Mae’r Safonau Gwasanaethau Digidol yn disgrifio egwyddorion er mwyn helpu pawb i ddarparu gwasanaethau gwell.
Mae'r safonau wedi'u grwpio'n themâu:
- diwallu anghenion defnyddwyr
- creu timau digidol da
- defnyddio’r dechnoleg gywir
Fe’i datblygwyd gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS), gan weithio gydag ystod eang o ddefnyddwyr a darparwyr gwasanaethau.
Ers hynny, mae CDPS wedi trosglwyddo i Lywodraeth Cymru fel rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru ac mae’n parhau â’u gwaith drwy gefnogi sefydliadau i fabwysiadu’r safonau.
Safonau Gwasanaethau Digidol ar wefan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru.
