Neidio i'r prif gynnwys
Rhodri Hewitt, Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Rhodri Hewitt yn gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn rôl sy'n canolbwyntio ar ddatblygu Coedwig Genedlaethol Cymru.

Chwaraeodd Rhodri ran flaenllaw wrth ddatblygu Llwybr Coedwig Cymru - y llwybr peilot ar gyfer rhwydwaith llwybrau pellter hir Coedwig Genedlaethol Cymru - gan oruchwylio gwaith cynllunio llwybrau, asesu tirweddau, cydweithio â rhanddeiliaid, a datblygu llwybrau ar lawr gwlad.

Daeth ei waith ag awdurdodau lleol, tirfeddianwyr, cymunedau a thimau coedwigaeth at ei gilydd i helpu i greu llwybr sy'n cysylltu pobl â choetiroedd Cymru mewn ffordd ystyrlon a chynaliadwy.

Pan fydd pobl yn cerdded Llwybr Coedwig Cymru am y tro cyntaf, rwy'n gobeithio eu bod yn teimlo'n gysylltiedig - nid yn unig â'r dirwedd o'u cwmpas, ond â'r weledigaeth ehangach y tu ôl i'r llwybr.

Y llwybr yw'r rhan beilot o'r hyn a fydd yn dod yn llwybr coetir llawer mwy yn y pen draw fydd yn cysylltu cymunedau, coedwigoedd a mannau gwyrdd ledled Cymru fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru. Ond cyn bod nodwyr llwybrau, mapiau, na digwyddiadau lansio, treuliwyd misoedd yn cerdded traciau, yn astudio tirweddau ac yn siarad â chymunedau.

Fel rhan o fy rôl yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rwyf wedi gweithio ar brosiectau rheoli tir ers blynyddoedd lawer, ond roedd hyn yn teimlo'n wahanol o'r dechrau. Roedd cyfle i helpu i lunio rhywbeth hollol newydd - nid llwybr pellter hir arall yn unig, ond llwybr a allai ddod yn rhan o stori genedlaethol llawer mwy yn y pen draw. Yn debyg i'r ffordd y daeth Llwybr Arfordir Cymru yn llwybr cerdded eiconig a byd-enwog wnaeth roi Cymru ar y map fel cyrchfan awyr agored rhyngwladol.

Mae llwybr peilot Llwybr Coedwig Cymru yn ymestyn o Barc Gwledig Porthceri ar arfordir de Cymru i Bont Walby yng nghanol y Cymoedd. Yn oddeutu 80km o hyd, mae dwy draphont o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg bob pen iddo, ac mae'n cysylltu safleoedd, coridorau gwyrdd, cymunedau a choetir Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru trwy daith sy'n trochi pobl yn raddol ddyfnach yn y dirwedd.

Ond nid yw creu llwybr fel hyn mor syml â thynnu llinell ar fap.

Dechrau gyda'r dirwedd

Image
Looking North over the Bannau Brycheiniog from the highest point on the trail
Edrych i'r gogledd dros Fannau Brycheiniog o'r pwynt uchaf ar y llwybr.

Roedd camau cynharaf datblygiad Llwybr Coedwig Cymru yn golygu archwilio mewn gwirionedd.

Fe wnaethon ni dreulio llawer o amser yn edrych ar hawliau tramwy presennol, traciau coedwigaeth, lonydd tawel, ac ardaloedd sydd eisoes yn cynnig cysylltiadau cryf rhwng safleoedd coetir. Ar yr un pryd, fe wnaethon ni feddwl yn ofalus am sut y byddai pobl yn profi'r llwybr mewn gwirionedd. Roedden ni eisiau i gerddwyr deimlo'n agos at goed a natur trwy gydol y daith, tra hefyd yn sicrhau bod y llwybr yn parhau i fod yn ymarferol, yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

Roedd rhai dyddiau yn golygu oriau wrth ddesg yn edrych ar fapiau a data mynediad. Roedd dyddiau eraill yn golygu mynd allan i'r dirwedd i brofi rhannau o'r llwybr. Dyna oedd fy hoff ran i bob amser.

Gallwch ddysgu llawer o fapiau a delweddau o'r awyr, ond dim ond pan fyddwch chi'n cerdded llwybr eich hun y byddwch chi'n dechrau deall sut mae'n gweithio mewn gwirionedd. Rydych chi'n sylwi lle mae golygfeydd yn agor yn sydyn, lle mae coetir yn creu ymdeimlad o dawelwch, lle mae llwybrau yn debygol o fynd yn broblematig mewn tywydd gwael, neu gall manylion bach newid y profiad yn llwyr.

Cerddais lawer o rannau dro ar ôl tro, yn aml mewn amodau gwahanol iawn. Nid yw Cymru bob amser yn gwneud cynllunio llwybrau'n hawdd! Yn sicr, roedd nifer o ddyddiau o law trwm, esgidiau mwdlyd, ac eiliadau lle roedd y llwybr yn edrych yn wahanol iawn i sut roedd wedi ymddangos ar bapur.

Cydbwyso mynediad a chadwraeth

Un o'r heriau mwyaf wrth ddatblygu'r llwybr oedd cydbwyso mynediad cyhoeddus ag ystyriaethau amgylcheddol.

Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn ymwneud â chreu rhwydwaith cysylltiedig o goetiroedd gwydn sydd o fudd i bobl, natur a chymunedau. Rhaid i unrhyw lwybr trwy'r tirweddau hyn barchu'r cydbwysedd hwnnw.

Roedd yna rannau lle roedd angen i ni feddwl yn ofalus am gynefinoedd sensitif, gwaith coedwigaeth, risgiau erydiad, neu sut y gallai mwy o ymwelwyr effeithio ar yr amgylchedd dros amser. Mewn rhai mannau, roedd yn rhaid i lwybrau newid yn gyfan gwbl oherwydd nad oedd yr hyn oedd yn gweithio o safbwynt mynediad yn gweithio yn amgylcheddol.

Ar yr un pryd, roedden ni eisiau i'r llwybr deimlo fel un lle gallai rywun ymgolli'n llwyr ynddo. Rhai o'r darnau mwyaf cofiadwy yw'r rhannau tawelach o goetir lle rydych chi'n teimlo'n bell oddi wrth ffyrdd a threfi, hyd yn oed os yw hynny ond am gyfnod byr.

Image
Giant Douglas Fir at Smilog, Llantrisant Forest, RCT
Ffynidwydden Douglas Enfawr yn Smilog yng Nghoedwig Llantrisant, Rhondda Cynon Taf.

Mae rhywbeth pwerus am gerdded o dan ganopi coed am gyfnodau hir, gan glywed dim ond y gwynt trwy'r coed a'ch camau ar y llwybr. Roedden ni am i bobl brofi'r ymdeimlad hwnnw o ddianc tra hefyd yn deall bod y tirweddau hyn yn cael eu rheoli a'u diogelu'n ofalus.

Gweithio gyda phobl ar hyd y ffordd

Dim ond trwy gydweithredu mae prosiect fel hyn yn digwydd. Roedd datblygu'r llwybr yn golygu gweithio gydag awdurdodau lleol, tirfeddianwyr, timau coedwigaeth, grwpiau cymunedol, swyddogion mynediad, a nifer o bobl eraill. Roedd nifer enfawr o sgyrsiau trwy gydol y broses - rhai syml, eraill yn fwy cymhleth ac weithiau'n anodd iawn. 

O ganlyniad, cafodd y llwybr ei addasu a'i ddiwygio sawl gwaith o ganlyniad i fewnbwn gan yr holl randdeiliaid perthnasol a oedd yn rhan o'r prosiect.

Mae pwysau, blaenoriaethau ac ystyriaethau ymarferol gwahanol gan bob tirwedd, felly roedd gwrando yn hynod o bwysig.

Roedd mewnbwn cymunedol hefyd mor bwysig wrth lunio'r llwybr terfynol. Mae gwybodaeth leol yn aml yn tynnu sylw at fanylion na fyddent o reidrwydd yn ymddangos ar fapiau swyddogol - materion tymhorol, ardaloedd problemus, llwybrau sy’n cael eu defnyddio’n aml iawn, croesfannau anodd, neu leoedd a oedd yn arbennig o bwysig i bobl leol.

Helpodd y sgyrsiau hynny i greu llwybr sy'n teimlo'n fel pe bai'n perthyn i'r tirweddau a'r cymunedau y mae'n mynd trwyddynt.

Byddaf yn cofio un eiliad yn arbennig, yn ystod digwyddiad cynnar ym Mro Morgannwg, lle gwnaethon ni gyflwyno'r cysyniad i'r awdurdodau lleol am y tro cyntaf. Fe roddais y cyflwyniad gan ddisgwyl rhywfaint o wrthwynebiad o leiaf, ac roeddwn i'n gallu synhwyro bod ychydig o bobl yn yr ystafell yn dal yn ansicr.

Yna siaradodd un o gefnogwr y prosiect, ac fe newidiodd yr awyrgylch yn llwyr. Fe wnaethon nhw helpu pobl i weld y darlun ehangach ac atgyfnerthu pam fod y prosiect yn bwysig. O'r eiliad honno ymlaen, newidiodd yr hwyliau, ac roedd yn teimlo fel bod yr ystafell yn ein cefnogi.

Mae profiadau fel hynny yn fy atgoffa pa mor bwysig y mae cefnogaeth a chred leol yn y prosiect wedi bod o'r cychwyn cyntaf. 

Darganfod rhannau cudd o dde Cymru

Un o'r pethau mwyaf difyr am ddatblygu'r llwybr oedd darganfod lleoedd nad yw llawer o bobl yn arfer dod ar eu traws, ac mae mor hyfryd profi'r llwybr wrth iddo newid yn raddol wrth i chi symud i'r gogledd.

Gan ddechrau ar yr arfordir, mae'r llwybr yn hwyluso cerddwyr i'r daith trwy gefn gwlad haws ei gerdded a safleoedd coetir llai, cyn dod yn raddol yn fwy anghysbell wrth iddo gyrraedd y Cymoedd ac ardaloedd mwy o goetir Llywodraeth Cymru.

Hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o weithio yn yr awyr agored, roedd rhannau sy'n fy synnu - llwybrau coetiroedd cudd, golygfeydd dramatig o ddyffrynnoedd, traciau coedwig tawel, ac eiliadau lle mae'r dirwedd yn newid cymeriad yn sydyn.

Un atgof sydd wedi aros gyda mi yn ystod y camau olaf o ddatblygu'r llwybr, yw sefyll yn uchel ar y mynyddoedd uwchben Nant y Moel gyda golygfeydd 360 gradd cwbl ddi-dor ar draws y dirwedd. O'r fan honno, gallwn weld safleoedd Coedwig Genedlaethol Cymru yn ymestyn i wahanol gyfeiriadau, heb sôn am rannau helaeth o orllewin Cymru i un cyfeiriad, Bannau Brycheiniog mewn cyfeiriad arall, a Lloegr mewn cyfeiriad arall. Ar ôl misoedd o gynllunio, cerdded, ailgyfeirio, a datrys problemau, yn sydyn cliciodd y cyfan yn ei le. I fyny yn y fan honno, stopiodd y llwybr deimlo fel adrannau unigol ar fap a dechreuodd deimlo fel un daith gysylltiedig. Mae'n debyg mai dyna'r foment y daeth Llwybr Coedwig Cymru yn fyw i mi.

Gweld y llwybr yn dod yn fyw

Doedd dim un eiliad lle roedd y llwybr yn sydyn yn teimlo'n "orffenedig". Digwyddodd yn raddol. Fe wnaeth pob cam - cadarnhau rhannau a gweld mapiau yn dod at ei gilydd - helpu i ddod â'r prosiect yn fyw.

Image
First waymarker installed on the route at Miskin, Rhondda Cynon Taf
Gosodwyd y marciwr llwybr cyntaf ar y llwybr ym Miskin, Rhondda Cynon Taf.

Ond roedd gweld rhywun yn cwblhau'r llwybr peilot llawn am y tro cyntaf yn arbennig o werthfawr. Pan fu'r crëwr cynnwys, @walkingwithlauren yn cerdded ar y daith dri diwrnod wrth lansio'r llwybr ym mis Mawrth 2026, roedd yn teimlo fel bod y llwybr wedi symud o syniad ar fapiau a dogfennau cynllunio i brofiad go iawn y gallai pobl gysylltu ag ef. Ac roeddwn i wrth fy modd faint roedd hi'n mwynhau'r profiad, ac roedd y cynnwys a greodd ar ei thaith mor ysbrydoledig.

Dyna yn y pen draw beth yw'r prosiect. Rydyn ni am i bobl archwilio Cymru'n wahanol - arafu, treulio amser mewn coetiroedd, teithio trwy dirweddau ar droed, profi cymeriad newidiol y wlad a throchi eu hunain yn y profiad hwnnw.

A dim ond y dechrau yw Llwybr Coedwig Cymru. Wrth i Goedwig Genedlaethol Cymru barhau i dyfu dros y blynyddoedd i ddod, yr uchelgais yw cryfhau'r cysylltiadau hynny rhwng safleoedd coetir a chymunedau ledled y wlad.

Os yw pobl yn cerdded y llwybr ac yn dod oddi arno yn teimlo'n dawelach, yn fwy cysylltiedig â natur, ac yn fwy ymwybodol o'r tirweddau o'u cwmpas, yna rwy'n credu ein bod wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil.

Eisiau gwybod mwy?

Mae Llwybr Coedwig Cymru yn cynnwys 4 adran wahanol. 

Mae pob un ohonynt yn llwybrau hardd trwy safleoedd y Goedwig Genedlaethol.