Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r Cynllun AI i Gymru – Cynllun mentrus a blaengar sy’n amlinellu sut byddwn yn manteisio ar bŵer trawsnewidiol deallusrwydd artiffisial (AI) i sbarduno twf economaidd, i wella gwasanaethau cyhoeddus o ran y Gymraeg a’r Saesneg, ac i roi sgiliau i bobl ledled Cymru er mwyn iddynt allu ffynnu mewn dyfodol lle mae AI yn chwarae rhan flaenllaw.

Rydyn ni’n byw mewn amser o newid technolegol sydyn. Nid yw AI yn gysyniad o’r dyfodol pell mwyach. Mae eisoes yn newid ein byd – ein ffyrdd o fyw, o weithio ac o ddysgu – a dim ond tyfu gwnaiff ei ddylanwad. Mae hyn yn creu cyfleoedd anhygoel – ond hefyd heriau y mae’n rhaid inni gymryd gofal yn eu cylch. Y Cynllun AI i Gymru yw ein map ar gyfer gwneud hynny yma yng Nghymru. Mae’n amlinellu sut byddwn yn ailfeddwl am ein ffordd o weithio, am sut rydyn ni’n gwasanaethu ein cymunedau, ac am sut rydyn ni’n tyfu ein heconomi. Mae’n darparu’r fframwaith ar gyfer sut byddwn yn cydweithio ledled Cymru i ddatblygu ein gallu a chydlynu ein gweithgareddau a’n buddsoddiadau i wireddu ein gweledigaeth ar y cyd.

Drwy groesawu AI, gallwn ni drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, helpu ein sectorau preifat i addasu a ffynnu, gwella cynhyrchiant a chreu swyddi o ansawdd uchel, hirhoedlog – yn gyfrifol, yn foesegol ac yn uchelgeisiol.

Gall AI ei gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio Cymraeg mewn bywyd bob dydd. Mae hyn yn cefnogi ein huchelgais i gynyddu faint o Gymraeg sy’n cael ei defnyddio o ddydd i ddydd. Dyna un o ddau brif darged Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac un o’n tair blaenoriaeth ar gyfer technoleg Gymraeg yn benodol.

I wireddu’r weledigaeth hon, rydyn ni wedi cymryd camau pendant:

  • Sefydlu’r Swyddfa AI yn Llywodraeth Cymru i arwain drwy esiampl ac adeiladu ein gallu mewnol.
  • Ffurfio’r Grŵp Cynghori Strategol ar AI, gan ddod ag arbenigwyr o’r diwydiant, y byd academaidd a’r sector cyhoeddus at ei gilydd i gryfhau ecosystem AI Cymru.
  • Buddsoddi mewn mentrau arloesol sy’n grymuso cyrff gwasanaethau cyhoeddus i fabwysiadu AI, i drawsnewid gwasanaethau ac i uwchsgilio eu gweithlu.

Rydyn ni wedi gweithio gyda Chyngor Partneriaeth y Gweithlu i ddatblygu canllawiau moesegol ar ddefnyddio AI mewn gweithleoedd yn y sector cyhoeddus – sy’n adlewyrchu ein hagwedd Gymreig unigryw at bartneriaeth gymdeithasol.

Ym myd addysg, rwyf wedi croesawu adolygiad Estyn o AI cynhyrchiol mewn ysgolion, a oedd yn cyflwyno cyfres o argymhellion i sicrhau bod AI yn cefnogi addysgu, dysgu, cynhwysiant ac arweinyddiaeth. Ar ben hynny, mae ein Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu effaith technolegau newydd ar bobl ifanc.

Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i arwain o ran arloesi ym maes AI. Mae ein maint a’n hystwythder yn golygu ein bod yn lle perffaith i brofi arloesiadau ym maes AI – sy’n ddelfrydol ar gyfer treialu ac uwchraddio datblygiadau newydd. Mae buddsoddiadau mawr wedi cael eu gwneud mewn seilwaith yma, gan gynnwys Vantage Data Centres a chanolfan data AI Microsoft yng Nghasnewydd. Bydd yr Ardaloedd Twf AI yn hwyluso’r gwaith o ehangu ein canolfannau data AI yn gyflym, ac mae ein cymuned dechnoleg glos yn meithrin cydweithrediad ar draws sectorau.

Mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru eisoes yn manteisio ar AI – i gael diagnosis cyflymach yn y GIG, i alluogi dysgu wedi’i bersonoli mewn ysgolion, ac i awtomeiddio prosesau mewn llywodraeth leol. Mae’r cynllun hwn yn adeiladu ar y momentwm hwn, gan ganolbwyntio ar arloesedd, effaith a chyrhaeddiad.

Bydd ein dull gweithredu yn cael ei lywio gan bedwar conglfaen strategol:

  • Twf Economaidd
  • Addysgu Cymru
  • Cyflawni’n Deg
  • Rhagoriaeth ac Ymddiriedaeth

A bydd yn seiliedig ar ein hegwyddorion craidd: Moesegol, Empathetig, Mentrus, ac Effeithiol. Y fframwaith hwn fydd yn sicrhau ein bod yn gwireddu ein gweledigaeth mewn ffordd sy’n cydbwyso ffyniant a chynhwysiant, ac sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd Cymreig.

Mae AI yn gatalydd pwerus ar gyfer newid – ond mae’n rhaid ei ddefnyddio’n gyfrifol. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio’n dryloyw, yn gynhwysol ac yn ddiogel. Mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn hollbwysig – a byddwn yn ei hennill drwy bartneriaethau cryf, goruchwyliaeth gan bobl, gwaith teg ac ymrwymiad ar y cyd i arloesi’n foesegol.

Gyda’n gilydd, gallwn ni greu dyfodol lle mae AI yn gweithio i bawb yng Nghymru.

Ein gweledigaeth

Manteisio ar bŵer AI yn gyfrifol i sicrhau twf economaidd, i wella gwasanaethau cyhoeddus o ran y Gymraeg a’r Saesneg, ac i roi sgiliau i bobl yng Nghymru er mwyn iddynt allu ffynnu mewn byd lle mae technolegau deallus yn chwarae rhan flaenllaw, gan sicrhau tegwch i bawb ar yr un pryd.

Cyflwyniad

Nid rhywbeth newydd yw AI. Cafodd y term ‘deallusrwydd artiffisial’ ei fathu yn 1956 yn ystod gweithdy Dartmouth, cynulliad o wyddonwyr oedd â’r bwriad o archwilio potensial cyfrifiadura i efelychu rhesymeg pobl. Ers hynny mae tonnau rheolaidd o gynnydd a chyffro wedi bod, wedi’u dilyn gan gyfnodau o ddiffyg diddordeb a buddsoddiad, sy’n cael eu galw’n ‘aeafau AI’. Rydyn ni’n defnyddio’r diffiniad o AI sydd wedi cael ei fabwysiadu gan wledydd sy’n aelodau o’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd:

Mae system AI yn system beirianyddol sydd, ar gyfer amcanion penodol neu ymhlyg, yn casglu, o’r mewnbwn mae’n ei gael, sut mae cynhyrchu allbynnau fel rhagfynegiadau, cynnwys, argymhellion neu benderfyniadau sy’n gallu dylanwadu ar amgylcheddau ffisegol neu rithiol. Mae gwahanol systemau AI yn amrywio o ran eu lefelau ymreolaeth a’u natur ymaddasol ar ôl eu rhoi ar waith.

Mae AI yn prysur newid ein ffyrdd o fyw, o weithio ac o ddysgu. Fel y gwyddor o adeiladu systemau deallus sy’n gallu cyflawni tasgau a wneir gan bobl yn draddodiadol, mae AI yn gyfle trawsnewidiol i Gymru. Mae’n creu cyfleoedd newydd i lywodraeth a busnesau gydweithio; mae’n gallu helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ardderchog; ac mae’n gallu gwella llesiant ein cymunedau.

Mae ein Strategaeth Ddigidol i Gymru yn pennu gweledigaeth i wella bywydau pawb trwy gydweithio, arloesi a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Cynllun yn amlinellu sut mae Cymru’n croesawu potensial AI i dyfu ein heconomi, i drawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus ac i ddatblygu’r sgiliau AI sydd eu hangen arnom. Mae hyn yn golygu AI ar bob ffurf – canfyddiad, sef deall neu synhwyro beth sy’n digwydd; rhagfynegiad; sef sut mae gwybodaeth yn cael ei dadansoddi i ragfynegi beth gallai ddigwydd; a chynhyrchiol, sef creu cynnwys gan ddefnyddio AI. Mae’r Cynllun yn disgrifio’r meini adeiladu sydd eu hangen i helpu eraill i archwilio potensial AI mewn ffordd gyfrifol, foesegol a chydweithredol sy’n gallu creu manteision helaeth.

Nid yw Cymru ar ei phen ei hun ar y daith hon. Mae’r galluoedd newydd y mae AI yn eu creu eisoes yn newid diwydiannau byd-eang a marchnadoedd llafur. Rydyn ni’n rhan o newid technolegol byd-eang, sydd wedi cael ei gymharu hyd yn oed mewn naratif â ras arfau economaidd wedi’i sbarduno gan dechnoleg, ac mae’r cynllun hwn wedi cael ei ddylunio i gyd-fynd â datblygiadau ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt, gan sicrhau ein bod yn cynyddu buddion datblygiadau ar y cyd. Mae’n hollbwysig bod Cymru’n deall ac yn gweithredu ar gyfleoedd, heriau a risgiau AI ar gyfer y dyfodol er mwyn galluogi ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus i addasu a ffynnu.

Rhaid i addewid AI gyd-fynd ag ymrwymiad i’w ddefnyddio’n gyfrifol. Nid yw tegwch, ymddiriedaeth a diogelwch yn ddewisol – maen nhw’n sylfaenol. Dyna pam bod ein dull yn seiliedig ar ein gwerthoedd o bartneriaeth gymdeithasol, gwneud penderfyniadau ar y cyd, tegwch, tryloywder, cydraddoldeb a thegwch.

Wrth i AI barhau i ddatblygu, bydd Cymru’n dal i fod yn ystwyth, yn rhagweithiol ac yn egwyddorol, gan fanteisio ar ei phŵer i ddarparu gwasanaethau mwy clyfar, i sbarduno twf cynhwysol, ac i rymuso pobl drwy addysg a chyfleoedd. Yn anad dim, byddwn yn sicrhau bod cynnydd technolegol yn digwydd er lles y cyhoedd ac yn adlewyrchu gwerthoedd y gymdeithas yng Nghymru.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer llesiant hirdymor drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae hyn yn golygu bod ein hagwedd at AI yn unigryw. Mae’n golygu bod yn rhaid i bob penderfyniad ynghylch mabwysiadu AI ystyried nid yn unig y buddion uniongyrchol ond hefyd effaith hyn ar genedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau bod cynnydd technolegol yn elwa cynaliadwyedd, cydraddoldeb a ffyniant hirdymor Cymru, ac yn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol i bobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r Cynllun hwn yn pennu trywydd AI ar gyfer y tymor hir. Er bod rhai o’r camau gweithredu cyntaf yn y Cynllun wedi’u hariannu, er mwyn gwireddu’r weledigaeth bydd angen buddsoddi a blaenoriaethu sylweddol i gynyddu’r cyfleoedd hirdymor y mae AI yn eu creu o ran strategaeth, polisi a chyflawni.

Bydd angen i’r sector cyhoeddus, y trydydd sector, y diwydiant a’r byd academaidd ystyried sut bydd y camau gweithredu lefel uchel yn y Cynllun hwn yn cael eu cyflawni ar lefel leol, ranbarthol a sectoraidd, gan ganolbwyntio’n glir ar gydweithio o fewn ac ar draws sectorau. Dylai’r cynlluniau hyn nodi’n glir yr amserlenni gweithredu a sut bydd cynnydd yn cael ei dracio a’i fesur, a nodi sut bydd gweithgareddau’n cael eu hariannu a risgiau’n cael eu lliniaru.

Mae cyflymder y newid yn golygu y bydd y Cynllun AI hwn i Gymru, a’r cynlluniau gweithredu a fydd yn cyd-fynd â’r Cynllun, angen datblygu’n barhaus i sicrhau eu bod yn dal yn addas i’r diben ym maes AI, sy’n newid drwy’r amser.

AI mewn cyd-destun byd-eang

Mae’r Cynllun hwn yn cyd-fynd â dulliau gweithredu rhyngwladol ond mae hefyd yn sefydlu rôl unigryw sy’n seiliedig ar degwch, dwyieithrwydd a rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys:

  • Ecosystem y DU
    Mae Cynllun Gweithredu Cyfleoedd AI y DU yn amlinellu map i Lywodraeth y DU fanteisio ar gyfleoedd AI i wella twf a chynhyrchiant, a chreu buddion amlwg i ddinasyddion y DU. Mae Cymru’n cyfrannu at flaenoriaethau sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Gweithredu Cyfleoedd AI, a hynny’n fwyaf uniongyrchol drwy gymryd rhan yn y broses o ddatblygu Ardaloedd Twf AI a gwaith ehangach Llywodraeth y DU – ymchwil genedlaethol, diogelwch a chydlynu rheoleiddiol – gan deilwra’r gwaith o fabwysiadu i flaenoriaethau Cymru.
  • Model seiliedig ar risg Ewrop
    Deddf AI yr UE yw’r ddeddf gynhwysfawr gyntaf ar AI yn y byd. Mae’r Ddeddf yn amlinellu dull seiliedig ar risg o reoleiddio AI, lle mae systemau’n cael eu categoreiddio yn ôl pedair haen risg – risg annerbyniol, risg uchel, risg gyfyngedig, a risg fach iawn – lle nad yw systemau AI â ‘risg fach iawn’ yn cael eu rheoleiddio ac mae systemau AI â ‘risg annerbyniol’ yn cael eu gwahardd. Er bod y Ddeddf dim ond yn effeithio ar fusnesau Cymru y mae eu cynnyrch neu wasanaethau AI yn effeithio ar ddinasyddion yr UE, bydd Cymru’n cysoni â’r Ddeddf lle bo hynny’n briodol er mwyn sicrhau ymddiriedaeth, y gallu i ryngweithredu ar draws ffiniau, a mynediad at farchnadoedd yr UE.
  • Penderfyniad y Cenhedloedd Unedig ar Lywodraethu AI
    Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod ac yn cefnogi’r Penderfyniad hwn. EI nod yw cyfnewid yr arferion gorau a hybu cydweithrediad rhyngwladol.
  • Dysgu gan arweinwyr byd-eang:
    • Mae Singapore yn canolbwyntio ar gyflwyno’n gyflym yn ei ail Strategaeth AI Genedlaethol (NAIS 2.0) – canolfannau rhagoriaeth, tyfu busnesau newydd yn gyflym, a chynhyrchiant y sector cyhoeddus
    • Mae Canada’n blaenoriaethu ffrydiau ymchwil, arweinyddiaeth a thalent drwy ei strategaeth Canada gyfan.
    • Mae’r Ffindir yn hybu gwasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n seiliedig ar ddigwyddiadau bywyd drwy ei rhaglen Aurora AI – dull sy’n cyd-fynd â gwerthoedd partneriaeth gymdeithasol Cymru.
    • Mae strategaeth canolfan ddata Norwy yn canolbwyntio ar greu diwydiant canolfannau data cynaliadwy ac effeithlon sy’n cyfrannu at seilwaith digidol y wlad, ac sy’n pwysleisio pa mor bwysig yw cynhyrchu ynni carbon isel, adnewyddadwy, ar y cyd â thwf canolfannau data.
    • Mae gwledydd ym mhob cwr o’r byd yn glynu wrth egwyddorion AI y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Mae’r egwyddorion hyn yn hybu AI arloesol, dibynadwy, sy’n parchu hawliau dynol a gwerthoedd democrataidd.

Beth sy’n gwneud Cymru’n unigryw?

  • Fframwaith pedwar conglfaen sy’n seiliedig ar werthoedd – Twf Economaidd, Addysgu Cymru, Cyflawni’n Deg, Rhagoriaeth ac Ymddiriedaeth – sy’n cydbwyso ffyniant a chynhwysiant.
  • Ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yn y sector cyhoeddus a chefnogi bywiogrwydd diwylliannol – gan sicrhau bod adnoddau, setiau data a rhyngwynebau yn gweithio i bawb yng Nghymru.
  • Partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg fel egwyddorion cynllunio ar gyfer AI – mewn gweithleoedd a gwasanaethau cyhoeddus.
  • Seilwaith mabwysiadu ymarferol – Ardaloedd Twf AI, Canolfannau Data, Canolfannau Rhagoriaeth a Chanolfannau Mabwysiadu i brofi, rhoi sicrwydd a datblygu AI diogel.
  • Gallu cyfrannu’n ystyrlon at y farchnad fyd-eang – technolegau sylfaenol sy’n hwyluso darpariaeth AI drwy fanteisio ar y ffaith fod Cymru’n gartref i gatapwlt lled-ddargludyddion cyfansawdd y DU a chwmnïau o’r radd flaenaf sy’n cynhyrchu caledwedd y mae canolfannau data, ac eraill, yn dibynnu arni.
  • Partneriaethau cryf – Mae Cymru’n elwa ar gymuned dechnoleg glos, sy’n galluogi cydweithrediad traws-sector rhwng y byd academaidd, diwydiant a llywodraeth, ac mae nifer sylweddol o fusnesau newydd a busnesau technoleg sydd eisoes yn bodoli. Hefyd mae ein Cynllun y Trydydd Sector yn ddarn unigryw o ddeddfwriaeth sy’n amlinellu’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector.
  • Ymrwymiad Ynni Gwyrdd – Mae Cymru’n arwain y ffordd o ran ynni adnewyddadwy ac electroneg pŵer, gan sicrhau seilwaith AI cynaliadwy.
  • Sylfaen Dechnoleg Sefydledig – Mae dros 3,600 o gwmnïau technoleg yng Nghymru, sy’n cyflogi dros 45,000 o bobl, gyda chryfderau ym meysydd seiberddiogelwch a thechnoleg ariannol.

Mae’r sefyllfa hon yn golygu bod Cymru’n lle dibynadwy i brofi AI cyfrifol yn y sector cyhoeddus, yn borth ar gyfer rhyngweithredu rhwng y DU a’r UE, ac yn arweinydd unigryw mewn arloesedd digidol dwyieithog, teg.

Beth sy’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd?

Mae’r cyfleoedd posib i sicrhau buddion newidiadau wedi’u galluogi gan AI yn helaeth.  Os caiff adnoddau AI cyfrifol eu datblygu a’u gweithredu’n llwyddiannus, gallai hynny wella ein gwasanaethau cyhoeddus a’n heconomi, a chynyddu cynhyrchiant.

Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae’r galw am wasanaethau cyhoeddus yn cynyddu mewn amgylchedd o adnoddau cyfyngedig, felly mae’n rhaid buddsoddi mewn AI. Mae AI yn ffordd i’r sector cyhoeddus weithio’n fwy clyfar a rheoli galw yn well – gan olygu bod modd gwneud penderfyniadau gwahanol ynghylch dyrannu adnoddau yn y dyfodol.

Mae AI eisoes yn cael ei ddefnyddio ar draws gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau mwy clyfar ac effeithlon er budd pobl yng Nghymru.

Drwy’r Grŵp traws-sector Arweinyddiaeth AI i Gymru, mae arweinyddiaeth a chyfeiriad o ran potensial AI i wella gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gael eu harchwilio ar draws pob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys ein cyrff hyd braich.

Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae AI yn newid y dirwedd o ran rheoli iechyd y boblogaeth a darparu gwasanaethau. Mae technolegau wedi’u profi a’u cymeradwyo yn ogystal â thechnolegau diogel lle mae angen tystiolaeth newydd, y gellir eu defnyddio gyda’r cyhoedd, yn creu posibiliadau newydd ar gyfer nodi pobl yn gynnar i osgoi salwch, teilwra triniaethau i’r person, a chefnogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae AI yn gyfle pwerus i wella canlyniadau’r boblogaeth, i gefnogi penderfyniadau clinigwyr ac ymarferwyr, ac i lywio ymyriadau ataliol amserol a, lle bo angen, penderfyniadau ynghylch triniaeth. Mae cydnabyddiaeth o’r cyfleoedd i wella ansawdd gwasanaethau, canlyniadau a phrofiadau, ac i ddarparu seilwaith cefnogol i’r gweithlu. Mae Cymru’n cyflwyno ac yn datblygu adnoddau AI i gefnogi penderfyniadau, fel mewn gwasanaethau delweddu a diagnosteg canser yn y GIG. Mae gofal cymdeithasol wedi manteisio ar adnoddau ysgrifennu/trawsgrifio AI ar raddfa fawr i gefnogi staff. Ochr yn ochr â hyn, mae gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod modd asesu adnoddau AI newydd ar gyfer cydymffurfedd rheoleiddiol yn gyflymach ac i sefydlu’r seilwaith data a phrofi sydd ei angen i hyfforddi, dilysu a defnyddio AI ar gyfer ymchwil, treialon masnachol ac arloesedd. 

Ond mae’r potensial hwn yn creu cyfrifoldeb clir – i weithio o fewn y gofynion rheoleiddiol ar gyfer darparu iechyd a gofal cymdeithasol, i roi mesurau diogelu ar waith ar gyfer pethau fel mynediad at ddata a phreifatrwydd, ac i sicrhau tegwch ar draws y system. Yn anad dim, rhaid i unigolion deimlo bod eu gofal yn dal yn hollbwysig yn y gofal tosturiol, seiliedig ar berthynas a ddarperir gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol medrus a chymwys iawn, a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Ym myd addysg, mae AI eisoes yn chwarae rôl fawr yn llunio dyfodol addysg drwy alluogi profiadau dysgu mwy personol. Mae’n gallu addasu cynnwys a chyflymder i gyfateb i anghenion pob dysgwr, gan helpu disgyblion i gamu ymlaen ar eu lefel eu hunain. I athrawon, mae AI yn creu’r potensial ar gyfer cymorth ymarferol drwy adnoddau fel cynllunio gwersi, graddio a chynllunio’r cwricwlwm yn awtomataidd – gan ryddhau amser i ganolbwyntio ar addysgu a mentora. Er bod yr arloesiadau hyn yn addo system addysg fwy cynhwysol ac effeithiol, maen nhw’n codi pryderon pwysig hefyd. Rhaid rhoi sylw i faterion fel rhagfarn algorithmig, preifatrwydd data, yr angen am safonau moesegol cryf, hyfforddiant i athrawon a chapasiti i sicrhau bod AI yn gwella, nid yn disodli, cysylltiad dynol. Mae’n hollbwysig hefyd bod gan ysgolion y seilwaith digidol cywir i wneud yr adnoddau hyn yn hygyrch i bawb.

Ar lefel llywodraeth leol, mae AI yn set adnoddau bwerus i wella gwasanaethau cyhoeddus, i wella effeithlonrwydd ac i wneud penderfyniadau mwy clyfar, sy’n seiliedig ar ddata. Mae’n gallu awtomeiddio tasgau rheolaidd fel amserlennu a rheoli achosion, cefnogi systemau traffig deallus, a chynyddu cyfranogiad y cyhoedd drwy sgwrsfotiaid a rhith-gynorthwywyr. Gall AI alluogi staff rheng flaen i reoli eu llwyth gwaith yn well, gan eu rhyddhau i dreulio mwy o amser gwerthfawr â defnyddwyr gwasanaethau. Mae AI yn gallu helpu llywodraeth leol i ddarparu gwasanaethau mwy ymatebol, i gynnig llwybrau mynediad amgen a chyfartal at wasanaethau, ac i gynllunio’n fwy effeithiol ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso’r buddion â rheolaeth ofalus ar risgiau, fel atgyfnerthu anghydraddoldeb, peryglu preifatrwydd data, neu danseilio ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae defnydd moesegol a thryloyw, goruchwyliaeth gadarn gan bobl, a buddsoddi mewn sgiliau digidol yn elfennau hollbwysig o sicrhau bod AI yn cael ei fabwysiadu’n gyfrifol.

Yn y trydydd sector, sy’n cynnwys elusennau, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol, gallai AI drawsnewid pethau. Fel partneriaid cyflawni allweddol i amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus, a gan fod y galw am wasanaethau yn cynyddu mewn amgylchedd lle mae adnoddau’n brin ac yn lleihau, mae defnyddio AI yn effeithiol yn gallu gwella effeithlonrwydd, cynyddu cyrhaeddiad, a galluogi penderfyniadau mwy clyfar. Fodd bynnag, mae sgiliau digidol yn y trydydd sector wedi’u datblygu llai o’i gymharu â’r sectorau cyhoeddus neu breifat, ac felly mae’n hollbwysig bod y trydydd sector yn cael cymorth i ddatblygu sgiliau digidol. Mae’r rhaglen Newid, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i darparu gan CGGC, Cwmpas a ProMo Cymru, eisoes yn helpu’r trydydd sector yng Nghymru i fagu hyder digidol, i wella darpariaeth gwasanaethau ac i fabwysiadu technolegau newydd fel AI. Mae’n ysbrydoli sefydliadau yn y trydydd sector i fanteisio’n strategol ac yn weithredol ar ddulliau digidol i gynyddu’r effaith gymdeithasol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gweithio’n ddiogel ac yn hyderus yn y byd digidol.

Twf y Sector AI

Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar dwf AI yn y dyfodol ac i gynnull asedau ynghyd er mwyn gallu achub ar y cyfleoedd i dyfu’r economi. Mae maint ac ystwythder Cymru yn golygu ei bod yn lle perffaith i dreialu datblygiadau AI a’u tyfu’n genedlaethol.

Dyma rai o’r cyfleoedd uniongyrchol i ddenu buddsoddiad i Gymru:

  • Ffyniant Canolfannau Data: Mae Cymru’n gartref i un o gampysau canolfannau data enfawr mwyaf Ewrop, ac mae Vantage Data Centres wedi cyhoeddi buddsoddiad o $12bn hefyd, gyda disgwyl i’r rhan fwyaf ohono fod yng Nghymru. Hefyd mae Microsoft yn adeiladu canolfan ddata fawr sy’n canolbwyntio ar AI yng Nghasnewydd. Mae hyn yn dangos hyder y farchnad canolfannau data yng Nghymru fel lleoliad buddsoddi.
  • Ardaloedd Twf AI yng Nghymru: Mae’r rhain wedi’u cynllunio i helpu i gyflymu seilwaith, cynlluniau a mynediad ynni ar gyfer datblygiadau AI. Ynghyd â phresenoldeb canolfannau data, byddant yn creu ecosystem ffyniannus ar gyfer datblygu a darparu gwasanaethau ac atebion AI.
  • Cysylltedd a Phŵer: Mae Cymru’n cynnig mynediad uniongyrchol at Uwch Grid y DU, at ffynonellau ynni adnewyddadwy (ee fferm wynt Pen y Cymoedd), ac at Lundain ar hyd yr M4.
  • Prifysgolion ac Ymchwil a Datblygu: Mae gan Brifysgolion Caerdydd, Abertawe a De Cymru enw da am AI, mynediad at ddata iechyd a gofal cymdeithasol â chydsyniad, seiberddiogelwch ac ymchwil i led-ddargludyddion. Mae ganddynt arbenigedd mewn cysylltiad â’r hinsawdd ac ynni gwyrdd hefyd.
  • Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: Mae Cymru’n gartref i glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, sy’n rhan hanfodol o galedwedd AI.
  • Arweinyddiaeth Seiberddiogelwch: Mae Cymru’n arweinydd yn y DU o ran gwydnwch digidol diolch i bresenoldeb rhanddeiliaid fel yr Hyb Arloesedd Seiber, Airbus Space and Defence, CymruSOC (Canolfan Gweithrediadau Diogelwch), ac Amentum a Thales yng Nglynebwy.
  • Datblygu a defnyddio atebion AI: Mae Canolfan Hartree, sydd wedi’i hariannu gan Ymchwil ac Arloesi y DU, yn gweithredu un o ddim ond tair Canolfan Hartree yn y DU ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Canolfan Genedlaethol Hartree ar gyfer Arloesi Digidol yn grymuso busnesau bach a chanolig drwy AI a dadansoddeg data ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae’r rhain yn gyfleoedd enfawr ond maen nhw hefyd yn adlewyrchu newid sylfaenol yn ein disgwyliadau o’n gweithlu, lle bydd angen arweinyddiaeth gadarn a dealltwriaeth o ddisgwyliadau realistig, yn ogystal â thegwch, cydweithrediad a phartneriaeth gymdeithasol.

Mabwysiadu AI ar draws yr Economi Ehangach

Mae busnesau’n awyddus i ddeall beth gall AI ei olygu iddyn nhw, a sut gallent neu sut dylent bontio i fabwysiadu technolegau AI. Ar draws y DU, mae ymgyrch i ddod â chymunedau ymchwil a’r diwydiant ynghyd i archwilio sut gall busnesau fabwysiadu AI a sbarduno cynhyrchiant, fel y bartneriaeth rhwng Canolfan Genedlaethol Hartree ar gyfer Arloesi Digidol ac IBM.

Mae enghreifftiau o arferion da ar hyd a lled Cymru ac o ddiwydiant yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau AI mewn darpariaeth dydd i ddydd. Fodd bynnag, mae’n gallu bod yn anodd deall y sector AI a’r dirwedd sy’n datblygu heb gyngor arbenigol.

Yn ôl Adroddiad Economaidd a Chyllidol Cymru, roedd ychydig o dan hanner busnesau Cymru (49%) wedi dweud nad ydynt yn defnyddio technolegau AI ar hyn o bryd, sy’n is nag ar draws y DU (56%). Y technolegau AI a ddefnyddir amlaf gan fusnesau Cymru yw prosesu data gan ddefnyddio dysgu peirianyddol (14%), cynhyrchu testun gan ddefnyddio modelau iaith mawr (13%), a chreu cynnwys gweledol (11%). Rhai o’r ffactorau a oedd wedi atal busnesau yng Nghymru rhag mabwysiadu technolegau AI, neu a oedd wedi gwneud iddynt oedi cyn gwneud hynny, oedd lefelau arbenigedd, cost, ac anhawster dod o hyd i achosion defnydd busnes. Er bod gennym sector technoleg ffyniannus yma yng Nghymru, mae’r canfyddiadau hyn yn dangos yn glir bod angen rhagor o gymorth ar y sector busnes ehangach i fabwysiadu AI yn llwyddiannus.

Ar hyn o bryd mae Busnes Cymru’n rhoi mynediad i entrepreneuriaid a busnesau at ystod eang o wybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd i’w helpu i ddechrau a thyfu, gan gynnwys cyngor ar ecsbloetio digidol. Yn ogystal â hynny, mae Canolfan Hartree yn cynnig cymorth i fusnesau sy’n dymuno canolbwyntio ar archwilio problem fusnes benodol. Mae angen ehangu’r math hwn o ddarpariaeth yng Nghymru.

Mae'n amlwg bod angen helpu busnesau bach a chanolig, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, i fabwysiadu AI a datblygu cymorth ehangach i'r gymuned fusnes. Mae cyfleoedd yn bodoli drwy weithio mewn partneriaeth i gyfuno arbenigedd sefydliadau technoleg cynhenid a rhyngwladol ag arbenigedd Canolfan Hartree i gynhyrchu adnoddau i fanteisio i'r eithaf ar allu Busnes Cymru i helpu busnesau i ddeall, mabwysiadu a manteisio ar AI.

Addysg a Sgiliau

Mae ymchwil wedi’i gomisiynu gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg yn dangos y bydd tua 10 miliwn o weithwyr ledled y DU mewn swyddi lle bydd AI yn rhan o'u swydd neu eu cyfrifoldebau ar ryw ffurf erbyn 2035, ac y bydd 3.9 miliwn arall mewn swyddi sy’n uniongyrchol ym maes AI. Er mwyn i Gymru barhau i fod yn gystadleuol ar lefel fyd-eang, rhaid i ni gyflenwi pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn economi sy'n cael ei phweru gan AI.

Fodd bynnag, mae mynediad at sgiliau AI yn dal yn un o'r rhwystrau mwyaf i dwf i gyflogwyr, a hynny yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae angen deall y bwlch sgiliau, ymdrechu i ddeall anghenion busnesau, a theilwra a darparu rhaglenni addysg a sgiliau i ateb y galw.

Mae angen ystyried rôl bwysig rhaglenni addysg a sgiliau a dysgu gydol oes er mwyn i Gymru wireddu'n llawn y buddion economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil twf AI. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n edrych ar gyfleoedd addysg a hyfforddiant sy'n benodol i Gymru ar gyfer sgiliau a dysgu digidol, gan fynd ati'n rhagweithiol i ystyried cysondeb â gweithgarwch ac ymyriadau arfaethedig Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn meithrin partneriaethau cryf â'r diwydiant gan weithio gydag ysgolion a cholegau i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf drwy fentrau fel rhaglen y Cymoedd Technoleg.

Mae addysgu a defnyddio AI ym myd addysg yn cyflwyno heriau a chyfleoedd. Yn gyntaf, mae'n hanfodol cynyddu gwybodaeth dysgwyr am alluoedd AI a dysgu sgiliau newydd iddynt fel peirianneg ysgogi a ‘moeseg data’.

Yn ail, mae'n bwysig cydnabod y gall addysgu gwerthoedd cyffredin am ddemocratiaeth a meithrin sgiliau 'dynol' fel creadigrwydd, empathi a gweithio gydag eraill ddod hyd yn oed yn fwy gwerthfawr mewn dyfodol gydag AI.

Yn drydydd, mae hefyd yn bwysig ystyried sut gallwn ni sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio i wella addysgu a dysgu yn ein hysgolion, gan sicrhau ar yr un pryd nad yw'n amharu ar hygrededd ac uniondeb y system addysg. Mae Estyn wedi cynnal adolygiad o AI mewn ysgolion sydd wedi ein helpu i ddeall sut mae’n cael ei ddefnyddio’n ymarferol a'r cyfleoedd posib.

Mae datblygu AI yn creu galluoedd newydd a chyrsiau newydd ar AI a phynciau cysylltiedig.  Bydd y rhain yn helpu i feithrin gallu dysgwyr i fanteisio ar y galluoedd newydd hyn. Fodd bynnag, bydd AI hefyd yn effeithio ar y sgiliau y bydd eu hangen ar draws nifer o ddisgyblaethau ym meysydd addysg uwch ac addysg bellach, yn ogystal â rhaglenni sgiliau, ac felly mae angen i'r cyrsiau hyn addasu i adlewyrchu anghenion. Bydd prifysgolion sy'n datblygu ac yn addasu cyrsiau wedi’u cynllunio ar y cyd â diwydiant yn helpu i sicrhau llif o dalent i fodloni anghenion nawr ac yn y dyfodol.

Llywodraethu a Goruchwylio

Rydyn ni eisoes wedi sefydlu Swyddfa AI yn Llywodraeth Cymru i gryfhau ein gallu o ran polisi a chyflawni, i hwyluso’r gwaith o lunio polisïau ar sail gwybodaeth, ac i gefnogi cydweithio ystyrlon â rhanddeiliaid ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Rydyn ni wedi sefydlu Grŵp Cynghori Strategol ar AI i roi cyngor annibynnol ar fabwysiadu AI ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n cynnwys arbenigwyr o'r byd academaidd, diwydiant a'r sector cyhoeddus, ac mae'n eiriolwr allweddol dros arloesi cyfrifol a defnyddio AI yn foesegol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae'n cael ei gefnogi gan Grŵp Arweinyddiaeth AI y Sector Cyhoeddus i Gymru, sy'n cynnwys uwch swyddogion yn y sector cyhoeddus sy'n cefnogi’r gwaith o fabwysiadu, llunio canllawiau a rhannu’r arferion gorau ar draws sectorau dan arweiniad y Grŵp Cynghori.

Mae gennym Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru a Bwrdd Safonau Digidol a Data Cymru sy'n diffinio sut beth yw gwasanaethau cyhoeddus digidol da, ac yn darparu fframwaith ar gyfer dylunio a darparu gwasanaethau effeithlon, cost-effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwrs.

Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU – gan ymgysylltu ar bolisïau, mentrau a galwadau cyllido ledled y DU i sicrhau bod Cymru'n elwa ar yr ymgyrch i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd AI, gan ddefnyddio buddsoddiadau ledled y DU yn ogystal â helpu i siapio trefn reoleiddio AI.

Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae'r Grŵp Cynghori AI ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (y Comisiwn AI ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol gynt) yn bodoli i gyflawni rôl hanfodol yn cynghori ar ddefnyddio AI yn ddiogel ac yn gyfrifol. Mae hyn yn cynnwys darparu canllawiau ar feysydd AI sy'n dod i'r amlwg i gefnogi'r gwaith o gynllunio systemau yn ogystal â chyflawni mewn sefyllfaoedd mwy cymhleth.

Yng Nghymru, mae dull partneriaeth gymdeithasol yn bwysig.  Dyna pam ein bod wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Partneriaeth y Gweithlu i ddatblygu'r canllawiau pwysig ar ddefnyddio AI yn foesegol ac yn gyfrifol mewn gweithleoedd yn y sector cyhoeddus, sydd hefyd wedi cael eu cymeradwyo gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Mae'r canllawiau, Rheoli Technoleg sy'n Rheoli Pobl a Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Gwaith, yn rhoi gwaith teg wrth galon datblygiad AI mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Ein Hegwyddorion Arweiniol

Er bod y manteision posib y gallwn eu sicrhau drwy arloesi technolegol yn enfawr, mae defnyddio AI yn gyfrifol yn rhan ganolog o’r strategaeth hon. Dylai mabwysiadu AI fod yn seiliedig ar ganllawiau clir i gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd ac i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn deg. Mae hyn yn cynnwys llywodraethu data cadarn, egwyddorion dylunio moesegol, a mesurau atebolrwydd i atal rhagfarn ac i ddiogelu preifatrwydd. Drwy wreiddio'r mesurau diogelu hyn o'r cychwyn cyntaf, gall sefydliadau gefnogi arloesedd ar yr un pryd â sicrhau bod systemau AI yn cyd-fynd â gwerthoedd Cymru, ac yn gwasanaethu cymunedau'n gyfrifol.

Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, rydyn ni wedi sefydlu set o egwyddorion i lywio'r gwaith o fabwysiadu AI. Rydyn ni’n glir yn ein hymrwymiad y dylai datblygiadau a/neu ddefnydd AI ddilyn yr egwyddorion canlynol:

  • Moesegol – Dibynadwy ac yn cyd-fynd â gwerthoedd pobl Cymru, gan gyrraedd safonau rhyngwladol o ran diogelwch, cyfrifoldeb a thegwch.
  • Empathetig – Cynhwysol, hygyrch, ac wedi'u cynllunio i fod o fudd i bawb, gan ganolbwyntio'n benodol ar gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed a difreintiedig.
  • Mentrus – Arloesol, cydweithredol, ac wedi ymrwymo i gryfhau ecosystem ymchwil, datblygu ac entrepreneuraidd Cymru.
  • Effeithiol – Tryloyw, atebol ac yn cael ei lywodraethu'n gyfrifol, gan sicrhau bod AI yn cael effaith fesuradwy ac yn sicrhau gwerth cyhoeddus.

Ein Conglfeini Strategol

Rydyn ni wedi diffinio pedwar conglfaen strategol i'n helpu i wireddu ein gweledigaeth. Mae'r conglfeini hyn yn llywio ein camau gweithredu, ein buddsoddiadau a'n partneriaethau i sicrhau bod ein gweithgarwch yn cyd-fynd â'n nodau. Dyma nhwe:

  1. Twf Economaidd - Defnyddio pŵer AI i sbarduno buddsoddiad, arloesedd, cynhyrchiant a ffyniant i Gymru.
  2. Addysgu Cymru - Cyflenwi pobl o bob oed â’r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd sy'n cael ei bweru gan AI.
  3. Cyflawni’n Deg - Sicrhau bod AI o fudd i Gymru gyfan, gyda thegwch, cynhwysiant a llesiant yn rhan ganolog ohono.
  4. Rhagoriaeth ac Ymddiriedaeth - Arwain y gwaith o fabwysiadu AI yn ddiogel, yn dryloyw ac yn effeithiol ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

1. Twf Economaidd

Defnyddio pŵer AI i sbarduno arloesedd, cynhyrchiant a ffyniant i Gymru.

Rydyn ni’n dymuno gwneud y canlynol:

  • Sefydlu Cymru fel canolfan ffyniannus ar gyfer arloesedd a mentrau AI.
  • Sicrhau bod Cymru’n elwa ar dwf ledled y DU yn y sector.
  • Helpu i alluogi busnesau a sefydliadau ymchwil yng Nghymru i ddatblygu a defnyddio atebion AI.
  • Helpu busnesau bach a chanolig, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, a diwydiannau allweddol i fabwysiadu AI a chystadlu'n fyd-eang.
  • Denu mewnfuddsoddiad a hyrwyddo Cymru fel arweinydd mewn AI dibynadwy, fel ym meysydd gwasanaethau cyhoeddus, iechyd a gofal cymdeithasol, ac addysg.
  • Meithrin partneriaethau rhwng prifysgolion, diwydiant a'r llywodraeth i ddatblygu defnydd AI yn y byd go iawn. Defnyddio AI i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol, i wella gwasanaethau cyhoeddus, ac i gefnogi arloesedd sy'n cael ei arwain gan y gymuned.
  • Cydweithio â'r diwydiant i gefnogi trawsnewid cyhoeddus drwy AI helpu i fynd i'r afael â heriau hirsefydlog, gan wella effeithlonrwydd, canlyniadau a phrofiad dinasyddion.

I gyflawni hyn, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Cryfhau a chynyddu capasiti cyfrifiannu'r DU i gefnogi datblygiad AI yng Nghymru yn unol â Chynllun Gweithredu Cyfleoedd AI Llywodraeth y DU. Fel rhan o hyn, manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o Ardaloedd Twf AI yng Nghymru.
  • Defnyddio ein cryfderau mewn AI i ddenu mewnfuddsoddiad i Gymru.
  • Gweithio gyda phartneriaid i gynyddu manteision posib adeiladu a gweithredu canolfannau data ar gyfer y cymunedau lle maen nhw wedi'u lleoli, gan gynnwys manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd twf gwyrdd, sicrhau cyfleoedd i'r gadwyn gyflenwi leol a darparu rhaglenni sgiliau hygyrch perthnasol.
  • Hyrwyddo AI mewn meysydd lle mae gan Gymru gryfderau penodol, fel mynediad at setiau data wedi'u curadu ar gyfer ymchwil ac arloesi, technoleg iechyd, seiberddiogelwch, AI gwyrdd, a thechnolegau dwyieithog.
  • Cryfhau'r cymorth sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, i ddeall, i gyfrannu, i fabwysiadu ac i fanteisio i'r eithaf ar AI er mwyn galluogi gwydnwch, effeithlonrwydd, cynhyrchiant a thwf.
  • Cymell cydweithio rhwng y byd academaidd, busnesau newydd, cyrff sefydledig yn y diwydiant, sefydliadau'r sector cyhoeddus ac undebau i dreialu creu Canolfannau Rhagoriaeth AI.
  • Parhau i annog mwy o gwmnïau masnachol yng Nghymru, drwy wasanaeth Helo Blod, i ddatblygu offer AI amlieithog, gan helpu i ddatgloi mynediad i farchnadoedd byd-eang.
  • Annog cyrff a sefydliadau i ddefnyddio Data Agored i sicrhau bod cynnwys cyhoeddus, sy’n cael arian cyhoeddus, ar gael i’w ddefnyddio gan offer AI.
  • Cefnogi gwaith ymchwil a datblygu AI mewn prifysgolion, sefydliadau ymchwil a lleoliadau cymhwysol yng Nghymru, fel y GIG a Gofal Cymdeithasol.

Beth fydd llwyddo yn ei olygu:

  • Sector AI ffyniannus sy'n cefnogi creu swyddi mwy medrus, yn helpu i wneud Cymru’n lle mwy deniadol i weithio, yn darparu cyfleoedd ar gyfer arloesi ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat, yn hybu cyfrifoldeb amgylcheddol ac yn denu buddsoddiad i Gymru.

2. Addysgu Cymru

Cyflenwi pobl o bob oed â’r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd sy'n cael ei bweru gan AI.

Rydyn ni’n dymuno gwneud y canlynol:

  • Datblygu llythrennedd a sgiliau arbenigol AI ar draws y gweithlu yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
  • Cyflenwi gweision cyhoeddus yng Nghymru â’r wybodaeth a’r sgiliau i ddefnyddio AI yn gyfrifol ac yn effeithiol.
  • Annog ysgolion Cymru i ddefnyddio AI a sgiliau digidol arloesol yn ddiogel.
  • Sicrhau bod Cymru'n elwa ar fentrau sgiliau AI ledled y DU.
  • Archwilio'r cyfle i gydweithio â darparwyr technoleg a chwmnïau/busnes i ddeall gofynion sgiliau AI a darparu cyfleoedd arddangos i'r gweithlu a'r cyhoedd i geisio gweld AI ar waith.

I gyflawni hyn, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Sicrhau bod hyfforddiant AI ar gael i weithwyr y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i'w galluogi i ddefnyddio technolegau AI yn effeithiol ac yn gyfrifol. Adeiladu ar yr hyfforddiant sylfaenol, gan ddatblygu opsiynau ar gyfer sefydlu coleg AI i weithwyr yn y sector cyhoeddus.
  • Diweddaru Fframwaith Cymhwysedd Digidol y Cwricwlwm i Gymru i adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf ym maes AI a darparu canllawiau cliriach ac ymarferol i ysgolion. Defnyddio Rhaglen Cymorth Grant y Cwricwlwm i Gymru i gefnogi AI, cyfrifiadura a dysgu digidol.
  • Parhau i ddatblygu adnoddau dysgu proffesiynol ar Hwb i roi dealltwriaeth glir i holl weithlu'r ysgol o gyfleoedd ac ystyriaethau allweddol AI, a sut gellir ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn briodol i wella arferion dysgu ac addysgu.
  • Hybu’r defnydd o raglenni fel Cynhwysiant Digidol Cymru a Newid i helpu i fynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau digidol, a datblygu partneriaethau â sefydliadau addysg bellach/addysg uwch i gynnig cyfleoedd ailhyfforddi oedolion ac uwchsgilio/ailsgilio digidol yn y gymuned.
  • Cefnogi a datblygu prentisiaethau sydd ag AI a digidol wrth eu gwraidd.
  • Archwilio'r defnydd o gyllid y Rhaglen Sgiliau Hyblyg i ddarparu cynigion hyfforddi/sylfaenol i fusnesau bach a chanolig, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, mewn partneriaeth â Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru.
  • Defnyddio gwaith Llywodraeth y DU ar fentrau sgiliau AI ledled y DU er budd Cymru.

Beth fydd llwyddo yn ei olygu:

  • Bydd gweision cyhoeddus, a phawb sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn deall sut i ddefnyddio AI yn eu gwaith o ddydd i ddydd, a fydd yn arwain at well effeithlonrwydd a gwell gwasanaethau.
  • Bydd dysgwyr yn cael eu grymuso gyda'r sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt i ffynnu fel defnyddwyr technoleg ac i gefnogi llwybrau gyrfa posib yn y dyfodol.
  • Bydd pobl yn fwy ymwybodol o'r cyfleoedd a'r risgiau sy'n gysylltiedig ag AI, gan gynnwys yr effaith ar yr amgylchedd, gymdeithasol a diwylliannol defnydd a gwasanaethau AI, a byddant yn gallu manteisio ar gynigion sgiliau Al i gefnogi datblygiad gyrfa a thrawsnewidiadau.

3. Cyflawni’n Deg

Sicrhau bod AI o fudd i Gymru gyfan, gyda thegwch, cynhwysiant a llesiant yn rhan ganolog ohono.

Rydyn ni’n dymuno gwneud y canlynol:

  • Datblygu dulliau gweithredu moesegol a chynaliadwy ar gyfer AI, gan wreiddio’r gwerthoedd tegwch, tryloywder a chynaliadwyedd.
  • Hybu a chefnogi mabwysiadu AI mewn ffordd sy'n lleihau anghydraddoldeb ac yn cryfhau cymunedau.
  • Sicrhau cysondeb â'n huchelgais i helpu pobl i gyrraedd y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol.
  • Datblygu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy'n hygyrch ac yn gynhwysol, gan gynnwys o ran y Gymraeg, ac sy'n bodloni anghenion defnyddwyr. Dylai hyn gynnwys ystyried llwybrau digidol a llwybrau nad ydynt yn ddigidol eraill er mwyn sicrhau mynediad hawdd i bawb.
  • Datblygu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy'n cyd-fynd â Chynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol Cymru 2025-2029, y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru, a Chynllun Hawliau Pobl Anabl Cymru.
  • Sicrhau bod AI yn cynrychioli diwylliant, hunaniaeth ac iaith Cymru fel y bo'n briodol, gan eu galluogi i ffynnu.
  • Parhau i ddatblygu'r rhaglen Newid i sicrhau bod gan y trydydd sector y sgiliau sylfaenol i chwarae rhan lawn a gweithredol yn y gwaith o ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
  • Hyrwyddo AI yn y gweithle gyda'r nodau o wella gwasanaethau ac amgylcheddau gwaith mewn ffordd sy'n cyd-fynd ag egwyddorion gwaith teg a hawliau gweithwyr.
  • Dangos arweiniad o ran defnyddio AI mewn ffordd gyfrifol, gynhwysol a moesegol, gan bwyso a mesur gwelliannau mewn perfformiad a chynhyrchiant yn erbyn yr effaith ar yr amgylchedd. Ceisio cydbwyso manteision AI â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.

I gyflawni hyn, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Codi ymwybyddiaeth o'r angen i ddeall effaith mabwysiadu AI ar allgáu digidol a nodi mecanweithiau ar gyfer cynnwys y cyhoedd i sicrhau ein bod yn deall anghenion a phryderon defnyddwyr.
  • Annog cyrff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, drwy ganllawiau, i gynnwys pobl o wahanol oedrannau a gwahanol grwpiau poblogaeth wrth fabwysiadu AI mewn gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau ei fod yn cefnogi defnyddio'r Gymraeg, hygyrchedd, cydraddoldeb a chynhwysiant.
  • Pan fydd data'r sector cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch AI, sicrhau ei fod yn ystyried pobl o wahanol oedrannau a gwahanol grwpiau poblogaeth, gan gynnwys y rhai nad ydynt ar-lein ac nad oes llawer o ddata ar gael ar eu cyfer, cyn gwneud penderfyniad sy'n effeithio arnynt.
  • Hybu defnyddio AI mewn ffordd sy'n rhoi pwyslais priodol ar ryngweithio rhwng pobl a goruchwyliaeth gan bobl.
  • Annog cyrff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru i fod yn agored ynghylch AI a'i ddefnydd drwy gynnwys y cyhoedd, cymdeithas sifil a gweithwyr yn y gwaith o ddylunio a datblygu gwasanaethau ac atebion AI.
  • Gwreiddio'r defnydd moesegol a chyfrifol o AI drwy bartneriaeth gymdeithasol a chanllawiau fel Rheoli Technoleg sy'n Rheoli Pobl.
  • Gwella mynediad at ddata ar y Gymraeg, ochr yn ochr â data am yr hyn sy'n gwneud bywyd yng Nghymru yn wahanol, drwy ddefnyddio Data Agored, i alluogi darparwyr AI ledled y byd i roi sylw i anghenion defnyddwyr Cymraeg.
  • Datblygu dealltwriaeth ddyfnach o effaith AI ar yr amgylchedd a rhoi arweiniad i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar sut i leihau hyn, lle bo hynny'n briodol.
  • Ymrwymo i hybu arferion AI cynaliadwy ac archwilio defnyddio AI mewn ffordd sy'n cefnogi gwydnwch yr hinsawdd, y gwaith o reoli ynni, a'r economi gylchol.
  • Cysoni ein dull gweithredu ar gyfer arferion AI teg a chyfartal â Fframwaith Pontio Teg Llywodraeth Cymru ar gyfer Sero Net (a fydd yn cael ei gyhoeddi fis Rhagfyr 2025).

Beth fydd llwyddo yn ei olygu:

  • Mabwysiadu AI yn lleihau anghydraddoldebau, yn hytrach na’u hatgyfnerthu.
  • Ymddiriedaeth y cyhoedd a'r gweithlu mewn systemau AI yn tyfu.
  • AI yn adlewyrchu ac yn cryfhau gwerthoedd cymdeithas Cymru.

4. Rhagoriaeth ac Ymddiriedaeth

Arwain y gwaith o fabwysiadu AI yn ddiogel, yn dryloyw ac yn effeithiol ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

Rydyn ni’n dymuno gwneud y canlynol:

  • Sicrhau llywodraethu a goruchwylio clir ar gyfer defnyddio AI yng Nghymru.
  • Sganio'r gorwel am dueddiadau rhagfynegol i gefnogi cylchoedd cynllunio sy'n ymateb i alluoedd AI sy'n dod i'r amlwg.
  • Datblygu gwasanaethau a rennir a’r arferion gorau ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
  • Cynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn AI drwy dryloywder, atebolrwydd a thrafodaethau ystyrlon â'r cyhoedd a chymdeithas sifil ynghylch AI a’r defnydd ohono.
  • Cydweithio â darparwyr AI i ddatblygu a defnyddio atebion AI er budd gwasanaethau cyhoeddus.
  • Dod yn brif fan profi ar gyfer defnyddio AI i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, gan ganolbwyntio ar iechyd, addysg a llywodraeth leol.

I gyflawni hyn, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Cyflawni ein hymrwymiad i ddefnyddio AI yn dryloyw. Mynnu bod y gwaith o fabwysiadu AI mewn gwasanaethau cyhoeddus yn atebol ac yn dryloyw, a bod y trefniadau llywodraethu a'r mesurau diogelu cywir ar waith. Hybu diwylliant diogel a moesegol o rannu data ar draws ein sector cyhoeddus.
  • Datblygu canllawiau i'w defnyddio gan awdurdodau lleol, cyrff hyd braich ac eraill ar y ffordd orau o ddefnyddio AI yn effeithlon ac yn effeithiol yn eu gwasanaethau, gan ddefnyddio canllawiau a safonau presennol i gefnogi systemau a gwybodaeth gyson a rhyngweithredol.
  • Datblygu dealltwriaeth sylfaenol o weithgareddau sy'n ymwneud ag AI ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a chynnal cofrestr gyfredol o'r systemau AI sydd ar waith.
  • Nodi cyfleoedd i ddatblygu profion cysyniadau y gallwn ddysgu oddi wrthynt ac o bosib eu datblygu ymhellach. Er enghraifft, byddwn yn ymchwilio i brawf cysyniad cynorthwyydd sgwrsfot prawf ar gyfer gwasanaeth StatsCymru Llywodraeth Cymru sydd wedi'i ailddatblygu.
  • Cynnal gwerthusiad o'r adnoddau ysgrifennu/trawsgrifio AI sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar draws rhannau o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i helpu i lywio penderfyniadau buddsoddi a defnyddio yn y dyfodol.
  • Darparu llwyfan a rennir i brofi a defnyddio adnoddau AI.  Fel man cychwyn, bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio adnodd dylunio cynnwys wedi'i alluogi gan AI i eraill ei ddefnyddio.
  • Parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ei hadnoddau AI i asesu sut gellir sicrhau bod yr adnoddau y mae'n eu datblygu ar gael ac yn cael eu defnyddio yng Nghymru.
  • Gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod canllawiau clir ar waith ar gyfer busnesau, sefydliadau'r trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus ar sut i gydymffurfio ag unrhyw ofynion deddfwriaethol neu reoleiddiol a allai fod yn berthnasol iddynt yn y dyfodol.

Beth fydd llwyddo yn ei olygu:

  • Mae AI yn cael ei roi ar waith mewn ffyrdd sy'n ddiogel, yn gyson ac yn effeithiol ar draws gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n cyd-fynd â safonau AI perthnasol.
  • Bydd sefydliadau'r sector cyhoeddus yn darparu gwasanaethau gwell, cyflymach a mwy effeithlon i ddinasyddion.
  • Mae atebion a rennir yn arwain at fabwysiadu AI yn gyflymach ac yn datgloi enillion effeithlonrwydd ar raddfa fawr.