Y 100 Diwrnod Cyntaf: Cartrefi cynhesach a mwy effeithlon o ran ynni
Crynodeb o Adolygiad y Rhaglen Cartrefi Clyd, cyflwr cyfredol cartrefi yng Nghymru, ein lefelau o dlodi tanwydd a’r camau nesaf.
1. Diben
Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r gwaith a wnaed i gyflawni ymrwymiad 100 Diwrnod Cyntaf Llywodraeth Cymru i
adolygu’r Rhaglen Cartrefi Cynnes bresennol, a gweithio i gyflwyno newidiadau er mwyn mynd ymhellach ac yn gyflymach i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi – codi safonau byw, mynd i’r afael â thlodi tanwydd, a lleihau allyriadau carbon mwy o aelwydydd, yn gyflymach.
Mae'n nodi cyflwr presennol cartrefi yng Nghymru a'n lefelau o dlodi tanwydd, yr adolygiad a gynhaliwyd ar weithgarwch presennol, y cyd-destun ehangach a'r cyfleoedd rydym wedi'u nodi i wneud pethau'n wahanol a'n camau nesaf.
2. Y lefelau presennol o effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd
Mae allyriadau o gartrefi yng Nghymru yn cyfrannu 8% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr. Er mwyn aros ar y trywydd cywir ar gyfer sero net, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cynghori y dylid targedu gostyngiad o 22% mewn allyriadau carbon preswyl, o 3.0 MtCO2e yn 2022 i 2.4 MtCO2e erbyn 2033. Yn bennaf, cyflawnir hyn drwy osod systemau gwresogi carbon isel – tua 25,000 y flwyddyn erbyn 2030, gan godi i 80,000 y flwyddyn erbyn 2035 – a mesurau effeithlonrwydd ynni. Byddai cyflawni'r targedau yn arwain at roi pympiau gwres o'r aer mewn tua 16% o gartrefi, a rhyw fath o system wresogi carbon isel mewn 23% o gartrefi, erbyn 2033.
Yng Nghymru, cafodd 45.9% o'r holl gartrefi a aseswyd rhwng 2015 a 2024 Radd Effeithlonrwydd Ynni (EER) o A, B neu C. Mae gwahaniaethau clir rhwng deiliadaethau, gyda chartrefi cymdeithasol yn perfformio'n sylweddol well na deiliadaethau eraill. Cafodd 73.2% o gartrefi rhent cymdeithasol EER o A-C ac mae hyn yn gostwng i 37.3% ymhlith cartrefi rhent preifat a 32.4% o gartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr a aseswyd dros yr un cyfnod.
Amcangyfrifwyd bod 25% o'r holl aelwydydd (340,000 o aelwydydd) yn byw mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref 2024, ac amcangyfrifir bod 16% ychwanegol o aelwydydd yn wynebu risg o dlodi tanwydd. Aelwydydd sy'n byw yn y sector rhentu preifat oedd fwyaf tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd, gyda 30% (55,000) o'r aelwydydd hyn yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae hyn yn cymharu â 24% (231,000) o berchen-feddianwyr a 22% (53,000) o aelwydydd tai cymdeithasol. Roedd 15% o'r aelwydydd sy'n byw mewn anheddau â gradd EER o A i C mewn tlodi tanwydd gan godi i 58% ar gyfer aelwydydd sy'n byw mewn cartrefi â gradd o F neu G.
3. Adolygiad o'r Rhaglen bresennol
Mae ein hadolygiad cyflym yn cwmpasu pob cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi effeithlonrwydd ynni a'r newid i wresogi carbon isel. Mae hefyd yn ystyried yr effaith y mae cynlluniau ledled Prydain Fawr neu'r DU gyfan wedi'i chael, neu'n parhau i'w chael, yng Nghymru yn ogystal â'r cyd-destun polisi ehangach.
3.1 Cynllun Nyth Cartrefi Clyd
Lansiwyd y fersiwn ddiweddaraf o Nyth, sef cynllun effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru ar gyfer aelwydydd incwm isel, ar 1 Ebrill 2024. Mae'n targedu cymorth i berchen-feddianwyr neu denantiaid incwm isel mewn llety rhent preifat.
Caiff amrywiaeth o welliannau eu hariannu heb unrhyw gost, yn sgil asesiad ôl-osod tŷ cyfan a chynllun gwella tymor canolig a gaiff ei lunio gan gynghorydd annibynnol. Gallai pecyn o fesurau gynnwys inswleiddio, systemau gwresogi effeithlon, paneli solar ffotofoltaidd ar doeon a, lle y bo'n ymarferol, dechnolegau gwresogi carbon isel fel pympiau gwres.
Nid oes gwerthusiad ffurfiol o'r cynllun ar gael eto. Fodd bynnag, mae wedi dechrau a llunnir adroddiad arno yn 2027-28.
Mae adolygiad cyflym wedi'i gynnal gan ganolbwyntio ar gymhwysedd, technoleg a gefnogir, ansawdd gosodiadau, canlyniadau i aelwydydd a gwerth am arian. Mae'r galw presennol a'r galw yn y dyfodol hefyd wedi llywio ein casgliadau.
Ar gymhwysedd – Mae ehangu cymhwysedd i aelwydydd incwm isel nad ydynt yn cael budd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd wedi gwella tegwch gan barhau i ganolbwyntio ar yr aelwydydd y mae angen cymorth arnynt fwyaf. Mae'r llwybr cymhwysedd iechyd hefyd yn cael ei werthfawrogi.
Ar dechnolegau – Mae cynnwys ffenestri a drysau wedi bod yn gadarnhaol, gan eu bod yn cael effaith sylweddol ar berfformiad ynni ein cartrefi. Mae cynnydd diweddar mewn gosodiadau pympiau gwres, lle byddant yn lleihau biliau, wedi'i hwyluso gan y newidiadau i gyfraith gynllunio. Mae'r newid hwn yn cefnogi ein nodau hinsawdd; fodd bynnag, mae'n dod law yn llaw â chost cyfalaf ychwanegol y mae angen i ni ei hystyried wrth ystyried cyllidebau yn y dyfodol.
Ar ansawdd – Yn 2024-25, pasiodd 98.4% o'r gosodiadau a arolygwyd y tro cyntaf, a dim ond 1.4% o'r holl osodiadau oedd yn cyfrif am y cwynion gan gwsmeriaid a gadarnhawyd yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn dangos bod y ffocws ar ansawdd yn dwyn ffrwyth.
Ar ganlyniadau – Yn 2024-25, arweiniodd y gwelliannau at ostyngiad blynyddol cyfartalog o tua £595 mewn biliau ynni. Yn ogystal ag arbedion carbon gydol oes o fwy na 107,000 tunnell. Fodd bynnag, ni chyrhaeddodd rhai cwsmeriaid cymwys a ymunodd â'r cynllun y cam gosod gan nad oedd yn bosibl cyflawni'r targed arbedion biliau o 12%.
Ar gostau a gwerth am arian – Mae'r pecyn gosod cyfartalog wedi costio tua £20,000 yn ei ddwy flynedd gyntaf. Fodd bynnag, drwy gynnwys ffenestri a drysau yn ogystal â'r cynnydd mewn gosodiadau pympiau gwres eleni, mae nifer cynyddol o osodiadau sy'n costio mwy o lawer. Mae defnyddio contractwyr lleol yn cadw gwerth ein buddsoddiad yng Nghymru ac yn cynnig swyddi da i bobl leol.
Ar alw – Ers y cyhoeddiad bod Cam 4 y Rhwymedigaethau Cwmnïau Ynni (ECO4) yn dod i ben, gwelwyd cynnydd sydyn yn nifer y ceisiadau i gynllun Nyth. Mae'n debygol y bydd y cynnydd sydyn hwn yn parhau wrth i fwy o aelwydydd gydnabod bod ECO ar fin dod i ben yn llwyr ac na fydd cynllun i gymryd ei le ledled Prydain Fawr.
I grynhoi, mae cynllun Nyth yn darparu gwasanaeth hanfodol i aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer a llaith. Mae'n gweithredu'n dda ar y cyfan, gan ddarparu gosodiadau o safon a chanlyniadau cadarnhaol i aelwydydd. Mae angen canolbwyntio ar gostau ac effeithlonrwydd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i sicrhau gwerth am arian.
3.2 ECO4
Mae ECO4 wedi bod ar waith ledled Cymru, Lloegr a'r Alban ers 2022. Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o gamau ECO a ariennir drwy ein biliau ynni ac mae wedi'i gynllunio i gefnogi aelwydydd incwm isel. Mae ei feini prawf cymhwysedd yn debyg, ond nid yn union yr un fath, â chynllun Nyth Cartrefi Clyd. Roedd pob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithredu cynllun lleol ochr yn ochr â'r cynllun craidd.
Canfu ein hadolygiad fod Cymru wedi cael lefel anghymesur o uchel o fuddsoddiad ECO4, sef tua 12% o'r holl osodiadau o dan y cynllun, gyda buddsoddiad amcangyfrifedig o fwy na £100 miliwn y flwyddyn. Er bod y buddsoddiad hwn wedi arwain at fanteision i lawer o aelwydydd, mae ei broblemau ansawdd y rhoddwyd llawer o sylw iddynt hefyd wedi effeithio ar lawer o aelwydydd ledled Cymru ac mae problemau parhaus o ran cyflawni gwaith unioni.
Mae'r penderfyniad i ddod â’r cynllun i ben wedi gadael bwlch mewn buddsoddiad, problemau ansawdd heb eu datrys a dryswch ymhlith y cyhoedd a sefydliadau cymorth o ran cymorth yn y dyfodol. Mae £86 miliwn o gyllid canlyniadol wedi'i ddyrannu i Gymru dros bedair blynedd am fod ECO wedi dod i ben a'r cymorth olynol arfaethedig yn Lloegr.
3.3 Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio
Sefydlwyd y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn 2020 i ddatgarboneiddio'r stoc tai cymdeithasol a datblygu tystiolaeth i'w defnyddio fel man cychwyn er mwyn symud ymlaen i ddatgarboneiddio cartrefi mewn deiliadaethau eraill. Cyflwynodd ddull ‘profi a dysgu’ ar gyfer sut i ddatgarboneiddio cartrefi yn effeithiol ac yn effeithlon yn ogystal â lleihau biliau a gwella safon byw tenantiaid. Mae wedi cefnogi landlordiaid tai cymdeithasol i gyflwyno mesurau uwchraddio effeithlonrwydd ynni fel inswleiddio, paneli solar a phympiau gwres yn eu stoc tai cymdeithasol ac mae'n helpu i gyflawni ymrwymiadau Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Nod y Rhaglen yw gweithredu fel prawf o gysyniad ar gyfer dulliau o ôl-osod o ran ffabrig a thechnoleg a sefydlu sylfaen dystiolaeth gadarn i ddatblygu ein strategaeth ôl-osod tymor hwy arni.
Gan newid o'r broses ceisiadau gystadleuol gynnar i fformiwla dyrannu, mae'r Rhaglen bellach yn cefnogi pob landlord cymdeithasol ar hyd ei daith datgarboneiddio. Dyrannwyd cyfanswm o £480 miliwn o gyllid ers 2020 hyd yma, gan alluogi mwy na 42,000 o fesurau uwchraddio effeithlonrwydd ynni.
Mae gwerthusiad annibynnol diweddar o'r rhaglen yn tynnu sylw at fanteision i denantiaid, gan gynnwys gwelliannau i'w hiechyd a'u sefyllfa ariannol, ac mae'n nodi bod “ORP 3 yn darparu gwerth cryf am arian ar draws yr holl becynnau a senarios a brofwyd”. Nododd hefyd fod y Rhaglen wedi bod yn llwyddiannus o ran meithrin gallu sefydliadol, gan sicrhau y gellir profi dulliau ôl-osod, a chefnogi cydymffurfiad â SATC 2023. Mae Llywodraeth Cymru wedi ategu'r gwerthusiad allanol hwn gyda phrosesau parhaus i gasglu a dadansoddi data, astudiaethau achos a gweithgarwch ymchwil i nodi, deall a defnyddio allbynnau'r rhaglen ar gyfer strategaethau yn y dyfodol.
Mae'r Rhaglen yn ei blwyddyn olaf ar ei ffurf bresennol ac mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei chanfyddiadau ynghyd ag amrywiaeth o ffynonellau eraill i lywio unrhyw gynllun olynol o fewn y sector yn ogystal â'n rhaglen ôl-osod ehangach.
3.4 Cartrefi Gwyrdd Cymru
Lansiwyd cynllun peilot Cartrefi Gwyrdd Cymru yn hydref 2024. Mae wedi cynnig mynediad i aelwydydd y mae eu hincwm yn uwch na'r trothwy cymhwysedd ar gyfer Nyth neu ECO4 at gyngor dibynadwy, cyllid di-log ac arbenigwyr ôl-osod wedi'u fetio i'w helpu drwy'r hyn a all yn aml deimlo fel proses gymhleth.
Ers ei gyflwyno, mae'r cynllun wedi derbyn mwy nag 8,000 o ddatganiadau o ddiddordeb, gan arwain at 1,700 o asesiadau cartref cyfan a rhoi 445 o fenthyciadau i gefnogi gwelliannau ynni cartref ar gyfartaledd o £14,500 y benthyciad. Mae perchnogion tai wedi buddsoddi mewn mesurau fel inswleiddio, paneli solar a systemau gwresogi carbon isel. Mae'r adroddiadau technegol am ddim hefyd yn rhoi mwy o hyder i ddeiliaid tai wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth o ran gwneud gwelliannau i'w cartrefi yn y dyfodol.
Bydd cynnig ariannol di-log bob amser yn boblogaidd. Fodd bynnag, mae'r ansawdd uchel a gafwyd drwy ddefnyddio busnesau wedi'u fetio a'r lefel uchel o foddhad cwsmeriaid â'r canlyniad terfynol yn awgrymu bod gwersi ehangach i'w dysgu o'r cynllun peilot. Mae ein hadolygiad cyflym wedi dangos, wrth i ni barhau i gefnogi camau i ddatgarboneiddio tai, y dylid cynnal y ffocws ar sicrhau bod aelwydydd yn gallu cael gafael yn hawdd ar y cyngor, y cymorth a'r opsiynau ariannol sydd eu hangen arnynt i wella eu cartrefi. Mae profiad a chyflawniadau cynllun peilot Cartrefi Gwyrdd Cymru yn cynnig gwersi gwerthfawr ar gyfer dulliau gweithredu yn y dyfodol.
3.5 Y Cynllun Uwchraddio Boeleri
Mae'r Cynllun Uwchraddio Boeleri yn cynnig grantiau i gefnogi aelwydydd gyda'r newid i ffwrdd o systemau gwresogi sy'n defnyddio tanwydd ffosil. Mae'r cynllun yn cefnogi amrywiaeth o dechnolegau gan gynnwys pympiau gwres aer-i-ddŵr, pympiau gwres aer-i-aer, pympiau gwres o'r ddaear, pympiau gwres o'r ddaear dolen ddaear a boeleri biomas ar gyfer eiddo gwledig nad ydynt ar y grid nwy. Mae lefel y grant yn amrywio yn ôl technoleg ac mae cynnydd ar gyfer cartrefi sy'n cael tanwydd ar ffurf olew gwresogi neu LPG.
Mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net ledled Cymru a Lloegr. Roedd yn ofynnol i Lywodraeth y DU ymgynghori â Gweinidogion Cymru ar Reoliadau Cynllun Uwchraddio Boeleri (Cymru a Lloegr) 2022 ac unrhyw newidiadau y mae'n dymuno eu cyflwyno i'r cynllun drwy welliannau i'r Rheoliadau hynny.
Mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod gosodiadau yng Nghymru yn cyfrif am tua 5% o'r talebau a roddwyd ac a adbrynwyd rhwng mis Mai 2022 a mis Mai 2026. Ein disgwyliad yw y bydd y cynllun yn parhau i weithredu yng Nghymru tan o leiaf 2030, ac y bydd yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r pecyn o ymyriadau sydd ar gael.
4. Y Cyd-destun Ehangach
Mae nifer o bolisïau ehangach o fewn cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn cefnogi datgarboneiddio tai yng Nghymru, gan gynnwys rheolau o fewn y system gynllunio a safon ansawdd tai. Yn nodedig, bydd ymgynghoriad 2025 ar newidiadau i Ran L (arbed tanwydd ac ynni), Rhan O (gorgynhesu) a Rhan F (awyru) o'r Rheoliadau Adeiladu yn sicrhau bod ein cartrefi a adeiledir o'r newydd yn barod ar gyfer y dyfodol, gyda mesurau i leihau effeithiau'r hinsawdd ac addasiadau i dywydd eithafol yn cael eu hystyried o'r cychwyn cyntaf. Mae ein hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu diwygio hefyd; nid oes angen caniatâd cynllunio fel arfer ar gyfer gosod system pwmp gwres o'r aer, o'r ddaear nac o ddŵr a dylai fod o fewn hawliau datblygu a ganiateir.
Mae safonau'n nodi disgwyliadau ar sectorau ac yn ysgogi cyflawniad. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i fabwysiadu safonau effeithlonrwydd ynni ymarferol a chyflawnadwy a fydd yn golygu y gellir uwchraddio mwy o gartrefi yn gyflymach ac yn fwy cost-effeithiol gan ddefnyddio'r un adnoddau.
Mae gan Lywodraeth y DU rôl allweddol i'w chwarae o ran ysgogi datgarboneiddio yn y sector tai gan fod ganddi gyfrifoldeb am reoleiddio'r cyflenwad ynni a'r costau cysylltiedig i gwsmeriaid. Gallai polisïau i ailgydbwyso prisiau trydan a nwy ymhellach, gan weithio ochr yn ochr â thariff cymdeithasol, roi cymhelliant i newid i systemau gwresogi carbon isel a diogelu aelwydydd incwm isel sydd wedi'u cysylltu â'r grid nwy.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn gyfrifol am bennu safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol yn y sector rhentu preifat, sydd wedi'u cynyddu'n ddiweddar i radd o C erbyn 2030.
Mae Cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU yn cynnwys Cronfa Cartrefi Cynnes i'w chyflawni mewn partneriaeth â'r sector preifat. Bydd y gronfa’n cynnwys cyfleoedd i aelwydydd yng Nghymru gael benthyciadau ar gyfer gwaith uwchraddio effeithlonrwydd ynni.
5. Cyfleoedd a'r Camau Nesaf
Nododd yr adolygiad y cyfleoedd canlynol ar gyfer gweithredu ar unwaith a chamau tymor hwy tuag at raglen ôl-osod traws-ddeiliadaeth.
Ymhlith y cyfleoedd sydd ar gael ar unwaith mae:
Chwistrelliad o gyllid – Mae cynllun presennol Nyth a'r Rhaglenni Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn gweithredu'n dda ac mae'r galw'n uchel. Bydd rhoi arian ychwanegol i'r cynlluniau hyn yn sicrhau gwerth am arian, manteision sylweddol i bobl ac yn cyd-fynd â'n polisïau hinsawdd, tlodi, iechyd ataliol ac economaidd ehangach.
Gwelliant parhaus – Nododd yr adolygiad o Nyth yr angen i archwilio mesurau llai o faint cost-effeithiol, a allai gynnig arbedion cost i aelwydydd nad yw pecyn mwy yn bosibl iddynt. Bydd meincnodi costau ac archwilio arbedion pellach yn helpu i ehangu cyrhaeddiad y cynllun gan gynnal ffocws cryf ar werth am arian.
Treialu dulliau newydd – Er bod y cynlluniau presennol yn cyflawni, mae ganddynt gyfyngiadau o ran eu modelau targedu a chyflawni. Mae'r llywodraeth hon yn awyddus i dreialu gwahanol ddulliau o gyflawni polisïau, gan gynnwys gweithgarwch sy'n seiliedig ar ardaloedd. Gallai casglu mewnwelediadau o nifer bach o brosiectau peilot dros y 18 mis nesaf fod o fudd mawr wrth lywio'r strategaeth tymor hwy.
Dros y tymor hwy, mae dull deiliadaeth amhenodol yn gofyn am adolygiad cyfannol o gost-effeithiolrwydd, gan gynnwys y lefelau effeithlonrwydd ynni sy'n ofynnol ar draws deiliadaethau i gyrraedd ein targedau hinsawdd statudol a phenderfyniad ar dargedu ymyriadau'r llywodraeth, gan gynnwys cyllid. Dylid cynnal hyn dros y misoedd nesaf, i lywio'r cynllun lleihau allyriadau nesaf.
