Perfformiad y GIG ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol Cymru: Mehefin 2026
Adroddiad yn rhoi crynodeb o berfformiad y GIG ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol Cymru, yn cwmpasu amseroedd aros adrannau achosion brys a gofal wedi'i gynllunio, ac ymateb ambiwlansys ar gyfer Mehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r datganiad ystadegol chwarterol hwn yn rhoi crynodeb o ddata perfformiad y GIG ar gyfer byrddau iechyd lleol unigol. Caiff dadansoddiad misol ar gyfer Cymru gyfan ei gyhoeddi yn y crynodeb o Weithgarwch a Pherfformiad y GIG sy’n gysylltiedig. Mae data misol manwl ar gyfer byrddau iechyd lleol hefyd ar gael ar StatsCymru.
Cyflwynir y dadansoddiadau yma ar gyfer pob bwrdd iechyd yn seiliedig ar dargedau perfformiad sefydledig Llywodraeth Cymru ar gyfer adrannau achosion brys, apwyntiadau cleifion allanol, diagnosteg a therapïau, a gwasanaethau canser. Cafodd y targedau a gyflwynir eu gosod gan y llywodraeth flaenorol. Byddwn yn parhau i adrodd ar y sail hon nes bydd y targedau hynny’n cael eu disodli neu eu diwygio. Mae’r ffigurau yn y rhifyn hwn yn cwmpasu mis Ebrill, pan oedd y llywodraeth flaenorol yn dal mewn grym, a mis Mai, pan ffurfiwyd y llywodraeth bresennol. Hyd yma, ni chadarnhawyd unrhyw newidiadau i’r targedau presennol. Gallwch lywio i fyrddau iechyd penodol gan ddefnyddio’r hyperddolenni adran yng nghornel chwith uchaf yr adroddiad hwn.
Mae’r dadansoddiadau hyn ar sail darparwr bwrdd iechyd, nid bwrdd iechyd y breswylfa. Mae hyn yn golygu bod cleifion sy’n byw mewn un bwrdd iechyd ond sydd ar restrau aros a ddarperir gan fyrddau iechyd eraill yn cael eu cyfrif yn ffigurau’r sefydliadau hynny. Mae hyn yn gyson â’r fframwaith rheoli perfformiad yng Nghymru, gan fod safonau a thargedau’n cael eu hasesu ar sail darparwr.
Cafodd amrywiaeth o fetrigau perfformiad ambiwlansys newydd eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2025. Cyhoeddir ffigurau'r byrddau iechyd ar StatsCymru. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl crynhoi'r rhain ar ffurf y mesurau allweddol ar gyfer pynciau eraill fel y nodir isod. Dros amser, byddwn yn edrych ar opsiynau ar gyfer crynhoi tueddiadau ym mherfformiad byrddau iechyd ar gyfer y mesurau ambiwlans newydd.
Mae data yn yr adroddiad hwn wedi cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW). Ar gyfer rhai mesurau, nid oedd modd cymharu Powys â’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â byrddau iechyd eraill.
Prif bwyntiau
- O blith y mesurau yn yr adroddiad hwn, nid oes gan Bowys na Bae Abertawe unrhyw lwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd. Nid oes gan Fae Abertawe unrhyw amseroedd aros blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol.
- Mae llai nag 1% o lwybrau Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda yn aros mwy na dwy flynedd. Mae llai nag 1% o lwybrau Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda a Phowys yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol.
- O ran adrannau achosion brys, Aneurin Bevan oedd â’r gyfran uchaf o gleifion a dderbyniwyd, a drosglwyddwyd neu a ryddhawyd o fewn y targed amser o 4 awr, sef 73.9%, a Chwm Taf Morgannwg oedd â’r gyfran isaf, sef 57.5%.
- Aneurin Bevan oedd â’r ganran isaf yn aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys, ar 7.2%, a Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf (17.1%).
- Powys oedd â’r gyfran isaf o lwybrau RTT oedd yn aros mwy na blwyddyn (1.1% o lwybrau), a Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf (18.6% o lwybrau).
- Nid oes gan Bowys na Bae Abertawe unrhyw lwybrau RTT sy’n aros mwy na dwy flynedd, ac mae cyfran y llwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd yn llai nag 1% ar gyfer Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda. Betsi Cadwaladr sydd â’r gyfran uchaf yn aros mwy na dwy flynedd (1.4%).
- Ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, ym Mae Abertawe mae’r gyfran isaf sy’n aros mwy na blwyddyn (dim un llwybr). Mae gan Gwm Taf Morgannwg, Hywel Dda a Phowys lai nag 1%. Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfran uchaf yn aros mwy na blwyddyn (10.2% o lwybrau).
- Ar hyn o bryd, Cwm Taf Morgannwg sydd â’r gyfran isaf o amseroedd aros diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (2.0%). Betsi Cadwaladr sydd â’r gyfradd uchaf (43.0% o lwybrau).
- O ran therapïau, nid oes gan Bowys na Bae Abertawe unrhyw lwybrau sy’n aros mwy na’r targed o 14 wythnos. Hywel Dda sydd â’r gyfran uchaf yn aros mwy na 14 wythnos (20.8% o lwybrau).
- O ran gwasanaethau canser, Cwm Taf Morgannwg sydd â’r gyfran uchaf o gleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r pwynt amheuaeth (62.0%), a Bae Abertawe sydd â’r gyfran isaf (48.4%).
Aneurin Bevan
Ffigur 1: Crynodeb o berfformiad Aneurin Bevan hyd at fis Ebrill 2026 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2026 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 1: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Aneurin Bevan o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau brys (DHCW), Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi (DHCW), Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth (DHCW), Llwybr Lle’r Amheuir Canser (DHCW)
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: Daeth data niwroffisioleg ar gyfer Aneurin Bevan ar gael ym mis Mehefin 2023, gan ychwanegu tua 1,000 o lwybrau nad oeddent wedi cael eu hadrodd o’r blaen. Darparwyd gwasanaethau diagnosteg niwroffisioleg gan Aneurin Bevan cyn mis Mehefin 2023, ond nid yw’r data hynny ar gael. Mae hyn yn effeithio ar gymharedd data diagnostig ar gyfer Aneurin Bevan a Chymru dros amser.
[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2026
Cafodd 73.9% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Nid oes tuedd hirdymor amlwg o ran perfformiad.
Arhosodd 7.2% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae hyn wedi bod yn gyfnewidiol dros y blynyddoedd diwethaf.
Gofal wedi’i drefnu ym mis Ebrill 2026
Roedd 4.8% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r ffigur hwn wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf.
Roedd 2.2% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae’r ffigur hwn wedi bod yn gymharol sefydlog dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 11.3% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Mae’r ffigur hwn wedi gostwng yn y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 0.1% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Mae’r ffigur hwn wedi bod yn llai nag 1% ers dros flwyddyn.
Roedd 1.9% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae’r ffigur hwn wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y chwe mis diwethaf.
Roedd 56.0% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae’r perfformiad wedi amrywio dros amser.
Crynodeb
Perfformiodd Aneurin Bevan yn well na chyfartaledd Cymru o ran canran y cleifion mewn adrannau achosion brys a dderbyniwyd, a drosglwyddwyd neu a ryddhawyd o fewn 4 awr a dros 12 awr.
Mae’r perfformiad yn well ar hyn o bryd na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig a therapïau, ac mae’n debyg i ffigurau Cymru gyfan ar gyfer rhestrau aros am driniaeth canser. Ar gyfer rhestrau aros RTT ac amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, mae’r perfformiad yn well na chyfartaledd Cymru gyfan.
Betsi Cadwaladr
Ffigur 2: Crynodeb o berfformiad Betsi Cadwaladr hyd at fis Ebrill 2026 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2026 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 2: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Betsi Cadwaladr o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: Ym mis Ebrill 2020, ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno unrhyw ddata ar gyfer therapïau. Darllenwch yr wybodaeth am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.
[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Mae data adrannau achosion brys ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer mis Rhagfyr 2025 i fis Mawrth 2026 wedi cael eu diwygio. Roedd y data a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn dangos gostyngiad sylweddol mewn perfformiad 4 awr o’i gymharu â ffigurau blaenorol, ond mae’r ffigurau diwygiedig yn dangos bod y perfformiad yn gymharol sefydlog.
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2026
Cafodd 58.2% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Mae’r perfformiad wedi amrywio dros amser.
Arhosodd 17.1% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Yn gyffredinol, mae hyn wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.
Gofal wedi’i drefnu ym mis Ebrill 2026
Roedd 43.0% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r perfformiad wedi amrywio dros amser.
Roedd 8.9% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae’r perfformiad wedi amrywio dros y blynyddoedd diwethaf.
Roedd 18.6% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Mae’r ffigur hwn wedi gostwng yn y chwe mis diwethaf.
Roedd 1.4% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Mae’r ffigur hwn wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 8.9% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae’r ffigur hwn wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y chwe mis diwethaf.
Roedd 52.5% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae’r duedd hirdymor fymryn ar i lawr yn gyffredinol.
Crynodeb
Mae canran y cleifion adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr a dros 12 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd, mae’r perfformiad yn waeth na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, yn debyg ar gyfer therapïau, ac yn waeth ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser. Mae’r perfformiad hefyd yn waeth na chyfartaledd Cymru ar gyfer rhestrau aros RTT, a’r amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol.
Caerdydd a’r Fro
Ffigur 3: crynodeb o berfformiad Caerdydd a’r Fro hyd at fis Ebrill 2026 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2026 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Caerdydd a’r Fro o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2026
Cafodd 61.6% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Mae’r perfformiad wedi amrywio dros amser.
Arhosodd 7.4% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae’r duedd yn y ffigurau hyn yn newidiol iawn.
Gofal wedi’i drefnu ym mis Ebrill 2026
Roedd 38.2% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r duedd wedi bod yn gostwng yn y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 7.2% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae’r ffigur hwn wedi cynyddu yn y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 16.0% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Mae’r duedd bresennol yn newidiol.
Roedd 0.5% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd yn dilyn tueddiad hirdymor am i lawr.
Roedd 10.2% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae’r ffigur hwn wedi gostwng yn y chwe mis diwethaf.
Roedd 61.7% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae’r perfformiad wedi amrywio dros amser.
Crynodeb
Mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd, ac mae’r ganran sy’n aros mwy na 12 awr yn well na chyfartaledd Cymru.
Yng Nghaerdydd a’r Fro, mae’r perfformiad yn waeth na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig ar hyn o bryd. Mae’r perfformiad ar hyn o bryd yn debyg i ffigurau Cymru gyfan ar gyfer therapïau, yn well ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn debyg ar gyfer llwybrau RTT sy’n aros mwy na dwy flynedd. Ar hyn o bryd, mae’r perfformiad yn waeth na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer llwybrau RTT sy’n aros mwy na blwyddyn, ac yn waeth ar gyfer amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol.
Cwm Taf Morgannwg
Ffigur 4: crynodeb o berfformiad Cwm Taf Morgannwg hyd at fis Ebrill 2026 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2026 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 4: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Cwm Taf Morgannwg o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2026
Cafodd 57.5% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Mae’r ffigur hwn wedi bod yn gymharol sefydlog yn y blynyddoedd diwethaf.
Arhosodd 13.1% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae’r duedd yn y ffigwr hwn yn newidiol.
Gofal wedi’i drefnu ym mis Ebrill 2026
Roedd 2.0% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r ffigur hwn wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y chwe mis diwethaf.
Roedd 2.0% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.
Roedd 12.3% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Mae’r ffigur hwn wedi gostwng yn y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 0.5% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Mae’r ffigur hwn wedi aros yn sefydlog am y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 0.8% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae’r ffigur hwn wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y chwe mis diwethaf.
Roedd 62.0% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae’r perfformiad wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf.
Crynodeb
Mae canran y cleifion adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr a dros 12 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd mae perfformiad Cwm Taf Morgannwg yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, therapïau, amseroedd aros am driniaeth canser, llwybrau RTT sy’n aros blwyddyn, ac amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae’r perfformiad yn debyg ar gyfer llwybrau RTT sy’n aros dwy flynedd.
Hywel Dda
Ffigur 5: crynodeb o berfformiad Hywel Dda hyd at fis Ebrill 2026 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2026 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 5: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Hywel Dda o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2026
Cafodd 66.5% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Mae’r perfformiad wedi amrywio dros amser.
Arhosodd 9.9% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae’r duedd wedi bod yn newidiol yn y blynyddoedd diwethaf.
Gofal wedi’i drefnu ym mis Ebrill 2026
Roedd 23.6% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r duedd wedi bod yn newidiol yn y blynyddoedd diwethaf.
Roedd 20.8% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Ni fu unrhyw duedd amlwg yn y blynyddoedd diwethaf.
Roedd 12.5% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Mae hwn wedi bod yn gymharol sefydlog dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 0.1% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Mae canran y llwybrau wedi bod yn llai nag 1% dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 0.1% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae canran y llwybrau wedi bod yn llai nag 1% dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 58.4% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae’r perfformiad wedi amrywio dros amser.
Crynodeb
Mae canran y cleifion adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr a dros 12 awr yn well na chyfartaledd Cymru.
Ar hyn o bryd, mae’r perfformiad yn debyg i ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig ac amseroedd aros am driniaeth canser. Mae’r perfformiad yn well na chyfartaledd Cymru ar gyfer rhestrau aros RTT, a’r amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol. Ar hyn o bryd, mae’r perfformiad yn waeth na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer therapïau.
Powys
Ffigur 6: crynodeb o berfformiad Powys hyd at fis Ebrill 2026 o ran gofal wedi’i drefnu [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 6: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Powys o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid bod yn ofalus wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Gofal wedi’i drefnu ym mis Ebrill 2026
Roedd 4.9% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r duedd gyffredinol yn newidiol ond mae wedi gostwng yn sylweddol ers dechrau’r pandemig.
Nid oedd unrhyw lwybrau’n aros dros yr amser targed ar gyfer gwasanaethau therapi. Mae’r ffigur hwn wedi bod yn sefydlog am y ddwy flynedd ddiwethaf.
Roedd 1.1% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Mae’r ffigur hwn wedi codi ychydig yn ddiweddar, ond mae wedi bod yn sefydlog ar y cyfan dros y blynyddoedd diwethaf.
Nid oedd unrhyw lwybrau’n aros mwy na 2 flynedd. Mae’r ffigur hwn wedi bod ar yr un lefel â’r un cyn y pandemig ers cryn amser.
Roedd nifer fach (llai nag 20) o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae’r ffigur hwn wedi bod ar yr un lefel â’r un cyn y pandemig ers cryn amser.
Crynodeb
Ar gyfer rhai mesurau, nid oedd modd cymharu Powys â’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â byrddau iechyd eraill. Fodd bynnag, mae’r ffigurau’n cymharu’n fras â byrddau iechyd eraill ar gyfer llwybrau diagnosteg a therapi, ac amseroedd aros RTT. Ar hyn o bryd, mae’r perfformiad yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, therapïau a rhestrau aros RTT.
Bae Abertawe
Ffigur 7: crynodeb o berfformiad Bae Abertawe hyd at fis Ebrill 2026 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2026 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 7: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd Bae Abertawe o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2026
Cafodd 67.7% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Nid oes tuedd hirdymor amlwg o ran perfformiad.
Arhosodd 11.1% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae’r duedd gyffredinol yn newidiol.
Gofal wedi’i drefnu ym mis Ebrill 2026
Roedd 19.2% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r ffigur hwn wedi amrywio yn y flwyddyn ddiwethaf.
Nid oes unrhyw lwybrau’n aros dros yr amser targed ar gyfer gwasanaethau therapi. Mae hyn wedi bod yn wir am y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 11.3% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Mae’r ffigur hwn wedi bod yn sefydlog am y ddwy flynedd ddiwethaf.
Nid oes unrhyw lwybrau’n aros mwy na 2 flynedd. Mae hyn wedi bod yn wir am y flwyddyn ddiwethaf.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gleifion yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae hyn wedi bod yn wir am y rhan fwyaf o’r ddwy flynedd ddiwethaf.
Dechreuodd 48.4% o lwybrau canser eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, heb unrhyw duedd hirdymor amlwg.
Crynodeb
Mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn well na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd, ac mae’r ganran sy’n aros mwy na 12 awr yn debyg i gyfartaledd Cymru.
Ar hyn o bryd, mae perfformiad bwrdd iechyd Bae Abertawe yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, therapïau, rhestrau aros RTT ac amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae’r perfformiad yn waeth na chyfartaledd Cymru o ran amseroedd aros am driniaeth canser.
Quality and methodology information
Gellir dod o hyd i wybodaeth ansawdd a methodoleg bellach sy'n berthnasol i'r datganiad ystadegol hwn yn adroddiad ansawdd crynodeb gweithgarwch a pherfformiad y GIG.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.
Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.
Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.
Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.
Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB) (DHCW), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.
Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi.
Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Ansawdd
Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.
Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.
Gwerth
Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.
Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.
Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.
Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy.
Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Hoffem gael adborth gennych
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
Y diweddariad nesaf
17 Medi 2026
