Manylion y trefniadau pontio ar gyfer gwaith ar adeiladau sy'n bod a gwaith ar adeiladau newydd pan ddaw'r rheoliadau adeiladu newydd i rym ar 1 Gorffennaf 2026.
Cynnwys
Y drefn rheolaeth adeiladu newydd
Daw'r rheoliadau adeiladu newydd i rym ar 1 Gorffennaf 2026 a byddant, ymhlith pethau eraill, yn newid prosesau rheolaeth adeiladu, yn enwedig ar gyfer gwaith adeiladu risg uwch.
Y prif setiau o reoliadau yw Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025.
Mae Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 yn cyflwyno darpariaethau ar gyfer gwaith adeiladu risg uwch gan gynnwys:
- y gofyn i gael cymeradwyaeth cyn dechrau ar unrhyw waith adeiladu risg uwch (Porth 2 fel y'i gelwir)
- y broses ymgeisio am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith adeiladu ar, neu i greu, adeilad risg uwch
- gweithdrefnau newydd wrth wneud gwaith adeiladu risg uwch, megis rheoli newid ac adroddiadau gorfodol ar faterion diogelwch
- proses cymeradwyo rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith adeiladu risg uwch sydd wedi'i gwblhau (Porth 3 fel y'i gelwir)
- llinyn aur o wybodaeth ar gyfer adeiladau risg uwch
- gweithdrefnau apelio sy'n ymwneud â gwaith adeiladu risg uwch
- trefniadau pontio
Mae Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 yn cyflwyno darpariaethau ar gyfer gwaith adeiladu gan gynnwys:
- rolau, cyfrifoldebau a gofynion ar gyfer deiliaid dyletswyddau sy'n ymwneud ag unrhyw waith adeiladu rheoledig
- disodli'r broses bresennol o adneuo cynlluniau a chyflwyno yn ei lle trefn ymgeisio am reolaeth adeiladu ar gyfer gwaith adeiladu nad yw'n risg uwch
- darpariaethau newydd ynghylch cychwyn gwaith, gan gynnwys diffinio cychwyn. Maen nhw'n ymdrin â'r darpariaethau ynghylch dod â'r gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu i ben yn awtomatig ar ôl tair blynedd.
- pwerau gorfodi newydd i awdurdodau lleol: hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau stopio
- newid darnau eraill o is-ddeddfwriaeth i'w cysoni â'r darpariaethau newydd hyn, gan gynnwys diwygiadau i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc) (Cymru) 2024.
Fe welwch ragor o wybodaeth am y rheoliadau hyn mewn llythyrau sy'n cael eu cylchredeg ac yn y canllawiau ar eu darpariaethau.
Gwaith adeiladu risg uwch
Mae adeilad risg uwch yn adeilad sydd ag o leiaf:
- 7 llawr neu sydd o leiaf 18 metr o uchder
- 1 uned breswyl neu sy'n ysbyty, cartref gofal neu gartref plant
Mae rhai mathau o adeiladau wedi'u heithrio o fod yn adeilad risg uwch, fel gwestai, sefydliadau preswyl diogel a barics milwrol neu lety arall y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae canllawiau ar gael sy’n esbonio pryd yr ystyrir bod adeilad yn adeilad risg uwch wrth adeiladu adeilad newydd ac wrth gynnal gwaith adeiladu ar adeilad sy’n bod.
Gwaith adeiladu risg uwch yw unrhyw waith sy'n creu adeilad risg uwch, neu sy'n cael ei wneud arno, gan gynnwys gwaith sy'n peri i adeilad risg uwch beidio â bod yn adeilad risg uwch.
Darpariaethau pontio ar gyfer Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025
Mae darpariaethau pontio ar gyfer Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 wedi'u nodi yn atodlen 3 o'r rheoliadau hynny.
Ar gyfer gwaith adeiladu risg uwch, lle mae cynlluniau wedi'u hadneuo gydag awdurdod rheolaeth adeiladu, neu pan fydd hysbysiad cychwynnol wedi'i roi a'i dderbyn neu yr ystyrir ei fod wedi'i dderbyn cyn 1 Gorffennaf 2026, mae'r canlynol yn wir:
Bydd gofynion Rheoliadau Adeiladu 2010 a lle bo'n berthnasol, Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc) (Cymru) 2024, yn parhau'n gymwys i'r gwaith hwnnw fel yr oeddynt cyn 1 Gorffennaf 2026.
Mae hyn yn golygu na fydd darpariaethau newydd fel y rhai ar gyfer pyrth, y llinyn aur a rolau deiliaid dyletswyddau yn gymwys i waith adeiladu sy'n bodloni'r meini prawf uchod.
Ni fydd y darpariaethau pontio hyn yn gymwys os ar unrhyw adeg:
- y caiff y cynlluniau llawn eu gwrthod gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu, neu
- ac os na fydd y gwaith adeiladu wedi dechrau o fewn 3 blynedd, y bydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn canslo'r hysbysiad cychwynnol neu'n cyhoeddi hysbysiad sy'n dweud nad yw adneuo cynlluniau yn cael unrhyw effaith.
Pan fydd hynny'n digwydd, bydd y rheoliadau newydd yn berthnasol i'r gwaith hwnnw os bydd yn parhau.
I nodi, dim ond cyn 6 Ebrill 2024 y gellid cyflwyno hysbysiadau cychwynnol ar gyfer gwaith adeiladu risg uwch newydd i awdurdodau lleol o dan y darpariaethau pontio sy'n ymwneud â rheoleiddio'r proffesiwn rheolaeth adeiladu.
Darpariaethau pontio ar gyfer Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025
Mae'r darpariaethau pontio ar gyfer Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 ("y Rheoliadau Diwygio") wedi'u nodi yn rheoliadau 19-22.
Maent yn ymwneud yn bennaf â diwygiadau i Reoliadau Adeiladu 2010 a Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024.
Ar gyfer diwygiadau i Reoliadau Adeiladu 2010, os cyn 1 Gorffennaf 2026:
- y bydd gwaith adeiladu wedi dechrau, neu
- y bydd cynlluniau ar gyfer gwaith adeiladu wedi'u hadneuo gydag awdurdod lleol, neu
- y bydd hysbysiad adeiladu wedi'i roi i awdurdod lleol,
bydd gofynion Rheoliadau Adeiladu 2010 yn parhau'n gymwys i'r gwaith hwnnw fel yr oeddynt cyn 1 Gorffennaf 2026.
Ar gyfer diwygiadau i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc) (Cymru) 2024, os bydd hysbysiad cychwynnol wedi'i roi i awdurdod lleol cyn 1 Gorffennaf 2026, bydd gofynion Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 yn parhau'n gymwys i'r gwaith hwnnw fel yr oeddynt cyn 1 Gorffennaf 2026.
Yn ogystal, nid yw newidiadau i ffurflenni a wneir gan y Rheoliadau Diwygio yn gymwys i unrhyw ffurflen a gyflwynwyd y mae hysbysiad cychwynnol wedi'i roi mewn perthynas â hi i awdurdod lleol cyn 1 Gorffennaf 2026 sy'n cydymffurfio â'r gofynion ar yr adeg y rhoddwyd yr hysbysiad cychwynnol.
Mae hyn yn golygu na fydd darpariaethau newydd fel y rhai sy'n ymwneud â deiliaid dyletswyddau, dod â chymeradwyaeth rheolaeth adeiladu i ben yn awtomatig, a newidiadau i waith a oruchwylir gan gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn gymwys i waith adeiladu sy'n bodloni'r meini prawf uchod.
Ni fydd y darpariaethau pontio hyn yn gymwys os ar unrhyw adeg:
- y caiff y cynlluniau llawn eu gwrthod gan yr awdurdod lleol,
- y caiff yr hysbysiad cychwynnol ei wrthod gan yr awdurdod lleol neu fel arall yn peidio â bod mewn grym.
Pan fydd hynny'n digwydd, bydd y rheoliadau newydd yn berthnasol i'r gwaith hwnnw os bydd yn parhau.
