Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol a gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch camau gweithredu prosiectau yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae’r arolwg ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol (CRMP) wedi'i gynllunio i gefnogi dysgu a gwelliant parhaus wrth i'r CRMP bresennol ddod i ben, ac i helpu i lywio'r ffordd o feddwl am unrhyw raglen bosibl yn y dyfodol. Er mwyn cymryd rhan yn yr arolwg, bydd angen i Lywodraeth Cymru brosesu rhywfaint o ddata personol amdanoch chi. Nid yw'n orfodol i chi gymryd rhan yn yr arolwg, ond bydd eich safbwyntiau proffesiynol sy'n cynrychioli Awdurdod Rheoli Risg yn ddefnyddiol iawn wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Pa wybodaeth bersonol byddwn ni’n ei phrosesu?

Er mwyn dosbarthu'r arolwg a choladu ymatebion yn effeithiol, byddwn ni, sef Llywodraeth Cymru, yn prosesu eich enw, eich cyfeiriad e-bost gwaith a'ch manylion cyswllt yn y gwaith, teitl eich swydd, a'r sefydliad rydych chi'n gweithio iddo.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir drwy'r arolwg hwn a'r gwaith ymgysylltu cysylltiedig ym maes polisi. 

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i weinyddu'r arolwg a choladu ymatebion a chanfyddiadau'n fewnol yn Llywodraeth Cymru. Ni fyddwn yn cyhoeddi nac yn rhannu unrhyw ddata personol sy'n gysylltiedig â'r arolwg hwn ac, er nad oes unrhyw gynlluniau i gyhoeddi ymatebion i'r arolwg, os byddwn yn gwneud hynny, ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chynnwys. Bydd eich ymatebion i'r arolwg yn helpu i archwilio cylch gwaith a chwmpas rhaglen bosibl yn y dyfodol, gan gynnwys camau gweithredu darpar brosiect yn y dyfodol. 

Y sail gyfreithlon

Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan Dîm Gweithredu ar Lifogydd Llywodraeth Cymru fel rhan o'n tasg gyhoeddus (o dan Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU) sy'n benodol i Adran 16(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 sy'n nodi 'The Welsh Ministers may make grants in respect of expenditure incurred or expected to be incurred in connection with flood or coastal erosion risk management in Wales'.

Am ba hyd yr ydym yn cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich data am 10 mlynedd, yn unol â pholisïau cadw Llywodraeth Cymru ar gyfer y categori hwn o weithgarwch datblygu polisïau.

Eich hawliau

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • Cael gweld copi o'ch data eich hun;
  • Gofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar y gwaith o brosesu'r data (o dan amgylchiadau penodol);
  • Gofyn bod eich data yn cael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol); a
  • Chyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt

Os oes gennych ymholiadau, gallwch gysylltu â'r Tîm Llifogydd ac Erydu Arfordirol neu Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru.

 

Tîm Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn:

01625 545 745 neu 0303 123 1113

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data.

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.