Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae'n rhaid i brif ddylunwyr a phrif gontractwyr sefydlu a chynnal system i adrodd ar ddigwyddiadau a risgiau i ddiogelwch adeiladau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwynir yr adroddiadau i’r awdurdod rheolaeth adeiladu (sef fel arfer yr awdurdod lleol y saif yr adeilad ynddo).

Pwy sy'n gorfod gweithredu system adrodd orfodol ar ddigwyddiadau

Prif ddylunwyr a phrif gontractwyr

Rhaid i'r prif ddylunydd a'r prif gontractwr sefydlu a gweithredu system adrodd orfodol ar ddigwyddiadau (MOR), yn ystod y canlynol:

  • wrth adeiladu adeilad risg uwch newydd
  • gwaith ar adeilad risg uwch sy'n bod, oni bai bod y gwaith yn golygu gwaith wedi'i eithrio neu waith trwsio brys yn unig
  • gwaith adeiladu ar adeilad sy'n bod sydd naill ai'n ei wneud yn adeilad risg uwch, neu'n ei rwystro rhag bod yn adeilad risg uwch mwyach

Mae adeilad risg uwch yn adeilad sydd ag o leiaf:

  • 7 llawr neu sydd o leiaf 18 metr o uchder
  • 1 uned breswyl neu sy'n ysbyty, cartref gofal neu gartref plant

Mae rhai mathau o adeiladau wedi'u heithrio o fod yn adeilad risg uwch, fel gwestai, sefydliadau preswyl diogel a barics milwrol neu lety arall y Weinyddiaeth Amddiffyn. 

Darllenwch y canllaw ynghylch pryd yr ystyrir bod adeiladau yn adeiladau risg uwch yn ystod gwaith adeiladu adeilad newydd neu wrth gynnal gwaith adeiladu ar adeiladau sy’n bod.

Rhaid i'r prif ddylunydd a'r prif gontractwr:

  • sefydlu a gweithredu system MOR cyn i waith adeiladu neu waith ar adeilad ddechrau
  • cynnal a gweithredu eu system trwy gydol y prosiect

Gall prif ddylunwyr a phrif gontractwyr weithredu'r un systemau MOR neu systemau ar wahân.

Rhaid i'ch system MOR i'r graddau ei bod yn rhesymol ymarferol, alluogi'r canlynol i baratoi adroddiad prydlon:

  • dylunwyr a chontractwyr sy'n gweithio ar y prosiect
  • eraill sy'n ymweld â'r safle gwaith o bryd i'w gilydd

Dysgwch fwy am rolau prif ddylunwyr a phrif gontractwyr yn y canllaw dylunio a gwaith adeiladu: bodloni gofynion adeiladu.

Digwyddiadau a risgiau i'w hadrodd

Rhaid i'ch system adael i bobl roi gwybod am ddigwyddiadau diogelwch sydd wedi achosi, neu os nad ydynt yn cael eu gwella, yn debygol o beri risg o:

  • farwolaeth nifer arwyddocaol o bobl
  • anaf difrifol sydd angen triniaeth ar unwaith yn yr ysbyty neu sy'n peri cyflwr anabledd parhaol neu anadferadwy i nifer arwyddocaol o bobl

Yr “amodrisg” yw’r enw ar hyn.

Mae digwyddiadau diogelwch, mewn perthynas â dyluniad, yn golygu agwedd ar y dyluniad sy’n ymwneud ag uniondeb strwythurol neu ddiogelwch tân adeilad risg uwch a fyddai, pe bai’n cael ei adeiladu, yn bodloni’r amod risg. Fel arall, digwyddiad neu sefyllfa sy’n ymwneud ag uniondeb strwythurol neu ddiogelwch tân adeilad risg uwch sy’n bodloni’r amod risg.

Ar gyfer gwaith dylunio, mae risg i ddiogelwch adeilad yn agwedd ar y dyluniad sy'n gysylltiedig ag uniondeb strwythurol neu ddiogelwch tân, a fyddai'n debygol o gyflwyno risg o farwolaeth neu anaf difrifol i nifer arwyddocaol o bobl.

Rhaid i chi riportio digwyddiadau diogelwch rydych chi wedi'u hasesu ac yn credu eu bod yn bodloni'r meini prawf hyn i'r awdurdod rheolaeth adeiladu fel digwyddiad diogelwch. Rhaid i chi wneud hyn drwy gyflwyno pan fydd digwyddiad:

  • hysbysiad gorfodol, cyn gynted ag y gallwch
  • adroddiad ysgrifenedig gorfodol, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl nodi'r digwyddiad diogelwch

Bydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn esbonio i chi sut i gyflwyno hysbysiad neu adroddiad iddynt.

Gweithredu'r system MOR

Er mwyn helpu i nodi digwyddiadau diogelwch, bydd angen:

  • i'r prif ddylunydd drefnu archwiliadau o'r gwaith dylunio'n rheolaidd
  • i'r prif gontractwr drefnu archwiliadau o'r gwaith adeiladu'n rheolaidd

Rhaid ichi:

  • adolygu'r adroddiadau a gyflwynwyd ar y system yn brydlon
  • penderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau

Beth mae'n rhaid i chi ei ddweud wrth bobl

Rhaid i chi rannu gwybodaeth ynghylch sut mae'r system yn gweithio gyda:

  • dylunwyr, contractwyr ac eraill sy'n gweithio ar y prosiect, cyn iddynt ddechrau unrhyw waith
  • unrhyw un sy'n mynd i'r safle gwaith, cyn gynted â phosibl
  • yr awdurdod rheolaeth adeiladu, pan ofynnir amdano

Dylech ddweud wrth bobl:

  • beth sydd angen iddynt ei adrodd
  • sut i wneud adroddiad
  • sut a phryd y bydd yr adroddiad yn cael ei drin
  • pryd y dylent ddisgwyl ymateb i adroddiad y maent wedi'i wneud
  • sut y byddwch chi'n casglu ac yn storio gwybodaeth yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data  (GDPR)

Byddai'n ddefnyddiol cynnwys enghreifftiau o'r hyn y dylai pobl gyflwyno adroddiadau arnynt ar eich system MOR.