Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr adolygiad hwn yn darparu asesiad annibynnol, ymarferol o'r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Bydd yr adolygiad hwn yn darparu asesiad annibynnol, ymarferol o'r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol yng Nghymru. Y nod yw lleihau biwrocratiaeth a chymhlethdod diangen, wrth gadw ein safonau uchel ar yr un pryd.

Cefndir yr adolygiad

Rydyn ni wedi lansio adolygiad annibynnol i edrych ar effaith gronnol gofynion rheoleiddio, sicrwydd a chymorth ar fusnesau fferm yng Nghymru.

Bydd yr adolygiad yn:

  • deall sut mae gofynion yn effeithio ar ffermwyr yn ymarferol
  • nodi dyblygu neu brosesau diangen
  • argymell ffyrdd ymarferol o symleiddio a gwella sut mae'r system yn gweithio

Mae'r adolygiad yn cael ei arwain gan John Davies, a fydd yn Gadeirydd annibynnol, a disgwylir iddo adrodd o fewn naw mis.

Cylch gorchwyl

Rhannwch eich sylwadau

Hoffen ni glywed gan ffermwyr, asiantau, y diwydiant ac eraill sydd â phrofiad o sut mae gofynion yn gweithio yn ymarferol.

Gallwch rannu eich barn neu'ch tystiolaeth ar gyfer yr adolygiad drwy e-bostio:

AdolygurBaich@llyw.cymru 
 

Beth fydd yn digwydd nesaf

Bydd yr adolygiad yn cysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru ac yn casglu tystiolaeth dros y misoedd nesaf.

Bydd diweddariadau, adroddiadau ac ymateb Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon.