Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r data yn yr adroddiad hwn yn amcangyfrifon dros dro ar gyfer Ebrill 2025 i Fawrth 2026 gyda diwygiadau data yn mynd yn ôl i chwarter 1 2025 (Ionawr i Mawrth 2025). Bydd data yn cael ei adolygu'n rheolaidd dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni hwyr o ddatganiadau tollau.

Mae'r data yn cwmpasu gwerth (mewn prisiau cyfredol) a chyfaint allforion a mewnforion nwyddau.
 
Mae'n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang ar werthoedd masnach yn ogystal â phwysau chwyddiant sy'n gwthio prisiau cyfredol cynhyrchion i fyny. Felly, dylid trin cymariaethau dros amser yn ofalus, oherwydd diwygiadau, chwyddiant (prisiau cyfredol) ac anweddolrwydd y farchnad fyd-eang.

Ers fis Ionawr 2022, gweithredodd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) newid mewn dulliau casglu data sy'n effeithio ar fasnach nwyddau data ar fewnforion o'r UE i Brydain Fawr. Creodd hyn toriad yn y gyfres amser; Dylid defnyddwyr gymryd gofal wrth wneud cymariaethau â chwarteri a blynyddoedd blaenorol.

Y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2026 (dros dro)

Mae'r dadansoddiad canlynol yn gymhariaeth rhwng y flwyddyn ddiweddaraf o ddata (blwyddyn sy'n dod i ben Mawrth 2026) a'r flwyddyn flaenorol (blwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 2025).

Cyfanswm y fasnach (allforion + mewnforion) 

  • Cyfanswm gwerth y fasnach oedd £39.5 biliwn, i lawr £1.0 biliwn (2.6%) o £40.6 biliwn.
  • Cyfanswm gwerth masnach heb 'Olew' [troednodyn 1] oedd £32.2 biliwn, gostyngiad o £0.3 biliwn (1.0%) o £32.5 biliwn.  
  • Cyfanswm y cyfaint masnach Gymreig oedd 23.8 biliwn kg, cynnydd o 0.2 biliwn kg (0.9%) o 23.6 biliwn kg. 
  • Cyfanswm y gyfaint masnach heb 'Olew' i Gymru oedd 8.1 biliwn kg, gostyngiad o 0.9 biliwn kg (10.0%) o 9.0 biliwn kg.

Allforion 

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £19.1 biliwn, gostyngiad o £0.1 biliwn (0.5%) o £19.2 biliwn. Cafodd hyn ei yrru i raddau helaeth gan gostyngiad yng ngwerth allforion 'Olew' o £0.2 biliwn.
  • Cyfaint allforion nwyddau Cymreig oedd 7.6 biliwn kg, gostyngiad o 43.2 miliwn kg (0.6%) o 7.6 biliwn kg.
  • Gwerth allforion nwyddau ar gyfer y DU oedd £360.5 billion, gostyngiad o £4.4 biliwn (1.2%) o £364.9 biliwn.
  • Cyfaint allforion nwyddau ar gyfer y DU oedd 120.4 biliwn kg, gostyngodd 8.1 biliwn kg (6.3%) o 128.4 biliwn kg.
  • Profodd Lloegr a Gogledd Iwerddon gynnydd yng ngwerth allforion, tra bod Cymru a'r Alban wedi profi gostyngiad.
  • Parhaodd yr UE i gyfrif am fwyafrif o werthoedd allforio Cymru, yn cyfrif am 57.3%, tra bod yr UE yn cyfrif am 49.2% o werthoedd allforio'r DU.
  • Cynyddodd gwerthoedd allforion i wledydd yr UE gan £0.2 biliwn (2.0%) i £11.0 biliwn oddi £10.7 biliwn. Gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd y tu allan i'r UE gan £0.3 biliwn (3.7%) i £8.2 biliwn oddi £8.5 biliwn.
  • Y 3 phrif gynnyrch yn ôl werthoedd a allforiwyd o Gymru oedd 'Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer' (£4.2 biliwn), ‘Cyfarpar Trafnidiaeth Arall’ (£2.6 biliwn) ac ‘Olew’ (£2.4 biliwn). Roedd y cynhyrchion hyn yn cyfrif am 48.3% o allforion nwyddau Cymru.
  • Y 3 phrif wlad a allforiodd Cymru iddynt yn ôl werthoedd oedd yr Unol Daleithiau (£2.7 biliwn), yr Almaen (£2.7 biliwn), ac Iwerddon (£2.3 biliwn). Roedd y gwledydd hyn yn cyfrif am 40.5% o allforion nwyddau Cymru.

Allforion heb 'Olew' 

  • Gwerth allforion nwyddau heb ‘Olew’ i Gymru oedd £16.7 biliwn, cynnydd o £0.1 biliwn (0.9%) o £16.5 biliwn.
  • Roedd cyfaint yr allforion nwyddau heb ‘Olew’ i Gymru yn 2.6 biliwn kg, gostyngiad o 0.3 biliwn kg (11.1%) o 3.0 biliwn kg.
  • Gwerth allforion nwyddau heb ‘Olew’ o'r DU oedd £340.4 biliwn, cynnydd o £3.9 biliwn (1.2%) o £336.5 biliwn.
  • Roedd cyfaint yr allforion nwyddau heb ‘Olew’ o'r DU yn 73.4 biliwn kg, cynnydd o 1.7 biliwn kg (2.3%) o 71.8 biliwn kg.

Mewnforion  

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £20.4 biliwn, gostyngiad £0.9 biliwn (4.4%) o £21.3 biliwn. Cafodd hyn ei yrru i raddau helaeth gan ostyngiad o £0.5 biliwn yng ngwerth mewnforion 'Olew'. 
  • Cyfaint y mewnforion nwyddau i Gymru oedd 16.3 biliwn kg, cynnydd o 0.2 biliwn kg (1.5%) o 16.0 biliwn kg.
  • Gwerth mewnforio nwyddau i'r DU oedd £613.2 biliwn, cynnydd o £23.1 biliwn (3.9%) o £590.1 biliwn.
  • Roedd cyfaint y mewnforion nwyddau ar gyfer y DU yn 267.0 biliwn kg, gostyngiad o 6.9 biliwn kg (2.5%) o 273.9 biliwn kg.
  • Profodd holl wledydd y DU gynnydd yng ngwerth mewnforion, ac eithrio Cymru a ostyngodd. 
  • Cyfrifodd yr UE am 38.0% o werthoedd mewnforio Cymru o'i gymharu â 52.4% o werthoedd mewnforio'r DU.
  • Gostyngodd gwerthoedd mewnforio o wledydd yr UE £0.2 biliwn (2.7%) i £7.8 biliwn o £8.0 biliwn. Gostyngodd gwerthoedd mewnforio o wledydd y tu allan i'r UE £0.7 biliwn (5.4%) i £12.6 biliwn o £13.4 biliwn.
  • Y 3 phrif gynnyrch a fewnforiwyd i Gymru oedd 'Olew' (£4.8 biliwn), 'Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer' (£3.7 biliwn) ac 'Peiriannau Trydan, Offer a Chyfarpar' [troednodyn 2] (£1.0 biliwn). Roedd y cynhyrchion hyn yn cyfrif am 46.8% o fewnforion nwyddau Cymru.  
  • Y 3 phrif wlad y mewnforiodd Cymru ohonynt yn ôl werthoedd oedd yr Unol Daleithiau (£4.0 biliwn), Tsieina (£1.8 biliwn) a Ffrainc (£1.3 biliwn). Roedd y gwledydd hyn yn cyfrif am 34.4% o fewnforion nwyddau Cymru.

Mewnforion heb ‘Olew’ 

  • Gwerth mewnforion nwyddau heb ‘Olew’ i Gymru oedd £15.6 biliwn, gostyngiad £0.5 biliwn (2.8%) o £16.0 biliwn.
  • Cyfaint y mewnforion nwyddau heb ‘Olew’ i Gymru oedd 5.5 biliwn kg, gostyngiad o 0.6 biliwn kg (9.4%) o 6.1 biliwn kg.
  • Gwerth mewnforio nwyddau heb ‘Olew’ i'r DU oedd £575.4 biliwn, cynnydd o £30.9 biliwn (5.7%) o £544.5 biliwn.
  • Cyfaint y mewnforion nwyddau heb ‘Olew’ i’r DU oedd 186.5 biliwn kg, gostyngiad o 1.8 biliwn kg (0.9%) o 188.3 biliwn kg.

Nodiadau

Fe all rhywfaint o'r data masnach a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEF fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’. 

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEF ar yr ystadegau hyn

Yn dilyn ein hymgynghoriad diweddar ar allbynnau ystadegol, rydym wedi atal yr adroddiad blynyddol Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig, ond byddwn yn parhau gyda'r crynodeb  hwarterol yma o’r prif bwyntiau ar gyfer Cymru. Gall defnyddwyr barhau i gyrchu’r data mwyaf cywir ac amserol (sy'n ymgorffori pob diwygiad) trwy'r penawdau chwarterol a'r dangosfwrdd rhyngweithiol.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach nwyddau rhyngwladol. Ar gyfer masnach ryngwladol mewn gwasanaethau, mae'r ystadegau swyddogol o dan datblygiad (2023) a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn awgrymu bod gwasanaethau yn cyfrif am oddeutu 30% o gyfanswm yr allforion yng Nghymru, ac 20% o gyfanswm y mewnforion. 

Sylwch fod y dulliau yn wahanol rhwng ystadegau CThEM a'r SYG. Mae mwy o fanylion ar gael am y gwahaniaethau allweddol hyn yn 'Overseas trade in goods statistics methodology and quality report' (adran 8.4) (CThEM)

Mae'r prif ganlyniadau a'r cyfrifiadau busnes yn cael eu cyhoeddi'n chwarterol ac maent ar gael ar wefan CThEM ‘Gwybodaeth Masnach y DU’ ac ystadegau masnach nwyddau y DU (CThEM), ochr yn ochr â'n dangosfwrdd rhyngweithiol ein hunain.

Troednodiadau

[1] ‘Petroliwm, cynhyrchion petroliwm a deunyddiau cysylltiedig’ (SITC33). 

[2] 'Peiriannau trydan, offer a chyfarpar a’u cydrannau trydan nad ydynt wedi’u nodi mewn mannau eraill' (SITC77).

Manylion cyswllt

Ystadegau Masnach
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image