Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: Mai a Mehefin 2026
Adroddiad yn crynhoi data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru ar gyfer Mai a Mehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Crynodeb misol o berfformiad a gweithgarwch GIG Cymru. Mae tueddiadau tymor hir yn cael sylw yn ein hadroddiadau blynyddol, Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG a Thueddiadau yng ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG.
Mae data yn cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar StatsCymru.
Mae llawer o’r ystadegau a gyflwynir yma yn seiliedig ar dargedau a safonau perfformiad a sefydlwyd gan y llywodraeth flaenorol. Byddwn yn parhau i adrodd ar y sail hon nes bydd y targedau a’r safonau hynny’n cael eu disodli neu eu diwygio. Hyd yma, ni chadarnhawyd unrhyw newidiadau i’r targedau presennol.
Prif bwyntiau
Gwasanaethau brys (Mehefin)
Ym mis Mehefin, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 990 o alwadau porffor, sef tua 2.7% o’r holl alwadau, a 5,013 o alwadau coch, sef tua 13.7% o’r holl alwadau.
Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 20.3% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, sy’n ostyngiad o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor oedd 7 munud 42 eiliad, a oedd yn fyrrach na’r mis blaenorol. Yr amseroedd ymateb canolrifol ar gyfer galwadau coch oedd 9 munud 32 eiliad, a oedd yn hirach nag yn y mis blaenorol. Y targed ar gyfer amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor a choch yw 6 i 8 munud, sy’n golygu bod y targed ar gyfer galwadau porffor wedi’i fodloni, ond nid y targed ar gyfer galwadau coch.
Ym mis Mehefin, roedd ychydig dros 98,700 o ymweliadau â’r holl adrannau achosion brys, sef 3,292 o ymweliadau y dydd ar gyfartaledd; roedd hyn 129 yn fwy o ymweliadau y dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.
Roedd y perfformiad yn erbyn y targed o bedair awr yr isaf ar gofnod ac roedd y perfformiad yn erbyn y targed o ddeuddeg awr hefyd wedi gwaethygu o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Roedd yr amser cyfartalog a gafodd ei dreulio mewn adrannau achosion brys yn hwy na’r mis blaenorol – cyfanswm o 3 awr a 1 munud.
Rhestrau aros am driniaeth (Mai)
Roedd ychydig dros 689,700 o lwybrau cleifion rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn aros i ddechrau triniaeth, cynnydd o tua 9,700 ers mis Ebrill. Mae hwn wedi cynyddu'n ddiweddar yn dilyn gostyngiad am ddeg mis yn olynol. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: egluro ystadegau gweithgarwch a pherfformiad y GIG’.
Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 542,600 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau.
Roedd cyfran y llwybrau a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi gostwng i 65.0% ym mis Mai. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos wedi codi i ychydig o dan 169,500.
Roedd ychydig dros 4,200 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, sydd 94.0% yn is na’r ffigur uchaf ac yn 514 o gynnydd (13.9%) ers y mis blaenorol.
Roedd yr amser cyfartalog yr oedd cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Mai 0.9 wythnos yn hirach na’r mis blaenorol sef 15.7 wythnos.
Mae data dros dro ar gyfer mis Mehefin yn dangos cynnydd yng nghyfanswm y llwybrau sy’n aros ond gostyngiad yn nifer y llwybrau sy’n aros mwy na 2 flynedd.
Roedd ychydig dan 12,500 o lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol, gostyngiad o’r mis blaenorol, a 87.8% yn llai na'r cyfnod prysuraf ym mis Awst 2022.
Diagnosteg a therapïau (Mai)
Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, gostyngodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ychydig dros 115,300 ym mis Mai. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy nag 8 wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i ychydig dros 35,800.
Ar gyfer therapïau, cynyddodd nifer y llwybrau a oedd yn aros i ychydig dros 63,500, sef y ffigur uchaf ar gofnod, a chynyddodd y nifer a oedd yn aros mwy na 14 wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) i ychydig o dan 6,000.
Gwasanaethau canser (Mai)
Dechreuodd 1,950 o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Mai, 32 yn fwy nag yn y mis blaenorol. Bu gostyngiad yn nifer y cleifion a gafodd wybod nad oedd canser arnynt i 13,463. Roedd y perfformiad wedi gwella o’i gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Mai, gan godi i 57.1%.
Galwadau ambiwlans
Hyd at fis Gorffennaf 2025 roedd galwadau 999 i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys).
Ar 1 Gorffennaf cafodd model ymateb newydd ei roi ar waith, gan gyflwyno 2 gategori ymateb newydd yn lle’r categori coch blaenorol. Y categorïau newydd yw:
- porffor: Ataliad, ar gyfer ataliad y galon ac ataliad anadlol
- coch: Argyfwng, ar gyfer trawma mawr a digwyddiadau eraill lle mae cleifion mewn risg sylweddol o ataliad y galon neu ataliad anadlol os na fyddant yn cael ymateb cyflym
Ar 2 Rhagfyr 2025, disodlwyd y categorïau ambr a gwyrdd blaenorol gan 3 chategori newydd. Sef:
- oren: Nawr, ar gyfer cyflyrau difrifol
- melyn: Yn fuan, ar gyfer pobl y mae angen eu hasesu gyntaf
- gwyrdd: Wedi’i gynllunio, ar gyfer galwadau llai brys
Bydd data hyd at fis Mehefin 2025 yn seiliedig ar y model ymateb blaenorol yn parhau i fod ar gael ar StatsCymru, ond nid oes modd eu cymharu â’r mesurau newydd. Bydd ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd yn cael eu cyhoeddi gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Mae’r ‘Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: egluro ystadegau gweithgarwch a pherfformiad y GIG’ yn rhoi rhagor o wybodaeth am gefndir y mesurau perfformiad ambiwlansys newydd.
Gweithgarwch
Ffigur 1: nifer y galwadau ambiwlans brys porffor a choch, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 1: siart linell yn dangos bod nifer y galwadau porffor yn gymharol sefydlog ond mae nifer y galwadau coch wedi bod yn fwy cyfnewidiol yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Ym mis Mehefin, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 990 o alwadau porffor (tua 2.7% o’r holl alwadau), sy’n gynnydd o’i gymharu â mis Mai. Cafwyd 5,013 o alwadau coch (tua 13.7% o’r holl alwadau), sy’n gynnydd o’i gymharu â mis Mai.
Roedd:
- 12,448 o alwadau oren
- 4,926 o alwadau melyn
- 1,518 o alwadau gwyrdd
Perfformiad
Targedau
- Ar gyfer galwadau porffor a choch, targedau’r amser ymateb canolrifol a’r 90ain ganradd yw 6–8 munud ac o dan 20 munud yn y drefn honno.
Ffigur 2: cyfradd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC), fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 2: siart linell yn dangos bod y cyfraddau cylchrediad digymell wedi amrywio rhwng 20% a 30%.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 20.3% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, sy’n ostyngiad o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Ffigur 3: amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain ganradd ar gyfer galwadau ambiwlans brys porffor a choch (munudau ac eiliadau), fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3: siart linell sy’n dangos bod yr amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain ganradd yn fyrrach ar gyfer galwadau porffor na galwadau coch, ac mae pob un yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Yr amseroedd ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor oedd 7 munud 42 eiliad, a oedd yn fyrrach nag ym mis Mai. Roedd y 90ain ganradd (y pwynt lle’r oedd 90% o’r ymatebion yn gyflymach a 10% yn arafach) yn 18 munud 20 eiliad, sy’n hirach nag ym mis Mai. Cafodd y targedau amseroedd ymateb i alwadau porffor eu bodloni.
Ar gyfer galwadau coch, cynyddodd y canolrif i 9 munud 32 eiliad a chynyddodd y 90ain ganradd i 23 munud 15 eiliad. Mae hyn yn golygu nad oedd y targedau amseroedd ymateb i alwadau coch wedi’u bodloni.
Ffigur 4: canolrif yr amser ymateb ar gyfer galwadau ambiwlans oren (oriau, munudau a eiliadau), fesul mis
Disgrifiad o ffigur 4: mae siart llinell yn dangos mai’r amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau oren oedd 1 awr a 53 munud ym mis Ionawr, ond mae wedi bod o dan 1 awr a 30 munud ers hynny.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Ffigur 5: amser canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd, i ddechrau cyfarwyddyd CPR, ac i adnabod ataliad y galon (munudau ac eiliadau), fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 5: siart linell yn dangos bod yr amser canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd wedi amrywio, a’r amser canolrifol i ddechrau cyfarwyddyd CPR ac i adnabod ataliad y galon wedi bod yn fwy sefydlog.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Yr amser canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd oedd 6 munud a 31 eiliad. Yr amser canolrifol i ddechrau cyfarwyddyd CPR oedd 4 munud a 7 eiliad, a'r amser canolrifol i adnabod ataliad y galon oedd 2 funud a 57 eiliad.
Adrannau achosion brys
Gweithgarwch
Ffigur 6: cyfartaledd yr ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau achosion brys mawr y dydd, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 6: siart linell yn dangos dim tuedd amlwg o ran ymweliadau ag adrannau achosion brys.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Adrannau achosion brys: ymweliadau yn ôl oedran a rhyw, mis Ebrill 2016 ymlaen, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae’r siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.
Ym mis Mehefin, roedd ychydig dros 98,700 o ymweliadau â’r holl adrannau achosion brys, sef 3,292 o ymweliadau y dydd ar gyfartaledd; roedd hyn 129 yn fwy o ymweliadau y dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.
Derbyniwyd ychydig dros 14,400 o gleifion i’r ysbyty ar ôl bod mewn adrannau achosion brys mawr. Roedd hyn 0.9% yn llai na’r mis blaenorol.
Perfformiad
Targedau
- Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
- Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 7: canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 7: siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf, rhwng 60 a 70%.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Mehefin, roedd 63.0% o gleifion wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Dyma’r ffigur isaf ar gofnod.
Yr amser aros canolrifol oedd 3 awr a 1 munud, sef 4 munud yn hirach na’r mis blaenorol. Mae’r amseroedd aros yn amrywio yn ôl oedran, yr amser o’r dydd a diwrnod yr wythnos. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG.
Ffigur 8: cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o adrannau achosion brys y GIG, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 8: siart linell yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys wedi bod yn gymharol sefydlog yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Mehefin, roedd 11,826 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 774 (neu 7.0%) yn uwch nag yn y mis blaenorol, a dyma’r ffigur uchaf ond un ar gofnod.
Apwyntiadau cleifion allanol
Gweithgarwch
Ffigur 9: atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 9: siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny.
Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeirio Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Atgyfeiriadau cleifion allanol, mis Ebrill 2012 ymlaen, ar StatsCymru
Ar gyfartaledd, roedd 4,381 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Mai. Mae hyn yn ostyngiad o 9.4% (453 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Ebrill.
Perfformiad
Targedau
- Neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol erbyn diwedd 2022 (targed wedi’i sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio).
Ffigur 10: llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 10: siart linell yn dangos bod y patrwm o ran nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn wedi gostwng yn sylweddol yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Mai, gostyngodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol 3.3%, o’i gymharu â’r mis blaenorol i ychydig llai na 12,500. Roedd hyn 87.8% yn is na’r ffigur uchaf ym mis Awst 2022.
Diagnosteg a therapïau
Gweithgarwch
Ffigur 11: llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 11: siart llinell yn dangos gostyngiad diweddar yn y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnosteg, a chynnydd diweddar ar gyfer gwasanaethau therapi.
Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach.
Ym mis Mai, roedd ychydig dros 115,300 o lwybrau cleifion yn aros am wasanaethau diagnostig, sef 2.1% o ostyngiad o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Ym mis Mai, roedd ychydig dros 63,500 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, sef 1.5% o gynnydd o’i gymharu â’r mis blaenorol, a’r ffigur uchaf ar gofnod.
Perfformiad
Targedau
- Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
- Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
- Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio osod gwanwyn 2024 fel dyddiad targed ar gyfer cyflawni’r targedau hyn.
Ffigur 12: llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 12: siart linell yn dangos tuedd amrywiol mewn llwybrau diagnostig sy'n aros mwy nag 8 wythnos, gyda llwybrau therapïau sy'n aros mwy na 14 wythnos yn dangos tuedd sefydlog yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Ym mis Mai, roedd ychydig dros 35,800 o lwybrau'n aros yn hirach na'r amser targed am brofion diagnostig, cynnydd o 24.5% o'i gymharu â mis Ebrill.
Roedd ychydig o dan 6,000 o lwybrau therapïau yn aros yn hirach na’r amser targed, sef 20.6% o gynnydd o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Roedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig yn 5.1 wythnos, 0.6 wythnos yn hirach nag ym mis Ebrill, ac ar gyfer gwasanaethau therapi roedd yn 4.7 wythnos, 0.2 wythnos yn hirach nag ym mis Ebrill.
Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth
Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cynnwys llwybrau sydd ar agor ac wedi cau ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth. Llwybrau agored yw’r rhai sy’n aros ar y rhestr aros am driniaeth, a llwybrau wedi cau yw’r rhai sydd wedi cael eu tynnu.
Caiff gweithgarwch ei fesur yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael yn ‘Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: egluro ystadegau gweithgarwch a pherfformiad y GIG’ Llywodraeth Cymru.
Perfformiad
Targedau
- Dim cleifion yn aros mwy na 2 flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025 (targedau wedi’u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio).
- 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeiriad.
- Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeiriad.
Ffigur 13: llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 13: siart linell yn dangos gostyngiadau diweddar yn y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn. Dechreuodd y niferoedd sy’n aros dwy flynedd ostwng ddechrau 2022.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1]: Mae’r ffigurau yn yr ardal dywyll ar gyfer y mis diweddaraf yn y siart hwn yn rhai dros dro a gallent newid. Daw’r gyfres ddata swyddogol i ben yn y mis blaenorol.
Ym mis Mai, roedd ychydig dros 689,700 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth, cynnydd o fis Ebrill (680,000). Roedd ychydig o dan 97,600 o lwybrau yn aros dros flwyddyn ym mis Mai, sef 1.2% o gynnydd o’r mis diwethaf. Roedd ychydig dros 4,200 yn aros mwy na dwy flynedd, sydd 13.9% yn uwch na’r mis diwethaf ond 94.0% yn is na’r lefel uchaf ym mis Mawrth 2022.
Mae’r ystadegau swyddogol hyn yn cael eu cyhoeddi gydag oedi o tua 7 wythnos o ddiwedd y cyfnod cyfeirio. Fodd bynnag, o ystyried y diddordeb mewn rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r amseroedd aros hiraf, mae gwerth cyhoeddus mewn sicrhau bod data ar y pwnc hwn ar gael yn gynharach. Rydym felly’n darparu amcangyfrifon dros dro ar gyfer y mis i ddod.
Mae data dros dro yn dangos bod tua 698,400 o lwybrau’n aros ddiwedd mis Mehefin, ac o’r rhain:
- roedd 95,100 yn aros mwy na blwyddyn
- roedd 4,100 yn aros mwy na 2 flynedd
Mae’n bosib i’r amcangyfrifon dros dro hyn newid cyn i’r ffigurau swyddogol ar gyfer mis Mehefin gael eu rhyddhau ym mis Awst.
Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol, nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr.
Ar y sail honno, mae tua 611,400 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol yng Nghymru, sy’n cyfateb i 19 o lwybrau am bob 100 o bobl. Yn Lloegr, y ffigur ym mis Mai oedd 12 o lwybrau am bob 100 o bobl. Mae’r cymariaethau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn ‘Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: cymharu ystadegau perfformiad y GIG ledled y DU’.
Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 542,600 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru. Mae amcangyfrifon ar gyfer nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul bwrdd iechyd ar gael yn set ddata Rhestrau aros y GIG: amcangyfrif o gleifion unigryw ar StatsCymru.
Ffigur 14: canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 14: siart linell yn dangos bod y patrwm o ran nifer y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
O blith yr ychydig dros 689,700 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Mai, roedd 65.0% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn yn llai na’r mis blaenorol.
Ffigur 15: llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 15: siart linell yn dangos bod nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi gostwng yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Mai, roedd ychydig o dan 169,500 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos. Roedd hyn tua 1,000 yn uwch na’r mis blaenorol, mae’r ffgur hwn yn cynrychioli 24.6% o'r holl lwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth.
Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth ym mis Mai yn 15.7 wythnos, 0.9 wythnos yn hirach na'r mis blaenorol.
Ffigur 16: nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 16: siart linell yn dangos bod y duedd o ran nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau ar i fyny yn gyffredinol, er gwaethaf gostyngiad sylweddol yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Cafodd ychydig dros 105,300 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Mai. Felly caewyd 5,544 o lwybrau cleifion ar gyfartaledd fesul diwrnod gwaith, sef 89 o lwybrau cleifion yn rhagor wedi eu cau fesul diwrnod gwaith yn y mis blaenorol.
Oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty
Mae oedi wrth ryddhau cleifion o ysbyty yn digwydd pan fydd claf sy’n barod i’w ryddhau’n glinigol yn methu gadael yr ysbyty oherwydd nad yw’r gofal a’r cymorth parhaus angenrheidiol na’r llety addas ar ei gyfer ar gael yn rhwydd. Mae’r ffigurau’n cynrychioli nifer yr oedolion a oedd yn barod i ddychwelyd adref neu symud ymlaen i gam nesaf eu gofal, a gafodd dros 48 awr o oedi cyn trosglwyddo. Mae’r data yn gipolwg ar oedi ar ddiwrnod penodol bob mis, sy’n golygu nad yw’n rhoi cyfanswm yr oedi dros y mis. Mae ffigurau ar gael ar gyfer nifer yr achosion unigol o oedi a chyfanswm cyfatebol nifer y diwrnodau o oedi a brofwyd gan y cleifion hynny.
Ffigur 17: nifer yr achosion o oedi mewn llwybrau gofal a chyfanswm y diwrnodau o oedi, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 17: siartiau llinell sy'n dangos bod nifer yr achosion o oedi a chyfanswm y diwrnodau o oedi yn gostwng.
Ffynhonnell: Oedi yn achos llwybrau gofal, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1] Mae echelinau fertigol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol.
Ym mis Mehefin, roedd ychydig dros 1,300 o ddigwyddiadau oedi yn achos llwybrau gofal ar y diwrnod y casglwyd y data, gostyngiad bychan o’i gymharu â’r ffigur ym mis Mai. Roedd cyfanswm y diwrnodau cronnol o oedi ar gyfer y cleifion hynny ychydig dros 58,200, sy'n gynnydd o'i gymharu â'r ffigur ym mis Mai.
Gwasanaethau canser
Gweithgarwch
Ffigur 18: llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad
Disgrifiad o ffigur 18: siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gafodd wybod nad oes canser arnynt, sy’n amrywio, a’r nifer sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sy’n gymharol sefydlog.
Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Mai, dechreuodd 1,950 o lwybrau driniaeth canser, 32 yn fwy nag ym mis Ebrill. Cafodd 13,463 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser, gostyngiad o 2.3%. Roedd 15,537 o lwybrau newydd lle’r amheuir canser, gostyngiad o 586 (3.6%) ers mis Ebrill. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y llwybrau newydd a agorwyd wedi bod yn gymharol sefydlog.
Perfformiad
Targed
- Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf.
Ffigur 19: canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 19: siart linell yn dangos bod canran y cleifion sy'n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth o ganser wedi bod rhwng 50% a 65% yn ystod y blynyddoedd diwethaf, heb unrhyw duedd amlwg i'w weld.
Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Mai, roedd 57.1% o’r llwybrau wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn yn uwch na’r mis blaenorol.
Sylw i fyrddau iechyd lleol
Mae perfformiad byrddau iechyd lleol yn cael ei drafod yn y datganiad chwarterol ar berfformiad y GIG ar gyfer byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Ar gyfer y misoedd pan nad yw’r datganiad hwn yn cael ei gynhyrchu, bydd dadansoddiadau cryno yn cael eu darparu yn yr adran hon. Mae’r dadansoddiadau hyn ar sail darparwr bwrdd iechyd, nid bwrdd iechyd y breswylfa. Mae hyn yn golygu bod cleifion sy’n byw mewn un bwrdd iechyd ond sydd ar restrau aros a ddarperir gan fyrddau iechyd eraill yn cael eu cyfrif yn ffigurau’r sefydliadau hynny. Mae hyn yn gyson â’r fframwaith rheoli perfformiad yng Nghymru, gan fod safonau a thargedau’n cael eu hasesu ar sail darparwr.
O blith y mesurau sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn:
- ac eithrio Betsi Cadwaladr nid oes gan unrhyw fyrddau iechyd lwybrau sy’n aros mwy na 2 flynedd neu maent yn llai nag 1%
- Ar hyn o bryd, nid oes gan Fae Abertawe arosiadau o flwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, ac maent yn llai nag 1% o arosiadau yng Nghwm Taf Morgannwg a Hywel Dda
- Nid oes gan Bowys na Bae Abertawe lwybrau therapïau sy’n aros mwy 14 wythnos ac yng Nghwm Taf Morgannwg maent yn llai nag 1%
Gwasanaeth ambiwlans
Cafodd amrywiaeth o fetrigau perfformiad ambiwlansys newydd eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2025. Cyhoeddir ffigurau'r byrddau iechyd ar StatsCymru. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl crynhoi'r rhain ar ffurf y prif fesurau ar gyfer y pynciau eraill fel y nodir isod.
Adrannau achosion brys
- Aneurin Bevan sydd â'r perfformiad 4 awr gorau (71.3%) a Chwm Taf Morgannwg sydd â’r gwaethaf (54.1%).
- Aneurin Bevan sydd â'r perfformiad 12 awr gorau (8.4%) a Betsi Cadwaladr sydd â’r gwaethaf (17.4%).
Llwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth
- Betsi Cadwaladr sydd â'r gyfran uchaf o lwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth a oedd yn aros mwy na blwyddyn a 2 flynedd ym mis Mai (18.5% a 1.4%).
- Powys sydd â'r gyfran isaf o ran achosion aros dros flwyddyn (1.9%) ac nid oes gan Bowys na Bae Abertawe lwybrau sy’n aros mwy na 2 flynedd.
Apwyntiadau cleifion allanol
- O ran amseroedd aros am dros flwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Caerdydd a’r Fro sydd â'r gyfran uchaf gyda 10.0% o lwybrau, ac nid oes gan Fae Abertawe unrhyw lwybrau sy’n aros.
Diagnosteg a therapïau
- Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfran uchaf o arosiadau diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (43.9%) tra mai Aneurin Bevan sydd â’r gyfran isaf (7.5%).
- O ran therapïau, Hywel Dda sydd â'r gyfran uchaf dros 14 wythnos (25.0%), nid oes gan Bowys a Bae Abertawe unrhyw lwybrau sy’n aros dros 14 wythnos.
Gwasanaethau canser
- Caerdydd a’r Fro sydd â'r gyfran uchaf o gleifion a ddechreuodd driniaeth o fewn 62 diwrnod (60.9%), a Betsi Cadwaladr sydd â'r gyfran isaf (53.9%).
Mae data manylach ar gael ar StatsCymru: iechyd a gofal cymdeithasol.
Ffigur 20: crynodeb o berfformiad byrddau iechyd lleol, Mai a Mehefin 2026 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 20: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad cymharol y byrddau iechyd ar gyfer mesurau dethol ar draws gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru. Caiff y prif bwyntiau eu crynhoi yn yr adran naratif uchod.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid bod yn ofalus wrth edrych ar faint y gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae’r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â’r datganiad ystadegol hwn ar gael yn adroddiad ansawdd y crynodeb o berfformiad a gweithgarwch y GIG.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig).
Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu’n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.
Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig (OSR) fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.
Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.
Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.
Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru, sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a byrddau iechyd lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.
Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi.
Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi’i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig).
Ansawdd
Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.
Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.
Gwerth
Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw:
- darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi
- hysbysu’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru
- galluogi darparwyr gwasanaethau fel byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain
Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.
Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru iachach
Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy.
Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag sy’n rhesymol yn ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi’r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Y diweddariad nesaf
20 Awst 2026
Hoffem gael adborth gennych
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

