Neidio i'r prif gynnwy

Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheoliadau drafft tomenni mwyngloddiau chwareli nas defnyddir chanllawiau cysylltiedig. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am wyth wythnos tan 14 Medi 2026. Rwyf wedi cymeradwyo cyfnod ymgynghori o wyth wythnos oherwydd bod y Rheoliadau Drafft a'r canllawiau yn dechnegol.  Mae'r Rheoliadau Drafft yn canolbwyntio ar y gweithdrefnau y mae'n rhaid i'r Person Penodedig eu dilyn wrth benderfynu ar geisiadau o dan adrannau 38 a 43 o dan Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025. 

Ym mis Medi 2025, cafodd Deddaf 2025 Consent Brenhinol, gan sefydlu cyfundrefn statudol fodern i sicrhau bod y tomenni nas defnyddir, rhai glo a rhai nad ydynt yn lo, yng Nghymru yn cael eu rheoli'n ddiogel ac nad ydynt yn fygythiad i gymunedau, eiddo neu seilwaith, oherwydd eu hansefydlogrwydd. Mae'r Ddeddf yn creu Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru (yr Awdurdod), a fydd yn goruchwylio'r gwaith o asesu, cofrestru, monitro a chynnal a chadw tomenni nas defnyddir, ac yn ei gwneud yn ofynnol i dirfeddianwyr ymgymryd â gweithrediadau diogelwch hanfodol lle bo’n briodol.

O dan adran 35 o'r Ddeddf, gall yr Awdurdod gyhoeddi hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i dirfeddiannwr gynnal gweithrediadau (y cyfeirir ato fel hysbysiad adran 35).  Gall hysbysiad adran 35 gael ei ddyroddi pan fydd yr Awdurdod o’r farn bod gweithrediadau'n angenrheidiol i atal bygythiadau i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir, neu fynd i’r afael â bygythiadau o'r fath, i sefydlogi tomen nas defnyddir neu i atal tomen nas defnyddir rhag mynd yn fwy ansefydlog, er mwyn atal neu leihau bygythiadau i les pobl. 

Mae'r Ddeddf yn rhoi'r hawl i dirfeddianwyr a phartïon â buddiant i wneud cais i Weinidogion Cymru amrywio neu ganslo hysbysiad adran 35 (o dan adran 38).  Pan fo'r Awdurdod wedi canslo hysbysiad adran 35 a bod y tirfeddiannwr wedi ysgwyddo gwariant wrth gydymffurfio â'r hysbysiad hwnnw, caiff y perchennog wneud cais am ad-daliad y gwariant hwnnw (o dan adran 43).  Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth benderfynu ar geisiadau o'r fath mewn rheoliadau. Gwneir ceisiadau i Weinidogion Cymru, ac mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i geisiadau o dan adran 38 a 43 gael eu penderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru. 

Mae'r rheoliadau drafft a'r canllawiau yn nodi'r weithdrefn ar gyfer penderfynu ceisiadau, gan gynnwys yr hyn sydd rhaid ei gynnwys mewn cais, gweithdrefnau penderfynu, megis sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiadau ac ymchwiliadau neu gyfuniad o'r rhain, a rôl y person a benodir i benderfynu ar geisiadau.  Pwrpas y Rheoliadau Drafft yw sicrhau bod gan bersonau yr effeithir arnynt gan benderfyniadau a wneir gan yr Awdurdod o dan adrannau 35 a 42 o'r Ddeddf lwybrau clir i geisio ystyried eu hapêl yn deg. 

Gyda'i gilydd, mae'r ddeddf a'r rheoliadau drafft yn cefnogi nodau ehangach i wella diogelwch y cyhoedd, cryfhau gwydnwch hinsawdd a hyrwyddo lles cymunedol hirdymor.

Rwy'n annog yr holl randdeiliaid, tirfeddianwyr, awdurdodau lleol, diwydiant, cymunedau a gweithwyr proffesiynol perthnasol i fynegi eich barn ar yr ymgynghoriad hwn. Mae eich adborth yn hanfodol i sicrhau bod fersiwn derfynol y Rheoliadau a'r canllawiau yn gymesur, ymarferol ac yn effeithiol i'r rhai a fydd yn eu defnyddio.