Croeso i ffoaduriaid a cheiswyr lloches
Gwybodaeth am fyw yng Nghymru i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
- Mae gennym gynllun ar gyfer yr hyn y byddwn yn ei wneud i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
- Rydym yn gweithio gyda chynghorau lleol, y gwasanaeth iechyd a sefydliadau cymorth i helpu ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches i fyw'n ddiogel a chydag urddas â'n cymunedau.
- Mae Cymru yn un o 4 gwlad yn y Deyrnas Unedig. Mae gan Gymru ei llywodraeth ei hun o'r enw Llywodraeth Cymru. Rydym yn gyfrifol am dai, addysg, gofal iechyd a thrafnidiaeth.
- Mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am rai pethau yng Nghymru, fel yr heddlu, taliadau lles, rheolau cyflogaeth a chyfreithiau mewnfudo.
Byw yng Nghymru
- Mae gan Gymru ei hiaith a'i diwylliant ei hun. Enw'r iaith yw 'Cymraeg' ac mae'n cael ei siarad gan tua 20% o'r boblogaeth. 'Saesneg' yw'r iaith a siaredir fwyaf yng Nghymru.
- Mae pobl o wahanol ddiwylliannau a chenhedloedd yn byw ym mhob rhan o Gymru. Mae gan Gymru hanes hir o groesawu pobl o bob rhan o’r byd.
- Mae Cymru'n falch o groesawu pobl o wahanol ddiwylliannau, crefyddau a chefndiroedd ac mae arnom eisiau iddyn nhw i gyd alw Cymru yn gartref iddynt. Credwn fod y cymysgedd o wahanol ddiwylliannau wedi gwneud Cymru hyd yn oed yn well. Rydym yn gobeithio y gallwch chi fod yn rhan o wella Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
- Mae Cymru yn rhan fechan o'r DU ac mae'n gartref i dros 3 miliwn o bobl. Caerdydd yw ein prifddinas.
- Enw Diwrnod Cenedlaethol Cymru yw Dydd Gŵyl Dewi. Mae'n cael ei ddathlu ar 1 Mawrth bob blwyddyn.
- Symbolau Cymru yw'r ddraig goch, cennin Pedr a'r genhinen.
- Mae Cymru wedi'i rhannu yn 22 ardal sy'n cael eu rheoli gan awdurdodau lleol (sydd hefyd yn cael eu galw yn Gynghorau).
- Mae gan Gymru hanes cyfoethog y gellir ei archwilio ar-lein, neu mewn amgueddfeydd a chestyll ledled y wlad.
Addysg a dysgu
Mae addysg am ddim yng Nghymru.
I blant
- Gall plant fynd i'r feithrinfa o 3 oed.
- Rhaid i blant fynd i'r ysgol rhwng 5 a 16 oed.
- Rhaid i rieni anfon eu plant i'r ysgol (dyma'r gyfraith).
- Mae ysgolion yn addysgu yn Saesneg neu Gymraeg.
- Mae pob plentyn yn dysgu rhywfaint o Gymraeg.
- Efallai y bydd prydau ysgol am ddim ar gael.
- Mae cludiant am ddim os ydych chi'n byw ymhell o'r ysgol.
Oedran ysgol
- Ysgol Gynradd: 5 i 11 oed.
- Ysgol Uwchradd: 11 i 16 oed.
- Mae plant yn sefyll arholiadau o'r enw TGAU yn 16 oed.
Ar ôl 16 oed
Gall pobl ifanc barhau i ddysgu, gallent:
- fynd i'r coleg
- gwneud prentisiaeth (dysgu wrth weithio)
- mynd i'r brifysgol yn ddiweddarach (addysg bellach)
Ar gyfer oedolion (18 oed a hŷn)
- Mae dosbarthiadau am ddim i ddysgu Saesneg.
- Gall dysgu Cymraeg eich helpu i ddod o hyd i waith.
Help yn yr ysgol
Gall eich plentyn gael help:
- i ddysgu Cymraeg neu Saesneg os yw'n ei chael hi'n anodd
- gan gynghorydd ysgol ar gyfer teimladau a phryderon
Iechyd a lles
Rydym yn deall bod llawer o bobl wedi bod trwy brofiadau anodd. Mae cymorth ar gael.
Gwasanaethau Gofal Iechyd
- Mae gofal iechyd yn rhad ac am ddim drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
- Mae hyn yn cynnwys cymorth iechyd meddwl.
- Mae gennych yr hawl i gael gwybodaeth yn eich iaith eich hun ac i gael cyfieithydd am ddim pan fydd angen i chi siarad â gweithiwr meddygol proffesiynol.
Meddygon a gwiriadau iechyd
- Cofrestrwch gyda meddyg, a elwir yn feddyg teulu, cyn gynted â phosibl.
- Mae gwiriadau iechyd am ddim ar gael i helpu i ddod o hyd i broblemau iechyd yn gynnar.
Cymorth i deuluoedd
Mae awgrymiadau a chyngor ymarferol am ddim ar gael gan Teulu Cymru:
- ymddygiad Plant
- sut y gallwch helpu eich plentyn
- rhianta a gofal plant
- cymorth i blant ag anghenion ychwanegol
- cymorth i rieni
Gwaith a gwirfoddoli
Gall gwaith eich helpu i ailadeiladu eich bywyd yng Nghymru.
Gweithio ar draws y DU
- Nid oes gan bawb yr hawl i weithio, mae'n dibynnu ar statws mewnfudo neu ddinasyddiaeth yr unigolyn.
- Llywodraeth y DU sy'n penderfynu pwy sy'n cael gweithio.
- I weithio, mae arnoch chi angen:
- caniatâd
- Rhif Yswiriant Gwladol
Os nad ydych yn gallu gweithio, gallwch wirfoddoli gydag elusennau neu gynghorau lleol.
Tai
Llywodraeth Cymru sy’n rheoli tai yng Nghymru Mae tai i geiswyr lloches yn cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU.
Rhentu cartref
Os ydych chi'n rhentu:
- Bydd gennych landlord.
- Rhaid i chi dderbyn gwybodaeth ysgrifenedig am:
- daliadau rhent
- pryd y bydd angen i chi adael
- gwaith atgyweirio
Eich hawliau
Mae eich hawliau o ran tai yn dibynnu ar eich statws fel:
- ceisiwr lloches
- ceisiwr lloches wedi'i wrthod
- ffoadur
Arian a chefnogaeth
Efallai na fyddwch yn gallu gweithio ar unwaith. Gallai hyn fod oherwydd:
- nad oes gennych ganiatâd i weithio eto
- rydych chi'n dal i ddysgu Cymraeg neu Saesneg
Efallai y gallwch gael help ariannol gan:
- UK Government asylum support
- Budd-daliadau (os ydych chi'n ffoadur)
- cymorth lleol arall os oes angen gan yr awdurdod lleol lle rydych chi'n byw
Cymorth brys
Argyfyngau meddygol
- Ewch i GIG 111 Cymru.
- Ffoniwch 111 am gymorth meddygol brys.
- Ffoniwch 999 mewn argyfwng sy'n peryglu bywyd.
- Mae gofal yn rhad ac am ddim.
- Mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
- Mae cyfieithwyr ar gael.
Argyfwng iechyd meddwl
- Ffoniwch 111 a dewiswch Opsiwn 2 ar gyfer iechyd meddwl brys.
- Ewch i C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl
- Ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn.
Argyfwng tai
- Cysylltwch â'ch cyngor lleol os ydych chi'n ddigartref neu mewn perygl.
- Dylai ceiswyr lloches hefyd gysylltu â'u darparwr tai neu Migrant Help
Bwyd a hanfodion
Gallwch gael help gan:
- Fanciau bwyd
- elusennau lleol
Gallent ddarparu:
- bwyd
- dillad
- nwyddau ymolchi
- eitemau babi
Cadw'n ddiogel
- Os ydych mewn perygl, ffoniwch 999 mewn argyfwng.
- Mewn galwad nad yw'n argyfwng ffoniwch 101.
- Os ydych chi, aelod o'r teulu, ffrind, neu rywun rydych chi'n poeni amdano wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am gyngor a chefnogaeth am ddim neu i siarad am eich opsiynau
- Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn darparu cymorth ac opsiynau adrodd am ddim a chyfrinachol i ddioddefwyr Troseddau Casineb ledled Cymru. Mae trosedd casineb yn drosedd sydd wedi'i chyflawni yn erbyn rhywun oherwydd eu:
- Hil
- Crefydd
- Cyfeiriadedd rhywiol
- Anabledd
- Hunaniaeth drawsryweddol
Ieithoedd amgen
Gallwch hefyd weld cynnwys mewn ieithoedd eraill drwy ddefnyddio cyfieithu awtomatig gan Google Translate.
Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu i helpu defnyddwyr, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys na chywirdeb gwefannau allanol.
