Neidio i'r prif gynnwy

Y dyletswyddau a'r gofynion o ran cymwyseddau y mae'n rhaid i gleientiaid, dylunwyr a chontractwyr eu bodloni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rheoliadau adeiladu a dyletswyddau sy'n cael eu disgrifio yn y canllaw hwn

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall eich dyletswyddau a'r cymwyseddau y bydd eu hangen i wneud gwaith dylunio ac adeiladu o dan Ran 2B o Reoliadau Adeiladau 2010 sy'n dod i rym o 1 Gorffennaf 2026. Mae gennych ddyletswyddau eraill o dan Reoliadau Adeiladau 2010 nad ydynt wedi'u cynnwys yn y canllaw hwn.

Adeiladau risg uwch

Mae'r canllaw hwn yn ymdrin hefyd â dyletswyddau ychwanegol o dan Reoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025, pan fydd y prosiect yn cynnwys:

  • adeiladu adeilad risg uwch newydd
  • gwaith ar adeilad risg uwch sy'n bod, gan gynnwys gwaith sy'n peri nad yw'n adeilad risg uwch mwyach
  • gwaith ar adeilad sy'n bod i'w wneud yn adeilad risg uwch

Mae adeilad risg uwch yn adeilad sydd ag o leiaf:

  • 7 llawr neu sydd o leiaf 18 metr o uchder
  • 1 uned breswyl neu sy'n ysbyty, cartref gofal neu gartref plant

Mae rhai mathau o adeiladau wedi'u heithrio o fod yn adeilad risg uwch, fel gwestai, sefydliadau preswyl diogel a barics milwrol neu lety arall y Weinyddiaeth Amddiffyn. 

Darllenwch y canllaw ynghylch pryd yr ystyrir bod adeiladau yn adeiladau risg uwch yn ystod gwaith adeiladu adeilad newydd neu wrth gynnal gwaith adeiladu ar adeiladau sy’n bod

Dyletswyddau cleientiaid

Mae gwaith adeiladu a dylunio yn cael ei wneud ar ran y cleient, mewn perthynas â busnes y cleient. Gall cleient fod yn sefydliad neu'n unigolyn. Bydd yn aml yn ddatblygwr neu'n berchennog ar yr adeilad. 

Rheoli'r Prosiect

Fel y cleient, rhaid i chi wneud trefniadau addas ar gyfer cynllunio, rheoli a monitro prosiect fel ei fod yn cydymffurfio â'r holl ofynion perthnasol ar ôl ei gwblhau. Pan fydd mwy nag un cleient, yna o dan reoliad 11R(6) y Rheoliadau Adeiladu, dyma’r person fydd yn ysgwyddo dyletswyddau’r cleient.

Rhaid ichi:

  • neilltuo digon o amser ac adnoddau i'r gwaith adeiladu gydymffurfio â rheoliadau adeiladu
  • sefydlu, adolygu a chynnal systemau a threfniadau i fodloni'r rheoliadau adeiladu
  • cydweithredu ag eraill sy'n gweithio ar y prosiect fel eu bod nhw'n gallu cydymffurfio â'u dyletswyddau
  • ei gwneud yn bosib i ddylunwyr a chontractwyr gydweithio â'i gilydd
  • penderfynu a yw’n waith ar adeilad risg uwch

Rhaid i chi roi gwybodaeth am yr adeilad i bob dylunydd a chontractwr sy'n gweithio ar y prosiect cyn gynted ag sy’n ymarferol. Mae gwybodaeth am yr adeilad yn golygu gwybodaeth sydd ym meddiant y cleient neu sy’n rhesymol o hawdd i’r cleient gael gafael arni neu i rywun gael gafael arni ar ei ran. Gall hynny gynnwys :

  • y gwaith adeiladu neu'r gwaith dylunio
  • cynllunio a rheoli'r prosiect
  • unrhyw broblemau sy'n ymwneud â chydymffurfio â'r gofynion perthnasol a sut y gwnaethoch fynd i'r afael â hynny

Penodi dylunwyr a chontractwyr

Rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i benodi dylunwyr a chontractwyr sydd â'r cymwyseddau neu'r gallu sefydliadol angenrheidiol i gyflawni eu rolau.

Os oes mwy nag un dylunydd neu gontractwr yn gweithio ar y prosiect, neu y gellid yn rhesymol ragweld y bydd mwy nag un dylunydd yn gweithio ar brosiect neu y gellid yn rhesymol ragweld y bydd mwy nag un contractwr yn gweithio ar brosiect, rhaid i chi benodi yn ysgrifenedig:

  • prif ddylunydd i fod yn rheolwr ar y gwaith dylunio
  • prif gontractwr i fod yn rheolwr ar y gwaith adeiladu

Os mai dim ond un dylunydd sydd gan y prosiect, hwnnw fydd y prif ddylunydd. Os mai dim ond un contractwr sydd gan y prosiect, hwnnw fydd y prif gontractwr.

Penodi sefydliad fel prif ddylunydd neu brif gontractwr

Gallwch benodi sefydliad i fod yn brif ddylunydd neu'n brif gontractwr. Rhaid i'r sefydliad enwi unigolyn cymwys o fewn y sefydliad i gyflawni swyddogaethau'r rôl. Rhaid i’r person feddu ar y sgiliau, y wybodaeth, y profiad a’r ymddygiad sydd eu hangen i reoli’r swyddogaeth. Nid yw hynny'n golygu mai'r unigolyn hwnnw yw'r prif ddylunydd neu'r prif gontractwr - mae'r cyfrifoldebau cyfreithiol yn aros gyda'r sefydliad.

Gwaith ar adeiladau risg uwch: dyletswyddau cleientiaid

Fel y cleient, os yw'ch prosiect yn cynnwys gwaith ar adeilad risg uwch, chi fydd yn rheoli'r cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu. Mae hyn yn cynnwys darparu dogfennau a gwybodaeth benodol i'r awdurdod rheolaeth adeiladu, megis ymhlith eraill:

  • lluniadau a phlaniau
  • declarasiwn cymhwysedd
  • cynllun rheolaeth adeiladu;
  • cynllun rheoli newid;
  • cynllun ar gyfer cyflwyno adroddiadau gorfodol ar ddigwyddiadau;

Dysgwch fwy am y dogfennau a'r wybodaeth y mae'n rhaid i chi eu darparu i'r awdurdod rheolaeth adeiladu yn y canllaw rheoli rheolaeth adeiladu ar gyfer adeiladau risg uwch.

Yn ogystal â rheoli'r cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu, rhaid i chi hefyd:

  • wneud yn siŵr bod gan y prif ddylunydd a'r prif gontractwr system ar gyfer cyflwyno adroddiadau gorfodol ar ddigwyddiadau
  • caniatáu adolygiad achlysurol o'r gwaith adeiladu a dylunio i nodi a yw'n waith ar adeilad risg uwch
  • darparu gwybodaeth i ddylunwyr a chontractwyr fel eu bod yn gwybod bod y prosiect yn cynnwys gwaith ar adeiladau risg uwch

Rhaid i chi gadw cofnod o wybodaeth am yr adeilad (y llinyn aur fel y'i gelwir). Rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth i unigolion a sefydliadau perthnasol, megis personau atebol.

Pan fyddwch chi, neu'r prif ddylunydd neu'r prif gontractwr yn penodi unigolyn neu sefydliad i wneud gwaith, mae'n rhaid i chi:

  • gadw cofnod ysgrifenedig o'r camau a gymerwyd i sicrhau bod y rhai a benodwyd yn bodloni'r gofynion cymhwysedd i gyflawni eu dyletswyddau
  • darparu manylion cymwyseddau'r rhai a benodwyd yn y declarasiwn cymhwysedd a'r cynllun rheolaeth adeiladu wrth wneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu.

Gwaith ar adeiladau risg uwch: unigolion neu sefydliadau sydd â sancsiynau difrifol

Fel y cleient, rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod rheolaeth adeiladu os yw unigolyn neu sefydliad sydd wedi'i benodi wedi cael sancsiwn difrifol yn y 5 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn cwmpasu penodiadau a wnaed gennych chi, y prif ddylunydd neu'r prif gontractwr.

 Gall sancsiwn difrifol fod yn:

  • hysbysiad cydymffurfio sy'n cyfeirio at dramgwydd neu dramgwydd tebygol o ofyniad yn Rhan A (strwythur) neu yn Rhan B (diogelwch tân) o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010
  • hysbysiad stop o dan Ddeddf Adeiladau 1984
  • euogfarnau o dan Ddeddf Adeiladau 1984, Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Diogelwch Adeiladau 2022, neu Orchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005

Gall sancsiwn difrifol hefyd fod yn adroddiad a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 sy'n canfod bod gweithred neu ddiffyg gweithred wedi arwain at un o'r canlynol:

  • un neu fwy o farwolaethau neu
  • tramgwydd tebygol o un o ofynion Deddf Adeiladau 1984, Rhan A (strwythur) neu Ran B (diogelwch tân) o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladau 2010, Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Diogelwch Adeiladau 2022, neu Orchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005

Rhaid i chi ystyried sut mae unrhyw sancsiwn difrifol ac unrhyw weithred gan yr unigolyn neu'r sefydliad o ganlyniad i hynny yn effeithio ar eu barn neu eu gallu i wneud y gwaith.

Rhaid i chi roi gwybodaeth i'r awdurdod rheolaeth adeiladu yn y declarasiwn cymhwysedd a'r cynllun rheolaeth adeiladu am y canlynol:

  • pam eich bod yn ystyried bod yr unigolyn neu'r sefydliad yn gymwys i wneud ei ddyletswyddau, er gwaethaf sancsiwn ddifrifol yn ei erbyn
  • sut y byddwch chi'n lleihau'r risgiau a ddaw o benodi unigolyn neu sefydliad sydd wedi cael sancsiwn difrifol, megis gwirio ei waith yn amlach

Dyletswyddau cleientiaid: mwy nag un cleient

Pan fydd mwy nag un cleient yn gweithio ar brosiect, gall y cleientiaid rhyngddynt gytuno pa un ohonynt ddylai gael ei drin fel y cleient (y cyfeirir ato fel y “cleient arweiniol’ at ddiben y ddogfen hon). . Rhaid i bob cleient gadarnhau hyn yn ysgrifenedig.

Pan fydd cleient arweiniol, rhaid iddo wneud holl ddyletswyddau cleientiaid y prosiect. Rhaid i'r cleientiaid eraill, nad ydynt yn gleient arweiniol:

  • i’r graddau bod y dyletswyddau hynny’n ymwneud â gwybodaeth sydd ym meddiant y cleient neu sy’n rhesymol o hawdd i’r cleient gael gafael arni neu i rywun gael gafael arni ar ei ran, ddarparu gwybodaeth am yr adeilad cyn gynted ag y bo hynny’n ymaerferol i bob dylunydd a chontractwr sy'n gweithio ar y prosiect
  • cydweithredu ag eraill sy'n gweithio ar y prosiect fel eu bod nhw'n gallu cydymffurfio â'u dyletswyddau
  • caniatáu adolygiad achlysurol o'r gwaith adeiladu a dylunio i nodi a yw'n waith ar adeilad risg uwch
  • darparu gwybodaeth i ddylunwyr a chontractwyr fel eu bod yn gwybod bod y prosiect yn cynnwys gwaith ar adeiladau risg uwch

Dyletswyddau cleientiaid domestig

Cleient domestig yw unrhyw unigolyn sy'n cael gwaith adeiladu wedi'i wneud at ddibenion domestig, nid at ddibenion busnes.

Rheoli'r Prosiect

Fel y cleient domestig, chi sy'n rheoli'r prosiect, sy'n golygu bod yn rhaid i chi:

  • neilltuo digon o amser ac adnoddau i'r gwaith adeiladu gydymffurfio â rheoliadau adeiladu
  • penodi dylunwyr a chontractwyr
  • cydweithredu ag unrhyw un sy'n gweithio ar, neu mewn perthynas â'r prosiect, er mwyn i bawb sy'n cymryd rhan allu cydymffurfio â'u dyletswyddau a'u swyddogaethau

Rhaid i chi roi gwybodaeth sydd gennych, neu a fyddai'n rhesymol i chi ei chael, am yr adeilad i ddylunwyr a chontractwyr sy'n gweithio ar y prosiect. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • gwaith hysbys sydd wedi'i wneud
  • arolygon a gynhaliwyd ac a gadwyd fel rhan o gais am forgais, neu cyn unrhyw waith adeiladu

Penodi dylunwyr a chontractwyr

Pan fydd nifer o ddylunwyr a chontractwyr yn gweithio ar y prosiect, fel y cleient domestig gallwch benodi:

  • prif ddylunydd i fod yn rheolwr ar y gwaith dylunio
  • prif gontractwr i fod yn rheolwr ar y gwaith adeiladu

Gall fod yn unrhyw un rydych chi'n fodlon y gallai ymgymryd â'r rolau hynny, ond 

Gallwch hefyd ddewis penodi eich hun i'r rolau hynny. Fodd bynnag, cyn gwneud hynny, rhaid i chi fod yn siŵr eich bod yn deall yn llawn y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau rydych chi'n eu hysgwyddo. Oni bai eich bod yn gwbl siŵr bod gennych y profiad a'r cymhwysedd sydd eu hangen, argymhellir yn gryf eich bod yn penodi gweithwyr adeiladu proffesiynol sydd â'r cymwyseddau a'r profiad addas, fel penseiri, syrfewyr adeiladu neu gontractwyr adeiladu.

Os nad ydych yn penodi prif ddylunydd neu brif gontractwr, yna:

  • y dylunydd sy'n rheoli cam dylunio'r prosiect yw'r prif ddylunydd
  • y contractwr sy'n rheoli cam adeiladu'r prosiect yw'r prif gontractwr

Dyletswyddau dylunwyr

Fel dylunydd, mae'n rhaid i chi:

  • beidio â dechrau unrhyw waith dylunio oni bai eich bod yn fodlon bod y cleient yn gwybod beth yw ei ddyletswyddau cyfreithiol am y gwaith adeladu y mae’r dyluniad yn ymwneud ag ef. 
  • sicrhau bod y gwaith dylunio rydych yn ei wneud wedi’i gynllunio, ei reoli a’i fontrio a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y gwaith dylunio y bydd dylunwyr eraill rydych chi'n eu rheoli, yn ei wneud yn cael ei gynllunio, ei reoli a'i fonitro
  • rhoi digon o wybodaeth am ddyluniad ac adeiladwaith yr adeilad ac am ei gynnal a'i gadw i'r cleient a dylunwyr a chontractwyr eraill
  • rhoi cyngor, pan ofynnir amdano, i'r prif ddylunydd neu'r cleient ynghylch a yw unrhyw waith dylunio rydych chi'n ei wneud yn ymwneud â gwaith ar adeilad risg uwch

Yn ystod y cam dylunio, rhaid i chi fod yn fodlon bod y dyluniad, os caiff ei adeiladu, yn cydymffurfio â'r holl ofynion rheolaeth adeiladu perthnasol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi:

  • gadarnhau eich bod chi, neu ddylunwyr eraill rydych chi'n eu rheoli, wedi cymryd pob cam rhesymol i wneud yn siŵr bod y dyluniad, os caiff ei adeiladu, yn cydymffurfio â'r holl ofynion perthnasol
  • cydweithredu â'r cleient, dylunwyr eraill, contractwyr, y prif ddylunydd, a'r prif gontractwr

Os ydych chi'n gwneud dim ond rhan o waith dylunio'r prosiect, rhaid i chi ystyried sut y bydd eich gwaith dylunio chi yn rhyngweithio â gweddill y gwaith dylunio. Rhaid i chi ddweud wrth y prif ddylunydd os ydych chi'n poeni:

  • y bydd eich gwaith dylunio chi'n golygu na fydd y gwaith dylunio arall yn cydymffurfio
  • y bydd y gwaith dylunio arall yn golygu na fydd eich gwaith dylunio chi'n cydymffurfio

Os ydych chi'n penodi dylunwyr eraill i weithio ar y prosiect, rhaid i chi wneud yn siŵr bod ganddynt y cymwyseddau angenrheidiol i wneud y gwaith.

Dyletswyddau'r prif ddylunwyr

Fel y prif ddylunydd mae'n rhaid i chi wneud dyletswyddau'r dylunwyr a dyletswyddau'r prif ddylunwyr. Rhaid bod gennych y cymwyseddau angenrheidiol i weithio fel prif ddylunydd.

Mae'n bwysig eich bod chi'n rhan o'r tîm dylunio ac nid yn drydydd parti heb ddylanwad ar y penderfyniadau dylunio.

Rhaid i chi gynllunio, rheoli, monitro a chydlynu materion sy'n gysylltiedig â'r gwaith dylunio. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi:

  • gymryd camau rhesymol i sicrhau bod pob dylunydd ac unrhyw berson arall sy’n ymwneud â’r gwaith dylunio yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan y rheoliadau adeiladu
  • asesu'r gwaith dylunio i wneud yn siŵr bod pob dylunydd yn cynhyrchu dyluniadau sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu perthnasol
  • gweithio gyda'r prif gontractwr a rhannu gwybodaeth am gynllunio, rheoli, monitro a chydlynu'r gwaith dylunio ac adeiladu
  • helpu'r cleient i ddarparu gwybodaeth i eraill os gofynnir amdani.

Rhaid i chi gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio ar y dyluniad yn cydweithredu, yn cyfathrebu ac yn cydlynnu eu gwaith gyda:

  • y cleient
  • y prif gontractwr
  • dylunwyr a chontractwyr eraill

Os oes prif gontractwr yn gweithio ar y prosiect, rhaid i chi ystyried unrhyw sylwadau a wneir ganddo am gydymffurfio â rheoliadau adeiladu.

Fel y prif ddylunydd gallwch ddirprwyo swyddogaethau penodol i eraill, ond fydd hynny ddim yn eu gwneud yn brif ddylunydd. Mae'r cyfrifoldebau cyfreithiol yn aros gyda chi.

Os ydych chi'n rhoi'r gorau i fod yn brif ddylunydd, rhaid i chi roi dogfen i'r cleient sy'n esbonio sut y bydd eich dyletswyddau'n cael eu cyflawni. Rhaid i chi wneud hyn ddim hwyrach na 28 diwrnod ar ôl i'ch penodiad fel prif ddylunydd ddod i ben.

Os ydych yn cael eich penodi i gymryd lle'r prif ddylunydd, rhaid i chi adolygu ei drefniadau ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol.

Gwaith ar adeiladau risg uwch: dyletswyddau'r prif ddylunwyr

Mae gennych ddyletswyddau ychwanegol os yw'r prosiect yn cynnwys gwaith ar adeiladau risg uwch, rhaid i chi:

  • sefydlu a gweithredu system cyflwyno adroddiadau gorfodol ar ddigwyddiadau;
  • cyflwyno hysbysiadau ac adroddiadau gorfodol ar ddigwyddiadau i'r awdurdod rheolaeth adeiladu 
  • storio'r wybodaeth ofynnol am yr adeilad a'i darparu i'r cleient a'r prif gontractwr yn ôl yr angen
  • cadw a rhannu gyda'r cleient y camau rydych chi wedi'u cymryd i wneud yn siŵr bod y rhai rydych chi'n eu penodi i wneud gwaith dylunio yn bodloni'r gofynion o ran cymwyseddau

Dyletswyddau contractwyr

Fel contractwr, mae'n rhaid i chi:

  • peidio â dechrau unrhyw waith adeiladu oni bai eich bod yn fodlon bod y cleient yn deall beth yw ei ddyletswyddau cyfreithiol
  • gwneud yn siŵr bod y gwaith adeiladu rydych yn ei wneud wedi’i gynllunio, ei reoli a’i fonitro a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y gwaith adeiladu a wneir gennych chi, neu gan gontractwyr eraill rydych chi'n eu rheoli, yn cael ei gynllunio, ei reoli a'i fonitro
  • cydweithredu â'r cleient, dylunwyr a chontractwyr (gan gynnwys y prif ddylunydd a'r prif gontractwr) i sicrhau bod y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â'r holl ofynion perthnasol.
  • gwneud yn siŵr bod y gwaith adeiladu rydych chi a phawb arall rydych chi'n ei reoli yn ei wneud yn cydymffurfio â'r holl ofynion perthnasol
  • darparu goruchwyliaeth, cyfarwyddiadau a gwybodaeth briodol i bob gweithiwr rydych chi'n gyfrifol amdano i sicrhau bod yr adeilad yn cydymffurfio â’r holl ofynion perthnasol
  • cymryd pob cam rhesymol i roi digon o wybodaeth am y gwaith adeiladu i helpu'r cleient, contractwyr a dylunwyr eraill i gydymffurfio â gofynion perthnasol
  • rhoi cyngor, pan ofynnir amdano, i'r prif gontractwr neu'r cleient ynghylch a yw unrhyw waith yn waith ar adeilad risg uwch

Os ydych chi'n gwneud dim ond rhan o waith adeiladu'r prosiect, rhaid i chi ystyried sut y bydd eich gwaith adeiladu yn rhyngweithio â gweddill y gwaith adeiladu. Rhaid i chi ddweud wrth y prif gontractwr os ydych yn poeni:

  • y bydd eich gwaith adeiladu chi'n golygu na fydd y gwaith adeiladu arall yn cydymffurfio
  • y bydd y gwaith adeiladu arall yn golygu na fydd eich gwaith adeiladu chi'n cydymffurfio

Os ydych chi'n penodi contractwyr eraill i weithio ar y prosiect, rhaid i chi wneud yn siŵr bod ganddynt y cymhwysedd angenrheidiol i wneud y gwaith.

Dyletswyddau'r prif gontractwyr

Fel y prif gontractwr, mae'n rhaid i chi wneud dyletswyddau'r contractwyr a dyletswyddau'r prif gontractwyr. Rhaid bod gennych y cymwyseddau angenrheidiol i weithio fel prif gontractwr.

Rhaid i chi gynllunio, rheoli, monitro a chydlynu materion sy'n gysylltiedig â'r gwaith adeiladu yn ystod y cyfnod adeladu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi:

  • wneud yn siŵr bod y gwaith adeiladu a wneir gan yr holl gontractwyr yn cael ei gydlynnu fel ei fod yn cydymffurfio â'r holl ofynion perthnasol
  • asesu'r gwaith adeiladu i wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu perthnasol
  • peidio byth â derbyn gwaith adeiladu nad yw'n cydymffurfio
  • gweithio gyda'r prif ddylunydd a rhannu gwybodaeth am gynllunio, rheoli, monitro a chydlynnu'r gwaith dylunio ac adeiladu
  • helpu'r cleient i ddarparu gwybodaeth i eraill os gofynnir amdani.

Rhaid i chi gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio ar y gwaith adeiladu yn cydweithredu, yn cyfathrebu ac yn cydlynnu eu gwaith gyda:

  • y cleient
  • y prif ddylunydd
  • contractwyr a dylunwyr eraill

Os oes prif ddylunydd yn gweithio ar y prosiect, rhaid i chi ystyried unrhyw sylwadau a wneir ganddo am gydymffurfio â rheoliadau adeiladu.

Fel y prif gontractwr gallwch ddirprwyo swyddogaethau penodol i eraill, ond fydd hynny ddim yn eu gwneud yn brif gontractwr. Mae'r cyfrifoldebau cyfreithiol yn aros gyda chi.

Os ydych chi'n rhoi'r gorau i fod yn brif gontractwr, rhaid i chi roi dogfen i'r cleient sy'n esbonio sut y bydd eich dyletswyddau'n cael eu cyflawni. Rhaid i chi wneud hyn ddim hwyrach na 28 diwrnod ar ôl i'ch penodiad fel prif gontractwr ddod i ben.

Os ydych yn cael eich penodi i gymryd lle'r prif gontractwr, rhaid i chi adolygu ei drefniadau ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol.

Gwaith ar adeiladau risg uwch: dyletswyddau'r prif gontractwr

Os yw'r prosiect yn cynnwys gwaith ar adeiladau risg uwch, rhaid i chi:

  • sefydlu a gweithredu system cyflwyno adroddiadau gorfodol ar ddigwyddiadau;
  • cyflwyno hysbysiadau ac adroddiadau gorfodol ar ddigwyddiadau i'r awdurdod rheolaeth adeiladu 
  • storio'r wybodaeth ofynnol am yr adeilad a'i darparu i'r cleient a'r prif ddylunydd yn ôl yr angen
  • cadw a rhannu gyda'r cleient y camau rydych chi wedi'u cymryd i wneud yn siŵr bod y rhai rydych chi'n eu penodi i wneud gwaith dylunio yn bodloni'r gofynion o ran cymwyseddau

Y gofynion o ran cymwyseddau

Gall unrhyw unigolyn neu sefydliad sy'n gwneud gwaith y tu hwnt i lefel ei gymwyseddau neu ei allu sefydliadol wynebu camau gorfodi.

Cymwyseddau'r unigolyn

Rhaid i unigolion feddu ar y cymwyseddau i allu gwneud eu dyletswyddau ac i ymgymryd â'r gwaith. Mae hyn yn golygu meddu ar y sgiliau, y wybodaeth, y profiad a'r ymddygiad angenrheidiol.

Rhaid i unigolion allu:

  • cydweithredu ag eraill sy'n gweithio ar y prosiect
  • gwrthod gwneud gwaith sydd y tu hwnt i'w cymhwysedd
  • sicrhau bod eu gwaith yn cydymffurfio â gofynion perthnasol, a gwrthod gwneud gwaith nad yw'n cydymffurfio
  • gofyn am help pobl eraill pan fydd angen

Gallu sefydliadol

Rhaid i sefydliadau feddu ar y gallu sefydliadol i wneud eu dyletswyddau ac i ymgymryd â'r gwaith. Mae hyn yn golygu meddu ar bolisïau, gweithdrefnau, systemau ac adnoddau addas i sicrhau bod yr unigolion sydd o dan reolaeth y sefydliad yn cydymffurfio â'r holl ofynion perthnasol o ran cymwyseddau.

Dylai'r gweithdrefnau a'r polisïau y mae sefydliadau yn eu rhoi ar waith:

  • fonitro a goruchwylio eu pobl
  • neilltuo digon o amser ac adnoddau i wneud y gwaith

Cymwyseddau pobl dan hyfforddiant

Ni chaiff pobl dan hyfforddiant wneud gwaith dylunio na gwaith adeiladu heb oruchwyliaeth os nad oes ganddynt y cymwyseddau angenrheidiol. Rhaid i bwy bynnag sy'n penodi'r person dan hyfforddiant wneud yn siŵr bod goruchwyliaeth ddigonol arno i wneud y gwaith.

Ni ddylid penodi unigolyn sy'n cael ei hyfforddi i fod yn brif ddylunydd neu'n brif gontractwr yn brif ddylunydd neu brif gontractwr y prosiect.

Newid cymhwysedd

Rhaid i unigolion a sefydliadau fod yn onest am eu cymwyseddau a'u galluoedd. Dylent roi gwybod i bwy bynnag a'u penododd pan:

  • na fyddant mwyach yn bodloni’r gofynion o ran cymwyseddau, neu nad oes ganddynt bellach y gallu sefydliadol i wneud eu dyletswyddau
  • fyddant wedi cael sancsiwn difrifol wrth  weithio ar brosiect sy'n cynnwys gwaith ar adeiladau risg uwch

Prif ddylunwyr: gofynion o ran cymwyseddau

Dylai'r prif ddylunydd allu trefnu'r tîm dylunio. Does dim disgwyl i brif ddylunydd fod yn arbenigwr ym mhob agwedd ar ddylunio. Fodd bynnag, disgwylir iddynt wybod digon am reoliadau adeiladu i allu asesu a yw dyluniad adeilad yn cydymffurfio â'r holl reoliadau perthnasol.

Dylai prif ddylunwyr gefnogi'r lleill. Er enghraifft, dylent allu trosglwyddo'r wybodaeth angenrheidiol i gontractwyr ac esbonio iddynt sut i ddangos bod elfennau wedi'u hadeiladu'n iawn.

Mae Manyleb (PAS) 8671 y Sefydliad Safonau Prydeinig yn nodi'r cymwyseddau yr argymhellir bod gofyn i brif ddylunwyr feddu arnynt. Gall defnyddio PAS 8671 helpu i ddangos ac asesu cymhwysedd.

Mae'r adrannau canlynol yn crynhoi'r gofynion o ran cymwyseddau a nodir yn PAS 8671.

Fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cydymffurfio

Dylai prif ddylunwyr ddeall y gyfraith fel y mae'n ymwneud â'u rôl a'r gofynion o ran cymwyseddau, fel y'u nodir mewn rheoliadau adeiladu.

Rheoli cydymffurfiaeth gwaith dylunio

Dylai prif ddylunwyr allu rheoli dylunwyr eraill a dod i gonsensws bod y gwaith dylunio yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Dylent allu monitro'r risgiau i gydymffurfio a nodwyd ac asesu bylchau yng nghymwyseddau dylunwyr eraill.

Dylai prif ddylunwyr allu:

  • llunio cynllun fel bod y gwaith dylunio'n cydymffurfio
  • rheoli newidiadau i'r cynllun a monitro risgiau i gydymffurfiaeth gwaith dylunio
  • cydlynnu gwaith dylunwyr sy'n gysylltiedig â chynnal y cynllun
  • trafod â phrif gontractwyr a yw'r gwaith dylunio yn cydymffurfio
  • monitro cynnydd yn erbyn y cynllun hyd at ddiwedd y cam dylunio

Fframwaith technegol ar gyfer cydymffurfio

Dylai prif ddylunwyr ddeall y canllawiau technegol, y codau ymarfer a'r safonau. Hynny er mwyn iddynt allu asesu, herio a datblygu consensws y tîm dylunio ynghylch a yw'r dyluniad yn cydymffurfio.

Prif gontractwyr: gofynion o ran cymwyseddau

Disgwylir i'r prif gontractwr ysgwyddo'r cyfrifoldeb am ei safle a rheoli'r llif wybodaeth, gan wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn cyrraedd y rhai sydd ei hangen.

Dylai prif gontractwr wneud trefniadau i fonitro'r gwaith adeiladu a chadw cofnod ohono i wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â'r gyfraith. Dylai allu cyfathrebu a gweithio gyda'r prif ddylunydd i gytuno ar unrhyw newidiadau.

Mae Manyleb (PAS) 8672 y Sefydliad Safonau Prydeinig yn nodi'r cymwyseddau yr argymhellir bod gofyn i brif gontractwyr feddu arnynt. Gall defnyddio PAS 8672 helpu i ddangos ac asesu cymhwysedd.

Mae'r adrannau canlynol yn crynhoi'r gofynion o ran cymwyseddau a nodir yn PAS 8672.

Gofynion o ran y gyfraith a'r contract: dyletswyddau'r prif gontractwr

Dylai'r prif gontractwyr allu deall deddfwriaeth berthnasol a chydnabod ei rwymedigaethau ynghylch diogelwch adeiladau.

Rheoli gwaith adeiladu

Dylai prif gontractwyr allu rheoli'r gwaith adeiladu, sy'n cynnwys cael gwybodaeth am risgiau a sut i'w lleihau.

Cynllunio a threfnu cynhyrchu

Dylai prif gontractwyr allu penodi contractwyr a chyflenwyr cymwys. Dylent allu caffael deunyddiau, cynhyrchion a systemau adeiladu o safon.

Rheoli prosesau adeiladu a chynhyrchu

Dylai prif gontractwyr allu trefnu a monitro contractwyr, cyflenwyr a darparwyr gwasanaethau, trwy:

  • adnabod, asesu, arolygu a phrofi cydrannau, deunyddiau a systemau adeiladu sy'n hanfodol i ddiogelwch
  • sicrhau nad yw pwysau amser neu gyllid yn effeithio ar ddiogelwch adeiladau

Arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau a rheoli newid

Dylai prif gontractwr allu arwain prosiect adeiladu gan ddefnyddio'r hyn y mae wedi'i ddysgu, ei brofiadau a'i wybodaeth am safonau ac arfer gorau. Dylai allu cymryd rheolaeth ar waith adeiladu a rheoli newid a hefyd dirprwyo a grymuso eraill.

Cydweithio â'r cleient, rhanddeiliaid eraill a chyrff rheoleiddio

Dylai prif gontractwyr allu meithrin perthynas agored a gonest gyda'r rhai sy'n gyfrifol am reoli a monitro'r prosiect.

Datblygu pobl a thimau

Dylai prif gontractwyr allu diffinio'r cymwyseddau sydd eu hangen ar brosiect a datblygu pobl eraill i lenwi unrhyw fylchau.

Rheoli ansawdd y gwaith adeiladu

Dylai prif gontractwyr allu rheoli ansawdd y gwaith adeiladu trwy gyfathrebu â chontractwyr eraill a monitro eu gwaith. Dylent allu adnabod a rheoli newidiadau neu wyriadau.

Rheoli Gwybodaeth

Dylai prif gontractwyr allu cadw gwybodaeth ddogfennol gywir a dibynadwy. Dylent ddatblygu strategaeth ddigidol i reoli'r wybodaeth am waith adeiladu.

Dangos ac asesu cymhwysedd

Rhaid i unigolion allu dangos yr ystod lawn o sgiliau, gwybodaeth, profiad ac ymddygiad ar gyfer y rôl y maent wedi'u penodi iddi. Dyma rai enghreifftiau o sut y gallwch ddangos cymwyseddau:

  • cwblhau hyfforddiant ffurfiol
  • darparu portffolio o waith sy'n dangos profiad a gwybodaeth berthnasol

Efallai y bydd cymdeithasau masnach, cyrff proffesiynol, darparwyr hyfforddiant yn y sector a chyrff dyfarnu yn gallu helpu i wella, dangos a dilysu cymwyseddau.

Safonau a meincnodi cymhwysedd

Mae PAS 8671 a PAS 8672 y Sefydliad Safonau Prydeinig yn nodi'r cymwyseddau yr argymhellir bod gofyn i brif ddylunwyr a phrif gontractwyr feddu arnynt. 

Nid yw cydymffurfio â safonau PAS y Sefydliad Safonau Prydeinig, neu unrhyw safon arall, yn warant bod yr holl rwymedigaethau cyfreithiol wedi'u bodloni.    

Fodd bynnag, gellir defnyddio cymwyseddau'r PAS i feincnodi ac asesu cymhwysedd unigolion os darperir tystiolaeth gredadwy hefyd.

Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015

Swyddogaeth rolau'r cleient, prif ddylunydd, a phrif gontractwr o dan:

  • Reoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu (CDM) yw rheoli iechyd a diogelwch gweithwyr ac unrhyw un sydd yng nghyffiniau'r safle yn ystod y gwaith adeiladu
  • y rheoliadau adeiladu yw sicrhau bod gwaith dylunio ac adeiladu yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu

Mae'r cymwyseddau y mae gofyn i'r prif gontractwr a'r prif ddylunydd feddu arnynt o dan CDM ac o dan reoliadau adeiladu yn wahanol. Rhaid i'r cleient benodi unigolion neu sefydliadau i'r rolau hyn.

Gall y prif ddylunydd a'r prif gontractwr o dan CDM gyflawni'r un rolau hyn o dan reoliadau adeiladu. Os ydynt yr un peth, rhaid i'r cleient gadarnhau hyn yn ysgrifenedig i'r rhai y mae'n eu penodi i'r rolau.

Pan fydd yr unigolion neu'r sefydliadau yn y rolau hyn yn wahanol o dan CDM a rheoliadau adeiladu, mae angen iddynt weithio gyda'i gilydd a rhannu gwybodaeth berthnasol.