Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n rhaid ei wneud cyn newid prosiect sydd wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu (sef fel arfer yr awdurdod lleol lle saif yr adeilad).

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Asesu a chofnodi newidiadau

Yr enw ar y dogfennau y gwnaethoch chi eu cyflwyno fel rhan o'ch cais rheolaeth adeiladu yw'r 'dogfennau y cytunwyd arnynt'.

Rhaid i chi gydymffurfio â'r dogfennau y cytunwyd arnynt gydol y gwaith adeiladu. Gelwir unrhyw newid i ddogfen y cytunwyd arni yn 'newid a reolaethir'. Rhaid ichi:

Newidiadau hysbysadwy: dywedwch wrth yr awdurdod rheolaeth adeiladu

Rhaid rhoi gwybod i'r awdurdod rheolaeth adeiladu cyn dechrau unrhyw waith sydd â newid hysbysadwy yn rhan ohono.

Gelwir newidiadau a allai effeithio ar eich gallu i gydymffurfio â rheoliadau adeiladu yn newidiadau hysbysadwy. Mae newidiadau hysbysadwy yn golygu newidiadau i:

  • y cynllun rheolaeth adeiladu
  • y cynllun rheoli newid
  • diwyg neu ddimensiynau uned breswyl unigol 
  • nifer neu ddimensiynau agoriadau mewn wal, nenfwd neu elfen arall o adeilad ar gyfer pibellau, dwythellau neu geblau
  • cwlwm wal, gosodiad rhwymo wal neu system gynnal mewn unrhyw wal neu unrhyw wal arfaethedig (ac eithrio wal allanol)
  • unrhyw newid arall i’r ffeil tân ac argyfwng neu’r datganiad cydymffurfedd o ran diogelwch tân
  • y strategaeth gwblhau rhannol, os gwnaethoch gyflwyno un fel rhan o'r cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu
  • y datganiad gwaith fesul cam neu ddatganiad cam wedi hynny, pan fydd adeilad newydd yn cael ei adeiladu fesul cam

Os ydych wedi cael rhywbeth yn lle cynnyrch neu elfen adeiladu, sydd:

  • yn cyfateb i fanyleb neu ddosbarth y cynnyrch hwnnw, neu'n rhagori arno, yna mae'n newid cofnodadwy ac mae'n rhaid i chi ei gofnodi yn eich log rheolaeth newid
  • yn ôl ei fanyleb, yn ymateb yn wahanol i dân, hyd yn oed os yw'n well, gall fod yn newid hysbysadwy ac felly mae'n rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod rheolaeth adeiladu amdano

Stopio gwaith adeiladu ar gyfer newidiadau hysbysadwy

Rhaid rhoi gwybod i'r awdurdod rheolaeth adeiladu am newid hysbysadwy cyn:

  • bod y newid yn cael ei wneud
  • dechrau unrhyw waith adeiladu sy'n gysylltiedig â'r newid

Ar ôl i chi roi gwybod am y newid, gallwch fwrw ymlaen â'r gwaith.

Gall yr awdurdod rheolaeth adeiladu ofyn am ragor o wybodaeth am y newid. Nid oes rhaid i chi stopio'r gwaith adeiladu tra'ch bod yn ymateb i'r cais hwn.

Rhaid i chi stopio gwaith adeiladu sy'n gysylltiedig â newid hysbysadwy os yw'r awdurdod rheolaeth adeiladu yn dweud wrthych y dylech fod wedi gwneud cais am newid mawr yn lle hynny.

Newidiadau mawr: cael cymeradwyaeth yr awdurdod rheolaeth adeiladu

Rhaid i chi gael cymeradwyaeth yr awdurdod rheolaeth adeiladu cyn gwneud unrhyw newidiadau mawr.

Mae newidiadau mawr yn tanseilio'r sail ar gyfer cymeradwyo'r prosiect.

Mae newid sylweddol i'r defnydd a wneir o unrhyw ran o'r adeilad yn cael ei ystyried yn newid mawr. Er enghraifft, newid unedau masnachol yn unedau preswyl.

Os oes angen strategaeth cwblhau rhannol arnoch ar ôl cymeradwyo’r cais heb un, rhaid i chi wneud cais am newid mawr.

Mae enghreifftiau o newidiadau mawr eraill yn cynnwys newidiadau i:

  • y maes parcio, pan fydd rhan o'r adeilad arfaethedig naill ai'n dod yn faes parcio neu'n stopio bod yn faes parcio
  • uchder neu led allanol yr adeilad
  • nifer y lloriau, gan gynnwys lloriau mesanîn
  • nifer, lled neu hyd grisiau neu lwybrau dianc eraill gan gynnwys lifftiau gwacáu
  • y waliau allanol gan gynnwys clymau wal, gosodiadau rhwymo wal neu system gynnal mewn wal
  • unrhyw ran o'r mesurau diogelwch tân gweithredol neu oddefol y cyfeirir atynt yn y ffeil tân ac argyfwng
  • diwyg neu ddimensiynau'r rhannau cyffredin
  • cynnyrch, os ydych yn bwriadu cael yn ei le eitem sydd â manyleb is o ran ymateb i dân a dosbarth perfformiad is nag a nodwyd yn y cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu
  • unrhyw ragdybiaethau a wneir yn y dyluniad fel y nodir yn y datganiad cydymffurfio â rheoliadau adeiladu
  • nifer yr unedau preswyl neu unedau masnachol
  • ddyluniad strwythurol neu lwyth strwythurol yr adeilad

Stopio gwaith adeiladu ar gyfer newidiadau mawr

Cyn gwneud unrhyw newid mawr, rhaid i chi:

  • stopio unrhyw waith adeiladu sy'n ymwneud â'r newid arfaethedig
  • cyflwyno cais i wneud newid mawr a chael cymeradwyaeth yr awdurdod rheolaeth adeiladu ar gyfer y newid

Peidiwch â gwneud newid mawr na dechrau gwaith adeiladu sy'n gysylltiedig ag ef nes bod yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn cymeradwyo'r gwaith. 

Newidiadau eraill

Rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod rheolaeth adeiladu os bydd:

  • y cleient, y prif ddylunydd neu'r prif gontractwr yn newid
  • manylion cyswllt sy'n gysylltiedig â'r cais yn newid, gan gynnwys y cyfeiriad e-bost rydych yn ei ddefnyddio i gael gweld y cais ar-lein

Sut i gyflwyno newidiadau i'r Awdurdod Rheolaeth Adeiladu

Caiff pob awdurdod rheolaeth adeiladu bennu ei brosesau ei hun ar gyfer cyflwyno newidiadau. I ddysgu pa un sy’n briodol i chi, holwch awdurdod rheolaeth adeiladu’r ardal lle bydd y gwaith adeiladu’n cael ei gynnal. 

Ar gyfer rhai newidiadau, efallai y bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio hefyd. Os nad ydych chi'n siŵr, holwch eich awdurdod lleol.

Gwybodaeth i'w chyflwyno i'r Awdurdod Rheolaeth Adeiladu ar gyfer newid hysbysadwy neu fawr

Rhaid cyflwyno’r wybodaeth yn ysgrifenedig. Hefyd, rhaid i’r cleient neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran ei llofnodi.

Ar gyfer pob newid, cynhwyswch ddisgrifiad byr o'r newid a pham rydych chi'n meddwl ei fod yn newid hysbysadwy neu fawr. 

Bydd angen i chi ddweud wrth yr awdurdod rheolaeth adeiladu: 

  • pam eich bod chi'n gwneud y newid, er enghraifft, newid dull dylunio neu am fod deunyddiau ddim ar gael
  • yr holl gyngor rydych wedi gofyn amdano, hyd yn oed os yw'n anghytuno â'ch cynnig
  • pwy roddodd y cyngor, eu galwedigaeth a'u manylion cyswllt
  • pa ddogfennau y cytunwyd arnynt y mae'r newid yn effeithio arnynt

Cyflwynwch gopïau o unrhyw ddogfennau y cytunwyd arnynt sydd wedi'u diweddaru ac y bydd y newid yn effeithio arnynt.

Cyflwynwch esboniad cydymffurfio. Rhaid i hwn esbonio sut y bydd yr adeilad yn cydymffurfio â'r holl reoliadau adeiladu perthnasol ar ôl i'r newid gael ei wneud.

I newid y cleient, y prif ddylunydd neu'r prif gontractwr, lanlwythwch y datganiad cydymffurfio gan y cleient, y prif ddylunydd neu'r prif gontractwr sy'n gadael.

Mwy nag un newid

Os ydych am wneud mwy nag un o'r canlynol:

  • newidiadau hysbysadwy sy'n gysylltiedig â'i gilydd, gallwch eu cyflwyno mewn un hysbysiad newid
  • newidiadau mawr sy'n gysylltiedig â'i gilydd, gallwch eu cyflwyno mewn un cais am newid mawr
  • newidiadau mawr a newidiadau hysbysadwy sy'n gysylltiedig â'i gilydd, gallwch eu cyflwyno mewn un cais am newid mawr

Os nad yw'r newidiadau yn gysylltiedig â'i gilydd, rhaid i chi eu cyflwyno ar wahân. Os ydych chi'n cynnwys newidiadau nad ydynt yn gysylltiedig mewn un hysbysiad neu gais am newid a bod yr awdurdod lleol yn gwrthod un o'r newidiadau, yna bydd pob newid yn cael ei wrthod.

Os yw'r newid yn effeithio ar fwy nag un cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu, rhaid i chi gyflwyno newid ar gyfer pob cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu.

Adeiladau newydd wedi'u hadeiladu fesul cam

Ar gyfer ceisiadau adeiladu fesul cam, cyflwynwch yr hysbysiadau neu geisiadau am newid ar wahân ar gyfer pob cam. Rhaid i chi ddiweddaru'r holl ddogfennau y cytunwyd arnynt ar gyfer pob un o'r camau.

Newidiadau mawr: penderfynu ar y cais

Oni bai'ch bod wedi cytuno ar estyniad, bydd angen hyd at 6 wythnos ar awdurdod rheolaeth adeiladu i asesu cais am newid mawr.

Nid oes angen i chi gysylltu â'r awdurdod rheolaeth adeiladu tra bod eich cais yn cael ei asesu. Bydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu’n cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arno.

Peidiwch â dechrau gwaith adeiladu sy'n gysylltiedig â chais am newid mawr cyn iddo gael ei gymeradwyo gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu.

Dilysu rhaglenni

Pan fydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu’n derbyn eich cais am newid mawr, bydd yn cadarnhau eich bod wedi cyflwyno'r wybodaeth ofynnol. Os oes unrhyw wybodaeth ar goll, gall yr awdurdod rheolaeth adeiladu:

  • ofyn i chi roi'r wybodaeth sydd ar goll
  • gwrthod eich cais

Bydd cais sy'n cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol yn ddilys, a chaiff ei symud ymlaen i'r cam asesu.

Nid yw cais sydd wedi'i ddilysu yn golygu ei fod wedi'i gymeradwyo.

Cymeradwyo

Caiff gwaith adeiladu sy'n gysylltiedig â newid mawr ddechrau yn unol â'r cynllun.

Cymeradwyo gyda gofynion

Gall gwaith adeiladu ddechrau fel y cynlluniwyd ar y rhannau o'r cais am newid mawr sydd wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu.

Peidiwch â dechrau gwaith adeiladu ar unrhyw rannau o'r cais os oes gofynion ynghlwm wrtho, nes bod yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn fodlon eich bod wedi ateb y gofynion hynny.

Mae enghreifftiau o ofynion yn cynnwys yr awdurdod rheolaeth adeiladu’n dweud wrthych i:

  • ddarparu gwybodaeth ychwanegol, megis planiau neu ragor o fanylion i esbonio agweddau penodol ar y cais
  • cyflwyno planiau diwygiedig i ddangos newidiadau ac i dawelu pryderon a godwyd gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu 
  • gohirio rhai agweddau ar y gwaith adeiladu nes y gallwch ddangos bod gofynion penodol wedi'u hateb

Gwrthod

Bydd cais am newid mawr yn cael ei wrthod os bydd yn dangos na fydd y gwaith yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu.

Bydd hefyd yn cael ei wrthod os nad:

  • oes digon o fanylion i ddangos cydymffurfiaeth
  • yw'n dangos strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli cydymffurfiaeth

Peidiwch â dechrau gwaith adeiladu sy'n gysylltiedig â'r newid mawr os cafodd y cais ei wrthod.

Gofyn am apêl yn erbyn penderfyniad ar gais

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad, gallwch ofyn am apêl. Bydd esboniad sut i ofyn am adolygiad wedi'i gynnwys yn llythyr y penderfyniad.

Caiff apeliadau eu gwneud i Weinidogion Cymru o dan reoliad 47 o Reoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025. Os ydych chi'n dal i anghytuno â'r penderfyniad ar ôl yr apêl, gallwch apelio i Lys Ynadon.

Ffioedd

Mae'r ffioedd am ofyn am wneud newidiadau i brosiect adeiladu risg uwch wedi'u nodi ar wefannau'r Awdurdod Lleol.