Daeth yr ymgynghoriad i ben 7 Medi 2026.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed eich barn ar ein cynigion ar gyfer rheoliadau ynghylch cyweirio rhai diffygion hanesyddol o safbwynt diogelwch adeiladau, a chategoreiddio adeiladau a reoleiddir gan Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar sut y bydd pwerau gwneud rheoliadau a nodir yn y Ddeddf honno yn cael eu defnyddio i:
- greu system er mwyn i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl wneud gorchmynion cyweirio a gorchmynion cyfraniadau cyweirio
- cyfyngu ar atebolrwydd lesddeiliaid am gost cyweirio a darpariaethau cysylltiedig
- darparu dull ar gyfer cyfrifo uchder a nifer lloriau adeilad rheoleiddiedig
