Gwybodaeth am Reoliadau Asesiad Effaith Iechyd (Cymru) 2025 ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Dogfennau
Manylion
Paswyd Rheoliadau Asesiad Effaith Iechyd (Cymru) 2025 yn y Senedd ar 18 Tachwedd 2025 a byddant yn dod i rym ar 6 Ebrill 2027.
Dyma'r cyrff cyhoeddus yr effeithir arnynt gan y Rheoliadau:
- Gweinidogion Cymru
- Awdurdodau lleol
- Cydbwyllgorau corfforaethol
- Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG
- Awdurdodau Iechyd Arbennig
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru
- Awdurdodau Tân ac Achub Cymru
- Cymwysterau Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Chwaraeon Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Awdurdod Cyllid Cymru
- Trafnidiaeth Cymru.
Mae Canllawiau i'r Cyrff Cyhoeddus wedi'u cyhoeddi gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), sy'n rhan o Ymddiriedolaeth GIG Iechyd y Cyhoedd Cymru.
