Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Medi 2026.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar newidiadau i ofal cymdeithasol plant yng Nghymru. Mae’r cynigion yn cefnogi’r broses bontio i fodel nid-er-elw a’u nod yw gwella canlyniadau i blant, teuluoedd a gofalwyr maeth.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Hoffem gael eich barn ar 2 newid sydd wedi’u cynnig i ofal cymdeithasol plant yng Nghymru. Mae’r cynigion hyn yn cefnogi’r symud i fodel nid-er-elw.
Byddai’r cynigion yn gwneud y canlynol:
- atal gwasanaethau plant er elw presennol rhag ehangu wedi 1 Ebrill 2027
- caniatáu i ofalwyr maeth gadw’u cymeradwyaeth pan fydd gwasanaeth maethu yn newid o ddarparwr er elw i ddarparwr nid-er-elw
Dogfennau ymgynghori
Asesiad effaith integredig: Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2026 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 394 KB
Asesiad effaith integredig: Rheoliadau Gwasanaethau Plant Cyfyngedig (Cymru) 2026 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 437 KB
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
