Neidio i'r prif gynnwy

Bydd preswylwyr sy'n byw mewn adeiladau amlfeddiannaeth ledled Cymru yn elwa ar amddiffyniadau cyfreithiol cryfach wrth i Lywodraeth Cymru lansio'r ymgynghoriad cyntaf ar weithredu Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Bydd lesddeiliaid yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn rhag costau cyweirio annheg
  • Cynnig system newydd ar gyfer gorchmynion cyweirio yn seiliedig ar dribiwnlys mewn adeiladau preswyl
  • Daw'r ymgynghoriad wedi i Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 gael ei phasio'n unfrydol gan y Senedd

Mae'r ymgynghoriad yn cwmpasu tri maes allweddol: cyfyngu ar yr hyn y gellir ei godi ar lesddeiliaid am waith cyweirio; sefydlu system dribiwnlys ar gyfer gorchmynion cyweirio a gorchmynion cyfraniadau cyweirio; a nodi dull clir ar gyfer cyfrifo uchder adeiladau rheoleiddiedig.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian:

Ni ddylai unrhyw lesddeiliad yng Nghymru dalu am fethiannau diogelwch adeiladau na wnaethant eu hachosi, a dylid cywiro'r methiannau hynny cyn gynted â phosibl. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam hanfodol i sicrhau bod Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 yn darparu amddiffyniad gwirioneddol i'r bobl y cafodd ei chynllunio i'w gwasanaethu.

Wrth i ni nodi naw mlynedd ers trasiedi Tŵr Grenfell, mae dyletswydd arnom i droi'r ddeddfwriaeth hon yn newid parhaol — ac mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o weithio gyda phartneriaid i wneud i hynny ddigwydd cyn gynted â phosibl.

Mae'r ymgynghoriad yn agored i breswylwyr, lesddeiliaid, perchnogion adeiladau, a phob parti arall sydd â diddordeb. Mae'n cau ar 7 Medi 2026. Mae manylion ynghylch sut i ymateb ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r manylion llawn ar gael yma: Gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 | LLYW.CYMRU