Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o’r data cyfredol, gydag argymhellion i wella’r broses o adrodd ar y defnydd o’r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Comisiynwyd yr adroddiad hwn o dan lywodraeth flaenorol. Efallai na fydd y cyfeiriad polisi a'r blaenoriaethau a ddisgrifir yn yr adroddiad yn adlewyrchu cyfeiriad y llywodraeth bresennol.

Mae'n cefnogi mesur cynnydd tuag at y cynllun ‘Mwy na geiriau’ (2022 i 2027). Dyma'r fframwaith strategol i gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Ei nod yw sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn Gymraeg heb i ddefnyddwyr orfod gofyn amdanynt (Cynnig Gweithredol).

Mae'r astudiaeth yn adolygu data ar y defnydd o'r Gymraeg ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n defnyddio:

  • adolygiad strwythuredig o ddata gweinyddol
  • datganiadau ac arolygon rheoleiddiol
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid

Mae'n canfod bod ystod eang o ddata perthnasol eisoes yn bodoli ar draws y sector. Fodd bynnag, mae data yn aml yn dameidiog ac yn cael ei gofnodi yn anghyson. Mae yna:

  • fylchau yn y ddarpariaeth
  • amrywiad rhwng sefydliadau
  • argaeledd cyfyngedig o ddata ar ffurf sy'n addas ar gyfer ei ddadansoddi’n genedlaethol

Mae hyn yn cyfyngu ar y gallu i asesu'r ddarpariaeth Gymraeg ar lefel system.

Fframwaith dangosydd

Mae'r adroddiad yn cynnig fframwaith i fesur cynnydd dros amser. Mae'n cynnwys 39 o ddangosyddion ar draws 4 maes, y rhain yw:

  • cynnig a darparu gwasanaethau dwyieithog yn weithredol
  • y galw am wasanaethau yn Gymraeg
  • gallu Cymraeg y gweithlu
  • gallu Cymraeg y gweithlu yn y dyfodol

Mae angen rhannu neu brosesu data ychwanegol ar gyfer y rhan fwyaf o ddangosyddion cyn y gellir eu hadrodd yn rheolaidd.

Bylchau data a gwelliannau a awgrymir

Mae'r adroddiad yn nodi bylchau yn y sylfaen dystiolaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cofnodi iaith yn anghyson
  • data cyfyngedig ar brofiad y defnyddiwr
  • heriau sy'n cysylltu sgiliau'r gweithlu â darparu gwasanaethau

Mae'n nodi argymhellion i wella cysondeb, cyflawnrwydd a defnydd y data. Nod y rhain yw cefnogi dull cliriach o fonitro cynnydd tuag at nodau'r cynllun ‘Mwy na geiriau’ (2022 i 2027).

Adroddiadau

Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 719 KB

PDF
719 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Tîm Polisi'r Gymraeg

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.