Gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026
Rydym am glywed eich barn ar ein cynigion ar gyfer rheoliadau ynghylch cyweirio rhai diffygion hanesyddol o safbwynt diogelwch adeiladau, a chategoreiddio adeiladau a reoleiddir gan Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn gwahodd barn ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoliadau ynghylch cyweirio diffygion diogelwch adeiladau mewnol hanesyddol penodol a chategoreiddio adeiladau a reoleiddir gan Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026. Yn benodol, mae'n cynnig sut y bydd y pwerau gwneud rheoliadau a nodir yn y Ddeddf honno yn cael eu defnyddio i a) creu system a fydd yn galluogi'r tribiwnlys eiddo preswyl yn gwneud gorchmynion cyweirio a gorchmynion cyfraniadau cyweirio, b) cyfyngu ar atebolrwydd lesddeiliaid am gost cyweirio a darpariaethau cysylltiedig, ac c) darparu dull o gyfrifo uchder adeilad rheoleiddiedig a nifer y lloriau ynddo.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 7 Medi 2026, drwy unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
- cwblhau ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho a chwblhau ein ffurflen ymateb a'i hanfon drwy e-bost i: DiogelwchAdeiladau@llyw.cymru (cofiwch gynnwys y cyfeirnod WG54492 yn llinell destun eich e-bost)
- lawrlwytho a chwblhau ein ffurflen ymateb a'i hanfon drwy'r post i:
Ymgynghoriad: WG54492
Tîm Diwygio Diogelwch Adeiladu
Y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill ar gael ar gais.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth:
Tîm Diwygio Diogelwch Adeiladu
Y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: DiogelwchAdeiladau@llyw.cymru
Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd: Implementing the Building Safety (Wales) Act 2026 [HTML] | GOV.WALES
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl graidd a swyddogaethau Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni fydd eich enw na'ch manylion cyswllt yn cael eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl :
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
- i ofyn i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/
Cefndir
1. Mae Rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 ('y Ddeddf') yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â chyweirio diffygion diogelwch adeiladau penodol. Nod y darpariaethau yw darparu modd i fynnu bod gwaith cyweirio o'r fath yn cael ei wneud a modd i sicrhau bod cost gwneud hynny yn cael ei thalu mor deg â phosibl. Eu nod yw galluogi lesddeiliaid i gael eu hamddiffyn rhag costau penodol mewn perthynas â gwaith cyweirio ac effeithiau diffygion diogelwch adeiladau mewnol.
2. Mae'r darpariaethau yn gwneud hyn drwy ddarparu ar gyfer gwneud rheoliadau:
- yn galluogi'r tribiwnlys eiddo preswyl i wneud gorchmynion mewn perthynas â chyweirio 'diffygion perthnasol' a'r costau sy'n gysylltiedig â nhw.
- yn ei gwneud yn bosibl i gyfyngiadau gael eu gosod ar y costau y gellir eu trosglwyddo i lesddeiliaid, lle bo'r costau hynny'n gysylltiedig â diffygion perthnasol a'r gwaith o'u cyweirio.
- yn ei gwneud yn bosibl i gostau na ellir eu hadennill gan lesddeiliaid o ganlyniad i'r rheoliadau gael eu hadennill gan eraill.
3. At ddibenion cyd-destun, mae 'diffyg perthnasol' yn golygu diffyg sydd:
a) yn codi o ganlyniad i unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed (gan gynnwys unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed wrth ddarparu gwasanaethau proffesiynol), neu unrhyw beth a ddefnyddiwyd neu nas defnyddiwyd, mewn cysylltiad â 'gwaith perthnasol', ac
b) yn creu risg diogelwch adeiladau neu'n cynyddu risg diogelwch adeiladau sy'n bodoli eisoes yn sylweddol.
At y dibenion hyn, mae 'gwaith perthnasol' yn golygu unrhyw un o'r canlynol:
a) gwaith sy'n ymwneud ag adeiladu neu addasu'r adeilad, os cwblhawyd y gwaith adeiladu neu addasu rhwng 28 Mehefin 1992 a 20 Chwefror 2026;
b) gwaith a wnaed neu a gomisiynwyd gan neu ar ran landlord neu gwmni rheoli, os cwblhawyd y gwaith rhwng 28 Mehefin 1992 a 20 Chwefror 2026;
c) gwaith a wnaed ar ôl 20 Chwefror 2026 i unioni diffyg perthnasol.
4. Cafodd darpariaethau Rhan 4 o'r Ddeddf eu cynnwys gyda'r nod o'i gwneud yn bosibl i amddiffyniadau deddfwriaethol i lesddeiliaid a mesurau cyweirio eraill sy'n cyfateb yn fras i'r amddiffyniadau a'r mesurau sydd eisoes yn gymwys yn Lloegr gael eu cymhwyso yng Nghymru. Rydym bellach yn ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer y rheoliadau o dan Ran 4.
5. Mae'r darpariaethau cyweirio a nodir yn Rhan 4 o'r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas ag ‘adeiladau perthnasol’. Adeiladau categori 1 a chategori 2 yw'r rhain, fel y'u diffinnir yn adran 6 o'r Ddeddf (sef adeiladau preswyl sydd o leiaf 11 metr o uchder neu sydd â phum llawr neu fwy) gyda rhai eithriadau (gweler adran 112 o'r Ddeddf). Rydym am roi sicrwydd ynghylch yr hyn sy'n gyfystyr ag adeilad categori 1 a chategori 2, at ddiben y darpariaethau cyweirio ac ar gyfer y system reoleiddio a sefydlir gan y Ddeddf yn fwy cyffredinol. Felly, rydym hefyd yn ymgynghori ar ein bwriadau ar gyfer rheoliadau sy'n nodi sut y dylid pennu uchder adeilad rheoleiddiedig a nifer y lloriau ynddo.
Cynigion
6. Gan ddefnyddio’r pwerau a nodir yn y Ddeddf, rydym yn cynnig y dylai Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y materion a nodir isod. Mae Rhan 1 yn ymdrin â chyweirio diffygion adeiladau ac amddiffyniadau i lesddeiliaid. Mae Rhan 2 yn ymdrin â mesur uchder adeilad rheoleiddiedig a phennu nifer y lloriau ynddo.
7. Er mwyn gwella dealltwriaeth o fanylion posibl y cynigion sy'n ymwneud â chyweirio diffygion adeiladau ac amddiffyniadau lesddeiliaid, cyfeirir at ddarpariaeth debyg sy'n bodoli eisoes yn Lloegr. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried bod hyn yn golygu y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud yr un ddarpariaeth yn union, ond yn hytrach bod darpariaeth sy'n cyfateb yn fras yn cael ei chynnig.
Rhan 1: cyweirio diffygion adeiladau ac amddiffyniadau i lesddeiliaid
Gorchmynion cyweirio
8. Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n galluogi 'tribiwnlys eiddo preswyl' i wneud 'gorchymyn cyweirio' ar gais 'person â buddiant', gan gynnwys darpariaeth bellach mewn perthynas â gorchmynion o'r fath.
Ystyr gorchymyn cyweirio yw gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i 'landlord neu gwmni rheoli perthnasol' wneud un o'r canlynol neu'r ddau ohonynt, erbyn amser penodol:
a) unioni diffygion perthnasol penodedig mewn adeilad perthnasol penodedig
b) cymryd camau perthnasol penodedig mewn perthynas â diffyg perthnasol penodedig mewn adeilad perthnasol penodedig
Yn yr achosion hyn, mae'r Ddeddf yn nodi mai ystyr 'landlord neu gwmni rheoli perthnasol' yw person:
a) sydd yn landlord o dan les yr adeilad neu unrhyw ran ohono, neu'n barti i les o'r fath heblaw fel landlord neu denant, ac
b) y mae'n ofynnol iddo, o dan y les neu yn rhinwedd deddfiad, i atgyweirio neu gynnal a chadw unrhyw beth sy'n ymwneud â'r diffyg.
Mae'r Ddeddf yn nodi bod 'cam perthnasol' yn gam y bwriedir iddo:
a) atal neu leihau'r tebygolrwydd y bydd diffyg perthnasol yn arwain at dân neu'n achosi i'r adeilad (neu unrhyw ran ohono) ddymchwel
b) lleihau difrifoldeb unrhyw ddigwyddiad o'r fath, neu
c) atal neu leihau niwed i bobl yn yr adeilad neu o'i gwmpas a allai ddeillio o ddigwyddiad o'r fath.
Bydd y pŵer i dribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn cyweirio yn fodd i sicrhau bod gwaith cyweirio hanfodol a chamau eraill yn cael eu cyflawni, neu'n cael eu cyflawni'n gyflymach, lle bydd risg fel arall y byddant yn cael eu gohirio'n ddiangen neu na fyddant yn digwydd o gwbl.
9. Mae rhestr o 'bersonau â buddiant' a all wneud cais am orchymyn cyweirio eisoes wedi'i nodi yn y Ddeddf, sef:
a) yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad
b) yr awdurdod diogelwch tân ar gyfer yr adeilad
c) person sydd â buddiant cyfreithiol neu ecwitïol yn yr adeilad neu unrhyw ran ohono
d) unrhyw berson arall a ddynodir neu sydd o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru
Rydym yn cynnig y dylid ychwanegu Gweinidogion Cymru at y rhestr o “bersonau â buddiant” yn y rheoliadau.
Mae Gweinidogion Cymru eisoes yn ymwneud â chyweirio diffygion adeiladau drwy Raglen Diogelwch Adeiladau Cymru. Credwn y gallai fod adegau pan fyddant am wneud cais am orchymyn cyweirio fel rhan o'r rhaglen honno.
10. Pan fydd y person â buddiant yn gwneud cais am orchymyn cyweirio, mae'n bwysig ei fod yn cynnwys manylion hanfodol y bydd eu hangen ar y tribiwnlys eiddo preswyl ym mhob achos i benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn ac i bwy y dylai fod yn gymwys.
Felly, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gais am orchymyn cyweirio nodi'r adeilad perthnasol, y diffygion perthnasol, y landlord neu'r cwmni rheoli perthnasol a'r rhesymau dros y cais. Yn ogystal â hynny, rydym yn cynnig y dylai fod yn rhaid i gopi o'r cais gael ei anfon at y landlord neu'r cwmni rheoli perthnasol.
Byddai hyn yn helpu i sicrhau bod y broses gwneud cais yn glir i geiswyr, bod cynnwys y ceisiadau a dderbynnir yn gymharol gyson, a bod y landlord neu'r cwmni rheoli perthnasol yn ymwybodol o'r cais.
11. Rydym am sicrhau, pan gaiff gorchymyn cyweirio ei wneud, bod ffordd o sicrhau y gellir ei orfodi os na fydd y landlord neu'r cwmni rheoli perthnasol yn cydymffurfio ag ef.
Felly, rydym yn cynnig y dylai cynnwys penderfyniad tribiwnlys a wneir o dan orchymyn cyweirio neu mewn cysylltiad ag ef (ac eithrio un sy'n gorchymyn i swm gael ei dalu ond sy'n cynnwys cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i 'adroddiad arbenigol' gael ei lunio) fod yn orfodadwy gyda chaniatâd y llys sirol yn yr un modd â gorchymyn y llys hwnnw.
12. Er mwyn sicrhau bod tribiwnlys eiddo preswyl yn gallu gwneud penderfyniadau cwbl wybodus ynghylch gorchmynion cyweirio yn seiliedig, lle bo angen, ar farn arbenigol, rydym yn cynnig mai ystyr 'adroddiad arbenigol' at ddibenion adran 11 uchod yw adroddiad neu arolwg arbenigol sy'n ymwneud â'r canlynol:
a) diffygion perthnasol, neu ddiffygion perthnasol posibl, mewn adeilad perthnasol;
b) camau perthnasol a gymerwyd neu a allai gael eu cymryd mewn perthynas â diffyg perthnasol mewn adeilad perthnasol.
Byddai hyn yn rhoi sail glir ar gyfer sicrhau bod y Tribiwnlys yn gallu ei gwneud yn ofynnol i farn arbenigol gael ei chyflwyno iddo a bod y gofyniad yn orfodadwy.
13. Mae'n hanfodol bod pawb y mae'r gorchymyn yn effeithio arnynt yn ymwybodol ohono, yn enwedig y rhai y mae'n ofynnol iddynt gymryd camau mewn perthynas ag ef.
Felly, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gopïau o'r gorchymyn cyweirio gael eu hanfon at y landlord neu'r cwmni rheoli perthnasol a'r person â buddiant a wnaeth gais am y gorchymyn cyweirio.
Gorchmynion Cyfraniadau Cyweirio
14. Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i alluogi tribiwnlys eiddo preswyl i wneud 'gorchymyn cyfraniadau cyweirio' ar gais 'person â buddiant'.
Mae'r Ddeddf yn nodi mai ystyr gorchymyn cyfraniadau cyweirio yw gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff corfforedig perthnasol neu bartneriaeth berthnasol wneud taliadau i berson penodedig at y diben o dalu costau yr aed iddynt neu yr eir iddynt wrth unioni diffygion perthnasol (neu ddiffygion perthnasol penodedig) sy’n ymwneud ag adeilad perthnasol, neu mewn cysylltiad â hynny fel arall.
Yn yr achosion hyn, mae'r Ddeddf yn nodi mai ystyr ‘corff corfforedig perthnasol neu bartneriaeth berthnasol’ yw corff corfforedig neu bartneriaeth sydd:
a) yn landlord o dan les yr adeilad perthnasol neu unrhyw ran ohono,
b) yn berson a oedd yn landlord o’r fath ar ddechrau 20 Chwefror 2026
c) yn ddatblygwr mewn perthynas â’r adeilad perthnasol, neu
d) yn berson sy’n gysylltiedig ag un o'r personau uchod
15. Mae'r rhestr o bersonau â buddiant a all wneud cais am orchymyn cyfraniadau cyweirio a nodir yn y Ddeddf yr un fath â'r rhestr ar gyfer gorchmynion cyweirio, ond gyda Gweinidogion Cymru eisoes wedi'u cynnwys.
Rydym yn cynnig y dylai'r rhestr honno hefyd gynnwys y rheolwr a enwir mewn les, Cwmni Rheoli Preswylwyr a chwmni Hawl i Reoli mewn perthynas â'r adeilad perthnasol, gan y bydd y cyrff hyn hefyd yn awyddus i sicrhau bod costau sy'n deillio o ddiffygion perthnasol yn cael eu dosrannu'n briodol.
16. Pan fydd y person â buddiant yn gwneud cais am orchymyn cyfraniadau cyweirio, mae'n bwysig ei fod yn cynnwys manylion hanfodol y bydd eu hangen ar y tribiwnlys eiddo preswyl ym mhob achos i benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn ac i bwy y dylai fod yn gymwys.
Felly, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gais am orchymyn cyfraniadau cyweirio nodi'r adeilad perthnasol, y diffygion perthnasol, y corff corfforedig perthnasol neu bartneriaeth berthnasol a ddylai wneud taliadau, y person y byddai'r taliadau'n cael eu gwneud iddo, a'r rhesymau dros y cais. Yn ogystal â hynny, rydym yn cynnig y dylai fod yn rhaid i gopi o'r cais gael ei anfon at y corff corfforedig perthnasol neu bartneriaeth berthnasol.
Byddai hyn yn helpu i sicrhau bod y broses gwneud cais yn glir i geiswyr, bod cynnwys y ceisiadau a dderbynnir yn gymharol gyson, a bod y corff corfforedig perthnasol neu bartneriaeth berthnasol yn ymwybodol o'r cais.
17. Gellid gwneud gorchmynion cyfraniadau cyweirio mewn perthynas â phethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol, neu bethau y disgwylir iddynt ddigwydd yn y dyfodol. Gallai natur y pethau hynny amrywio'n sylweddol rhwng achosion. Bydd rhoi’r hyblygrwydd i’r Tribiwnlys wneud gorchymyn sy’n addas i amgylchiadau’r achos yn hanfodol i sicrhau ei fod yn effeithiol.
Felly, rydym yn cynnig y dylai fod gan y Tribiwnlys yr opsiwn i'w gwneud yn ofynnol naill ai i swm penodol gael ei dalu, neu i gostau gwneud rhywbeth penodol gael eu talu, neu'r ddau.
Rydym hefyd yn cynnig y gall gorchymyn naill ai ei gwneud yn ofynnol i'r taliad gael ei wneud ar adeg benodol neu yn dilyn digwyddiad penodol (megis cwblhau cam gweithredu penodedig).
18. Credwn y dylai'r costau y gall y taliadau a fynnir mewn gorchmynion cyfraniadau cyweirio eu talu gynnwys costau sy'n deillio o ddiffyg perthnasol, nid dim ond y costau sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol a chyweirio'r diffyg hwnnw. Er enghraifft, lle bydd diffyg perthnasol wedi arwain at yr angen i roi mesurau arbennig ar waith i gadw pobl yn ddiogel cyn y gellir ei unioni, credwn y dylid gallu cynnwys y costau hynny mewn gorchymyn cyfraniadau cyweirio.
Felly, rydym yn cynnig y dylai'r mathau o gostau y dylid gallu eu cynnwys mewn gorchmynion cyfraniadau cyweirio gynnwys y canlynol:
a) costau yr aed iddynt neu yr eir iddynt wrth gymryd camau perthnasol mewn perthynas â diffyg yn yr adeilad perthnasol;
b) costau yr aed iddynt neu yr eir iddynt wrth gael adroddiad arbenigol (gweler adran 12 uchod) yn ymwneud â'r adeilad perthnasol;
c) costau llety dros dro yr aed iddynt neu yr eir iddynt mewn cysylltiad â symud o'r adeilad perthnasol (neu o ran ohono):
i. er mwyn osgoi bygythiad uniongyrchol i fywyd neu anaf personol o ganlyniad i ddiffyg perthnasol yn yr adeilad,
ii. (yn achos symud o annedd) oherwydd bod gwaith sy'n ymwneud â'r adeilad wedi arwain, neu y disgwylir iddo arwain, at amgylchiadau lle na ellir disgwyl yn rhesymol i'r rhai sy'n preswylio yn yr annedd fyw.
19. Mae'r Ddeddf yn darparu bod adeiladau penodol wedi'u heithrio o gwmpas cyffredinol Rhan 4 (gweler adran 112 o'r Ddeddf). Fodd bynnag, gall rheoliadau bennu bod adeiladau o'r fath yn rhan o'r cwmpas hwnnw unwaith eto at ddibenion gorchmynion cyfraniadau cyweirio.
Felly, rydym yn cynnig y dylai'r adeiladau sydd wedi'u heithrio gan adran 112 o'r Ddeddf fod yn adeiladau perthnasol at ddibenion gorchmynion cyfraniadau cyweirio ond na ddylid dynodi'r canlynol yn gorff corfforedig neu'n bartneriaeth y mae taliadau yn ofynnol ganddo/ganddi:
a) landlord o dan les yr adeilad perthnasol neu unrhyw ran ohono os yw'r landlord hwnnw'n gwmni sy'n eiddo i fwyafrif o lesddeiliaid preswyl yr adeilad, yn rhannol neu'n llawn;
b) person a oedd yn landlord o’r fath ar ddechrau 20 Chwefror 2026; neu
c) cymdeithas cyfunddaliad, o fewn ystyr adran 34 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
20. Gwyddom fod perchnogaeth llawer o adeiladau perthnasol, a'r sail y maent wedi'u datblygu arni, yn aml yn gymhleth iawn, ac rydym am i orchymyn cyfraniadau cyweirio, a'r person y gallent fod yn gymwys iddo, allu adlewyrchu'r cymhlethdod hwn.
Felly, rydym yn cynnig mai ystyr 'personau cysylltiedig' at ddibenion adran 14 uchod (pwynt bwled d.) yw:
a) lle roedd buddiant person mewn adeilad perthnasol wedi'i ddal ar ymddiriedolaeth ar 20 Chwefror 2026, unrhyw bartneriaeth neu gorff corfforedig a oedd yn un o fuddiolwyr yr ymddiriedolaeth ar y pryd
b) partneriaeth sy'n gysylltiedig ag unrhyw berson a oedd yn bartner yn y bartneriaeth, heblaw am bartner cyfyngedig, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o bum mlynedd a ddaeth i ben ar 20 Chwefror 2026 (“y cyfnod perthnasol”).
c) corff corfforedig sy'n gysylltiedig ag unrhyw berson a oedd yn un o gyfarwyddwyr y corff corfforedig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol.
d) corff corfforedig sy'n gysylltiedig â chorff corfforedig arall os:
i. ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol, roedd person yn gyfarwyddwr y ddau ohonynt, neu
ii. ar 20 Chwefror 2025, roedd un ohonynt yn rheoli'r llall (o fewn yr ystyr a nodir yn adran 121 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022) neu roedd trydydd corff corfforedig yn rheoli'r ddau ohonynt.
Costau cyweirio o dan lesoedd cymhwysol ac ati
21. Mae'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â chostau cyweirio a thaliadau gwasanaeth. Rydym yn bwriadu gwneud rheoliadau sydd, mewn rhai achosion, yn cyfyngu ar y taliadau gwasanaeth y gellir eu codi ar lesddeiliaid am gostau sy'n deillio o ddiffygion perthnasol ac, mewn achosion eraill, yn eu gwahardd y taliadau gwasanaeth hynny yn llwyr. Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond mewn perthynas â lesoedd cymhwysol y bydd y gwaharddiadau a'r cyfyngiadau arfaethedig yn gymwys. Mae'r Ddeddf yn diffinio 'les gymhwysol'. I grynhoi, les gymhwysol yw les hir, a roddwyd cyn 20 Chwefror 2026, ar gyfer un annedd mewn adeilad perthnasol, lle mae'r tenant o dan y les yn atebol i dalu tâl gwasanaeth a lle mae un o'r canlynol yn wir;
a) yr annedd yw unig gartref neu brif gartref y tenant,
b) nid oedd y tenant yn berchen ar unrhyw annedd arall yn y Deyrnas Unedig, neu
c) nid oedd y tenant yn berchen ar fwy na dau annedd yn y Deyrnas Unedig ar wahân i'w fuddiant o dan y les
22. Mae ystyr 'diffyg perthnasol' a 'cham perthnasol' wedi'u nodi uchod. Isod rydym yn cyfeirio at 'fesur perthnasol', sef mesur a gymerir i unioni diffyg perthnasol neu gam perthnasol a gymerir mewn perthynas â'r diffyg perthnasol.
23. Nid ydym o'r farn y dylid disgwyl i lesddeiliaid dalu taliadau gwasanaeth mewn perthynas â diffygion perthnasol nad ydynt yn fai arnynt, pan fydd y landlord sy'n codi'r taliadau hynny yn gyfrifol, gan gynnwys drwy gysylltiad, am y diffyg hwnnw.
Felly, rydym yn cynnig na ddylai unrhyw dâl gwasanaeth fod yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw les (cymhwysol neu anghymwysol) mewn perthynas â mesur perthnasol sy'n ymwneud â diffyg perthnasol, os yw'r landlord yn 'gyfrifol' am y diffyg perthnasol, neu os yw'r landlord yn gysylltiedig â pherson sy'n gyfrifol amdano.
Rydym yn cynnig y byddai person yn 'gyfrifol' am ddiffyg perthnasol os:
a) yn achos diffyg cychwynnol, mai'r person oedd y datblygwr, neu oes oedd yn rhan o fenter ar y cyd â'r datblygwr, neu os mai'r person a gwblhaodd neu a gomisiynodd y gwaith sy'n gysylltiedig â'r diffyg;
b) mewn unrhyw achos arall, os mai'r person a gwblhaodd neu a gomisiynodd y gwaith sy'n gysylltiedig â'r diffyg.
Byddai landlord yn gysylltiedig â pherson yn y ffyrdd a awgrymir yn adran 20.
24. Pan fydd gan landlord o dan les gymhwysol werth net uwchlaw gwerth penodol, rydym o'r farn na ddylai taliadau gwasanaeth penodol o dan lesoedd cymhwysol fod yn daladwy.
Rydym yn cynnig na ddylai unrhyw dâl gwasanaeth mewn perthynas â mesur perthnasol sy'n ymwneud â diffyg perthnasol fod yn daladwy o dan les gymhwysol os oedd gan y landlord o dan y les (ynghyd ag unrhyw berson sy'n gysylltiedig ag ef) werth net o fwy na £2,000,000, wedi'i luosi â nifer yr adeiladau perthnasol yr oedd yn landlord arnynt o dan les, ar 20 Chwefror 2026.
Fodd bynnag, rydym yn cynnig na fyddai hyn yn cynnwys landlordiaid sy'n ddarparwyr tai cymdeithasol cofrestredig neu'n awdurdodau lleol.
Rydym yn cynnig y byddai person cysylltiedig yn yr achos hwn yn berson sy'n dod o fewn cwmpas pwyntiau bwled a), b) a d)ii o adran 20 uchod.
Byddai'r dull o gyfrifo 'gwerth net' landlord (gan gynnwys grŵp landlordiaid) wedi'i bennu yn y rheoliadau, ond yn gryno, rydym yn cynnig darpariaeth sy'n cyfateb i reoliad 5 o Reoliadau Diogelwch Adeiladau (Amddiffyniadau i Lesddeiliaid) (Lloegr) 2022).
25. Pan fydd gwerth les gymhwysol yn is na swm penodol, nid ydym o'r farn ei bod yn briodol i dâl gwasanaeth mewn perthynas â mesur perthnasol sy'n ymwneud â diffyg perthnasol fod yn daladwy.
Felly, rydym yn cynnig na fyddai tâl gwasanaeth yn daladwy mewn perthynas â chostau o'r fath os oedd gwerth y les gymhwysol ar 20 Chwefror 2026 yn llai na £175,000.
Byddai'r dull o gyfrifo gwerth les gymhwysol wedi'i bennu yn y rheoliadau, ond yn gryno, rydym yn cynnig y byddai hyn yn seiliedig ar y pris a dalwyd am fuddiant lesddaliadol yr annedd ar y dyddiad gwaredu diweddaraf, gan ystyried chwyddiant ers y dyddiad hwnnw lle digwyddodd y gwaredu cyn 31 Rhagfyr 2024. Rydym yn cynnig y byddai darpariaeth hefyd wedi'i chynnwys ar gyfer cyfrifo'r gwerth lle na ellid nodi'r pris a dalwyd ar ôl cwblhau. (Gweler rheoliad 9 o Reoliadau Diogelwch Adeiladau (Amddiffyniadau i Lesddeiliaid) (Lloegr) 2022 am ragor o fanylion o ran sut y gallai hyn weithio).
26. O ystyried y risg benodol iawn y mae cladin anniogel yn ei hachosi i ddiogelwch adeiladau, credwn y dylai amddiffyniadau rhag taliadau gwasanaeth fod yn gymwys i dynnu neu ailosod cladin o'r fath.
Felly, rydym yn cynnig na fyddai unrhyw dâl gwasanaeth yn daladwy o dan les gymhwysol mewn perthynas â chyweirio cladin, y dylid ei ddiffinio fel “tynnu neu ailosod unrhyw ran o system gladin sy’n ffurfio wal allanol system wal allanol ac sy’n anniogel”.
27. Rydym yn cydnabod y gall costau cyfreithiol a chostau gwasanaethau proffesiynol fod yn sylweddol hefyd mewn perthynas â diffygion perthnasol ac nid ydym o'r farn y dylai lesddeiliaid fod yn gyfrifol am dalu'r costau hynny.
Felly, rydym yn cynnig na ddylai unrhyw dâl gwasanaeth fod yn daladwy o dan les gymhwysol mewn perthynas â gwasanaethau cyfreithiol neu wasanaethau proffesiynol eraill sy'n ymwneud ag atebolrwydd (neu atebolrwydd posibl) unrhyw berson sy'n deillio o ddiffyg perthnasol. Rydym yn cynnig y dylai “gwasanaethau” gynnwys gwasanaethau a ddarperir mewn cysylltiad â chael cyngor cyfreithiol, unrhyw achos gerbron llys neu dribiwnlys, cyflafareddu neu gyfryngu.
Fodd bynnag, rydym yn bwriadu darparu eithriad mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir i Gwmnïau Rheoli Preswylwyr neu Gwmnïau Hawl i Reoli mewn cysylltiad â chais, neu gais posibl, am orchymyn cyfraniadau cyweirio, gan y byddai'r cwmnïau hyn yn mynd i gostau wrth weithredu er budd lesddeiliaid ac ni fyddai'n briodol amddifadu cwmnïau o'r fath o'r gallu i adennill y costau hyn gan y rhai y maent yn gweithredu er eu budd.
28. Lle bydd tâl gwasanaeth mewn perthynas â mesur perthnasol sy'n ymwneud ag unrhyw ddiffyg perthnasol yn daladwy o hyd o dan les gymhwysol, gan ystyried y cyfyngiadau a gynigir uchod, credwn ei bod yn briodol gosod uchafswm taladwy a ganiateir fel bod costau'n cael eu dosbarthu'n decach ac yn fwy cymesur rhwng lesddeiliaid a landlordiaid.
Yn yr achosion hyn, rydym yn cynnig mai dim ond os (ac i'r graddau) na fydd swm y tâl gwasanaeth, a chyfanswm y taliadau gwasanaeth sy'n ymwneud â diffygion perthnasol a ddaeth yn ddyledus yn ystod y pum mlynedd cyn i'r rheoliadau ddod i rym neu unrhyw bryd ar ôl y dyddiad hwnnw, yn fwy na'r uchafswm canlynol, y dylai'r tâl gwasanaeth fod yn daladwy:
a) £50,000, lle roedd gwerth y les gymhwysol ar 20 Chwefror 2026 yn fwy na £1,000,000 ond heb fod yn fwy na £2,000,000
b) £100,000, lle roedd gwerth y les gymhwysol ar y dyddiad cymhwyso yn fwy na £2,000,000
c) £10,000 ym mhob achos arall
29. Lle bydd y les gymhwysol yn les ranberchenogaeth ac roedd cyfanswm cyfran y tenant yn llai na 100% ar 20 Chwefror 2026, rydym yn cynnig —
a) y dylid pennu gwerth y les gymhwysol ar yr adeg honno fel pe bai cyfanswm cyfran y tenant ar yr adeg honno yn 100%;
b) mai'r uchafswm a ganiateir fyddai cyfanswm cyfran y tenant (ar yr adeg honno) o'r hyn a fyddai fel arall yn uchafswm a ganiateir.
Yn ogystal â hynny, er mwyn sicrhau na fydd swm y tâl gwasanaeth sy'n daladwy mewn perthynas â diffygion perthnasol ar unrhyw adeg yn afresymol, rydym yn cynnig na ddylai'r swm sy'n ddyledus mewn cyfnod o 12 mis fod yn fwy nag un rhan o ddeg o'r uchafswm a ganiateir a nodir uchod.
30. Lle bydd y rheoliadau yn golygu nad yw taliadau gwasanaeth yn daladwy mwyach o dan les mewn perthynas â rhywbeth (gweler adrannau 21 i 25), rydym yn cynnig:
a) na ddylai unrhyw gostau yr aed iddynt neu yr eir iddynt mewn perthynas â'r peth hwnnw
i. gael eu hystyried, at ddibenion adrannau 18 i 30 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 (taliadau gwasanaeth) ac adran 42 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (cyfraniadau taliadau gwasanaeth i'w dal ar ymddiriedolaeth), yn gostau perthnasol i'w hystyried wrth bennu faint o dâl gwasanaeth sy'n daladwy o dan y les, neu
ii. y dylid talu'r costau hynny o gronfa wrth gefn berthnasol;
b) y dylid cyfyngu ar unrhyw swm sy'n daladwy o dan y les, neu a delir o gronfa wrth gefn berthnasol, yn unol â hynny (a dylid gwneud unrhyw addasiad angenrheidiol drwy gyfrwng ad-daliad, drwy leihau taliadau dilynol neu fel arall).
31. Lle bydd cyfyngiadau ar y taliadau gwasanaeth sy'n daladwy mewn perthynas â lesoedd o ganlyniad i'r rheoliadau arfaethedig, nid ydym o'r farn ei bod yn deg gosod costau ychwanegol ar lesddeiliaid nad ydynt yn ddarostyngedig i'r un amddiffyniadau hynny, i wrthbwyso'r effaith ariannol ar landlord.
Yn yr achosion hyn, rydym yn cynnig mai'r tâl gwasanaeth a ddylai fod yn daladwy mewn perthynas â'r les 'heb ei diogelu' yw'r swm a fyddai wedi bod yn daladwy pe na bai unrhyw un o'r amddiffyniadau wedi'u cymhwyso at y lesoedd eraill.
Tystysgrif Landlord
32. Er mwyn deall a oes ganddynt les sy'n gymwys at ddibenion yr amddiffyniadau a nodir yn y rheoliadau a materion eraill sy'n ymwneud â'r amddiffyniadau hynny, bydd angen i lesddeiliaid gael gwybodaeth gan y landlord presennol yn cadarnhau materion megis yr amod cyfraniadau a nodir yn adran 24 uchod, cyfrifoldeb am ddiffyg perthnasol, ac ati.
Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd gyson, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i'r landlord ddarparu tystysgrif landlord i'r lesddeiliad ac y dylid gwneud darpariaeth ynghylch y materion canlynol:
a) Yr amgylchiadau pan fo'n rhaid i landlord roi tystysgrif i'r lesddeiliad. Disgwylir i'r rhain gynnwys:
i. pan fydd y landlord presennol yn gofyn i lesddeiliad dalu tâl gwasanaeth cyweirio;
ii. o fewn pedair wythnos i gael hysbysiad gan y lesddeiliad yn nodi'r bwriad i werthu'r buddiant lesddaliadol;
iii. o fewn pedair wythnos i gael gwybod (naill ai yn bersonol neu drwy hysbysiad gan berson arall) am ddiffyg perthnasol nad yw wedi'i gynnwys mewn tystysgrif landlord blaenorol;
iv. o fewn pedair wythnos i gael cais i wneud hynny gan y lesddeiliad.
v. o fewn pedair wythnos i ddod yn ymwybodol o dystysgrif lesddeiliad newydd (gweler adran 33 isod) sy'n cynnwys gwybodaeth nad oedd wedi'i chynnwys mewn tystysgrif landlord blaenorol.
b) Ar ba ffurf y mae'n rhaid rhoi tystysgrif
c) Yr wybodaeth y dylid ei chynnwys yn y dystysgrif
d) Y dystiolaeth y dylid ei darparu gyda'r dystysgrif
e) Lle na fydd y landlord presennol yn gallu darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gwblhau'r dystysgrif, gofyniad i wneud cais i landlordiaid eraill ddarparu'r wybodaeth
f) Gofyniad i landlordiaid eraill ymateb i gais am wybodaeth gan landlord presennol
g) Canlyniadau methu â darparu tystysgrif landlord i lesddeiliad lle y bo'n ofynnol gwneud hynny. Mewn achosion o'r fath, rydym yn cynnig y dylid trin y landlord fel pe bai'n gyfrifol am ddiffyg perthnasol (a bod y darpariaethau a gynigir yn adran 23 yn gymwys).
h) Personau eraill y mae'n rhaid rhoi copi o'r dystysgrif iddynt ac erbyn pryd, a chanlyniadau peidio â gwneud hynny.
i) Ceisiadau i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl am orchymyn yn pennu a oedd landlord wedi methu â chydymffurfio â'r rheoliadau ac, os felly, gofyniad bod y landlord perthnasol yn darparu gwybodaeth neu ddogfen benodol i berson penodedig erbyn amser penodedig.
Ceir rhagor o fanylion am yr hyn y gallai'r materion uchod ei gynnwys yn rheoliad 6 o Reoliadau Diogelwch Adeiladau (Amddiffyniadau i Lesddeiliaid) (Lloegr) 2022 ac Atodlen 1 i'r rheoliadau hynny.
Tystysgrif lesddeiliad
33. Er mwyn deall a yw les yn les gymhwysol ac a oes cyfyngiadau/cymwysterau yn gymwys mewn perthynas â chodi taliadau gwasanaeth, bydd angen i landlord gael gwybodaeth benodol gan y lesddeiliad am y les a'r lesddeiliad (gan gynnwys statws y lesddeiliad ar 20 Chwefror 2026).
Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd gyson, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau wneud darpariaeth yn ei gwneud y ofynnol i'r lesddeiliad ddarparu tystysgrif lesddeiliad i'r landlord. Yn benodol, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion canlynol:
a) Beth yw ystyr tystysgrif lesddaliadol
b) Gofyniad i landlordiaid anfon hysbysiadau at lesddeiliaid mewn perthynas â'r tystysgrifau
c) Cynnwys hysbysiadau o'r fath
d) Yr amgylchiadau a'r terfynau amser ar gyfer cyflwyno hysbysiadau
e) Gofyniad i landlordiaid, ar ôl cael tystysgrif lesddeiliad, ddarparu copïau i eraill h.y. unrhyw Gwmni Rheoli Preswylwyr, cwmni Hawl i Reoli neu reolwr a enwir – ac iddynt wynebu canlyniadau am beidio â gwneud hynny arwain, h.y. na ellir adennill costau penodol.
f) Erbyn pryd y mae'n rhaid i lesddeiliad ymateb
g) Y dystiolaeth y mae'n rhaid i'r lesddeiliad ei darparu
h) Yr wybodaeth y mae'n rhaid i'r dystysgrif ei chynnwys ac ar ba ffurf y dylai fod
i) Canlyniadau methu ag ymateb i hysbysiad – yn benodol y byddai les yn cael ei thrin fel pe na bai'n les gymhwysol, ac y gellid gwneud rhagdybiaethau ynghylch gwerth les neu gytundebau rhanberchnogaeth.
Ceir rhagor o fanylion am yr hyn y gallai'r materion uchod ei gynnwys yn rheoliad 6 a rheoliad 7 o Reoliadau Diogelwch Adeiladau (Amddiffyniadau i Lesddeiliaid) (Lloegr) (Gwybodaeth etc.) (Lloegr) 2022 a'r Atodlen i'r rheoliadau hynny.
Les amnewid cysylltiedig
34. Pan fydd les a wneir ar ôl 20 Chwefror 2026 yn disodli les a oedd yn les gymhwysol ar 20 Chwefror, credwn y dylai lesoedd elwa ar yr un amddiffyniadau â'r les gymhwysol.
Felly, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer pennu pan fydd les newydd yn les amnewid cysylltiedig a chaniatáu i lesoedd o'r fath gael eu trin fel lesoedd cymhwysol at ddibenion y rheoliadau.
Byddai'r ddarpariaeth yn cyfateb i'r hyn a nodir yn adran 119A o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022.
Adennill symiau gan landlordiaid eraill
35. Lle na fydd landlord yn gallu adennill costau yr aed iddynt mewn perthynas â chyweirio diffygion perthnasol, neu fesurau perthnasol a gymerwyd mewn perthynas â'r diffygion hynny, oherwydd yr amddiffyniadau a nodir yn y rheoliadau, credwn ei bod yn deg iddynt allu adennill y costau hynny gan landlordiaid eraill o dan rai amgylchiadau. Er enghraifft, gallai hyn fod yn briodol os oes landlordiaid eraill a oedd, ar 20 Chwefror 2026, yn gyfrifol am y diffyg perthnasol, neu a oedd yn bodloni'r amod cyfraniadau (adran 24) ar y dyddiad hwnnw.
Felly, rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau wneud darpariaeth sy'n galluogi swm na ellir ei adennill gan lesddeiliad o dan y rheoliadau i gael ei adennill gan landlord presennol neu flaenorol neu uwch-landlord o dan y les, neu olynydd yn nheitl person o'r fath. Byddai hyn yn cynnwys hawl i landlordiaid eraill apelio i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn erbyn adennill y costau hyn ganddynt.
Rydym yn cynnig y byddai'r ddarpariaeth yn cyfateb i reoliadau 3 i 5 o'r Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Amddiffyniadau i Lesddeiliaid) (Gwybodaeth etc) (Lloegr) 2022.
Ystyr adeilad perthnasol: darpariaethau ar gyfer cyweirio diffygion adeiladau ac amddiffyniadau i lesddeiliaid
36. Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth sy'n eithrio rhai adeiladau o'r diffiniad o 'adeilad perthnasol'. Yn ogystal, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i ddarparu nad yw adeilad yn 'adeilad perthnasol' os yw'r ystâd rydd-ddaliadol yn eiddo i lesddeiliad, o fewn yr ystyr a roddir yn y rheoliadau. Yn gyffredinol, nid ydym o'r farn y dylai'r darpariaethau a gynigir ar gyfer cyweirio diffygion adeiladau ac amddiffyniadau i lesddeiliaid fod yn gymwys i adeiladau sy'n eiddo i lesddeiliaid.
Felly, rydym yn cynnig na ddylai adeilad categori 1 nac adeilad categori 2 fod yn adeilad perthnasol os yw'r ystâd rydd-ddaliadol yn yr adeilad yn eiddo i lesddeiliad. At y dibenion hyn, rydym yn cynnig y dylid diffinio ystad rydd-ddaliadol sy'n eiddo i lesddeiliad fel a ganlyn:
a) mae'r ystad rydd-ddaliadol yn eiddo i denantiaid yn yr adeilad yn unig, boed hynny drwy strwythur corfforaethol neu fel arall; ac
b) nid yw adran 112(1)(b)(i)-(iii) o'r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â'r adeilad.
Fodd bynnag, noder y cynigion penodol ar gyfer yr hyn sy'n adeilad perthnasol a'r hyn nad yw'n adeilad perthnasol at ddibenion gorchmynion cyfraniadau cyweirio a nodir yn adran 19.
Rhan 2: mesur uchder adeilad a phennu nifer y lloriau ynddo
37. Yng Nghymru, nodir sut y dylid mesur uchder adeilad a nifer y lloriau ynddo, at ddibenion rheolaeth adeiladu, yn:
a) Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 [1]
b) Rheoliadau Adeiladu 2010 - Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân) [2]
38. Mae'r Ddeddf yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch sut y dylid pennu uchder adeiladau rheoleiddiedig neu nifer y lloriau ynddynt (gweler adran 6). Mae'r Ddeddf eisoes yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phryd y dylid ystyried bod llawr mesanîn yn llawr.
39. Rydym am sefydlu fframwaith clir ar gyfer pennu uchder adeiladau a nifer y lloriau ynddynt. Bydd y rheoliadau hyn yn arbennig o bwysig o ystyried bod categorïau gwahanol o adeiladau yn ddarostyngedig i ddyletswyddau gwahanol o dan y Ddeddf. Dim ond adeiladau categori 1 a chategori 2 sy'n ddarostyngedig i Ran 4 o'r Ddeddf.
40. Bwriedir i'r polisi gyd-fynd yn fras â Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 a Rheoliadau Adeiladu 2010 - Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân). Bydd hyn yn sicrhau cysondeb ar draws y cam dylunio ac adeiladu a'r cam meddiannu, yn osgoi dyblygu methodolegau, ac yn darparu fframwaith cyfarwydd ar gyfer y diwydiant.
Mesur uchder yr adeilad
41. Rydym yn cynnig y dylai'r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i uchder adeilad gael ei fesur o 'lefel y ddaear' ar ochr isaf yr adeilad hyd at ran uchaf arwyneb llawr y llawr uchaf yn yr adeilad. Rydym yn cynnig y dylai'r diffiniad o 'lefel y ddaear' gyd-fynd â'r diffiniad a ddarperir yn adran 6(5)(c) o'r Ddeddf.
42. Rydym hefyd yn cynnig y dylid anwybyddu unrhyw lawr sy'n ardal ar gyfer peiriannau ar y to neu gyfarpar ar y to neu sy'n cynnwys ystafelloedd peiriannau ar y to neu gyfarpar ar y to yn unig.
43. Y rhesymeg dros fesur yr uchder hyd at ran uchaf arwyneb llawr y llawr uchaf yw ei fod yn darparu pwynt cyfeirio clir a gwrthrychol sy'n adlewyrchu uchder meddianedig yr adeilad, yn hytrach nag elfennau fel gwagleoedd nenfwd, strwythurau to neu ystafelloedd cyfarpar. Byddai hyn yn osgoi amrywioldeb o ganlyniad i wahaniaethau dylunio ac yn sicrhau na fyddai nodweddion nad ydynt yn gysylltiedig â risg diogelwch adeiladau yn dylanwadu ar brosesau dosbarthu. Byddai hefyd yn cyd-fynd â'r fethodoleg arfaethedig ar gyfer cyfrif lloriau (gweler isod) ac yn cefnogi dull cyson o fesur uchder a lloriau ar draws y cam dylunio ac adeiladu a'r cam meddiannu, ac ar gyfer y darpariaethau cyweirio (adran 5 uchod).
Pennu nifer y lloriau mewn adeilad
44. Rydym yn cynnig y dylid pennu nifer y lloriau mewn adeilad yn y man sy'n rhoi'r nifer mwyaf o loriau. Fodd bynnag, rydym yn cynnig na ddylid cynnwys y canlynol wrth wneud hynny:
a) unrhyw lawr sydd islaw lefel y ddaear;
b) unrhyw lawr sy'n ardal ar gyfer peiriannau ar y to neu gyfarpar ar y to neu sy'n cynnwys ardaloedd o'r fath yn unig
45. Rydym yn cynnig y dylai'r diffiniad o 'lefel y ddaear' yn adran 6 o'r Ddeddf fod yn gymwys at y dibenion hyn, fel bod llawr yn cael ei drin fel pe bai islaw lefel y ddaear os yw holl arwyneb gorffenedig nenfwd y llawr islaw 'lefel y ddaear', gyda 'lefel y ddaear' yn golygu:
a) Os yw lefel arwyneb y ddaear y mae'r adeilad wedi'i leoli arno yn unffurf, lefel arwyneb y ddaear sydd yn union gerllaw'r adeilad, neu,
b) Os nad yw lefel arwyneb y ddaear y mae'r adeilad wedi'i leoli arno yn unffurf, lefel rhan isaf arwyneb y ddaear sydd yn union gerllaw'r adeilad.
46. Er cyflawnder, yn unol ag adran 6 o'r Ddeddf, dim ond os yw ei arwynebedd llawr mewnol yn o leiaf 50% o arwynebedd llawr mewnol y llawr mwyaf yn yr adeilad nad yw islaw lefel y ddaear y caiff llawr mesanîn ei ystyried yn llawr.
Adeiladau defnydd cymysg
47. Rydym yn cynnig na fyddai presenoldeb safleoedd masnachol (adeiladau defnydd cymysg) yn effeithio ar y dulliau o fesur uchder na phennu lloriau. Byddai'r un fethodoleg yn gymwys waeth beth fo'r cyfluniad defnydd cymysg.
48. Er enghraifft, pe bai'r ddau lawr isaf yn safle masnachol heb fynedfa a rennir ac nad oeddent yn rhan o'r 'adeilad rheoleiddiedig', byddai uchder yr 'adeilad rheoleiddiedig' yn cael ei fesur o lefel y ddaear o fewn yr ystyr a roddir yn adran 6 o'r Ddeddf o hyd. Pe bai safle masnachol (un llawr) heb fynedfa a rennir wedi'i leoli uwchben 'adeilad rheoleiddiedig', byddai uchder yr adeilad yn cael ei fesur o 'lefel y ddaear' ar ochr isaf yr adeilad hyd at ran uchaf arwyneb llawr y llawr masnachol uchaf yn yr adeilad.
[1] Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023
