Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cymelldaliad Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn codi £5,000, i £20,000 o fis Medi 2026 ymlaen, fel rhan o gynllun 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Mae cymhelliant mwy cystadleuol i ddenu a chadw athrawon newydd mewn addysg uwchradd wedi'i gyhoeddi heddiw fel rhan o gynllun y 100 diwrnod cyntaf.
  • Cynnydd o £5,000 ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, sy'n cynnwys mathemateg, y Gymraeg a gwyddoniaeth.

Y pynciau cymwys â blaenoriaeth o fewn addysg uwchradd yw:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Technoleg Ddigidol a/neu Gyfrifiadureg
  • Mathemateg
  • Ieithoedd rhyngwladol
  • Ffiseg
  • Cymraeg

    Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:

"Mae addysg wrth wraidd y llywodraeth newydd hon. Ac rydyn ni'n glir bod angen cefnogi'r gweithlu addysg i gyflawni cenhadaeth ein cenedl ar gyfer addysg, gan godi safonau a darparu'r sylfaen orau i ddysgwyr ar gyfer eu dyfodol.

“Ochr yn ochr â gwella amodau i athrawon a’u datblygiad proffesiynol, mae’n hanfodol inni sicrhau gweithlu cynaliadwy ac annog mwy o bobl i ymuno â’r proffesiwn addysgu.  Rwy’n falch o allu cyhoeddi cymhelliant mwy cystadleuol fel un o’m camau cyntaf yn fy rôl newydd, ac rwy’n gobeithio adeiladu ar y cynnydd hwn dros y pedair blynedd nesaf.

"Rydyn ni am fanteisio ar y dalent a'r sgiliau sydd gennym yma yng Nghymru i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer addysg, gan sicrhau bod yr arian nid yn unig yn cefnogi pobl i hyfforddi yng Nghymru, ond hefyd yn cadw'r sgiliau hynny er budd dysgwyr ledled Cymru."

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth:

" Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i wella addysg ein plant a phobl ifanc, gan roi'r dechrau gorau posibl iddynt mewn bywyd a datgloi cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

"Os ydyn ni am godi safonau yn ein hysgolion, mae rhaid inni fuddsoddi yn ein gweithlu ymroddedig a thalentog hefyd – drwy eu cefnogi a rhoi’r offer sydd eu hangen arnyn nhw, ochr yn ochr â chryfhau’r broses o recriwtio athrawon. Mae’r cyhoeddiad heddiw y bydd cynnydd o £5,000 i’r cymelldaliad Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wella deilliannau i athrawon a disgyblion."

Bydd y cymelldaliad yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad ac ar gael i fyfyrwyr cymwys ym mlwyddyn academaidd 2026 i 2027, sy’n dechrau ym mis Medi.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun cymhelliant a phwy sy’n gymwys, ewch i Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2026 i 2027.