Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Overview

Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (y Ddeddf) yn darparu fframwaith statudol newydd ar gyfer Rheoli Tir yn Gynaliadwy (RhTG) yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu’r amcanion RhTG fel y prif fframwaith ar gyfer polisi amaethyddol, drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i arfer swyddogaethau penodol yn y ffordd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu at orau at gyflawni’r amcanion hynny. Mae’r Ddeddf hefyd:

  • yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer amaethyddiaeth, ac mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth;
  • yn caniatáu i denantiaid amaethyddol gael mynediad at weithdrefnau cymrodeddu, mewn amgylchiadau penodol;
  • yn newid y ffordd y mae trwyddedau cwympo coed yn gweithio;
  • yn gwahardd y defnydd o faglau a thrapiau glud.

Lluniodd y Senedd Grynodeb o’r Bil, sy’n darparu trosolwg defnyddiol pellach o’r Ddeddf:

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf hefyd yn darparu sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Mae adran 56(1), (2) a (3) o’r Ddeddf yn darparu bod gwahanol adrannau o’r Ddeddf yn dod i rym ar ddyddiau penodol. Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion, yn unol ag adran 56(4):

Mae’r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Gorchymyn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) 2023 ar legislation.gov.uk

Gorchymyn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024 ar legislation.gov.uk

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk
 
2026 Rhif 4411 Chwefror 202616 Chwefror 20262026 Rhif 44: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 1308 (Cy. 213)3 Rhagfyr 202531 Rhagfyr 20252025 Rhif 1308 (Cy. 213): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (Tapro, Hawliau i Daliadau a Chau) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 1282 (Cy. 209)3 Rhagfyr 2025Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)2025 Rhif 1282 (Cy. 209): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 1271 (Cy. 206)3 Rhagfyr 2025
 
1 Ionawr 20262025 Rhif 1271 (Cy. 206): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 1122 (Cy. 187)22 Hydref 202521 Tachwedd 20252025 Rhif 1122 (Cy. 187): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 1121 (Cy. 186)22 Hydref 2025Yn unol â rheoliad 1(2) a (3)2025 Rhif 1121 (Cy. 186): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Safonau Marchnata Wyau Maes (Diwygio) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 189 (Cy. 40)19 Chwefror 202521 Chwefror 20252025 Rhif 189 (Cy. 40): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 83 (Cy. 23)24 Ionawr 2024
15 Gorffennaf 2024
 
2024 Rhif 83 (Cy. 23): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, ar 26 Medi 2022 a chafodd ei basio gan Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2023.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fersiwn derfynol):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 17 Awst 2023.