Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025: tudalen gwybodaeth
Darperir yma wybodaeth ychwanegol ynglŷn â Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025, gan gynnwys ar gyfer pwy y maent yn gymwys, pa bryd y mae angen cynnal asesiadau a sut y dylid gwneud hynny.
Ar y dudalen hon
Gwybodaeth ynglŷn â’r Rheoliadau
Natur y Rheoliadau
Daw Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 i rym ar 6 Ebrill 2027. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i rai cyrff cyhoeddus yng Nghymru gynnal asesiad o’r effaith ar iechyd wrth gynnig gwneud penderfyniad o natur strategol ynghylch sut i arfer eu swyddogaethau.
Mae’r Rheoliadau yn is-ddeddfwriaeth, a wnaed o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 ac maent yn cefnogi dull gweithredu “iechyd ym mhob polisi” ar draws y sector cyhoeddus.
Diben y Rheoliadau
Mae’r Rheoliadau yn annog cyrff cyhoeddus i ystyried sut y gall eu penderfyniadau effeithio ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd.
Eu nod yw sicrhau bod iechyd a llesiant yn cael eu hystyried yn ddiofyn yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau y sector cyhoeddus ar draws pob maes polisi, nid dim ond gwasanaethau iechyd.
Y cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Rheoliadau
Mae’r Rheoliadau yn cyd-fynd yn gadarn ag uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 o ran gwneud y mwyaf o gyfraniadau cyrff cyhoeddus i’r 7 nod llesiant cenedlaethol.
Mae’r Rheoliadau yn gymwys i’r canlynol:
- Gweinidogion Cymru
- Awdurdodau lleol
- Cydbwyllgorau corfforaethol
- Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG
- Awdurdodau Iechyd Arbennig
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru
- Awdurdodau Tân ac Achub Cymru
- Cymwysterau Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Chwaraeon Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Awdurdod Cyllid Cymru
- Trafnidiaeth Cymru.
Perthynas â dyletswyddau cyfreithiol eraill
Mae’r gofyniad i gynnal asesiad o’r effaith ar iechyd wedi’i gynllunio i ategu dyletswyddau eraill a osodir ar gyrff cyhoeddus, gan gynnwys y Ddyletswydd Llesiant a’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.
Bydd cyrff cyhoeddus yn gyfrifol am ddeall sut y maent yn cydymffurfio â’r holl ddyletswyddau perthnasol, a gallant ddewis ymgorffori asesiadau o’r effaith ar iechyd yn eu prosesau asesu a gwneud penderfyniadau sydd eisoes wedi’u sefydlu.
Gweithredu a chydymffurfio
O 6 Ebrill 2027 ymlaen, bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i’r cyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd ar gyfer penderfyniadau perthnasol.
Gall corff cyhoeddus sy’n methu â chydymffurfio â’r Rheoliadau wynebu her gyfreithiol.
Effeithiau ar iechyd ac Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd
Effeithiau ar iechyd
Effaith ar iechyd yw effaith debygol penderfyniad, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, ar iechyd corfforol neu iechyd meddwl yn y tymor byr neu yn y tymor hir.
Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd
Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn ffordd strwythuredig o asesu effaith penderfyniad neu gam arfaethedig ar iechyd.
Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn ystyried effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl penderfyniad cyn y caiff ei wneud. Mae’n nodi sut y gellir atal, lleihau neu liniaru'r effeithiau negyddol, a sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol.
Yn unol â’r Rheoliadau, Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yw:
asesiad o effaith debygol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir, gam neu benderfyniad arfaethedig ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl Cymru neu ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl rhai o bobl Cymru
Manteision cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd
Bydd cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn helpu cyrff cyhoeddus i wneud penderfyniadau mwy gwybodus a chynaliadwy drwy ddeall yn well sut y gall penderfyniad arfaethedig effeithio ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl.
Trwy nodi effeithiau posibl ar iechyd yn gynharach yn y broses o wneud penderfyniadau, mae Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn helpu i atal problemau drwy leihau niwed, gwneud y mwyaf o ganlyniadau cadarnhaol a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Nod y broses yw cryfhau prosesau gwneud penderfyniadau drwy ystyried effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar iechyd, gan gymryd golwg system gyfan ar benderfynyddion iechyd ehangach a chefnogi cydweithredu ar draws meysydd polisi, sefydliadau a rhanddeiliaid.
Y tu hwnt i gydymffurfiaeth reoleiddiol, gall y dull ataliol a chymesur hwn helpu i osgoi canlyniadau anfwriadol costus, lleihau’r galw ar wasanaethau iechyd yn y dyfodol, gweithredu’n fwy effeithlon a chyfrannu at fanteision cymdeithasol, economaidd ac iechyd hirdymor, gan gynnwys arbedion ariannol posibl yn y dyfodol.
Pryd y mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn ofynnol
Penderfyniadau sy’n dod o dan gwmpas y Rheoliadau
Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus perthnasol gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd pan fydd yn bwriadu gwneud penderfyniad o natur strategol ynghylch sut i arfer ei swyddogaethau.
Mae hyn yn ofyniad sylfaenol. Mewn amgylchiadau eraill, anogir hefyd y defnydd o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd gwirfoddol.
Penderfyniadau o natur strategol
Yn gyffredinol, penderfyniadau strategol fydd y rheini sy’n effeithio ar sut mae’r corff cyhoeddus yn cyflawni ei bwrpas statudol arfaethedig (ei swyddogaethau o ran y set o bwerau a dyletswyddau y mae’n eu defnyddio i gyflawni ei gylch gwaith) dros gyfnod sylweddol ac ni fyddant yn cynnwys penderfyniadau arferol ‘o ddydd i ddydd’.
Efallai mai dim ond yn flynyddol y bydd penderfyniadau o’r fath yn cael eu gwneud mewn rhai cyrff cyhoeddus, ond byddant yn cael eu gwneud yn amlach mewn achosion eraill.
O ystyried ehangder y sefydliadau sy’n ddarostyngedig i’r Rheoliadau, nid oes rhestr ddisgrifiadol benodol o’r hyn sy’n gyfystyr â “phenderfyniad o natur strategol”. Mae’r Rheoliadau wedi’u hysgrifennu mewn ffordd sy’n gadael i’r cyrff cyhoeddus eu hunain benderfynu beth yw penderfyniad o natur strategol i’w sefydliad nhw.
Dyma rai enghreifftiau (nid rhestr gynhwysfawr) o benderfyniadau strategol y gall cyrff cyhoeddus eu gwneud:
- cyfarwyddeb a bwriad strategol
- cynlluniau tymor canolig i hir (er enghraifft, cynlluniau corfforaethol, cynlluniau datblygu, cynlluniau cyflenwi gwasanaethau a chynlluniau gwella)
- gosod amcanion (er enghraifft, amcanion llesiant, Deddf Cydraddoldeb, amcanion cydraddoldeb 2010, strategaeth y Gymraeg)
- newid a datblygu gwasanaethau cyhoeddus
- cynllunio ariannol strategol
- penderfyniadau caffael a chomisiynu mawr
- datblygu polisïau strategol
Perthynas â’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol
Mae’r gofyniad i gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o dan y Rheoliadau wedi’i gynllunio i ategu rhai o’r termau a ddefnyddir yn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Felly, os yw corff cyhoeddus yn nodi bod penderfyniad o natur strategol a’i fod yn un sydd wedi’i gwmpasu gan ofynion y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, yna mae’n debygol iawn y bydd angen Asesiad o’r Effaith ar Iechyd hefyd.
Cymesuredd
Mae llawer o gyrff cyhoeddus eisoes yn ystyried effeithiau iechyd eu penderfyniadau. Mae’r Rheoliadau yn ffurfioli hynny drwy gyflwyno safon ofynnol ynghylch pryd y mae rhaid cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd.
Roedd cymesuredd yn rhan allweddol o’r adborth ar yr ymgynghoriad ynghylch y Rheoliadau ac mae’n ganolog i ddyluniad terfynol y gofynion, gyda’r broses o gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn un raddadwy a hyblyg.
Os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, dylai cyrff cyhoeddus perthnasol fwrw ati yn awr i ddechrau ymgorffori ystyriaethau sy’n ymwneud â’r broses o gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn eu prosesau gwneud penderfyniadau presennol a’u hintegreiddio ag asesiadau effaith eraill lle bo hynny’n briodol.
Dylai cyrff cyhoeddus hefyd sicrhau bod lefel yr asesu yn briodol i raddfa ac arwyddocâd y penderfyniad arfaethedig a dylent geisio osgoi dyblygu gwaith wrth gydweithio â chyrff cyhoeddus eraill, ar yr amod bod pob un yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau.
Penderfyniadau y tu hwnt i gwmpas y Rheoliadau
Dim ond ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus perthnasol gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd pan fyddant yn gwneud penderfyniad o natur strategol ynghylch sut i arfer eu swyddogaethau y mae’r Rheoliadau. Mae llawer o benderfyniadau felly y tu hwnt i gwmpas y trothwy hwnnw, megis penderfyniadau ‘o ddydd i ddydd’ arferol.
Fodd bynnag, efallai y bydd cyrff cyhoeddus yn parhau i fod o’r farn bod cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd gwirfoddol yn ddefnyddiol ar gyfer penderfyniadau nad ydynt yn rhan o gwmpas y Rheoliadau er mwyn deall yr effeithiau posibl ar iechyd yn well.
Cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd
Yr hyn y mae rhaid i Asesiad o’r Effaith ei ystyried
Yn unol â’r Rheoliadau, bydd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus wneud y canlynol wrth gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd:
- nodi’r penderfyniad y mae’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn ymwneud ag ef
- nodi unrhyw grwpiau o’r boblogaeth y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried yn rhesymol y gall y penderfyniad effeithio ar eu hiechyd corfforol neu eu hiechyd meddwl
- nodi ac asesu unrhyw effeithiau a fwriedir gan y penderfyniad, ac unrhyw effeithiau nas bwriedir gan y penderfyniad y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried yn rhesymol eu bod yn debygol o effeithio ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl unrhyw grŵp o’r boblogaeth a nodir, gan roi ystyriaeth i’r penderfynyddion iechyd ehangach ac unrhyw ffactorau annhegwch iechyd
- nodi ac asesu, mewn perthynas ag unrhyw effeithiau a nodwyd, unrhyw fesurau y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried yn rhesymol y gallant atal, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu gynyddu unrhyw effeithiau cadarnhaol a nodwyd
- nodi ac asesu unrhyw beth arall y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried ei fod yn berthnasol i gynnal yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd
Y broses ar gyfer cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd
Mae proses gydnabyddedig ar gyfer cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn cynnwys:
- sgrinio: penderfynu a oes angen Asesiad o’r Effaith ar Iechyd
- cwmpasu: penderfynu ar y ffocws, y raddfa a’r dull gweithredu
- arfarnu tystiolaeth: casglu a dadansoddi tystiolaeth
- adrodd: cyhoeddi’r canfyddiadau
- adolygu a myfyrio: dysgu o’r broses
Mae’r broses yn hyblyg a dylai fod yn gymesur â’r penderfyniad arfaethedig sy’n cael ei asesu. Gweler y canllawiau am ragor o wybodaeth.
Ymwneud â rhanddeiliaid
Nid yw'r Rheoliadau'n mynnu ymgynghori neu ymgysylltu â thrydydd partïon wrth gynnal Asesiad Effaith ar Iechyd.
Fodd bynnag, argymhellir bod pob asesiad yn cynnwys rhywfaint o ymgysylltiad gyda rhanddeiliaid lle byddai'n briodol ac yn gymesur i wneud hynny. Ym mhob achos, rhaid i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â’u rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Tystiolaeth a gwybodaeth
Gellir defnyddio cymysgedd o dystiolaeth wrth gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, megis:
- data lleol a chenedlaethol
- ymchwil a thystiolaeth gyhoeddedig
- gwybodaeth rhanddeiliaid a chymunedol
- ymgyngoriadau neu drafodaethau presennol
Nid yw’r mathau o dystiolaeth y gellir eu defnyddio yn orfodol yn y Rheoliadau, sy’n golygu bod gan gyrff cyhoeddus yr hyblygrwydd i ddefnyddio’r math a’r dyfnder o dystiolaeth sy’n cyd-fynd â graddfa a phwysigrwydd y penderfyniad. Mae gan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru restr o rai ffynonellau data a thystiolaeth y gellir eu defnyddio.
Cyhoeddi Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd
Rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi Asesiad o’r Effaith ar Iechyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei gwblhau ac yn y modd y maent yn ystyried ei fod yn briodol.
Defnyddio asesiadau effaith ar iechyd wrth wneud penderfyniadau
Bwriad Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yw llunio penderfyniadau, nid eu cofnodi yn unig.
Mae adran 109(1)(b) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn darparu, pan fydd corff cyhoeddus wedi cynnal Adolygiad o’r Effaith ar Iechyd yn unol â’r Rheoliadau, bod yn rhaid iddo ystyried yr asesiad wrth arfer y swyddogaethau hynny y cynhaliwyd yr asesiad mewn cysylltiad â nhw. At y dibenion hyn, wrth ystyried yr asesiad, mae’n ofynnol i’r corff cyhoeddus weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, sydd i’w dehongli yn unol ag adran 5 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Hyblygrwydd ac integreiddio
Ysgrifennwyd y Rheoliadau yn fwriadol mewn ffordd sy’n rhoi hyblygrwydd yn sgil natur amrywiol swyddogaethau’r cyrff cyhoeddus sydd o fewn cwmpas y Rheoliadau.
Trwy roi’r hyblygrwydd hwn, bydd sefydliadau yn cael cyfle i ystyried sut y gallant weithredu gofynion y Rheoliadau o fewn eu prosesau presennol, gan gynnwys yn rhan o asesiadau effaith integredig ehangach. Mae hyn yn golygu nad yw pob sefydliad yn debygol o fod â’r un prosesau ar waith i fodloni eu gofynion o dan y Rheoliadau.
Canllawiau a hyfforddiant
Cymorth
Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael cyfarwyddyd i ddarparu arweiniad a hyfforddiant i’r cyrff cyhoeddus sydd o fewn cwmpas y Rheoliadau.
Mae canllawiau bellach wedi’u cyhoeddi gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) a gellir dod o hyd iddynt yma:
https://icccgsib.co.uk/whiasu/canllaw-ac-adnoddau-asesiad-effaith-iechyd-hia/
Mae gwybodaeth am yr hyfforddiant sydd ar gael hefyd ar gael ar wefan WHIASU:
https://phwwhocc.co.uk/whiasu/training/
Sicrhau ansawdd
Dylai cyrff cyhoeddus sicrhau ansawdd eu Hasesiadau o’r Effaith ar Iechyd gan ddefnyddio eu prosesau mewnol eu hunain.
