Hysbysiad preifatrwydd – Digwyddiad ar yr Arferion Gorau ar gyfer Defnyddio, Storio a Gwaredu Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPPs) mewn modd diogel
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad ar y cyd â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar ddefnyddio, storio a gwaredu cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) mewn modd priodol yn y sector amwynderau ledled Cymru.
Nod y diwrnod yw sicrhau cydymffurfio gwell ymhlith gweithredwyr PPPs, drwy roi cyfle i randdeiliaid amwynderau allweddol yng Nghymru glywed gan yr HSE am ddefnyddio PPPs mewn modd effeithiol a diogel, yn unol â Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 2011, Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Defnydd Cynaliadwy) 2012 a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad, rydych yn cytuno y gellir defnyddio'r data personol a gyflwynwch wrth gofrestru fel a ganlyn:
- I gysylltu â chi ynglŷn â'r digwyddiad
- I anfon dogfennau perthnasol atoch yn ymwneud â'r digwyddiad
- I anfon negeseuon atgoffa am y digwyddiad hwn
- I anfon gwybodaeth ddilynol am y digwyddiad
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol rydych wedi'i ddarparu ar y porth ar-lein, a byddwn yn ei brosesu yn unol â’n tasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol a roddwyd inni.
Y data personol y byddwn yn ei gasglu a'i brosesu
I anfon gwybodaeth atoch am y digwyddiad, byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
- Enw’r sefydliad
- Dewis iaith
Byddwn hefyd yn casglu 'data categori arbennig' i sicrhau bod unrhyw angheinion ychwanegol yn cael eu diwallu yn ystod y digwyddiad. Mae rhoi'r wybodaeth hon yn ddewisol, mae'n cael ei phrosesu drwy ganiatâd ac yn cael ei dileu ar ôl y digwyddiad:
- Gofynion hygyrchedd
- Gofynion deietegol.
Er mwyn gallu rhwydweithio yn ystod y digwyddiad, mae'n bosib y bydd eich enw ac enw eich sefydliad yn cael eu rhannu â phobl eraill sydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Os byddai'n well gennych pe na fydden ni'n gwneud hyn, rhowch wybod inni drwy e-bostio pesticides.plaladdwyr@llyw.cymru
Yn ystod y digwyddiad, gall swyddogion Llywodraeth Cymru dynnu ffotograffau i gefnogi hyrwyddo'r digwyddiad i randdeiliaid perthnasol. Gellir defnyddio'r delweddau hyn yn e-newyddlen Cynhyrchion Diogelu Planhigion Llywodraeth Cymru ac ar dudalen wefan plaladdwyr Llywodraeth Cymru. Os byddai'n well gennych beidio â chael eich cynnwys mewn unrhyw ffotograffau a ddefnyddir at ddibenion hyrwyddo, rhowch wybod inni drwy e-bostio pesticides.plaladdwyr@gov.wales
Pwy fydd yn cael gweld eich data
Bydd yr wybodaeth a gesglir gan ddefnyddio SmartSurvey ar gael i staff perthnasol Llywodraeth Cymru a'i gweinyddwyr technegol sy'n cynnal y system technoleg gwybodaeth. Ni fydd gweinyddwyr y system dechnegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd yr holl wybodaeth bersonol a gesglir yn cael ei dileu o systemau Llywodraeth Cymru ar ôl y digwyddiad.
Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i gael gwybod am y data personol mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch, a chael gweld y data hwnnw
- i ofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn rhai amgylchiadau)
- i ofyn inni 'ddileu' eich data (mewn rhai amgylchiadau)
- cludadwyedd y data (mewn rhai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn cysylltwch â pesticides.plaladdwyr@llyw.cymru
I ddysgu rhagor am yr wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben mae'n gwneud hynny, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymraeg
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.cy.ico.org.uk
