Ymgynghori ar symud gofal cymdeithasol plant i fodel nid-er-elw
Hoffem gael eich barn ar newidiadau i ofal cymdeithasol plant yng Nghymru. Mae’r cynigion yn cefnogi’r broses bontio i fodel nid-er-elw a’u nod yw gwella canlyniadau i blant, teuluoedd a gofalwyr maeth.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ddau gynnig cysylltiedig, sy'n deillio o roi Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 ar waith, sy'n helpu Llywodraeth Cymru i ddiwygio gofal cymdeithasol plant a'r newid i fodel darparu nid-er-elw.
Y cynigion yw:
- y dylid cyfyngu ar unrhyw ymgais i ehangu ymhellach y gwasanaethau er-elw sy'n bodoli eisoes ar gyfer plant drwy eu hatal rhag ychwanegu gwelyau newydd mewn cartrefi plant er-elw ac atal darparwyr gwasanaethau maethu er-elw rhag cymeradwyo gofalwyr maeth newydd
- y dylid galluogi parhad cymeradwyaethau gofalwyr maeth drwy ganiatáu tybio, o dan amgylchiadau cyfyngedig ac wedi'u diffinio'n glir, fod cymeradwyaethau gofalwyr maeth yn trosglwyddo pan fo gwasanaeth maethu er-elw yn ailsefydlu fel gwasanaeth maethu nid-er-elw
Gyda'i gilydd, bwriedir i'r cynigion hyn gefnogi'r diwygiadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 a hefyd sicrhau sefydlogrwydd a pharhad i blant, gofalwyr maeth a theuluoedd.
Cyflwyniad
Ar 24 Mawrth 2025, daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (‘Deddf 2025’) yn gyfraith gwlad yng Nghymru. Mae Deddf 2025 yn cynnwys, yn Rhan 1, Pennod 1, ddarpariaethau sydd â’r bwriad o gyfyngu ar allu darparwyr gwasanaethau cartrefi plant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu i dynnu elw. Gelwir y rhain ar y cyd yn ‘wasanaethau plant o dan gyfyngiad’.
Bwriad y polisi yw sicrhau nad yw arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn llety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn cael ei dynnu fel elw, ond yn hytrach bod unrhyw wargedion yn cael eu hailfuddsoddi’n ôl yn y system er mwyn cefnogi gwell canlyniadau, gwasanaethau a datblygiad proffesiynol.
Mae Deddf 2025 yn nodi cyfres o drefniadau, y daeth rhai ohonynt i rym o 1 Ebrill 2026, a fydd yn y pen draw yn cyfyngu ar ddarparu’r gwasanaethau hynny (ac eithrio lle cânt eu darparu gan awdurdodau lleol) i endidau ‘nid-er-elw’ sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (‘AGC’).
Er mwyn i ddarparwr gael ei gydnabod yn endid ‘nid-er-elw’, rhaid:
- bod ganddo amcanion neu ddibenion sy’n ymwneud yn bennaf â lles plant (neu unrhyw les cyhoeddus arall y caiff Gweinidogion Cymru ei ragnodi)
- ei fod yn gweithredu o dan un o bedwar math o ymgymeriad
- cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau
- sefydliad elusennol corfforedig
- cymdeithas gofrestredig elusennol
- cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau
Er mwyn sicrhau nad yw’r polisi hwn yn cael ei danseilio gan arferion sy’n mynd yn groes i’w hysbryd a’i bwriad, mae Deddf 2025 hefyd yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw daliadau afresymol neu anghymesur a wneir gan ddarparwr nid-er-elw gwasanaethau plant o dan gyfyngiad wrth benderfynu a yw darparwr yn berson addas a phriodol i’w gofrestru.
Mae gwefan Cyfraith Cymru yn rhoi trosolwg o Ddeddf 2025 a’i datblygiad. Mae hyn yn cynnwys Memorandwm Esboniadol sy’n cynnig esboniad manwl o’r newidiadau deddfwriaethol a wnaed gan Ddeddf 2025, ynghyd ag asesiad o’r effeithiau rheoleiddio ac effeithiau eraill a nodwyd.
Amseriad y trefniadau
Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull graddol o roi’r broses o ddileu elw o ofal plant ar waith, drwy is-ddeddfwriaeth, er mwyn cefnogi sefydlogrwydd, integreiddio a gwaith cynllunio systemau effeithiol.
Ar 1 Ebrill 2026, daeth cyfyngiadau i rym a oedd yn atal cofrestru cartrefi plant, llety diogel a gwasanaethau maethu er-elw newydd ac yn atal darparwyr ‘er-elw’ y gwasanaethau hyn sy’n bodoli eisoes rhag amrywio eu cofrestriad i ychwanegu gwasanaeth neu le newydd.
O 1 Ebrill 2026, daeth y ddyletswydd ddiwygiedig ynglŷn â digonolrwydd o dan adran 75(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘Deddf 2014’) i rym hefyd, gan ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau llety addas, diogel ar gyfer plant sy’n derbyn gofal; blaenoriaethu opsiynau o fewn eu hardal neu wrth ymyl eu hardal; a defnyddio darparwyr sy’n awdurdod lleol neu ddarparwyr nid-er-elw yn unig.
Erbyn 1 Rhagfyr 2026, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno eu cynlluniau digonolrwydd blynyddol cyntaf i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo, a bydd yn ofynnol i’r rhain gael eu cyhoeddi erbyn 31 Mawrth 2027 ac yn flynyddol wedi hynny.
Bwriedir i fesurau pellach (sy’n destun yr ymgynghoriad hwn) ddod i rym o 1 Ebrill 2027 i atal cartrefi plant er-elw sy’n bodoli eisoes rhag ehangu ac atal darparwyr gwasanaethau maethu er-elw rhag cymeradwyo gofalwyr maeth newydd.
O 1 Ebrill 2030, y bwriad yw mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd plant yn cael eu lleoli gyda darparwyr er-elw, a hynny’n amodol ar gymeradwyaeth y Gweinidog.
Diben yr Ymgynghoriad
Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn nodi newidiadau rheoliadol arfaethedig i gyfyngu ar ehangu gwasanaethau plant er-elw o dan gyfyngiad sy’n bodoli eisoes. Byddai’r cynigion hyn yn atal cartrefi plant er-elw sy’n bodoli eisoes rhag ychwanegu gwelyau newydd ac yn gwahardd darparwyr gwasanaethau maethu er-elw sy’n bodoli eisoes rhag cymeradwyo gofalwyr maeth newydd.
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnig diwygiadau i Reoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 i ganiatáu tybio, o dan amgylchiadau cyfyngedig, bod cymeradwyaethau gofalwyr maeth yn trosglwyddo oddi wrth ddarparwyr gwasanaethau maethu er-elw i ddarparwyr gwasanaethau maethu nid-er-elw, gyda mesurau diogelu priodol ar waith i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar blant, gofalwyr maeth a theuluoedd.
Cyfyngiadau arfaethedig ar ehangu gwasanaethau plant er-elw
Y cyd-destun deddfwriaethol
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) yn darparu’r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal yng Nghymru, gan gynnwys cartrefi plant, llety diogel a gwasanaethau maethu.
Diwygiwyd Deddf 2016 gan Ddeddf 2025, a gyflwynodd nifer o fesurau i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddileu elw pan yn gofalu am blant sy’n derbyn gofal. Fel rhan o’r diwygiadau hynny, mewnosododd Deddf 2025 Atodlen 1A yn Neddf 2016. Mae paragraff 3(1) o Atodlen 1A yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i osod cyfyngiadau ar weithgareddau penodol darparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad.
Diben y rheoliadau arfaethedig

Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn nodi newidiadau rheoliadol arfaethedig i gyfyngu ar ehangu gwasanaethau plant er-elw. Bwriad y rheoliadau (sydd i’w gwneud o dan Atodlen 1A i Ddeddf 2016) yw atal twf pellach mewn darpariaeth er-elw, tra bydd diwygiadau ehangach i wasanaethau gofal a chymorth plant yn cael eu rhoi ar waith.
Mae’r cynigion hyn yn cefnogi ymrwymiad statudol Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd drwy Ddeddf 2025, i’w gwneud yn bosibl i newid i fodel gofal nid-er-elw ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Bwriad y cynnig i gyflwyno’r cyfyngiadau hyn ar hyn o bryd yw sefydlogi’r farchnad gofal bresennol ac osgoi sefyllfa lle mae darpariaeth er-elw yn ymsefydlu ymhellach yn ystod y cyfnod pontio (y bwriedir iddo bara tan fis Ebrill 2030).
Byddai’r rheoliadau arfaethedig yn cyflwyno cyfyngiadau ar ddarparwyr gwasanaethau plant er-elw sy’n bodoli eisoes. Yn benodol, byddai’r rheoliadau yn darparu, o 1 Ebrill 2027:
- na chaiff cartrefi plant er-elw sy’n bodoli eisoes ychwanegu gwelyau
- na chaiff darparwyr gwasanaethau maethu er-elw sy’n bodoli eisoes gymeradwyo unrhyw ofalwyr maeth newydd
Mae’r cyfyngiadau hyn yn rhagolygol eu natur a byddent ond yn gymwys i ehangu yn y dyfodol. Ni fyddent yn:
- ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr er-elw sy’n bodoli eisoes beidio â gweithredu
- effeithio ar leoliadau sy’n bodoli eisoes na phlant na phobl ifanc sy’n derbyn gofal ar hyn o bryd
- effeithio ar ofalwyr maeth sydd eisoes wedi’u cymeradwyo gan wasanaethau maethu er-elw
- lleihau nifer y lleoedd cofrestredig mewn cartrefi plant ar hyn o bryd na lleoliadau cymeradwy gwasanaethau maethu
Rhesymeg y polisi
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn, pe bai gwasanaethau plant er-elw yn parhau i ehangu, y gallai hynny danseilio’r broses o gyflawni’r diwygiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf 2025 yn effeithiol. Gallai ehangu pellach yn y farchnad er-elw ei gwneud hi’n fwy anodd i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd digonolrwydd ac i gynllunio, comisiynu a datblygu darpariaeth nid-er-elw gynaliadwy yn eu hardaloedd neu’n agos atynt.
Bwriad y rheoliadau arfaethedig yw:
- sefydlogi tirwedd bresennol darparu gwasanaethau plant
- atal gwasanaethau er-elw rhag ehangu ymhellach yn ystod y cyfnod pontio
- helpu awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer darpariaeth nid-er-elw ddigonol
- sicrhau bod cyllid cyhoeddus ac adnoddau’r system yn canolbwyntio ar wella canlyniadau a sefydlogrwydd i blant a phobl ifanc
Rheoleiddio a goruchwylio
Ni fyddai’r rheoliadau arfaethedig yn diwygio unrhyw safonau rheoleiddio, trefniadau arolygu na dyletswyddau diogelu presennol. Bydd AGC yn parhau i reoleiddio ac arolygu gwasanaethau plant yn unol â’r fframwaith presennol a sefydlwyd o dan Ddeddf 2016.
Bwriedir i’r cwestiynau canlynol gasglu barn ar y cynigion a nodir uchod a llywio’r broses o ddatblygu’r rheoliadau. Gwahoddir ymatebwyr i ddefnyddio eu profiad a’u tystiolaeth i dynnu sylw at unrhyw faterion, effeithiau neu ystyriaethau y dylid eu cadw mewn cof wrth baratoi’r ddeddfwriaeth.
Cwestiwn 1
A ydych yn cytuno bod y defnydd arfaethedig o bwerau i wneud rheoliadau ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1A i Ddeddf 2016, gyda chyfyngiadau yn dod i rym o 1 Ebrill 2027, yn briodol ac yn gymesur?
Cwestiwn 2
Pa effeithiau, os o gwbl, rydych chi’n eu rhagweld y bydd y cyfyngiadau arfaethedig yn eu cael ar blant, gofalwyr maeth a theuluoedd?
Cwestiwn 3
Pa effeithiau y gallai’r cyfyngiadau arfaethedig eu cael ar ddigonolrwydd gwasanaethau a threfniadau comisiynu awdurdodau lleol?
Cwestiwn 4
Pa effeithiau eraill (gan gynnwys unrhyw gostau neu fanteision) y gallai’r cynigion eu cael ar y sector gofal a chymorth, yn eich barn chi? Byddem yn croesawu eich barn ynglŷn â sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu sut y gellid lliniaru effeithiau negyddol hefyd.
Cwestiwn 5
Nodwch pa gyrff y byddai’r rheoliadau arfaethedig o bosibl yn effeithio (manteision, anfanteision, costau, arbedion) arnynt?
Cwestiwn 6
A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r cyfyngiadau arfaethedig y dylai Gweinidogion Cymru eu hystyried cyn gwneud y rheoliadau?
Cwestiwn 7
Beth yw eich barn ar Adrannau 1 ac 8 o’r Asesiad Effaith Integredig ar gyfer y cynnig hwn? A oes unrhyw feysydd penodol lle mae angen rhagor o fanylion yn eich barn chi, neu faterion penodol a allai effeithio ar grŵp penodol?
- gallai hyn gynnwys effeithiau sy’n ymwneud â chydraddoldeb, hawliau a llesiant plant, ac anfantais economaidd-gymdeithasol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)
Parhad Cymeradwyaethau gofalwyr maeth
Cefndir
Wrth gwmpasu unrhyw newidiadau ehangach sydd eu hangen i is-ddeddfwriaeth, er mwyn helpu i roi diwygiadau Deddf 2025 ar waith, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi mater gweithredu penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo gofalwyr maeth cymeradwy o wasanaeth maethu er-elw sy’n bodoli eisoes i wasanaeth maethu nid-er-elw newydd, a sefydlwyd i fodloni’r gofynion nid-er-elw a nodwyd yn Neddf 2025.
Fel mae pethau ar hyn o bryd, os bydd gwasanaeth maethu er-elw yn ailsefydlu ei hun fel un o’r modelau nid-er-elw a ganiateir, bydd y gwasanaeth maethu nid-er-elw newydd ei greu yn cael ei ystyried yn endid cyfreithiol newydd, hyd yn oed os yw’r bobl, y systemau a’r gweithrediadau yn aros yr un fath. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo ddangos ei fod yn bodloni’r holl ofynion cofrestru, llywodraethu a chymeradwyo gofalwyr maeth fel darparwr newydd.
Gan fod y gwasanaeth maethu nid-er-elw newydd yn endid cyfreithiol penodol ac ar wahân, ni all cymeradwyaethau gofalwyr maeth sy’n bodoli eisoes drosglwyddo’n syml o’r gwasanaeth er-elw i’r gwasanaeth nid-er-elw newydd. Felly, byddai angen i bob gofalwr maeth gael cymeradwyaeth newydd gan y gwasanaeth newydd. At hynny, ni all gofalwyr maeth gael eu cymeradwyo gan ddwy asiantaeth ar yr un pryd.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y byddai gofalwyr maeth sydd wedi’u cymeradwyo ar hyn o bryd gan wasanaeth maethu er-elw sy’n bodoli eisoes yn destun proses ailgymeradwyo lawn, er mwyn parhau i faethu gyda darparwr sy’n ailsefydlu ei hun ar sail nid-er-elw, hyd yn oed os na fu unrhyw newid yn eu hamgylchiadau na’u haddasrwydd.
Byddai proses ailgymeradwyo lawn fel arfer yn cynnwys asesiad arall o addasrwydd y gofalwr maeth, gan gynnwys gwiriadau statudol a geirdaon wedi’u diweddaru, ystyriaeth gan banel maethu a phenderfyniad gan asiantaeth newydd. Byddai hyn yn creu baich gweinyddol ac ariannol sylweddol i ofalwyr maeth a darparwyr a gallai arwain at darfu ar blant sydd eisoes mewn lleoliad.
Dull gweithredu arfaethedig
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Paneli Maethu a Chynllunio Gofal (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026) i ganiatáu tybio, o dan yr amgylchiadau cyfyngedig a phenodol hyn yn unig, fod cymeradwyaethau gofalwyr maeth presennol yn trosglwyddo o’r endid er-elw presennol i endid nid-er-elw newydd.
Cwmpas y cynnig a sut y câi ei gymhwyso
Bwriedir mai dim ond i drosglwyddo gofalwyr maeth lle mae gwasanaeth maethu er-elw sy’n bodoli eisoes yn cael ei ailsefydlu fel gwasanaeth maethu nid-er-elw y bydd y ddarpariaeth drosiannol hon yn gymwys, yn unol â gofynion Deddf 2025 a phan fo cryn barhad sefydliadol a gweithredol.
Gall ffactorau a allai fod yn berthnasol wrth gadarnhau a yw parhad o’r fath yn bodoli gynnwys y graddau:
- y trosglwyddir cofnodion gofalwr maeth presennol
- y mae lleoliadau maeth sy’n bodoli eisoes yn parhau
- y mae’r Unigolyn Cyfrifol yn parhau
- y mae’r Cyfarwyddwyr neu’r Ymddiriedolwyr yn parhau
Rhagwelir y bydd y darparwyr hynny sy’n gymwys i gwblhau amrywiad newid endid cyfreithiol AGC yn eu cyfrif ar-lein gydag AGC yn dod o fewn cwmpas y darpariaethau hyn. Os oes ansicrwydd, gall AGC gynnig cyngor i ddarparwyr perthnasol.
Amgylchiadau pan na fydd y cynnig yn gymwys
Bwriedir i’r ddarpariaeth drosiannol a gynigir uchod fod yn gymwys o dan amgylchiadau penodol a chyfyngedig yn unig lle mae parhad clir rhwng gwasanaeth maethu er-elw sy’n bodoli eisoes ac sy’n cael ei ailsefydlu ar sail nid-er-elw. Ni fyddant yn gymwys:
- os oes newidiadau sylweddol mewn perchnogaeth, fel gwerthu neu drosglwyddo’r sefydliad i ddarparwr gwahanol, fel na ellir yn rhesymol gadarnhau parhad
- os yw’r Unigolyn Cyfrifol, y Cyfarwyddwyr neu’r Ymddiriedolwyr yn sylweddol wahanol i rai’r darparwr presennol
O dan yr amgylchiadau hyn, bydd yn ofynnol i ddarparwr gydymffurfio’n llawn â’r holl ofynion cofrestru, cymeradwyo a rheoleiddio perthnasol fel gwasanaeth maethu newydd, gan gynnwys y gofyniad i ofalwyr maeth fynd trwy broses gymeradwyo lawn.
Mesurau diogelu a threfniadau goruchwylio
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cynnal mesurau diogelu priodol os tybir bod cymeradwyaethau gofalwyr maeth yn trosglwyddo, er mwyn sicrhau goruchwyliaeth a diogelwch parhaus i blant, ac adlewyrchu parhad y gwasanaeth ar yr un pryd.
Byddai’r mesurau diogelu hyn yn cynnwys:
- sicrhau nad oes cyfnod o gymeradwyaeth ddeuol, gyda’r gymeradwyaeth dybiedig yn dod yn weithredol yn union ar ôl i’r gymeradwyaeth gyda’r darparwr sy’n gadael ddod i ben
- ar adeg trosglwyddo, ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr sy’n ailsefydlu ar sail nid-er-elw i gymryd pob cam rhesymol i fodloni ei hun bod gwybodaeth statudol allweddol, megis gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac asesiadau meddygol, yn dal i fod yn ddilys ac yn gyfredol
- sicrhau parhad trefniadau goruchwylio a chymorth ar gyfer gofalwyr maeth a phlant
- sicrhau nad oes unrhyw darfu ar leoliadau maeth presennol ar adeg trosglwyddo
- sicrhau bod gofalwyr maeth perthnasol yn parhau i fod yn destun prosesau adolygu parhaus, gan gynnwys ystyried barn plant, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol perthnasol
- cynnal goruchwyliaeth briodol drwy drefniadau rheoleiddio ac arolygu presennol
Adolygu gofynion ar ôl trosglwyddo
O dan y dull gweithredu hwn, byddai cymeradwyaethau a drosglwyddir yn destun adolygiad gorfodol o fewn 12 mis i’r trosglwyddiad, a fyddai’n cael ei gynnal fel rhan o gylch adolygu blynyddol presennol gofalwyr maeth. Bwriedir i hyn roi sicrwydd bod cymeradwyaethau gofalwyr maeth yn dal yn briodol ar ôl trosglwyddo, cadarnhau bod yr holl ofynion rheoleiddiol yn parhau i gael eu bodloni a sicrhau bod llesiant plant a’u diogelu yn parhau’n flaenoriaeth.
Byddai adolygiadau yn cael eu cynnal ar sail gymesur a threigl, a fyddai’n cyd-fynd ag amserlenni adolygu presennol gofalwyr maeth unigol, yn hytrach na’i gwneud yn ofynnol i bob gofalwr maeth a drosglwyddir gael ei adolygu ar yr un pryd.
Byddai’r darparwr yn cadw’r disgresiwn i gynnal adolygiad cynnar o gymeradwyaeth gofalwr maeth, neu gymryd camau priodol, os ystyrir bod hyn yn angenrheidiol i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant.
Natur drosiannol y cynnig a’r terfynau amser arno
Dim ond am gyfnod penodol, wedi’i ddiffinio’n glir y bydd unrhyw ddarpariaeth sy’n caniatáu cymeradwyaethau tybiedig gofalwyr maeth yn gymwys. Yn unol â’r bwriad polisi presennol, o 1 Ebrill 2030 ymlaen, dim ond o dan amgylchiadau eithriadol ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Gweinidog y bydd plant yn cael eu lleoli gyda darparwyr er-elw a’r bwriad yw y bydd y trefniadau trosiannol hyn yn peidio â bod yn weithredol o’r dyddiad hwn. Mae hyn yn cynnig digon o eglurder a sicrwydd i ddarparwyr, gofalwyr maeth ac AGC o ran y cyfnod y byddant yn weithredol.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ynghylch a yw dull gweithredu o’r fath yn briodol, yn gymesur ac yn ymarferol, gan gynnwys a fyddai’r defnydd arfaethedig o is-ddeddfwriaeth yn ffordd addas o gyflawni hyn.
Cwestiwn 8
A ydych yn cytuno â’r dull arfaethedig o ganiatáu tybio bod cymeradwyaethau gofalwyr maeth yn trosglwyddo o dan yr amgylchiadau cyfyngedig a ddisgrifir, fel ffordd o gynnal parhad gofal i blant a lleihau’r baich gweinyddol ac ariannol ar ddarparwyr? Esboniwch eich barn.
Cwestiwn 9
A yw cwmpas y ddarpariaeth drosiannol arfaethedig yn ddigon eang? A ddylai fod yn gymwys o dan unrhyw amgylchiadau eraill?
Cwestiwn 10
I ba raddau y mae’r ffactorau arfaethedig yn sail addas ar gyfer asesu parhad sefydliadol a gweithredol o dan yr amgylchiadau hyn, yn eich barn chi? A oes unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid eu hystyried?
Cwestiwn 11
A ydych yn cytuno bod y mesurau diogelu arfaethedig yn ddigon i sicrhau bod plant yn cael eu goruchwylio a’u hamddiffyn yn briodol lle yr ystyrir bod cymeradwyaethau gofalwyr maeth yn trosglwyddo? Eglurwch eich ateb, gan gynnwys unrhyw fesurau diogelu ychwanegol sy’n angenrheidiol yn eich barn chi.
Cwestiwn 12
A yw’r adolygiad gorfodol arfaethedig o gymeradwyaethau gofalwyr maeth a drosglwyddir o fewn 12 mis yn rhoi lefel briodol o sicrwydd? Rhowch resymau dros eich ymateb.
Cwestiwn 13
A yw’r cyfnod adolygu arfaethedig o 12 mis yn rhoi digon o hyblygrwydd i ddarparwyr gwasanaethau maethu reoli cylchoedd adolygu yn effeithiol ac osgoi sefyllfa lle mae gormod o adolygiadau yn cronni ar un adeg?
Os nad yw’n gwneud hynny, pa ddulliau (neu derfynau amser) eraill y dylid eu hystyried?
Cwestiwn 14
Beth yw effeithiau tebygol y cynigion ar blant, gofalwyr maeth a’r gweithlu maethu ehangach, gan gynnwys unrhyw oblygiadau o ran sefydlogrwydd lleoliadau, diogelu, cydraddoldeb a llesiant gofalwyr? Nodwch unrhyw grwpiau y gallai’r cynnig effeithio’n anghymesur arnynt ac unrhyw gamau lliniaru y dylid eu hystyried.
Cwestiwn 15
Pa effaith y byddai’r cynnig ynglŷn â thybio bod cymeradwyaethau gofalwyr maeth yn trosglwyddo yn ei chael yn ymarferol ar ddarparwyr gwasanaethau maethu, gofalwyr maeth, rheoleiddwyr ac awdurdodau lleol, yn eich barn chi? Gallai hyn gynnwys effeithiau ar gostau, llwythi gwaith, y defnydd o amser staff neu brosesau sy’n bodoli eisoes, yn ogystal ag unrhyw arbedion neu arbedion effeithlonrwydd rydych chi’n disgwyl i’r cynnig eu sicrhau.
Cwestiwn 16
Beth yw eich barn ar Adrannau 1 ac 8 o’r Asesiad Effaith Integredig ar gyfer y cynnig hwn? A oes unrhyw feysydd penodol lle mae angen rhagor o fanylion yn eich barn chi, neu faterion penodol a allai effeithio ar grŵp penodol?
- gallai hyn gynnwys effeithiau sy’n ymwneud â chydraddoldeb, hawliau a llesiant plant, ac anfantais economaidd-gymdeithasol (ond nad yw’n gyfyngedig iddynt)
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
A ydych yn cytuno bod y defnydd arfaethedig o bwerau i wneud rheoliadau ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1A i Ddeddf 2016, gyda chyfyngiadau yn dod i rym o 1 Ebrill 2027, yn briodol ac yn gymesur?
Cwestiwn 2
Pa effeithiau, os o gwbl, rydych chi’n eu rhagweld y bydd y cyfyngiadau arfaethedig yn eu cael ar blant, gofalwyr maeth a theuluoedd?
Cwestiwn 3
Pa effeithiau y gallai’r cyfyngiadau arfaethedig eu cael ar ddigonolrwydd gwasanaethau a threfniadau comisiynu awdurdodau lleol?
Cwestiwn 4
Pa effeithiau eraill (gan gynnwys unrhyw gostau neu fanteision) y gallai’r cynigion eu cael ar y sector gofal a chymorth, yn eich barn chi? Byddem yn croesawu eich barn ynglŷn â sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu sut y gellid lliniaru effeithiau negyddol hefyd.
Cwestiwn 5
Nodwch pa gyrff y byddai’r rheoliadau arfaethedig o bosibl yn effeithio (manteision, anfanteision, costau, arbedion) arnynt?
Cwestiwn 6
A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r cyfyngiadau arfaethedig y dylai Gweinidogion Cymru eu hystyried cyn gwneud y rheoliadau?
Cwestiwn 7
Beth yw eich barn ar Adrannau 1 ac 8 o’r Asesiad Effaith Integredig ar gyfer y cynnig hwn? A oes unrhyw feysydd penodol lle mae angen rhagor o fanylion yn eich barn chi, neu faterion penodol a allai effeithio ar grŵp penodol?
- gallai hyn gynnwys effeithiau sy’n ymwneud â chydraddoldeb, hawliau a llesiant plant, ac anfantais economaidd-gymdeithasol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)
Cwestiwn 8
A ydych yn cytuno â’r dull arfaethedig o ganiatáu tybio bod cymeradwyaethau gofalwyr maeth yn trosglwyddo o dan yr amgylchiadau cyfyngedig a ddisgrifir, fel ffordd o gynnal parhad gofal i blant a lleihau’r baich gweinyddol ac ariannol ar ddarparwyr? Esboniwch eich barn.
Cwestiwn 9
A yw cwmpas y ddarpariaeth drosiannol arfaethedig yn ddigon eang? A ddylai fod yn gymwys o dan unrhyw amgylchiadau eraill?
Cwestiwn 10
I ba raddau y mae’r ffactorau arfaethedig yn sail addas ar gyfer asesu parhad sefydliadol a gweithredol o dan yr amgylchiadau hyn, yn eich barn chi? A oes unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid eu hystyried?
Cwestiwn 11
A ydych yn cytuno bod y mesurau diogelu arfaethedig yn ddigon i sicrhau bod plant yn cael eu goruchwylio a’u hamddiffyn yn briodol lle yr ystyrir bod cymeradwyaethau gofalwyr maeth yn trosglwyddo? Eglurwch eich ateb, gan gynnwys unrhyw fesurau diogelu ychwanegol sy’n angenrheidiol yn eich barn chi.
Cwestiwn 12
A yw’r adolygiad gorfodol arfaethedig o gymeradwyaethau gofalwyr maeth a drosglwyddir o fewn 12 mis yn rhoi lefel briodol o sicrwydd? Rhowch resymau dros eich ymateb.
Cwestiwn 13
A yw’r cyfnod adolygu arfaethedig o 12 mis yn rhoi digon o hyblygrwydd i ddarparwyr gwasanaethau maethu reoli cylchoedd adolygu yn effeithiol ac osgoi sefyllfa lle mae gormod o adolygiadau yn cronni ar un adeg?
Os nad yw’n gwneud hynny, pa ddulliau (neu derfynau amser) eraill y dylid eu hystyried?
Cwestiwn 14
Beth yw effeithiau tebygol y cynigion ar blant, gofalwyr maeth a’r gweithlu maethu ehangach, gan gynnwys unrhyw oblygiadau o ran sefydlogrwydd lleoliadau, diogelu, cydraddoldeb a llesiant gofalwyr? Nodwch unrhyw grwpiau y gallai’r cynnig effeithio’n anghymesur arnynt ac unrhyw gamau lliniaru y dylid eu hystyried.
Cwestiwn 15
Pa effaith y byddai’r cynnig ynglŷn â thybio bod cymeradwyaethau gofalwyr maeth yn trosglwyddo yn ei chael yn ymarferol ar ddarparwyr gwasanaethau maethu, gofalwyr maeth, rheoleiddwyr ac awdurdodau lleol, yn eich barn chi? Gallai hyn gynnwys effeithiau ar gostau, llwythi gwaith, y defnydd o amser staff neu brosesau sy’n bodoli eisoes, yn ogystal ag unrhyw arbedion neu arbedion effeithlonrwydd rydych chi’n disgwyl i’r cynnig eu sicrhau.
Cwestiwn 16
Beth yw eich barn ar Adrannau 1 ac 8 o’r Asesiad Effaith Integredig ar gyfer y cynnig hwn? A oes unrhyw feysydd penodol lle mae angen rhagor o fanylion yn eich barn chi, neu faterion penodol a allai effeithio ar grŵp penodol?
- gallai hyn gynnwys effeithiau sy’n ymwneud â chydraddoldeb, hawliau a llesiant plant, ac anfantais economaidd-gymdeithasol (ond nad yw’n gyfyngedig iddynt)
Cwestiwn 17
Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y rheoliadau arfaethedig ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Yn eich barn chi, a oes cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Yn eich barn chi, a oes cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cwestiwn 18
Yn eich barn chi, a allai’r cynigion gael eu llunio neu eu newid er mwyn:
- cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
- lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Cwestiwn 19
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma:
Sut i ymateb
Gallwch gyflwyno eich sylwadau erbyn hanner nos, 23 Medi 2026, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
- cwblhau ein ffurflen ar-lein
- Lawrlwytho ein ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad, ei llenwi a'i hanfon drwy e-bost i: dileuelw@llyw.cymru (rhowch y cyfeirnod WG54724 yn llinell bwnc eich e-bost)
- lawrlwytho a chwblhau ein ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad, a'i hanfon drwy'r post i'r cyfeiriad isod:
Ymgynghori: WG54724
Y Tîm Polisi Dileu Elw
Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG54724
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.