Neidio i'r prif gynnwy

Help gyda'r wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chyflwyno i'r awdurdod rheolaeth adeiladu pan fyddwch yn gwneud cais i adeiladu adeilad risg uwch neu i wneud gwaith adeiladu ar adeilad risg uwch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu

Mae'r arweiniad ar y dudalen hon yn disgrifio'r wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chyflwyno i'r awdurdod rheolaeth adeiladu (sef fel arfer yr awdurdod lleol lle saif yr adeilad) wrth wneud cais i wneud unrhyw un o'r canlynol:

  • adeiladu adeilad risg uwch newydd
  • gwneud newidiadau i adeilad sy'n bod sydd naill ai'n ei wneud yn adeilad risg uwch, neu'n ei rwystro rhag bod yn adeilad risg uwch
  • gwneud rhai mathau o waith adeiladu ar adeilad risg uwch sy'n bod

Mae'r canllaw hwn yn rhestru'r hyn y mae'n rhaid ichi ei gyflwyno fel rhan o'ch cais, ond fe all yr awdurdod rheolaeth adeiladu ofyn ichi gyflwyno rhagor o wybodaeth. Cysylltwch ag awdurdod rheolaeth adeiladu yr ardal lle saif yr adeilad, os nad ydych yn siŵr.

Rôl awdurdodau lleol

Mae awdurdodau lleol yn goruchwylio ac yn cymeradwyo'r gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau risg uwch. Mae gan adeilad risg uchel o leiaf:

  • 7 llawr neu mae o leiaf 18 metr o uchder
  • 1 uned breswyl neu mae’n ysbyty, cartref gofal neu gartref plant

Mae rhai mathau o adeiladau wedi'u heithrio o fod yn adeilad risg uwch, fel y rheini sy’n gyfan gwbl yn westai, sefydliadau preswyl diogel a barics milwrol neu lety arall y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Darllenwch y canllaw ynghylch pryd yr ystyrir bod adeiladau yn adeiladau risg uwch yn ystod gwaith adeiladu adeilad newydd neu wrth gynnal gwaith adeiladu ar adeiladau sy’n bod.

Mae canllaw ar wahân sy'n delio â chymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer adeiladau risg uwch. Mae hwnnw'n esbonio:

  • y gwaith adeiladu y bydd angen cymeradwyaeth arnoch i'w gynnal, a'r gwaith adeiladu nad oes angen cymeradwyaeth arnoch i'w gynnal
  • y broses cymeradwyo rheolaeth adeiladu
  • rheoli gwaith adeiladu ar ôl ei gymeradwyo

Sut i gyflwyno gwybodaeth ar gyfer y cais

Dylech gyflwyno'ch cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu i'r awdurdod rheolaeth adeiladu. 

Bydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu’n esbonio i chi sut i gyflwyno cais iddynt. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r wybodaeth y bydd angen ichi ei chyflwyno wrth wneud cais.

Rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig a rhaid i’r ymgeisydd ei lofnodi.

Manylion deiliaid dyletswyddau'r gwaith adeiladu

Manylion y cleient, y prif ddylunydd a'r prif gontractwr

Rhowch enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y canlynol:

  • y cleient
  • y prif ddylunydd
  • y prif gontractwr

Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, rhaid i chi roi gwybod i'r awdurdod rheolaeth adeiladu os bydd y cleient, y prif ddylunydd neu'r prif gontractwr yn newid. 

Awdurdodiad gan y cleient

Os nad chi yw'r cleient, cynhwyswch ddatganiad bod y cleient wedi'ch awdurdodi i wneud y cais. Rhaid i'r datganiad hwn gadarnhau bod y cleient:

  • yn cytuno bod y cais yn cael ei wneud
  • yn cymeradwyo'r wybodaeth a gyflwynir yn y cais

Rhaid i'r cleient lofnodi'r datganiad.

Manylion yr adeilad

Rhowch fanylion canlynol yr adeilad:

  • ei enw
  • ei leoliad

Os yw'r gwaith yn cael ei wneud ar adeilad sy'n bod eisoes, rhowch fanylion canlynol yr adeilad:

  • ei uchder
  • nifer ei loriau
  • nifer y fflatiau, stafelloedd preswyl ac unedau masnachol
  • ei ddefnydd, gan gynnwys y defnydd cyfredol ar bob llawr

Lluniadau a phlaniau

Bydd angen i chi gyflwyno lluniadau a phlaniau ar gyfer y prosiect. Efallai na fydd angen cyflwyno'r holl ffeiliau sydd gennych, dim ond y lluniadau a'r planiau sy'n eich helpu i:

  • ddisgrifio'r prosiect a manylion y gwaith
  • esbonio cwmpas y gwaith
  • dangos sut mae'r gwaith yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu

Dylech gyfeirio at y lluniadau a'r planiau hyn gydol eich cais a thynnu sylw'r awdurdod rheolaeth adeiladu at y rhannau perthnasol.

Y gwaith sy'n cael ei gynnig

Rhowch:

  • ddisgrifiad o’r datblygiad sy'n cael ei gynnig,
  • nifer y fflatiau, unedau preswyl ac unedau masnachol y bydd gan yr adeilad ar ôl cwblhau'r gwaith sy'n cael ei gynnig
  • strategaeth cwblhau rhannol os ydych chi'n bwriadu meddiannu rhannau o'r adeilad cyn i'r holl waith adeiladu gael ei gwblhau

Uchder yr adeilad

Nodwch beth fydd ei uchder pan fydd y gwaith arfaethedig wedi'i gwblhau. Cyfrifir uchder mewn metrau o lefel y ddaear i lawr y llawr uchaf y byddwch yn gallu cerdded arno. Peidiwch â chynnwys llawr uchaf os dim ond stafelloedd peiriannau neu gyfarpar pen to sydd arno.

Lefel y ddaear yw lefel y tir yn union wrth ymyl yr adeilad. Os yw'r tir hwnnw'n anwastad, cyfrifwch o ran isaf y tir sydd union wrth ymyl yr adeilad.

Os yw'ch adeilad wedi'i rannu'n adrannau gwahanol, mesurwch uchder yr adran uchaf, neu'r adran arfaethedig uchaf.

Peidiwch â mesur y to oni bai bod neu y bydd uned breswyl arno.

Nifer y lloriau

Nodwch nifer yr holl loriau yn yr adeilad ar ôl cwblhau'r gwaith sy'n cael ei gynnig.

Cynhwyswch yr holl loriau sy'n bod ac a gaiff eu hadeiladu, o lefel y ddaear i'r llawr uchaf y byddwch chi'n gallu cerdded arno.

Cynhwyswch y canlynol, waeth a fydd uned breswyl arno neu beidio:

  • unrhyw lawr lle mae'r llawr (wyneb y llawr gorffenedig) ar lefel y ddaear neu'n uwch
  • unrhyw lawr lle mae unrhyw ran o'r nenfwd ar lefel y ddaear neu'n uwch
  • unrhyw lawr mesanîn neu oriel lle mae ei arwynebedd mewnol o leiaf 50% o arwynebedd y llawr mwyaf uwch ei ben neu oddi tano (ac eithrio'r rhai o dan lefel y ddaear)

Peidiwch â chynnwys:

  • unrhyw lawr lle mae'r nenfwd cyfan islaw lefel y ddaear
  • y to
  • unrhyw lawr a ddefnyddir ar gyfer stafelloedd peiriannau neu gyfarpar pen to yn unig
  • unrhyw lawr mesanîn neu oriel lle mae ei arwynebedd mewnol yn llai na 50% o arwynebedd mewnol y llawr mwyaf uwch ei ben neu oddi tano (ac eithrio'r rhai o dan lefel y ddaear)

Defnydd arfaethedig o'r adeilad ac o bob llawr

Nodwch beth fydd prif bwrpas yr adeilad ar ôl cwblhau'r gwaith adeiladu, megis:

  • cartref gofal, cartref preswyl neu gartref nyrsio
  • ysbyty
  • llety myfyrwyr
  • sefydliad preswyl arall fel carchar neu ysgol breswyl
  • anheddau preswyl, fel fflatiau neu maisonettes
  • swyddfa
  • diwydiannol, fel ffatri
  • manwerthu neu fasnachol
  • defnydd di-breswyl arall, fel maes parcio

Rhowch ddisgrifiad byr o'r defnydd o bob llawr. Os oes gan eich adeilad fwy nag un strwythur, rhowch fanylion pob strwythur.

Adroddiadau neu gyfrifiadau am y llwyth strwythurol

Os ydych chi'n gwneud cais i wneud gwaith categori A i adeilad risg uwch sy'n bod a fydd yn effeithio ar lwyth strwythurol yr adeilad, rhaid i chi gynnwys adroddiadau neu gyfrifiadau sy'n dangos sut y bydd y gwaith yn bodloni gofynion rheoliadau adeiladu.

Safle a draeniad

Deddfau lleol

Os oes unrhyw ddeddfau lleol yn effeithio ar y safle, bydd angen i chi esbonio sut y byddwch yn cydymffurfio â nhw.

Deddf leol yw unrhyw reol, rheoliad, is-ddeddf, gorchymyn neu ddyfarniad a wneir o dan unrhyw ddeddf sy'n cael ei reoli gan gorff lleol megis:

  • awdurdodau lleol
  • gweithredwyr systemau trafnidiaeth
  • cyfleustodau cyhoeddus

Draeniau a charthffosydd   

Bydd angen i chi gyflwyno disgrifiad o'r mesurau y byddwch yn eu cymryd i ofalu am ddraeniau os bydd y gwaith yn digwydd ar ben draen, carthffos gyhoeddus neu breifat neu bibell waredu, neu o fewn 3 metr iddynt. Bydd angen ichi hefyd ddisgrifio’r hyn a wnewch ar gyfer draeniad adeilad risg uwch. 

Adeiladau newydd sy'n cael eu hadeiladu fesul cam      

Ar gyfer prosiectau cymhleth sydd ag adeiladau sydd wedi'u rhannu'n sawl rhan gysylltiedig, efallai yr hoffech ofyn am 'gais fesul cam'. Hynny yw, pan fydd y gwaith adeiladu yn cael ei rannu'n wahanol gamau. Mae pob cam:

  • yn cael ei drin a'i asesu fel pe bai'n gais ar gyfer adeilad ar wahân
  • ni ddylech ddechrau nes bod yr awdurdod rheolaeth adeiladu wedi cymeradwyo'r gwaith
  • gall ddechrau neu orffen ar yr un dyddiad, neu ddyddiadau gwahanol, â chamau eraill

Oni bai'ch bod wedi cytuno ar estyniad, bydd angen hyd at 12 wythnos ar awdurdod rheolaeth adeiladu i asesu pob cais ym mhob cam.

Gwybodaeth i'w chyflwyno ar gyfer cam cyntaf y cais

Os byddwch yn cyflwyno cais fesul cam, bydd angen i chi gynnwys 'datganiad gwaith fesul cam' a ddylai gynnwys:

  • disgrifiad o gam cyntaf y gwaith
  • disgrifiad o'r camau dilynol
  • syniad o pryd y bydd pob cam yn dechrau

Dylai planiau a lluniadau rydych chi'n eu cynnwys gyda'ch cais ddangos sut y bydd gwaith yn y cam cyntaf yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu a chrynodeb o'r planiau ar gyfer camau dilynol y gwaith.

Os ydych chi'n bwriadu meddiannu rhannau o'r adeilad cyn i'r holl waith adeiladu gael ei gwblhau, cynhwyswch strategaeth cwblhau rhannol.

Gwybodaeth i'w chyflwyno ar gyfer camau dilynol y cais

Pan fyddwch chi'n barod i wneud cais ar gyfer cam nesaf y gwaith adeiladu, bydd angen i chi gyflwyno rhagor o wybodaeth. Ar gyfer pob cam o'r cais, rhaid i chi ddarparu:

  • 'datganiad camau dilynol', sy'n disgrifio'r cam gwaith rydych chi'n gwneud cais ar ei gyfer, y camau gwaith y tu hwnt i'r cam rydych chi'n gwneud cais ar ei gyfer, ac amcangyfrif o pryd y bydd pob cam yn dechrau
  • planiau a lluniadau manwl ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud yn y cam hwnnw
  • unrhyw ddogfennau eraill sy'n cyfeirio'r awdurdod rheolaeth adeiladu at rannau perthnasol y lluniadau a'r planiau
  • fersiwn newydd o'r strategaeth cwblhau rhannol, os gwnaethoch gyflwyno un fel rhan o'ch cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu

Peidiwch â dechrau gweithio ar unrhyw gam o'r gwaith adeiladu nes bod yr awdurdod rheolaeth adeiladu wedi'i gymeradwyo.

Plan o’r safle/lleoliad

Cynhwyswch blan o leoliad y safle. Rhaid i'r ymgeisydd lunio plan ar raddfa o 1:1250 fan leiaf. Rhaid iddo ddangos:

  • maint, lleoliad a pherthynas yr adeilad â ffiniau cyfagos
  • ffiniau cwrtil yr adeilad, a maint, lleoliad a defnydd pob adeilad arall neu adeilad arfaethedig arall o fewn y cwrtil;
  • lled a lleoliad unrhyw stryd ar ffiniau cwrtil yr adeilad neu oddi mewn iddynt.

Datganiad cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu

Cynhwyswch y datganiad cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu. Rhaid iddo ddangos:

  • beth wnaethoch chi i sicrhau bod rheoliadau adeiladu yn cael eu bodloni
  • y bydd y gwaith adeiladu arfaethedig, ar ôl ei adeiladu, yn bodloni'r rheoliadau adeiladu

Yn y datganiad cyfeiriwch at y planiau a'r cynlluniau, a thynnu sylw'r awdurdod rheolaeth adeiladu at y rhannau perthnasol.

Ar gyfer pob elfen o'r gwaith adeiladu, nodwch yn eich datganiad:

  • sut y bydd y gwaith arfaethedig yn bodloni gofynion swyddogaethol perthnasol y rheoliadau adeiladu
  • y canllawiau, y safonau neu'r codau dylunio rydych chi'n bwriadu eu dilyn i fodloni rheoliadau adeiladu
  • os ydych wedi penderfynu dilyn dull nad yw wedi'i gyhoeddi mewn dogfen gymeradwy, dylech ddweud hynny'n glir

Ar gyfer pob elfen o'r gwaith adeiladu gwnewch yn siŵr eich bod chi'n esbonio:

  • pam eich bod wedi dewis dilyn canllawiau, safonau neu godau dylunio penodol
  • eich rhesymau dros ddilyn y dull a ddewiswyd i sicrhau bod y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu

Gyda'r datganiad cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu, dylid cyflwyno datganiad sydd wedi ei lofnodi gan y prif ddylunydd sy'n cadarnhau fod y wybodaeth yn y datganiad cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu yn gywir.

Os ydych chi'n gwneud cais ar gyfer cam gwaith, dylai'r datganiad cydymffurfio â rheoliadau adeiladu gynnwys gwybodaeth fanwl am y gwaith adeiladu yn y cam hwnnw, a chrynodeb o'r egwyddorion dylunio a'r safonau adeiladu i'w cymhwyso y tu hwnt i'r cam hwnnw.

Cynllun rheolaeth newid a gwneud newidiadau

Cynllun rheolaeth newid

Cynhwyswch y cynllun rheolaeth newid. Rhaid iddo ddangos sut y bydd yr holl newidiadau yn cael eu rheoli a'u cofnodi, gan gynnwys:

  • sut bydd gan y cleient yr oruchwyliaeth a'r rheolaeth sydd eu hangen i reoli'r gwaith
  • pwy fydd yn penderfynu yn y sefydliad ar y gwahanol fathau o newidiadau
  • sut y bydd yr holl gyngor ar bob newid yn cael ei gofnodi, gan gynnwys pwy roddodd y cyngor a sut y bydd yn cael ei gofnodi hyd yn oed os na chaiff ei ddilyn
  • pa broses a ddefnyddir i benderfynu pa newidiadau sy'n hysbysadwy neu'n fawr
  • sut caiff y newidiadau sydd wedi'u cyflwyno i'r awdurdod rheolaeth adeiladu eu nodi

Rhaid i'r cynllun ddangos sut y bydd effaith y newidiadau yn cael ei hystyried, gan gynnwys sut:

  • y bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hystyried a'u trafod gydag eraill
  • y bydd y prif ddylunydd a'r prif gontractwr yn nodi effaith newidiadau a'i hasesu
  • y bydd y wybodaeth a'r dogfennau a gyflwynir fel rhan o'r cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn cael eu hadolygu a'u diwygio

Os caiff eich cais rheolaeth adeiladu ei gymeradwyo, gelwir y dogfennau a gyflwynwyd gennych fel rhan o'ch cais y 'dogfennau y cytunwyd arnynt'.

Rhaid i chi gydymffurfio â'r dogfennau y cytunwyd arnynt gydol y gwaith adeiladu. Gelwir unrhyw newid i ddogfen y cytunwyd arni yn 'newid a reolaethir'. Rhaid i chi nodi yn eich cynllun rheolaeth newid sut:

  • y byddwch yn rheoli ac yn asesu pob newid a reolaethir yn unol â'ch cynllun rheolaeth newid
  • y byddwch yn cofnodi'r newidiadau a reolaethir yn eich log rheolaeth newid

Sut i gofnodi newidiadau: log rheolaeth newid

Rhaid i'r prif gontractwr greu a chadw log rheolaeth newid. Dylai gofnodi newidiadau a wnaed i'r prosiect yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd angen cyflwyno'r log rheolaeth newid pan fyddwch yn gwneud cais am dystysgrif cwblhau.

Ar gyfer pob newid a reolaethir, dylid cofnodi'r canlynol yn y log rheolaeth newid:

  • enw'r unigolyn sy'n cofnodi'r newid
  • disgrifiad o'r newid
  • pam rydych chi'n gwneud y newid, er enghraifft, newid dull dylunio neu fod deunyddiau ddim ar gael
  • a yw’r newid yn newid cofnodadwy, yn newid hysbysadwy neu’n newid mawr
  • enw a galwedigaeth pob person, os oes un, y gofynnwyd iddo am ei gyngor ar y newid arfaethedig, a chrynodeb o unrhyw gyngor a roddwyd
  • asesiad o ba ddogfen y cytunwyd arni y mae'r newid arfaethedig yn effeithio arni a chadarnhad bod fersiwn ddiwygiedig wedi'i llunio

Yn y log rheolaeth newid, esboniwch sut y bydd rheoliadau adeiladu yn dal i gael eu bodloni ar ôl i'r newid gael ei wneud. Rhaid i chi nodi sut:

  • y bydd y gwaith adeiladu yn dal i gydymffurfio â'r holl reoliadau adeiladu perthnasol
  • y bydd rheolwyr y prosiect yn dal i gydymffurfio â'r holl reoliadau adeiladu perthnasol

Ar gyfer pob newid, esboniwch sut y bydd unrhyw ddiweddariadau i'r strategaethau, polisïau a gweithdrefnau yn y dogfennau y cytunwyd arnynt wedi'u rhannu a'u cofnodi yn unol â'r llinyn aur o wybodaeth.

Os yw'r newid yn ymwneud ag adroddiad gorfodol ar ddigwyddiadau, cynhwyswch ei fanylion yn y log rheolaeth newid.

Sut i wneud newidiadau: proses rheolaeth newid

Darllenwch y canllaw ynghylch newid prosiect adeiladu risg uwch. Mae'n esbonio:

  • y broses rheolaeth newid
  • beth yw newidiadau hysbysadwy a mawr

Cynllun rheolaeth adeiladu

Cynhwyswch y cynllun rheolaeth adeiladu. Rhaid iddo ddisgrifio'r strategaethau, y polisïau a'r gweithdrefnau y byddwch chi'n eu defnyddio i wneud yn siŵr: 

  • bod y gwaith adeiladu yn bodloni'r rheoliadau adeiladu 
  • bod y rhai sy'n gweithio ar y prosiect yn gymwys i wneud y gwaith y maent wedi'u contractio i'w wneud, a bod ganddynt ddigon o wybodaeth a hyfforddiant 
  • bod dylunwyr, contractwyr ac eraill sy'n gweithio ar yr adeilad yn cydweithredu ac yn rhannu gwybodaeth 
  • bod y cynllun rheolaeth adeiladu yn cael ei reoli'n effeithiol 

Nodwch y strategaethau, y polisïau a'r gweithdrefnau y byddwch chi'n eu defnyddio i gasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi'ch cais. Disgrifiwch sut y byddwch chi'n: 

  • cofnodi a chadw tystiolaeth bod y gwaith adeiladu yn bodloni'r rheoliadau adeiladu 
  • Casglu tystiolaeth 'fel y'i hadeiladwyd' i gefnogi'r cais am dystysgrif gwblhau

Cynhwyswch restr o'r dystiolaeth yr ydych yn disgwyl iddi gael ei chasglu yn ystod y gwaith adeiladu. Esboniwch sut y bydd yn cael ei chasglu a phwy fydd yn ei gasglu.

Yn y cynllun rheolaeth adeiladu rhowch enw a chrynodeb o gyfrifoldebau: 

  • y prif gontractwr 
  • y prif ddylunydd 
  • unrhyw sefydliad neu unig fasnachwr arall a fydd yn gwneud y gwaith

Rhaid i'r cynllun rheolaeth adeiladu ddisgrifio sut a phryd y byddwch chi'n adolygu'r cynllun.

Gwaith cynllun person cymwys

Os oes rhywfaint o waith adeiladu'r prosiect yn cael ei wneud o dan gynllun person cymwys, rhowch enw'r sawl sy'n darparu'r cynllun. Yn y cynllun rheolaeth adeiladu rhaid i chi nodi sut y byddwch yn monitro ac yn rheoli gwaith y cynllun.

Os yw holl waith adeiladu'r prosiect yn cael ei wneud o dan gynllun person cymwys, nid oes angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu.

Declarasiwn cymhwysedd

Cynhwyswch y declarasiwn cymhwysedd wedi'i lofnodi gan y cleient. Rhaid iddo gadarnhau bod y cleient:

  • wedi cymryd pob cam rhesymol i wirio bod y prif ddylunydd a'r prif gontractwr yn gymwys i wneud eu dyletswyddau
  • wedi gofyn i'r rheini y mae wedi'u hurio i weithio ar y prosiect a ydyn nhw wedi cael sancsiwn difrifol yn y 5 mlynedd diwethaf
  • ar gyfer unrhyw berson sy'n cael ei hurio gan rywun arall i weithio ar y prosiect, mae'r cleient wedi cael gwybod gan y person sy'n ei benodi bod unrhyw gamymddwyn gan yr unigolyn yn y gorffennol wedi cael ei ystyried yn y ffordd briodol

Os oes unrhyw unigolion neu sefydliadau wedi cael sancsiwn difrifol yn y 5 mlynedd diwethaf, yna rhaid i'r declarasiwn cymhwysedd nodi hefyd:

  • pwy yw'r unigolion neu'r sefydliadau hynny
  • beth oedd y sancsiynau difrifol
  • sut mae'r cleient wedi ystyried y sancsiynau difrifol mewn perthynas â'r gwaith

Darllenwch y canllaw am ddylunio a gwaith adeiladu: bodloni gofynion adeiladu. Mae'n dweud mwy wrthych am:

  • ddyletswydd y cleient i benodi unigolion a sefydliadau cymwys
  • sancsiynau difrifol
  • y cymwyseddau y mae gofyn i'r rheini sy'n gweithio ar y prosiect feddu arnynt
  • sut mae'r cymwyseddau gofynnol yn wahanol o dan Reoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015
  • dyletswyddau cleientiaid sy'n gwneud gwaith adeiladu ar eu heiddo eu hunain (cleientiaid domestig)

Ffeil tân ac argyfwng

Cynhwyswch ffeil tân ac argyfwng os ydych chi'n gwneud cais i:

  • adeiladu adeilad risg uwch newydd
  • gwneud gwaith categori A i adeilad risg uwch presennol

Os ydych chi'n bwriadu gwneud gwaith categori B, efallai y bydd angen i chi gynnwys datganiad cydymffurfio â thân yn lle hynny.

Enw arall ar y ffeil tân ac argyfwng yw'r 'strategaeth tân'. Rhaid iddo gynnwys cynlluniau sy'n dangos sut mae'r gwaith yn cydymffurfio â'r rheoliadau i ddarparu:

  • ffyrdd digonol o ddianc a rhybuddio os bydd tân
  • mesurau priodol i atal tân rhag lledaenu y tu mewn i'r adeilad
  • mesurau priodol i atal tân rhag lledaenu y tu allan i'r adeilad
  • mynediad a chyfleusterau rhesymol i'r gwasanaeth tân

Rhaid iddo nodi sut:

  • y gallai risgiau i ddiogelwch yr adeilad effeithio ar yr adeilad
  • mae'r dyluniad yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â rheoliadau ar fethiant strwythurol a lledaeniad tân
  • y bydd angen i'r perchennog reoli a chynnal yr adeilad er mwyn gallu ei wacáu mewn argyfwng, gan gynnwys ystyried ymddygiad y meddianwyr

Datganiad cydymffurfio â thân ar gyfer gwaith categori B

Cynhwyswch ddatganiad cydymffurfio â thân os ydych yn gwneud cais i wneud gwaith categori B a allai effeithio ar ledaeniad tân yn yr adeilad (h.y. lle mae Rhan B (Diogelwch Tân) o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad mewn perthynas â'r gwaith). Enw arall ar ddatganiad cydymffurfio â thân yw'r 'strategaeth tân' ar gyfer y gwaith.

Rhaid i'r datganiad ddarparu o leiaf blaniau sy'n dangos sut mae'r gwaith yn cydymffurfio â'r rheoliadau i ddarparu:

  • ffyrdd digonol o ddianc a rhybuddio os bydd tân
  • mesurau priodol i atal tân rhag lledaenu y tu mewn i'r adeilad
  • mesurau priodol i atal tân rhag lledaenu y tu allan i'r adeilad
  • mynediad a chyfleusterau rhesymol i'r gwasanaeth tân

Caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu ofyn am ragor o wybodaeth i weld sut mae'r gwaith yn cydymffurfio â Rhan B (Diogelwch Tân) o Atodlen 1 i Reoliadau 2010.

Cynllun adroddiadau gorfodol ar ddigwyddiadau

Cynhwyswch y cynllun adroddiad gorfodol ar ddigwyddiadau (MOR). Rhaid i'r cynllun hwn ddisgrifio'r systemau MOR a weithredir gan y prif ddylunydd a'r prif gontractwr. Rhaid i'r systemau fod yn eu lle cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.

Dylai'r systemau ganiatáu i unrhyw un ar y safle roi gwybod am ddigwyddiadau neu risgiau i ddiogelwch adeiladau sydd wedi achosi, neu os na chânt eu hunioni, sy'n debygol o achosi:

  • marwolaeth nifer arwyddocaol o bobl
  • anaf difrifol i nifer arwyddocaol o bobl

Mae digwyddiadau a risgiau diogelwch adeiladau yn golygu o leiaf un o'r canlynol:

  • methiant strwythurol yr adeilad
  • tân neu fwg yn lledaenu yn yr adeilad

Strategaeth cwblhau rhannol

Adeiladau risg uwch newydd: strategaeth cwblhau rhannol

Bydd angen strategaeth cwblhau rhannol arnoch os ydych chi'n bwriadu meddiannu unrhyw ran o'r adeilad tra bod y gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen.

Adeiladau risg uwch sy'n bod: strategaeth cwblhau rhannol

Bydd angen strategaeth cwblhau rhannol arnoch wrth i'r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen os ydych chi'n bwriadu:

  • meddiannu unrhyw uned breswyl newydd a grëwyd gan y gwaith
  • symud pobl allan o ran o'r adeilad oherwydd y gwaith adeiladu, ac yna ailfeddiannu'r rhan honno

Gwybodaeth y bydd angen i chi ei chynnwys yn eich strategaeth

Rhaid i'r strategaeth cwblhau rhannol nodi:

  • sut y cafodd yr adeilad ei ddylunio i'w feddiannu mewn rhannau
  • y rhannau o'r adeilad a fydd yn cael eu meddiannu tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen
  • y mesurau, y strategaethau a'r polisïau y dylai'r perchennog eu dilyn i reoli diogelwch y rhannau sydd wedi'u meddiannu tra bo'r gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen
  • unrhyw ragdybiaethau sydd wedi'u gwneud, megis cyflwr yr adeilad neu ymddygiad y deiliaid

Cyfeiriwch yr awdurdod rheolaeth adeiladu at unrhyw luniadau a phlaniau perthnasol sy'n helpu i ddisgrifio a chefnogi eich strategaeth.