith yn bodloni'r trothwy ar gyfer cychwyn a ddiffinnir yn rheoliad 46B o Reoliadau Adeiladu 2010:

(2) Pan fo’r gwaith yn golygu adeiladu adeilad cymhleth, mae gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn mewn perthynas â’r adeilad hwnnw neu’r cam cyntaf o waith adeiladu ar gyfer yr adeilad hwnnw pan fydd y sylfeini sy’n cynnal yr adeilad a strwythur lefel llawr isaf yr adeilad hwnnw (ond nid yr adeiladau neu’r strwythurau eraill sydd i’w cynnal gan y sylfeini hynny) wedi eu cwblhau.

(3) Pan fo’r gwaith yn golygu— 

(a)      adeiladu adeilad ac nad yw paragraff (2) yn gymwys, neu 

(b)      estyn adeilad yn llorweddol, 

mae gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn pan fydd strwythur is-wyneb yr adeilad neu’r estyniad gan gynnwys yr holl sylfeini, y lefel islawr (os oes rhai) a strwythur lefel y llawr daear wedi ei gwblhau. 

(4) Pan fo’r gwaith yn golygu unrhyw waith adeiladu arall, ac y bydd y gwaith hwnnw yn cael ei ymgorffori yn yr adeilad wedi ei gwblhau, yna mae gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn pan—

(a)      bydd yn cyrraedd y pwynt pan fydd mewnbwn rheolaeth adeiladu yn ofynnol ar gyfer y prosiect, a 

(b)      heb fewnbwn rheolaeth adeiladu o’r fath, fyddai sail dros orfodi.

(5) Yn y rheoliad hwn — 

ystyr “adeilad cymhleth” (“complex building”) yw— 

(a)      adeilad sydd i’w adeiladu ar yr un godre neu bodiwm sylfaen ag unrhyw adeilad neu strwythur arall; 

(b)      adeilad y mae iddo fwy nag un llawr islaw lefel y ddaear; 

(c)      adeilad y bwriedir ei ddefnyddio yn bennaf fel adeilad cyhoeddus lle y mae gan y cyhoedd neu gyfran o’r cyhoedd fynediad i’r adeilad (pa un ai ar ôl talu ai peidio) ar yr amod bod gan yr adeilad gapasiti ar gyfer 100 neu ragor o ymwelwyr. 

ystyr “adeilad cyhoeddus” (“public building”) yw— 

(a)      siop neu ganolfan siopa; 

(b)      mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre, gan gynnwys clwb nos, clwb cymdeithasol neu neuadd ddawns; 

(c)      stadiwm, theatr, sinema, neuadd gyngerdd; 

(d)      maes chwaraeon; 

(d)      neuadd arddangos neu ganolfan gynadledda; 

(f)       ysbyty neu fangre ar gyfer darparu gofal iechyd