Mae’r gwerthusiad ar y cyd hwn o Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (SATC 2023) a’r Rhaglen Ôl-osod wedi’i Optimeiddio (ORP 3) yn anelu at ddeall profiadau landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid tai cymdeithasol, ac i ddadansoddi effeithiolrwydd cost ORP 3.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cefndir
Mae’r SATC yn set o safonau gorfodol ar gyfer yr holl dai cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r ORP yn ddull tŷ cyfan sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddatgarboneiddio stoc tai cymdeithasol presennol yng Nghymru, gan gynnwys ôl-osod.
Mae’r gwerthusiad ar y cyd hwn o SATC 2023 ac ORP3 yn anelu at ddeall profiadau landlordiaid tai cymdeithasol a thenantiaid tai cymdeithasol, gan gynnwys sut y gweithredwyd yr ymyriadau a’u heffaith ganfyddedig. Yn ogystal, cynhaliwyd dadansoddiad Gwerth am Arian (GaA) i asesu effeithiolrwydd cost ORP 3.
Amcanion y prosiect
Ar gyfer SATC 2023 a’r ORP, nod y gwerthusiad oedd:
- deall profiadau tenantiaid
- deall profiadau landlordiaid
- syntheseiddio tystiolaeth ar draws y ddwy raglen
Yn ogystal:
Ar gyfer SATC 2023
- cynnal gwerthusiad canlyniadau
Ar gyfer yr ORP
- ymgymryd â dadansoddiad cost a budd cymdeithasol (DCB)
- asesu i ba raddau y mae’r rhaglen yn cyflawni ei hamcanion fel menter ‘profi a dysgu’
Methodoleg
Arolwg tenantiaid
- 1,285 o ymatebion ar gyfer SATC a 274 ar gyfer ORP 3.
Cyfweliadau a grwpiau ffocws â thenantiaid
- Cymerodd 45 o denantiaid ran mewn cyfweliadau neu grwpiau ffocws sy’n ymwneud â’r SATC. Dim ond 4 cyfweliad y cynhaliwyd yn benodol ar gyfer yr ORP.
Arolygon landlordiaid
- 32 o ymatebion i arolwg gan 27 o landlordiaid cymdeithasol, gan gynnwys ymatebion lluosog gan rai sefydliadau.
Cyfweliadau â landlordiaid
- Cafodd 15 o sefydliadau landlordiaid cymdeithasol eu cynnwys. Roedd deg o gyfweliadau’n cwmpasu’r ddwy raglen, pedwar yn ymwneud ag ORP yn unig, ac un yn ymwneud â SATC 2023 yn unig.
Dadansoddiad Cost-Buddion
- Aseswyd costau a buddion Ffotofolteg (PV) a Batris, Mesurau Ffabrig, a chyd gyfuniad o’r ddau, dros gyfnod gwerthuso o 30 mlynedd.
Canfyddiadau
Tenantiaid
- Roedd ymwybyddiaeth o’r ddau—SATC ac ORP 3—yn gyfyngedig, hyd yn oed ymhlith tenantiaid a oedd wedi derbyn ôl-osod ORP 3.
- O ran y SATC, mynegodd tenantiaid ddiddordeb cryf mewn gwelliannau ymarferol i’r cartref sy’n cynyddu cynhesrwydd, yn lleihau lleithder ac yn gostwng costau ynni, gan gynnwys cartrefi diogel a sicr ac ystafelloedd ymolchi o ansawdd da. Yr oedd rhai tenantiaid yn parhau i bryderu am y materion hyn yn eu heiddo.
- O ran ORP 3, roedd barn am y gwaith ôl-osod yn gymysg, ond roedd boddhad cyffredinol â’r gwaith a ariennir yn uchel.
Landlordiaid
- Ar draws y ddwy raglen, croesawodd landlordiaid gymorth Llywodraeth Cymru, gan amlygu cydweithredu adeiladol a hygyrchedd.
- Ymhlith y prif gyfyngiadau ar gyfer y SATC a’r ORP 3 roedd pwysau ariannol, ansicrwydd ynghylch cyllid tymor hir a chylchoedd cyllido, prinder personél hyfforddedig ac achrededig, a gofynion gweinyddol cynyddol.
- Roedd cynnydd wrth weithredu’r SATC yn amrywio.
Gwerthusiad Canlyniadau
- Mae canlyniadau cyffredinol y gwerthusiad canlyniadau ar gyfer y SATC yn gymysg. Adroddwyd am welliannau ystyrlon ym meysydd amodau tai tenantiaid, cysur, diogelwch a lles. Fodd bynnag, adroddodd landlordiaid fod SATC 2023 yn gosod gofynion sylweddol ar landlordiaid. Gwelwyd targedau tymor hir SAP 92 a Thystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) gradd A gan landlordiaid fel rhai uchelgeisiol.
- Mae’r dystiolaeth yn dangos bod ORP 3 wedi bod yn effeithiol fel rhaglen ‘profi a dysgu’ wrth gefnogi landlordiaid i adeiladu arbenigedd technegol, gallu sefydliadol, a hyder i arbrofi â chyflawni gwaith ôl-osod. Fodd bynnag, adroddodd rhai landlordiaid eu bod yn teimlo eu bod fwyfwy wedi’u cyfyngu gan bwysau rheoleiddiol, technegol a sefydliadol.
Dadansoddiad Cost-Buddion
Mae canfyddiadau’r DCB yn dangos bod ORP 3 yn darparu gwerth am arian ar draws pob un o’r tri opsiwn ôl-osod canlynol ac o’i gymharu â’r ddau senario gwrth-ffeithiol:
- Systemau ffotofolteg a batri (Pecyn 2)
- Mesurau ‘ffabrig yn gyntaf’ (Pecyn 4)
- Cyflawniad cyfunol o Becyn 2 a Phecyn 4
Mae hyn yn aros yn wir hyd yn oed o dan ragdybiaethau ceidwadol. Mae’r tri opsiwn ôl-osod hyn i gyd yn cyflawni cymarebau budd i gost (BCR) o leiaf 1.9, sy’n golygu bod bob £1 a fuddsoddir yn cynhyrchu o leiaf £1.90 o fuddion. Mae’r dadansoddiad yn nodi bod y buddion ynni, iechyd ac amgylcheddol a ddarperir drwy ORP 3 yn sylweddol fwy na chostau’r rhaglen.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer dyfodol y cynllun.
The report also includes recommendations for the future of the scheme.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Crynodeb , HTML
Cyswllt
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
