Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y byddwn yn prosesu'r data personol a gesglir gan y ffurflen adborth aelodau panel penodiadau cyhoeddus.
Cynnwys
Y cefndir
Mae’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus wedi cyflwyno hyfforddiant ar-lein i gefnogi aelodau’r panel i gymhwyso’r fframwaith recriwtio ac asesu Penodiadau Cyhoeddus newydd. Er mwyn ein helpu i ddeall pa mor effeithiol yw’r hyfforddiant hwn, bydd aelodau’r panel yn cael eu gwahodd i lenwi ffurflen fer ar-lein i rannu eu hadborth ac argymell unrhyw welliannau.
Nid yw’r arolwg hwn yn gofyn am enwau na manylion cyswllt oni bai y byddwch yn dewis eu darparu. Nid ydym yn bwriadu casglu data personol. Fodd bynnag, gall ymatebion testun rhydd weithiau gynnwys gwybodaeth a allai olygu y bydd modd adnabod unigolion.
Ar gyfer dibenion gwerthuso a gwella’r hyfforddiant yn unig y defnyddir pob ymateb. Ni fyddant yn cael eu defnyddio i adnabod ymgeiswyr unigol os na fyddwch wedi cytuno’n benodol i’ch sylwadau gael eu priodoli i chi.
Beth byddwn ni’n ei wneud â’ch gwybodaeth
Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio i werthuso’r hyfforddiant ar-lein ac i wneud gwelliannau yn y dyfodol. Bydd eich ymatebion yn cael eu storio yn ddiogel a dim ond y Tîm Penodiadau Cyhoeddus fydd yn cael mynediad atynt.
Os byddwch yn dewis rhoi caniatâd i’ch sylwadau gael eu rhannu’n gyhoeddus (er enghraifft, ar ein gwefan neu ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol), a byddwch yn dewis darparu eich enw a’ch rôl/sefydliad, dim ond at y diben hwnnw y defnyddir yr wybodaeth hon. Mae darparu’r wybodaeth hon yn fater cwbl ddewisol.
Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol y byddwch yn eu darparu.
Ar gyfer gwerthuso hyfforddiant
Erthygl 6(1)(e) – Tasg gyhoeddus
mae angen prosesu er mwyn ymgymryd â thasg a gyflawnir er budd y cyhoedd ac wrth arfer yr awdurdod swyddogol a freiniwyd yn Llywodraeth Cymru.
Rydym yn defnyddio eich adborth i werthuso profiadau ymgeiswyr o’r broses recriwtio penodiadau cyhoeddus ac i wella sut yr eir ati i gyflawni penodiadau yn y dyfodol. Mae hyn yn cefnogi ein cyfrifoldeb i sicrhau bod prosesau recriwtio yn deg, yn agored ac yn hygyrch.
Ar gyfer rhannu sylwadau yn gyhoeddus
Caniatâd
Dim ond os ydych wedi rhoi eich caniatâd penodol y byddwn yn defnyddio eich sylwadau at ddibenion hyrwyddo.
Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ba hyd y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth
Dim ond cyhyd ag y bydd ei hangen i werthuso a gwella’r hyfforddiant y bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw.
Dim ond cyhyd ag y byddant wedi eu cyhoeddi ar ein sianeli y bydd sylwadau a rennir yn gyhoeddus yn cael eu cadw.
Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu y tu allan i Lywodraeth Cymru ac eithrio pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i’ch sylwadau gael eu rhannu’n gyhoeddus.
Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth
O dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU, mae gennych yr hawl:
- i gael gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch
- i ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu i’r data gael eu prosesu neu i gyfyngu ar hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i ofyn i’ch data gael eu ‘dileu’
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Gwefan: www.ico.gov.uk
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r defnydd ohoni, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
I gael gwybod rhagor am eich hawliau mewn perthynas â gwybodaeth, cysylltwch â:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
