Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol:

  • Tracey Holdsworth (Cadeirydd) NSPCC Cymru
  • Mike Clark TGP Cymru
  • Jennifer Gibbon Lynch Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Aiden Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Milo Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Fateha Ahmed Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST Cymru)
  • Sarah Coldrick Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru
  • Helen Mary Jones Voices from Care Cymru
  • Tomos Davies Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
  • Sharon Powell Cynrychiolydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • HJH Jayne Scannell Y Farnwriaeth
  • Lysette Owen Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi
  • Sean O'Neill Plant yng Nghymru
  • Samantha Williams Anabledd Dysgu Cymru
  • Astrid Davis Cadeirydd Ymadawol Panel Teulu Caerdydd ac Ynad
  • Elaine Farthing Cadeirydd Olynol Panel Teulu Caerdydd ac Ynad
  • Megan Colley Pennaeth Cyfiawnder Teuluol,Llywodraeth Cymru
  • Nigel Brown Cafcass Cymru
  • Matthew Pinnell Cafcass Cymru
  • De Litchfield Cafcass Cymru
  • Jane Smith Cafcass Cymru
  • Lydia Hall-Mulvaney Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

Croeso ac mmddiheuriadau

Croesawodd Tracey aelodau newydd i'r Pwyllgor Cynghori a darllenodd yr ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

  • Sara Kirkpatrick Cymorth i Ferched Cymru
  • Sharon Lovell Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS)
  • Gareth Jenkins Cynrychiolydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2025

Cytunodd yr aelodau fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2025 yn gofnod cywir ac nad oedd unrhyw faterion yn codi.

Diweddariad ar aelodaeth

Croesawodd Nigel aelodau newydd y Pwyllgor Cynghori a rhoddodd ddiweddariad cryno ar y rheini sydd wedi gadael y Pwyllgor yn ddiweddar. Gwnaeth ef a Tracey gydnabod yr aelodau ymadawol a diolch iddynt am eu cyfraniadau yn ystod eu hamser ar y Pwyllgor.

Data / Perfformiad

Darparodd Nigel drosolwg o'r adroddiadau ar ddata a pherfformiad ar gyfer achosion Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat, gan gynnwys y DPAau.

Nododd trafodaeth gryno am leoliadau mabwysiadu fod bwlch yn ehangu yng Nghymru rhwng nifer cynyddol y plant at leoliadau mabwysiadu ac argaeledd cyfyngedig mabwysiadwyr addas, fel y nodwyd gan Sarah Coldrick. Holodd Samantha Williams am ddata ar blant sy'n destun achosion gofal y mae gan eu rhieni anabledd dysgu, ac ymdriniodd Nigel a Megan Colley â hyn. Awgrymodd Tracey y byddai'n ddefnyddiol deall themâu a thueddiadau ehangach mewn perthynas â lleoliadau mabwysiadu, ac awgrymodd Nigel y gellid cysylltu â'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol am ragor o wybodaeth.

Cyflwyniad y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc

Rhoddodd Aiden a Milo gyflwyniad diddorol ac addysgiadol yn ymdrin â'r meysydd allweddol canlynol:

  • Cyfarfod y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc (Rhagfyr 2025): Roedd y cyfarfod yn gyfle i ddathlu cyflawniadau'r aelodau, gan gynnwys gwobrau i ddau aelod a gyrhaeddodd 500 awr o weithgarwch ymgysylltu a nifer o Wobrau Unigryw i aelodau.
  • Cynllun Strategol Cafcass Cymru: Cyfarfu aelodau'r Bwrdd â Jane Smith i rannu eu barn am Gynllun Strategol 2026-2031, gan gynnig adborth adeiladol, awgrymiadau ar gyfer gwella a safbwyntiau amgen.
  • Cyfryngu sy'n Cynnwys y Plentyn: Rhoddodd y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc adborth adeiladol i'r Gwasanaeth Cyfryngu.
  • Y Gynhadledd Cyfiawnder Teuluol: Aeth aelodau i'r Gynhadledd Cyfiawnder Teuluol yn Birmingham yn ddiweddar a oedd yn canolbwyntio ar dechnoleg ac AI. Rhannodd Aiden a Milo fyfyrdodau craff am ymgysylltu'n effeithiol â phlant, ac effaith bosibl AI ar lesiant emosiynol plant a'u hymddiriedaeth mewn gweithwyr proffesiynol. Gwnaethant hefyd awgrymu ffyrdd y dylai ymarferwyr addasu eu dull gweithredu wrth ddefnyddio AI a'r cyfryngau cymdeithasol.
  • Cynhadledd Llais y Plentyn: Caiff Cynhadledd Llais y Plentyn nesaf y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc ei chynnal ar 29 Gorffennaf fel digwyddiad cwbl hybrid. Y llynedd, croesawyd bron 1000 o gyfranogwyr ar-lein ac anogwyd y Pwyllgor Cynghori i gymryd rhan yn nigwyddiad eleni.

Diolchodd y Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor i Aiden a Milo am eu cyflwyniad trawiadol a oedd yn procio'r meddwl.

Adroddiad Terfynu Cynllun Strategol Cafcass Cymru 2020 i 2025 – Ein Cyflawniadau

Amlinellodd Matthew gyflawniadau allweddol o adroddiad terfynu Cynllun Strategol Cafcass Cymru 2020 i 2025, gan gynnwys rhoi'r model Braenaru ar waith ledled Cymru, lansio'r Canllawiau Ymarfer ar gyfer Cam-drin Domestig, a Fframwaith Ymarfer Cafcass Cymru. Nododd gynnydd mewn perthynas â llesiant a datblygiad staff hefyd, yn enwedig drwy'r dull i ddatblygu ein staff ein hunain, sydd wedi cefnogi carfan o staff i ddod yn Weithwyr Cymdeithasol Cynorthwyol y Llys Teulu. At hynny, cydnabu Matthew y cydberthnasau cryf sydd gan Cafcass Cymru â rhanddeiliaid fel y llysoedd, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi, a gwasanaethau Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig. 

Canmolodd Tracey gynnydd y sefydliad dros y pum mlynedd diwethaf, gan annog camau i rannu'r cyflawniadau hyn yn ehangach.

Cynllun Strategol Drafft Cafcass Cymru ar gyfer 2026 i 2031

Rhannodd Jane y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Cynllun Strategol Cafcass Cymru ar gyfer 2026 i 2031, gan gynnwys adborth a gasglwyd gan staff o bob rhan o'r sefydliad a chysylltu â rhanddeiliaid gwahanol fel y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc. Tynnodd sylw at y mewnbwn adeiladol a gafwyd gan y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc ac aelodau'r Pwyllgor Cynghori a oedd yn procio'r meddwl. Cadarnhaodd Jane y caiff dwy fersiwn o'r cynllun eu cynhyrchu – fersiwn hawdd ei deall a fersiwn iaith glir – ac y caiff y ddwy fersiwn eu cyfieithu i'r Gymraeg. Mae'r dogfennau gyda'r tîm dylunio erbyn hyn, ac mae Anabledd Dysgu Cymru yn helpu gyda'r fersiwn hawdd ei deall i blant. Bwriedir lansio'r Cynllun Strategol ganol mis Ebrill. 

Ymatebodd Jane i gwestiynau aelodau'r Pwyllgor, a chanmolodd Tracey ei gwaith ar y cynllun, yn enwedig ei chydweithrediad adeiladol â'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc.

Diweddariad ar Gyfraith Breifat

Rhoddodd Matthew ddiweddariad byr ar Gyfraith Breifat, gan nodi bod Llysoedd sy'n Canolbwyntio ar Blant (y model Braenaru gynt) wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn yng Nghymru ers dros flwyddyn. Ychwanegodd y caiff Llysoedd sy'n Canolbwyntio ar Blant eu cyflwyno yn Lloegr dros y tair blynedd nesaf. Cydnabu Nigel y cymorth cryf a'r gydberthynas waith agos â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi a'r Farnwriaeth a gyfrannodd at roi'r model Braenaru ar waith yn llwyddiannus yng Nghymru.

Unrhyw fater arall

Gan nad oedd unrhyw fater arall i’w drafod, daethpwyd â’r cyfarfod i ben. 

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor rhwng 16:00 a 17:30 ar 7 Gorffennaf 2026 drwy Teams.