Canlyniadau Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion: Tachwedd 2025 (ystadegau swyddogol)
Ystadegau ar faint a nodweddion y gweithlu ysgolion ym mis Tachwedd 2025.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ystadegau swyddogol yw'r rhain yn ymwneud â gwybodaeth a gasglwyd yn y Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) yng Nghymru ym mis Tachwedd 2025. Mae’r CBGY yn casglu gwybodaeth ar athrawon a staff cymorth mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â blynyddoedd academaidd, er enghraifft, Medi 2025 i Awst 2026. Bydd y rhain yn cael eu harddangos fel 2025 i 2026.
Ar hyn o bryd, mae’r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) hefyd yn casglu gwybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru ac yn cael eu cyhoeddi yn natganiad blynyddol Canlyniadau'r Cyfrifiad Ysgolion. Unwaith mae safon data’r CBGY wedi eu sicrhau yn llawn, bydd elfennau gweithlu y CYBLD yn cael eu dileu.
Caiff Datganiad Ysgol y CBGY ei gwblhau gan ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD). Mae ysgolion yn cofnodi a diweddaru data ar y gweithlu drwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Rheoli Gwybodaeth (SRhG). Mae Datganiad Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldeb y CBGY yn cael ei gwblhau gan awdurdodau lleol, yn ogystal ag ysgolion sydd wedi dewis peidio ag ymrwymo i gytundebau lefel gwasanaeth adnoddau dynol a/neu gyflogres gyda’u hawdurdod lleol. Caiff y data eu cynnal drwy’r flwyddyn yn eu systemau adnoddau dynol a chyflogres. Mae’r ddwy elfen yn cael eu cysylltu’n ddi-enw er mwyn galluogi dadansoddi cyflogau absenoldebau trwy salwch athrawon yn ôl nodweddion ysgol a staff.
Gweler ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ am fwy o fanylion ar y casgliad CBGY a chymharu eitemau data a gesglir yn y CBGY a CYBLD (ar gyfer athrawon wedi cymhwyso, absenoldebau athrawon trwy salwch a recriwtio a chadw athrawon).
Prif bwyntiau
- Roedd 24,930 o athrawon mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru, gostyngiad o 0.7% o’i gymharu â Thachwedd 2024.
- 74.7% o athrawon a 66.1% o athrawon mewn swyddi arweinyddiaeth yn fenywod.
- 9,785 o athrawon (39.3%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch.
- Ar gyfartaledd, derbyniwyd 10.6 cais am bob swydd wag hysbyswyd. Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (6.8) yn is o’i gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg (12.0).
- Cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog (cymedr) ar gyfer yr holl athrawon oedd £52,939.
- Y nifer cyfartalog o ddyddiau gwaith a gollwyd gan athrawon oedd wedi cymryd cyfnod o absenoldeb trwy salwch yn 2024 i 2025 oedd 11.9, wedi gostwng o 12.2 yn 2023 i 2024.
- Roedd 29,070 o staff cymorth, gostyngiad o 0.6% o’i gymharu â Thachwedd 2024.
Athrawon
Mae’r data isod wedi’u casglu fel rhan o’r casgliad data CBGY Ysgol. Mae’r CBGY Ysgol yn cael ei gwblhau gan bob ysgol wedi’i chynnal gan awdurdodau lleol ac yn adlewyrchu’r gweithlu ar ddyddiad y cyfrifiad sydd fel arfer ar ddechrau Tachwedd. Y dyddiad cyfrifiad oedd 4 Tachwedd 2025. Nid yw’r CBGY Ysgol yn cynnwys staff sydd wedi’u cyflogi’n ganolog gan awdurdodau lleol heb gontract gydag ysgolion penodol. Mae’r staff yma wedi’u cynnwys yn y rhan cyflogau athrawon. Fel rhan o’r data CBGY Ysgol mae’r nifer cyfwerth ag amser llawn yn cael ei gofnodi sy’n dangos y gyfran o amser contract llawn mae’r unigolion yn treulio ym mhob rôl ac ysgol.
Rolau athrawon
- Ym mis Tachwedd 2025, roedd 24,930 o athrawon mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru, gostyngiad o 0.7% o’i gymharu â Thachwedd 2024.
- Roedd 23,220 o athrawon cyfwerth ag amser llawn [troednodyn 1].
- Ar sail mesur cyfwerth â pherson llawn [troednodyn 2], roedd 20,750 athro (83.2%) yn gweithio fel athro dosbarth wedi cymhwyso.
- Roedd y mwyafrif o athrawon yn gweithio mewn ysgolion cynradd (46.7%) neu ysgolion uwchradd (40.5%).
Nodweddion athrawon
- 18,610 o athrawon (74.7%) a 66.1% o athrawon mewn swyddi arweinyddiaeth [troednodyn 3] yn fenywod.
- Roedd cyfran uwch o athrawon benywaidd mewn ysgolion cynradd (83.2%) o’i gymharu ag ysgolion uwchradd (65.6%).
- 345 athro (1.4%) ag ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall [troednodyn 4]. Roedd yna gyfran lai o athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol mewn rolau arweinyddiaeth (0.7%).
- 14,830 o’r holl athrawon (59.5%) yn uniaethu fel Cymraeg.
- 220 athro (0.9%) wedi nodi bod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddwl y mae disgwyl iddynt bara 12 mis neu mwy.
Gallu athrawon yn y Gymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
Mae athrawon yn nodi eu sgiliau iaith Gymraeg yn erbyn y Fframwaith Cymwyseddau Iaith Gymraeg ymarferwyr addysg. Mae’r ffigurau isod yn mesur y nifer yr athrawon sydd â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd, uwch neu hyfedredd gan fod hyn yn dangos bod gan rhai unigolion y sgiliau angenrheidiol i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ond efallai angen datblygu eu sgiliau a hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.
- 9,785 o athrawon (39.3%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch [troednodyn 5].
- Roedd y gyfran yn amrywio rhwng sectorau ysgol, o 20.3% mewn ysgolion arbennig i 51.3% mewn ysgolion canol.
- Ar lefel awdurdod lleol, roedd y gyfran yn amrywio o 14.2% ym Mlaenau Gwent i 93.6% yng Ngwynedd.
- Roedd 6,150 o athrawon (24.7%) yn dysgu/gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn eu swydd bresennol, â 1,600 (6.4%) arall yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ond ddim yn gwneud ar y pryd yn eu swydd bresennol.
Ffigur 1: cyfran o athrawon â sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch yn ôl awdurdod lleol, Tachwedd 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigwr 1: mae’r map yma yn dangos mai Gwynedd, Ynys Môn a Ceredigion sydd â’r gyfran uchaf o athrawon â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch. Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy sydd â’r gyfran isaf.
Ffynhonnell: Data CBGY Ysgol
Gallu yn y Gymraeg yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru
[Nodyn 1] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y Fframwaith Cymwyseddau Iaith Gymraeg Ymarferwyr Addysg.
Pynciau a ddysgir gan athrawon
Mae’r data yma yn adlewyrchu pynciau a ddysgir i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 i 13 dros amserlen pythefnos arferol.
- Roedd y gyfran fwyaf o amserlen addysgu ysgolion yn addysgu Mathemateg (13.3%), Saesneg (13.0%), Gwyddoniaeth [troednodyn 6] (10.5%), Cymraeg (7.2%) ac Addysg Gorfforol (6.4%).
- Ar gyfartaledd, dysgir tua chwarter o oriau addysgu (23.3%) yn ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Unigolion yn addysgu Mathemateg oedd yn treulio’r gyfran fwyaf o’u hamserlen yn addysgu’r pwnc hynny (83.4%) [troednodyn 7]. Y gyfran ar gyfer y rhai hynny’n dysgu Saesneg oedd 80.7%, Ieithoedd Modern 75.6% a Cherddoriaeth 71.4%.
Ffigwr 2: nifer o athrawon yn ôl mesur (cyfrif pen a cyfwerth â pherson llawn) a pynciau a ddysgir, Tachwedd 2025
Disgrifiad o ffigwr 2: mae’r siart bar yma yn dangos y pum pwnc gyda’r nifer mwyaf o athrawon yn addysgu’r pwnc fel ar Dachwedd 2025. Mathemateg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg ac Addysg Gorfforol yw rhain. Roedd y cyfrif pen yn amrywio o 1,745 yn addysgu Saesneg i 1,090 yn addysgu Addysg Gorfforol. Roedd y nifer cyfwerth â pherson llawn yn amrywio o 1,420 o athrawon yn addysgu Mathemateg i 755 yn addysgu Addysg Gorfforol.
Ffynhonnell: Data CBGY Ysgol
[Nodyn 1] Mae'r cyfrif pen yn cyfri athrawon am bob pwnc a ddysgir.
[Nodyn 2] Mae'r mesur cyfwerth â pherson llawn yn rhannu athrawon yn ôl y gyfran o amser yn dysgu bob pwnc. Mae athro sy'n treulio hanner ei amser yn dysgu Mathemateg a hanner ei amser yn dysgu Saesneg wedi ei chyfri 0.5 yn erbyn y ddau bwnc.
Recriwtio a chadw athrawon
Data ar recriwtio a chadw athrawon, yn cynnwys swyddi wedi’u hysbysebu, nifer o geisiadau ac athrawon sydd wedi gadael y proffesiwn. Mae’r data yma wedi gasglu’n wrtholygol ac yn cynnwys unrhyw swyddi parhaol am dymor neu fwy wedi’u hysbysebu, ac athrawon sydd wedi gadael y proffesiwn yn ystod y flwyddyn academaidd 2024 i 2025.
- Ar gyfartaledd, derbyniwyd 10.6 cais am bob swydd wag hysbyswyd, wedi cynyddu o 10.0 yn 2023 i 2024 a’r uchaf ers 2020 i 2021. Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (6.8) yn is i’w gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg (12.0).
- Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi ysgolion uwchradd (5.6) yn is nag ar gyfer swyddi ysgolion cynradd (14.8).
- Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 roedd 1,764 o swyddi gwag hysbyswyd (88.8%) wedi’u llenwi.
- O’r 1,330 o athrawon oedd wedi gadael y proffesiwn, roedd 400 (30.0%) wedi ymddeol ar oedran arferol neu gynnar.
Cyflogau a lwfansau athrawon
Mae’r data canlynol ar gyflogau a lwfansau athrawon ac absenoldebau athrawon trwy salwch wedi’u casglu fel rhan o’r data CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau. Mae hyn yn cael ei gwblhau gan bob awdurdod lleol ac unrhyw ysgolion sydd wedi’u heithrio o gytundebau lefel gwasanaeth gyda’u hawdurdod lleol. Bydd y mwyafrif o’r gweithlu wedi’u cofnodi yn y set ddata CBGY Ysgol a set ddata CBGY Cyflog, AD ac Absenoldebau, er mi fydd yna rhai eithriadau. Bydd athrawon sydd wedi’u cyflogi’n ganolog gan awdurdodau lleol wedi’u cofnodi yn y data CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau ond nid y data CBGY Ysgol. Mae gwybodaeth bellach ar gael ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’. Mae’r data canlynol ar nifer cyfwerth ag amser llawn yn dangos unigolion wedi’u cyfri am y gyfran o amser contract llawn maent yn cael eu talu ar raddfa gyflog benodol a bydd yn wahanol i’r ffigurau nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer nodweddion athrawon o’r data CBGY Ysgol.
- Y nifer o athrawon cyfwerth ag amser llawn yn cael eu talu ar raddfeydd cyflogau yn ôl Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2025 oedd 23,920, gyda 15,575 (65.1%) yn cael eu talu ar yr ystod gyflog uwch.
- Roedd y cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog (cymedr) ar gyfer yr holl athrawon yn £52,939.
- Roedd athrawon ystafell ddosbarth ar draws pob sector yn cael cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog o £49,001. Roedd hyn yn amrywio o £48,886 mewn ysgolion cynradd i £49,353 mewn ysgolion uwchradd.
- Roedd cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog ar gyfer penaethiaid [nodyn 1] mewn ysgolion uwchradd (£113,744) tipyn uwch o’i gymharu ag ysgolion cynradd (£79,415).
- Ar gyfartaledd, roedd dynion (£54,934) yn cael eu talu £2,675 yn fwy nag menywod (£52,259).
- Ar gyfer athrawon dosbarth, roedd menywod (£49,056) yn cael eu talu mwy na dynion (£48,826). Er hynny, mewn swyddi arweinyddiaeth, roedd dynion (£80,679) yn cael eu talu mwy na menywod (£74,395) ar gyfartaledd.
- Rhwng Tachwedd 2024 a 2025, roedd 8,235 athro (29.7%) wedi derbyn lwfans Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu gyda swm cyfartalog o £5,603.
| Swydd | Gwryw | Benyw | Cyfanswm |
|---|---|---|---|
| Athro heb gymhwyso | £31,687 | £30,743 | £31,031 |
| Athro dosbarth | £48,826 | £49,056 | £49,001 |
| Ymarferydd arweiniol | £67,025 | £65,938 | £66,317 |
| Pennaeth [Nodyn 1] | £90,107 | £82,653 | £85,497 |
| Arweinyddiaeth arall [Nodyn 2] | £73,150 | £69,718 | £70,763 |
| Holl arweinyddiaeth | £80,679 | £74,395 | £76,496 |
| Cyfanswm | £54,934 | £52,259 | £52,939 |
Disgrifiad o dabl 1: mae’r tabl yma yn dangos cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog yn ôl swydd a rhyw fel ar Tachwedd 2025. Y cyflog cyfartalog ar gyfer yr holl athrawon oedd £52,939. Cyflog cyfartalog penaethiaid oedd £85,497, a chyflog cyfartalog athrawon dosbarth oedd £49,001.
Ffynhonnell: Data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau
[Nodyn 1] Yn cynnwys penaethiaid gweithredol.
[Nodyn 2] Yn cynnwys penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a penaethiaid cynorthwyol.
Absenoldeb trwy salwch athrawon
Mae’r data yn cyfeirio at flwyddyn academaidd 2024 i 2025.
- Y nifer cyfartalog o ddyddiau gwaith collwyd gan athrawon oedd wedi cymryd cyfnod o absenoldeb trwy salwch oedd 11.9, gostyngiad o 12.2 yn y flwyddyn academaidd cynt.
- Agorwyd neu caewyd 31,585 cofnod absenoldeb trwy salwch yn ystod y flwyddyn academaidd.
- Cymrodd 15,290 o athrawon (57.9%) o leiaf un cyfnod absenoldeb trwy salwch.
- Collwyd 5.8 diwrnod gwaith ar gyfartaledd am bob absenoldeb trwy salwch, fyny o 5.7 yn y flwyddyn academaidd cynt.
Ffigwr 3: Nifer o absenoldebau athrawon trwy salwch wedi’u hagor yn ôl mis a math o absenoldeb, 2024 i 2025
Disgrifiad o ffigwr 3: mae’r siart llinell yn dangos y nifer o absenoldebau tymor byr a thymor hir agorwyd yn ystod y flwyddyn ysgol ym mhob mis yn ystod y flwyddyn academaidd 2024 i 2025. Mae’r nifer o absenoldebau tymor byr cryn lawer yn uwch nag absenoldebau tymor hir, gyda’r nifer uchaf ym mis Tachwedd ac Ionawr. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 roedd yna ostyngiad sylweddol ym mis Ebrill, gyda’r toriad Pasg, ac eto ym mis Gorffennaf ar ddiwedd y flwyddyn ysgol.
Ffynhonnell: Data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau
Nifer o absenoldebau athrawon trwy salwch yn ôl mis agorwyd a cyfnod salwch ar StatsCymru
[Nodyn 1] Mwy na 20 diwrnod gwaith wedi'u colli.
Staff cymorth
Mae’r data isod wedi’u casglu fel rhan o’r data CBGY Ysgol wedi’u cwblhau gan bob ysgol wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol gan adlewyrchu’r gweithlu fel ar y dyddiad cyfrifiad. Mae staff cymorth yn cynnwys cynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch, cynorthwywyr ieithoedd tramor, cyd-lynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), staff cymorth ADY, rheolwyr busnes, staff gweinyddol a rolau staff cymorth eraill. Mae gwybodaeth bellach ar gael ein hadroddiad Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir.
Staff cymorth (rolau)
- Ym mis Tachwedd 2025, roedd yna 29,070 staff cymorth, gostyngiad o 0.6% o’i gymharu â Thachwedd 2024.
- Roedd y nifer cyfwerth ag amser llawn [troednodyn 8] o’r holl staff cymorth yn 23,005, gostyngiad o 0.2% ar mis Tachwedd 2024.
- Yn seiliedig ar y nifer cyfwerth â pherson llawn [troednodyn 9], roedd 14,370 (49.4%) o staff cymorth yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu, gyda 1,820 (6.3%) arall yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU) a 3,040 (10.5%) yn gweithio fel staff cymorth ADY.
- Roed dyna 1,780 o staff yn gweithio fel cyd-lynwyr ADY neu yn ymgymryd ar rôl yn ychwanegol i’w prif swydd.
- Roedd mwy o staff cymorth yn gweithio mewn ysgolion cynradd (58.4%) nag ysgolion uwchradd (24.1%).
Nodweddion staff cymorth
- Roedd 26,065 o staff cymorth (89.7%) yn fenywod, i’w gymharu â 74.7% o athrawon.
- 15,360 staff cymorth (52.8%) yn uniaethu yn Gymraeg.
- Roedd 1,120 o staff cymorth (3.9%) o grŵp ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall [troednodyn 4], o’i gymharu â 1.4% o athrawon.
- Nododd 440 staff cymorth (1.5%) bod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddwl y mae disgwyl iddynt bara 12 mis neu mwy.
Gallu staff cymorth yn y Gymraeg
- 5,980 o staff cymorth (20.6%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch [troednodyn 5], o’i gymharu â 39.3% o athrawon.
- Roedd y gyfran o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg lefel ganolradd neu uwch yn amrywio o 4.7% ym Mlaenau Gwent i 91.7% yng Ngwynedd.
Ffigur 4: cyfran o staff cymorth â sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch yn ôl awdurdod lleol, Tachwedd 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigwr 4: mae’r map yma yn dangos mae Ynys Môn a Gwynedd sydd â’r gyfran uchaf o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel ganolradd neu uwch, tra bod bron tri chwarter o’r awdurdodau lleol â llai na 20% o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch.
Ffynhonnell: Data CBGY Ysgol
Gallu yn y Gymraeg yn ôl awdurdod lleol (Staff Cymorth) ar StatsCymru
[Nodyn 1] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y Fframwaith Cymwyseddau Iaith Gymraeg Ymarferwyr Addysg.
Recriwtio a chadw staff cymorth
Mae’r data yma yn cyfeirio at swyddi wedi’u hysbysebu a staff sydd wedi gadael y proffesiwn ar gyfer cynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch, cynorthwywyr ieithoedd tramor, cyd-lynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a staff cymorth ADY yn unig ar gyfer 2024 i 2025. Mae hyn yn gwahaniaethu o’r rhestr llawn o rolau staff cymorth llawn sy’n cael ei gasglu fel rhan o’r CBGY oherwydd natur dros dro a sut mae swyddi yn cael eu hysbysebu ar gyfer rolau staff cymorth eraill.
- Ar gyfartaledd, derbyniwyd 9.0 cais am bob swydd wag, fyny o 7.6 yn 2023 i 2024.
- Mae’r cyfartaledd yn is ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (3.8) o’i gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg (10.9).
- Hefyd, roedd y cyfartaledd yn is ar gyfer swyddi ysgolion uwchradd (7.1) o’i gymharu â swyddi ysgolion cynradd (8.6).
- Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, roedd 1,233 o swyddi a hysbyswyd (87.4%) wedi’u llenwi.
- O’r 1,930 staff cymorth wnaeth adael y proffesiwn, roedd 475 (24.7%) wedi symud i swyddi tu allan i addysg.
Gwybodaeth ar ansawdd y data a methodoleg
Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer 2025 wedi’i dilysu’n ffurfiol nac yn derfynol. Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.
Mae ein hadroddiad Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir yn rhoi rhagor o fanylion am wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith i Gymru er mwyn creu Cymru sy’n fwy cyfartal, yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach, ac sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.
Troednodiadau
[1] Mae cyfwerth ag amser llawn yn mesur y gyfran o amser contract llawn unigolyn mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl arweinyddiaeth ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl athro dosbarth yn cyfri fel 0.2 yn erbyn pob rôl.
[2] Mae Cyfwerth â Pherson Llawn yn mesur y gyfran o amser gweithio mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl arweinyddiaeth ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl athro dosbarth yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob rôl.
[3] Yn cynnwys penaethiaid, penaethiaid gweithredol, penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol.
[4] Yn cynnwys Du/Affricanaidd/Caribî/Du Prydeinig, Asiaidd/Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig cymysg/lluosog a grwpiau ethnig eraill.
[5] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y ‘Fframwaith cymwyseddau iaith Gymraeg ymarferwyr addysg’.
[6] Nid yw gwyddoniaeth yn cynnwys bioleg, cemeg neu ffiseg lle’u dysgir fel pwnc ar wahan.
[7] Mae hyn yn cynrychioli’r nifer cyfwerth â pherson llawn fel cyfran o gyfrif pen. Y mwyaf tebyg yw’r cyfrif pen a’r cyfwerth â pherson llawn y mwyaf yw’r gyfran o amser mae unigolion yn gwario yn dysgu’r pwnc yna. Os yw unigolyn yn gwario cyfran uchel o’u hamser yn dysgu pwnc penodol, mae’n bosib bod hyn yn dangos mwy o arbenigedd yn y pwnc.
[8] Mae cyfwerth ag amser llawn yn mesur y gyfran o amser contract llawn unigolyn mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl cynorthwywr addysgu ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl staff cymorth ADY yn cyfri fel 0.2 yn erbyn pob rôl.
[9] Mae cyfwerth â pherson llawn yn mesur y gyfran o amser gweithio mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl cynorthwywr addysgu ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl staff cymorth ADY yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob rôl.
Cyswllt
Ystadegau Gweithlu Ysgol
Ebost: educationworkforcedata@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR: 55/2026
