Neidio i'r prif gynnwy

Sut gallai PCAC ddefnyddio AI i gefnogi ei waith.

Ar hyn o bryd, mae PCAC yn defnyddio AI ar gyfer nifer gyfyngedig o dasgau.

Rydym ond yn defnyddio AI lle mae hyn yn cyd-fynd ag egwyddorion Y Cynllun AI i Gymru Llywodraeth Cymru.  Rhaid i AI gefnogi ansawdd, cywirdeb ac uniondeb ein penderfyniadau. Ni ddylai eu tanseilio.

Gallwn ddefnyddio AI i ddadansoddi a chrynhoi dogfennau mawr sy’n cael eu cyflwyno. Mae hyn yn ein helpu i gael trosolwg cychwynnol o’r cynnwys. Byddwn ond yn gwneud hyn lle nad yw’n torri cyfraith hawlfraint. 

Nid yw crynodebau AI yn disodli adolygiad llawn o’r dogfennau. Bydd Arolygwyr Cynllunio bob amser yn dadansoddi’r dystiolaeth yn drylwyr.

Gall offerynnau AI ein helpu gyda’n gwaith, ond ni allant ddisodli ymgysylltu’n uniongyrchol â’r dystiolaeth. 

Mae Arolygwyr Cynllunio yn bersonol gyfrifol am ddeunydd sy’n cael ei lunio yn eu henw. Nid ydynt yn defnyddio AI i wneud penderfyniadau. Nid yw AI yn cael ei ddefnyddio i lunio adroddiadau na llythyrau penderfyniadau. 

Efallai y byddwn yn defnyddio AI i adolygu gohebiaeth ddrafft. Mae hyn yn ein helpu i wirio a yw’r testun yn hygyrch i’r gynulleidfa. Rydym yn gwirio cywirdeb y cynnwys cyn iddo gael ei gyhoeddi. 

Bydd PCAC ond yn defnyddio mynegiad diogel Llywodraeth Cymru o Microsoft Copilot. Ni fydd data personol yn gadael rhwydwaith diogel Llywodraeth Cymru. Ni fydd yn cael ei rannu ag unrhyw offerynnau AI cyhoeddus. 

Ni fyddwn yn rhoi data preifat na phersonol i mewn i offerynnau AI cyhoeddus.