Adolygiad o ddata i fesur cynnydd yn erbyn y cynllun ‘Mwy na Geiriau’ (2022 i 2027) mewn iechyd a gofal cymdeithasol: crynodeb
Adolygiad o’r data cyfredol, gydag argymhellion i wella’r broses o adrodd ar y defnydd o’r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad a diben
Mae cynllun Mwy na geiriau Llywodraeth Cymru 2022 i 2027 yn amlinellu dull cenedlaethol o gryfhau’r ddarpariaeth o’r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys drwy egwyddor y Cynnig Rhagweithiol. Un her allweddol a nodwyd mewn gwerthusiadau blaenorol yw'r diffyg data cyson a chadarn i fonitro cynnydd tuag at amcanion y cynllun.
Yn y cyd-destun hwn, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o’r dirwedd data iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Diben yr ymchwil hon oedd asesu i ba raddau y gall data presennol gefnogi ymdrechion i fonitro cynnydd, a nodi cyfleoedd i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth.
Nod y prosiect oedd mapio ac adolygu ffynonellau data perthnasol, datblygu fframwaith o ddangosyddion ymarferol, nodi bylchau a chyfyngiadau yn y dirwedd data bresennol, ac argymell gwelliannau i'r sylfaen dystiolaeth yn y dyfodol.
Dull yr ymchwil
Cynhaliwyd yr ymchwil mewn tri phrif gam. Yn gyntaf, cynhaliwyd gwaith mapio ac adolygu cynhwysfawr o ffynonellau data i nodi gwybodaeth sy'n berthnasol i ddarpariaeth y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Cyfunodd hyn weithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid (gan gynnwys cyfweliadau a chyfraniadau ysgrifenedig gan sefydliadau allweddol ar draws y sector) ag ymchwil pen desg. Aseswyd pob ffynhonnell ddata gan ddefnyddio fframwaith safonol, yn cwmpasu'r wybodaeth a gasglwyd, y boblogaeth, y prosesau casglu data, hygyrchedd, a'r cyfyngiadau allweddol.
Yn ail, datblygwyd fframwaith o ddangosyddion ymarferol. Roedd hyn yn cynnwys dadansoddi meysydd data Cymraeg o fewn pob ffynhonnell a'u trosi'n ddangosyddion perthnasol i bolisi. Cynlluniwyd dangosyddion i adlewyrchu strwythur a chwmpas y data sylfaenol, ac fe'u haseswyd i weld a ydynt yn ddichonadwy, gan gynnwys a ellid eu cynhyrchu gan ddefnyddio data cyhoeddedig sy’n bodoli eisoes neu a fyddai angen rhannu data ychwanegol. Trefnwyd y fframwaith o amgylch pedwar maes thematig wedi'u halinio â dimensiynau allweddol o ran darpariaeth y Gymraeg.
Yn olaf, nodwyd bylchau a gwendidau yn y dirwedd ddata, a datblygwyd set o welliannau posibl. Cafodd y rhain eu llywio gan ddadansoddiad cymharol ar draws sectorau a'u mireinio drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys grŵp ffocws arbenigol.
Prif ganfyddiadau
Trosolwg o'r dirwedd ddata
Nododd yr adolygiad ystod eang ac amrywiol o ffynonellau data a allai fod yn berthnasol ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys systemau gweinyddol, data'r gweithlu, datganiadau rheoleiddiol, tystiolaeth arolygu, arolygon, a data addysg a hyfforddiant. Gyda'i gilydd, mae'r ffynonellau hyn yn darparu sylfaen dystiolaeth sylweddol sy'n cwmpasu meysydd thematig allweddol sy'n berthnasol i fonitro cynnydd tuag at amcanion y cynllun.
Mewn rhai meysydd, mae data'n cael eu casglu'n gyson ac ar raddfa fawr, gan ddarparu sylfaen gref ar gyfer monitro. Mae hyn yn arbennig o wir am ddata gweithlu ym maes gofal iechyd, datganiadau rheoleiddiol mewn gofal cymdeithasol, a data gweinyddol mewn addysg a hyfforddiant. Fodd bynnag, mae'r dirwedd ddata hefyd yn cael ei nodweddu gan sawl cyfyngiad. Yn aml, mae data wedi'i rannu'n dameidiog ar draws systemau a sefydliadau, gyda mecanweithiau cyfyngedig ar gyfer ei gyfuno ar y lefel genedlaethol. Nid yw arferion cofnodi bob amser yn gyson, ac nid yw data bob amser ar gael mewn fformat sy'n cefnogi gwaith dadansoddi ac adrodd yn rhwydd.
Mae gwahaniaethau hefyd rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r rhain yn adlewyrchu strwythur y ddau sector yn rhannol: er bod gofal iechyd yn tueddu i ddibynnu ar systemau mwy canolog a threfniadau casglu data mwy safonol, mae data gofal cymdeithasol yn aml yn fwy gwasgaredig. O ganlyniad, mae'r sail dystiolaeth gyffredinol yn anwastad ac nid yw eto'n darparu darlun cwbl gydlynol na chynhwysfawr o ddarpariaeth y Gymraeg ar draws y system.
Fframwaith dangosyddion
Gan adeiladu ar adolygiad o ffynonellau data, datblygodd yr ymchwil fframwaith strwythuredig o ddangosyddion i gefnogi’r gwaith o fonitro’r cynnydd a wnaed tuag at amcanion y cynllun. Mae'r fframwaith yn cynnwys 39 o ddangosyddion, wedi'u trefnu ar draws pedwar maes thematig ac wedi'u cyflwyno ar wahân ar gyfer maes gofal iechyd a maes gofal cymdeithasol er mwyn galluogi monitro sy’n benodol i sectorau. Mae'r rhain yn cwmpasu:
- darparu'r Cynnig Rhagweithiol a gwasanaethau dwyieithog
- y galw am wasanaethau Cymraeg
- gallu'r gweithlu yn y Gymraeg
- gweithlu'r dyfodol
Un o gryfderau allweddol y fframwaith yw’r ffaith ei fod wedi’i seilio ar ffynonellau data sy’n bodoli eisoes. Mae hyn yn dangos ei bod hi’n ymarferol llunio set ystyrlon o ddangosyddion gan ddefnyddio data sydd eisoes wedi’i gasglu ar draws y sector, heb gyflwyno gofynion ychwanegol o ran casglu data.
Fodd bynnag, mae'r dadansoddiad hefyd yn dangos, er bod y data sy'n sail i'r dangosyddion eisoes yn bodoli, nad yw bob amser ar gael ar ffurf sy'n cefnogi’n uniongyrchol ei gynhyrchu fel mater o drefn. Mewn rhai achosion, nid yw data ar gael i'r cyhoedd; mewn achosion eraill, nid yw’n cael ei grynhoi ac nid adroddir amdano mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â'r dangosyddion arfaethedig. O ganlyniad, byddai’r broses o weithredu'r fframwaith, mewn rhai achosion, yn gofyn am brosesu data ychwanegol a rhannu data'n rheolaidd gan sefydliadau perthnasol.
At ei gilydd, mae'r fframwaith yn darparu man cychwyn ymarferol a chymesur ar gyfer monitro cynnydd. Ar yr un pryd, mae ei asesiad o ddichonoldeb yn tynnu sylw at ble bydd angen cydweithio pellach ymhlith rhanddeiliaid y sector i gefnogi'r broses o weithredu a sicrhau bod dangosyddion yn cael eu cynhyrchu'n gyson dros amser.
Cyfyngiadau'r dirwedd ddata a gwelliannau a argymhellir
Nododd y dadansoddiad sawl bwlch a chyfyngiad pwysig yn y dirwedd ddata gyfredol sy'n llesteirio monitro cyson a chynhwysfawr o’r cynnydd a wnaed tuag at nodau’r cynllun. Mae'r rhain yn amrywio o ran natur a graddfa, gan adlewyrchu problemau penodol o ran ansawdd y data a heriau strwythurol ehangach ar draws y sector.
Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, mae'r adroddiad yn amlinellu cyfres o welliannau posibl. Mae'r rhain yn amrywio o welliannau wedi'u targedu i arferion casglu ac adrodd data presennol i gamau mwy archwiliadol sydd â'r nod o gryfhau'r sylfaen dystiolaeth dros amser. Mae'r gwelliannau allweddol a argymhellir wedi'u crynhoi isod:
- cyflwyno dull safonol o asesu'r Cynnig Rhagweithiol mewn arolygiadau gofal iechyd, yn unol â fframweithiau gofal cymdeithasol sy’n bodoli eisoes
- gwella cysondeb wrth ddefnyddio Arolwg Profiad y Bobl ar draws GIG Cymru, gan gynnwys ysbytai a lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol
- datblygu dull cyson, ar draws y sector, o gasglu profiad defnyddwyr gwasanaethau ym maes gofal cymdeithasol, gan gynnwys cwestiynau sy'n ymwneud ag iaith
- ehangu’r broses o gasglu data GIG 111 i ganfod a yw ceisiadau yn y Gymraeg yn cael eu cyflawni
- hyrwyddo cofnodi iaith cleifion yn fwy cyson, gan adeiladu ar gyflwyno system EMIS
- sefydlu gweithgarwch cydgasglu ac adrodd arferol ar ddata iaith, yn amodol ar wella cyflawnrwydd a chysondeb
- archwilio hunan-adroddiadau cleifion ar iaith drwy lwyfannau digidol fel ap y GIG
- archwilio dichonoldeb cynnwys cwestiynau cyson sy'n gysylltiedig â'r Gymraeg yn rheolaidd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru
- cysoni graddfeydd o allu’r gweithlu yn y Gymraeg – er enghraifft, drwy alinio â'r cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg, yn seiliedig ar y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd
- cyflwyno dull mwy systematig o ddiweddaru data ar allu ieithyddol y gweithlu
- Ychwanegu lefel ragarweiniol (cyn-fynediad) at raddfeydd gallu ieithyddol y gweithlu i gofnodi datblygiad sgiliau ar gam cynnar
- hyrwyddo’r defnydd o offer fel yr ap Check-in-Cymraeg i gofnodi defnydd iaith yn y byd go iawn
- adeiladu ar waith peilot Comisiynydd y Gymraeg i archwilio dull mwy cyson o gofnodi ddefnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd
- gwella'r broses o gasglu a chyfuno gofynion o ran y Gymraeg wrth recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol
- cryfhau dulliau o gysylltu data'r gweithlu â grwpiau â blaenoriaeth y cynllun , gan gynnwys mireinio diffiniadau pan fo angen
- cynyddu cyfraddau cwblhau ar gyfer data gallu yn y Gymraeg yn System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru
- cyflwyno dull adrodd mwy cyson ar hyfforddiant Cymraeg a ddarperir y tu allan i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- datblygu model o’r llif rhwng addysg Gymraeg a’r gweithlu sy'n cysylltu data addysg, hyfforddiant a'r gweithlu
Gyda'i gilydd, mae'r gwelliannau hyn yn darparu cyfeiriad clir ar gyfer cryfhau'r dirwedd ddata dros amser wrth gydnabod y bydd angen gwaith pellach gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid y sector i flaenoriaethu camau gweithredu, pennu dulliau gweithredu priodol, ac egluro rolau, cyfrifoldebau ac amserlenni.
Casgliad
Mae'r ymchwil hon, am y tro cyntaf, yn darparu trosolwg wedi'i gydgrynhoi o'r dirwedd ddata sy'n berthnasol i ddarpariaeth y Gymraeg ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Drwy ddod â thystiolaeth o ystod eang o ffynonellau ynghyd a'i throsi'n fframwaith cydlynol o ddangosyddion, mae'n sefydlu sylfaen ymarferol ar gyfer monitro cynnydd yn fwy systematig o dan y cynllun.
Mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at botensial data sy’n bodoli eisoes a'r meysydd lle mae angen datblygiad pellach. Er bod llawer o'r sylfeini ar gyfer monitro effeithiol eisoes ar waith, bydd gwireddu'r potensial hwn yn dibynnu ar wella cysondeb, cyflawnrwydd a hygyrchedd data ar draws y sector.
Yn y tymor byr, gellir gwneud cynnydd drwy weithredu'r fframwaith arfaethedig o ddangosyddion a sefydlu'r trefniadau rhannu data sy'n ofynnol i'w gefnogi. Dros y tymor hwy, bydd cryfhau'r sylfaen dystiolaeth yn gofyn am gydweithio parhaus i fynd i'r afael â bylchau a nodwyd, gwella cysondeb, a datblygu dulliau newydd mewn meysydd lle mae data cyfredol yn parhau i fod yn gyfyngedig.
Yn y pen draw, bydd gwella ansawdd a chydlyniant data yn allweddol i alluogi monitro mwy effeithiol o’r cynnydd a wnaed tuag at amcanion y cynllun, ac i gefnogi polisïau a chynllunio gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n hyrwyddo'r Gymraeg ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Alma Economics
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Tîm Polisi'r Gymraeg
Grŵp Iechyd, Gofal ac Atal
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: hss.polisi’rgymraeg@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 75/2026
ISBN Digidol: 978-1-80853-063-0

