Y Gronfa Twf Lleol: canllawiau
Sut bydd y Gronfa Twf Lleol yn gweithredu yng Nghymru.
Ar y dudalen hon
Sut i ddefnyddio’r canllawiau hyn
Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut bydd y Gronfa Twf Lleol (y Gronfa) yn gweithredu yn ymarferol yng Nghymru, gan gynnwys pob un o dair blynedd y Gronfa. Dylid eu darllen ochr yn ochr â Cronfa Twf Lleol: Cynllun Buddsoddi i Gymru, sy'n nodi fframwaith strategol, blaenoriaethau ac amcanion y Gronfa.
Mae'r ddogfen hon ar gyfer:
- Aelodau o'r cyhoedd a rhanddeiliaid, efallai y bydd y rhain am ganolbwyntio ar:
- Y Cyflwyniad
- Beth yw'r Gronfa Twf Lleol?
- Targedu blaenoriaethau Cymru
- Strwythur a model gweithredu'r Gronfa
- Partneriaid cyflawni, efallai y bydd y rhain am ganolbwyntio ar:
- Strwythur y gronfa a'r model gweithredu
- Pwy sy'n gymwys
- Cyllid a thaliadau
- Y broses gwneud cais ac asesu
- Monitro, adrodd, adolygu a gwerthuso
- Sicrwydd a chydymffurfio
Cyflwyniad
Mae'r Gronfa Twf Lleol yng Nghymru wedi cael ei chynllunio i fod yn rhaglen fuddsoddi mewn datblygu rhanbarthol i gefnogi twf cynhyrchiant mewn ardaloedd sydd â'r potensial i ddal i fyny, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd mewn ardaloedd o amddifadedd. Drwy wneud hynny, mae'n cyfrannu at genhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru i atgyfnerthu cynhyrchiant, codi safonau byw a chefnogi twf mwy cytbwys ledled Cymru, gan gynnwys cyfrannu'n uniongyrchol at nod cynhyrchiant cenedlaethol Llywodraeth Cymru i haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU o fewn deng mlynedd. Gallwn gyflawni hyn drwy gefnogi twf busnes, creu swyddi â thâl gwell ac atgyfnerthu economïau rhanbarthol. Bydd disgwyliad clir i gynlluniau rhanbarthol, portffolios rhanbarthol a buddsoddiadau unigol allu dangos eu bod yn cyfrannu at y nod cynhyrchiant cenedlaethol. Ar yr un pryd, bydd y Gronfa yn cyfrannu at y nodau ategol yng Nghynllun Newid Llywodraeth y DU i gynyddu Incwm Gwario Gwirioneddol Aelwydydd y pen a Chynnyrch Domestig Gros y pen.
Mae'r Gronfa yn cael ei chyflwyno yn raddol gyda chyfnod pontio. Yn 2026–27, mae cynllunio a goruchwylio'r gwaith o weithredu'r Gronfa yn cael ei arwain gan awdurdodau lleol arweiniol rhanbarthol, gan dynnu ar brofiad a chapasiti wedi'u datblygu drwy weinyddu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU rhwng 2022 a 2026. Yr awdurdodau lleol arweiniol ar gyfer pob rhanbarth yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (De-ddwyrain Cymru), Cyngor Abertawe (De-orllewin Cymru), Cyngor Sir Ceredigion (Canolbarth Cymru) a Chyngor Gwynedd (Gogledd Cymru).
Yn ystod 2027–29 (ac wedi hynny yn amodol ar unrhyw estyniad), bydd y cyfrifoldeb am gynllunio a goruchwylio gweithredu'r Gronfa yn cael ei drosglwyddo i Gyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau), a fydd yn arwain y cynllunio, y blaenoriaethu a dewis portffolios yn rhanbarthol. Bydd y CBCau yn atebol am weithredu'r Gronfa yn eu rhanbarth, gan dargedu cyllid, adeiladu portffolios prosiectau cydgysylltiedig, cyfuno buddsoddiadau ar draws y rhanbarth a chydweithio â rhanbarthau eraill ar fuddsoddiadau trawsranbarthol. Mae CBCau yn gyrff llywodraethu statudol, sy'n atebol yn ddemocrataidd ac yn galluogi awdurdodau lleol a phartneriaid i gydweithio'n ffurfiol ar raddfa ranbarthol ar swyddogaethau strategol mai'r ffordd orau o'u cynllunio a'u gweithredu yw ar draws ffiniau cynghorau. Mae'r Gronfa wedi'i chynllunio ledled y DU ac yng Nghymru i fod yn rhaglen ranbarthol, ac mae angen y dull strategol hwn.
Pwrpas y canllawiau hyn yw cefnogi cyrff rhanbarthol drwy amlinellu amcanion y Gronfa, y disgwyliadau ar bartneriaid cyflawni, a'r egwyddorion sy'n llywio penderfyniadau buddsoddi, llywodraethu a gweithredu. Mae'n darparu fframwaith ar gyfer cynllunio, gweithredu a sicrhau atebolrwydd, wedi'i alinio â blaenoriaethau a dyletswyddau statudol Llywodraeth Cymru, wrth alluogi rhanbarthau i dargedu buddsoddiadau lle y gallan nhw gael yr effaith fwyaf ar gynhyrchiant, cyflogau a chyfleoedd. Efallai y bydd canllawiau atodol ychwanegol yn cael eu darparu yn y dyfodol.
Y Gronfa Twf Lleol yng Nghymru: cipolwg
Beth yw'r Gronfa Twf Lleol?
Mae'r Gronfa Twf Lleol yn rhaglen fuddsoddi gwerth £546.5 miliwn sy'n cefnogi twf cynhyrchiant a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd ledled Cymru rhwng 2026 a 2029. Mae'n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi economi gryfach, fwy cynhyrchiol a mwy cynhwysol yng Nghymru.
Beth mae'n ei ariannu?
Mae'r Gronfa yn cefnogi buddsoddi mewn:
- busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol, gan gynnwys buddsoddiadau wedi'u targedu mewn busnesau newydd twf uchel, busnesau sy'n tyfu, ac ymchwil, datblygu ac arloesi;
- sgiliau a chymorth i helpu pobl i gael gwaith, gan ganolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen, cyfleoedd ar gyfer dilyniant a mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd;
- seilwaith rhanbarthol, gan gynnwys trafnidiaeth, ynni a safleoedd ac adeiladau strategol sy'n galluogi twf busnes a chefnogi cyfleoedd rhanbarthol.
Pwy sy'n penderfynu sut mae'r cyllid yn cael ei ddefnyddio?
Mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu fel y nodir yn y Cynllun Buddsoddi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol a'r genhadaeth economaidd ehangach. Yn ystod 2026–27, mae cynllunio a gweithredu'r Gronfa yn cael ei oruchwylio gan awdurdodau lleol arweiniol ar gyfer pob rhanbarth (sy'n cyfateb i ôl troed y CBCau). O 2027 ymlaen, bydd y CBCau yn arwain penderfyniadau cynllunio a buddsoddi rhanbarthol, gan sicrhau bod cyllid yn cael ei dargedu yn unol â chryfderau, cyfleoedd ac anghenion rhanbarthol.
Sut bydd Cymru ar ei hennill?
Nod y Gronfa yw cefnogi swyddi gwell, economïau rhanbarthol cryfach a thwf mwy cynhwysol, gan gyfrannu at gynhyrchiant uwch, cyflogau gwell a rhagor o gyfleoedd economaidd ledled Cymru. Mae'n cyd-fynd â buddsoddiadau rhanbarthol eraill, blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac anghenion economaidd hirdymor.
Beth yw'r Gronfa Twf Lleol?
Mae'r Gronfa Twf Lleol yn dwyn ynghyd gyllid cyfalaf a refeniw i fynd i'r afael â bylchau cynhyrchiant sydd wedi bodoli ledled Cymru ers amser maith, ac i alluogi busnesau i ehangu, arloesi a chystadlu'n effeithiol. Mae'n cefnogi dull buddsoddi sy'n seiliedig ar bortffolios, gan alluogi rhanbarthau i gyfuno seilwaith, cymorth busnes a gweithgarwch sgiliau mewn ffordd gydgysylltiedig ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Mae'r Gronfa yn gweithredu fel rhan o system fuddsoddi ranbarthol ehangach, gan ategu rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac yn cefnogi alinio rhwng amcanion economaidd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'n darparu fframwaith cyson ar gyfer cynllunio buddsoddi rhanbarthol, gyda ffocws ar ganlyniadau clir a threfniadau monitro a gwerthuso cymesur ledled Cymru.
Targedu blaenoriaethau Cymru
Mae'r Gronfa yn targedu blaenoriaethau Cymru drwy alinio gweithredu economaidd rhanbarthol â blaenoriaethau cenedlaethol ac anghenion lleol.
Twf cynhyrchiant
Mae Cronfa Twf Lleol: dadansoddiad economaidd-gymdeithasol, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r Cynllun Buddsoddi, yn nodi mai heriau parhaus a dwfn mewn perthynas â chynhyrchiant yw un o'r cyfyngiadau mwyaf ar economi Cymru. Mae'r Gronfa yn targedu buddsoddi tuag at weithgareddau sy'n cynyddu cynhyrchiant, cefnogi twf busnesau a gwella mynediad at sgiliau a chyflogaeth. Mae'n canolbwyntio ar ganlyniadau fel swyddi gwell, busnesau lleol cryfach a chyfranogiad economaidd gwell drwy cyflawni sy'n seiliedig ar leoedd sy'n adlewyrchu cryfderau, cyfleoedd a heriau rhanbarthol.
Yr effeithiau hirdymor
Mae'r Gronfa yn cefnogi cynllunio, atal, integreiddio a chydweithredu tymor hir. Disgwylir i fuddsoddiadau'r Gronfa gyd-fynd â strategaethau ehangach, ystyried canlyniadau tymor hir ac asesu effeithiau ar draws lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd a hyrwyddo twf teg
Mae penderfyniadau buddsoddi'n cael eu llywio gan dystiolaeth o angen a chyfleoedd, gan gynnwys gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol rhwng ardaloedd. Bydd hyn yn lleihau anghydraddoldebau economaidd ac yn hyrwyddo twf cynhwysol a theg. Nod y Gronfa yw mynd i'r afael â materion allweddol sy'n achosi anghydraddoldeb economaidd, megis cael gwared ar rwystrau sy'n atal y rhai sy'n economaidd anweithgar rhag cael swyddi. Mae dadansoddi economaidd-gymdeithasol yn dangos bod anweithgarwch economaidd, yn hytrach na diweithdra yn unig, yn her ganolog i'r farchnad lafur i Gymru.
Rydyn ni'n disgwyl i gyrff rhanbarthol ddangos yn glir y ffordd maen nhw wedi targedu eu cyllid tuag at ardaloedd sydd ar ei hôl, a lle mae'r potensial mwyaf ar gyfer dal i fyny, gan gynnwys ardaloedd nad ydyn nhw efallai yn denu arian gan ffynonellau buddsoddi eraill. Dylid ymdrin â buddsoddiadau mewn ffordd strategol sy'n seiliedig ar feysydd economaidd swyddogaethol, fel ardaloedd teithio i'r gwaith. Ni ddylai dulliau ar gyfer targedu a datblygu portffolios arwain at rannu cyllid rhwng awdurdodau lleol yn unig. Fel rhan o'r dull hwn, disgwylir i gyrff rhanbarthol ddatblygu mentrau neu ddulliau buddsoddi trawsranbarthol os bydd hynny'n briodol ac yn fuddiol, mae mentrau trawsranbarthol blaenorol wedi cynnwys Arfor, Blaenau'r Cymoedd, y Gororau ac eraill.
Newid hinsawdd, yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy
Drwy ganolbwyntio ar seilwaith, buddsoddi sy'n seiliedig ar le a chynllunio a blaenoriaethu rhanbarthol, mae'r Gronfa yn cefnogi datgarboneiddio, gwydnwch hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae gofynion ar lefel prosiect yn sicrhau bod twf economaidd yn cyd-fynd â chyfrifoldebau amgylcheddol.
Cydlyniant ar draws buddsoddi cyhoeddus a llywodraethu rhanbarthol
Mae'r Gronfa yn gweithredu ochr yn ochr â rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan gynnwys Bargeinion Dinas a Thwf, ymyriadau Busnes Cymru, Parthau Twf Seiliedig ar Sector (sy'n gysylltiedig â Strategaeth Ddiwydiannol y DU), Parthau Buddsoddi a Phorthladdoedd Rhydd, a dylid ei defnyddio i fynd i'r afael â bylchau mewn buddsoddiadau rhanbarthol, gwella alinio, lleihau dyblygu a sicrhau'r effeithiau mwyaf posibl. Dylid ei defnyddio i gefnogi cynllunio a chyflawni mwy cyd-gysylltiedig ar draws meysydd polisi megis datblygu clystyrau a safleoedd, adfywio, trafnidiaeth, sgiliau, cyflogadwyedd a chymorth busnes.
Strwythur a model gweithredu'r gronfa
Mae'r egwyddorion arweiniol yn darparu fframwaith ar gyfer y ffordd mae'r Gronfa Twf Lleol yn cael ei chynllunio, ei dyrannu a'i gweithredu. Maen nhw'n darparu pwynt cyfeirio cyffredin ar gyfer llywodraethu, gwerthuso a monitro, wrth ganiatáu hyblygrwydd i ymateb i anghenion a chyfleoedd rhanbarthol.
Mae themâu trawsbynciol wedi cael eu hymgorffori yn yr egwyddorion arweiniol yn dilyn adborth o'r ymgynghori, gan gydnabod bod cydraddoldeb, datblygu cynaliadwy (gan gynnwys gweithredu ar yr hinsawdd) a llesiant yn dylanwadu ar effeithiolrwydd ac effaith pob buddsoddiad. Mae'r rhestr lawn o egwyddorion arweiniol yn Atodiad B.
Dadansoddi economaidd-gymdeithasol
Mae'r Dadansoddiad economaidd-gymdeithasol yn rhoi trosolwg o'r cyd-destun economaidd, y farchnad lafur a'r seilwaith yng Nghymru ac mae wedi llywio cyfeiriad strategol Cynllun Buddsoddi'r Gronfa. Mae'n nodi tystiolaeth ar fylchau cynhyrchiant, gwahaniaethau rhanbarthol, anweithgarwch economaidd a chyfyngiadau seilwaith, gan gefnogi ffocws y Cynllun Buddsoddi ar dwf a arweinir gan gynhyrchiant a dal i fyny yn rhanbarthol.
Mae'r Dadansoddiad economaidd-gymdeithasol yn cwmpasu amrediad ehangach o faterion na'r rhai y bwriedir i'r Gronfa Twf Lleol eu hariannu. Mae'n cynnwys tystiolaeth mewn perthynas â materion fel tai a thlodi tanwydd, cyfrifoldebau gofal plant a gofal, gweithgarwch lles cymunedol, a gwasanaethau cyflogadwyedd ac ieuenctid generig. Mae'r meysydd hyn wedi cael eu cynnwys i ddarparu cyd-destun o ran-tirwedd economaidd, ac ni ddylid dehongli bod y meysydd hyn yn gymwys ar gyfer cymorth gan y Gronfa Twf Lleol.
Mae'r Cynllun Buddsoddi yn cymhwyso dystiolaeth y Dadansoddiad economaidd-gymdeithasol drwy flaenoriaethau ac amcanion y Gronfa Twf Lleol, y meini prawf cymhwysedd a'r fframwaith gwerthuso, sicrwydd a monitro. Mae hyn yn sicrhau bod buddsoddiadau'r Gronfa yn canolbwyntio ar yr ysgogiadau economaidd hynny lle y gall ychwanegu gwerth a chael effaith o ystyried y cymysgedd o gyllid a'r amserlenni tyn. Yn ymarferol, ni ddylid defnyddio tystiolaeth y Dadansoddiad economaidd-gymdeithasol yn sail i ddefnyddio cyllid y Gronfa Twf Lleol yn annibynnol ar gyfer iechyd, lles, tai, gofal plant na gwasanaethau cymunedol cyffredinol, nac ar gyfer darpariaeth busnes generig neu gyflogadwyedd heb sail resymegol glir ynghylch cynhyrchiant neu'r farchnad lafur. Dylai cynllun pob corff rhanbarthol ddangos ei fod yn cyd-fynd â'r prif ysgogwyr wedi'u hamlinellu yn y Cynllun Buddsoddi, wedi'u teilwra a'u blaenoriaethu yn ôl anghenion a chyfleoedd rhanbarthol.
Egwyddorion arweiniol y Gronfa Twf Lleol
Mae'r adran hon yn nodi sut mae'r Gronfa yn cael ei llywodraethu a'i gweithredu ar lefel genedlaethol, lefel ranbarthol a lefel leol.
Mae'r Gronfa Twf Lleol yng Nghymru yn cyfuno goruchwyliaeth strategol genedlaethol â chydgysylltu rhanbarthol a chyflawni lleol. Mae'n cael ei chefnogi gan drefniadau llywodraethu, sicrwydd ac atebolrwydd i sicrhau cysondeb, gwerth am arian a chyflawni'n effeithiol ledled Cymru.
Y Fframwaith polisi cenedlaethol a goruchwyliaeth
Mae'r Gronfa yn gweithredu o fewn fframwaith cenedlaethol a arweinir gan Lywodraeth Cymru sy'n gosod bwriad polisi cyffredinol, blaenoriaethau ac amodau'r Gronfa. O fewn y fframwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Cynllun Buddsoddi ar gyfer y Gronfa, wedi'i lywio gan drafodaethau â rhanddeiliaid, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gofynion Llywodraeth y DU ac amcanion Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â sefydlu trefniadau llywodraethu a goruchwylio ar gyfer cyflawni. Mae hefyd yn sefydlu'r gofynion monitro, gwerthuso a rheoli risg sy'n berthnasol ar draws yr Gronfa. Gweler Atodiad C am ddisgrifiad llawn o'r fframwaith llywodraethu ac atebolrwydd.
Mae'r fframwaith cenedlaethol hwn yn sicrhau cysondeb a chydgysylltu ledled Cymru, wrth hefyd ganiatáu hyblygrwydd o ran sut mae cyllid yn cael ei ddefnyddio'n rhanbarthol. Mae'r rhan fwyaf o gyllid y Gronfa wedi cael ei ddatganoli i ranbarthau, gan adlewyrchu rôl strategol rhanbarthau wrth ddeall cryfderau, heriau a chyfleoedd economaidd rhanbarthol a lleol, a'r angen am flaenoriaethu a thargedu cyllid yn glir i lunio portffolios buddsoddi sy'n cael eu llywio gan dystiolaeth a strategaethau rhanbarthol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y cyllid hwn a bydd angen iddo ddangos i'r Senedd a Llywodraeth y DU fod y Cynllun Buddsoddi yn cael ei gyflawni yn unol â'r bwriad.
O dan ddyluniad rhanbarthol y Gronfa mae cyllid a chyfrifoldeb yn cael eu dirprwyo'n amodol gan Lywodraeth Cymru i gyrff rhanbarthol, yn seiliedig ar y dull rhanbarthol a nodir yn y Cynllun Buddsoddi. Bydd angen i ranbarthau ymgymryd â rôl strategol i flaenoriaethu amcanion, targedu cyllid, datblygu portffolios rhanbarthol a goruchwylio cyflawni. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau cydgysylltu strategol, osgoi dyblygu a pheidio â lledaenu cyllid yn rhy denau. Mae hefyd yn golygu bod cyrff rhanbarthol yn wirioneddol atebol, yn hytrach na'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru. Felly, ni ddylai cyrff rhanbarthol ond trosglwyddo'r holl gyllid neu ddirprwyo pob penderfyniad i awdurdodau lleol unigol. Byddai gwneud hynny'n tanseilio bwriad polisi strategol y Cynllun Buddsoddi a'r dull rhanbarthol.
Efallai y bydd rhai ymyriadau yn cael eu cynllunio neu eu rheoli ar lefel drawsranbarthol neu Gymru gyfan os bydd hyn yn cynnig manteision clir, megis arbedion maint, gweithgarwch arloesi cydgysylltiedig neu fynediad at arbenigedd. Pan ddefnyddir y dull hwn, disgwylir i brosiectau Cymru gyfan gynnwys mecanweithiau cyflawni lleol a/neu ranbarthol i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol fel y sy'n briodol. Gall prosiectau trawsranbarthol neu Gymru gyfan gael eu cychwyn gan gyrff rhanbarthol yn gweithio gyda'i gilydd, neu gael eu hwyluso gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â'r cyrff rhanbarthol.
Amcanion buddsoddi a thargedu
Mae'r Gronfa Twf Lleol yn gweithredu drwy ddull portffolios, gyda buddsoddiadau wedi'u cynllunio i weithio gyda'i gilydd ym mhob rhanbarth fel pecyn cydgysylltiedig i fynd i'r afael ag anghenion a chyfleoedd penodol. Mae dewislen o amcanion y disgwylir i ranbarthau eu dewis wedi'u hamlinellu yn y Cynllun Buddsoddi. Dylai fod sail resymegol glir gan bob rhanbarth dros yr amcanion mae'n dewis eu blaenoriaethu a'r cyllid sy'n gysylltiedig â phob un, ni ddisgwylid dewis pob amcan gan y byddai gwneud hyn yn debygol o ledaenu'r cyllid yn rhy denau ac yn cyfyngu ar yr effaith y bydd yn ei chael. Mae'r dull yn galluogi rhanbarthau i gyfuno seilwaith, cymorth busnes, cymorth cyflogadwyedd a gweithgarwch sgiliau mewn ffordd gydgysylltiedig; alinio â ffrydiau ariannu eraill a blaenoriaethu'r adnoddau sydd ar gael i fanteisio i'r eithaf ar yr effaith gronnol.
Dylid gwneud dewisiadau ar lefel ranbarthol i fireinio'r opsiynau a nodir yn y Cynllun Buddsoddi cenedlaethol ymhellach. Dylai hyn gynnwys targedu dulliau ar lefel thematig (e.e. mathau o fusnes neu sectorau sy'n cael eu blaenoriaethu, carfanau penodol sy'n economaidd anweithgar neu safleoedd wedi'u nodi mewn cynlluniau rhanbarthol) a lefel ofodol (e.e. ardaloedd lle mae anweithgarwch economaidd uwch, i fanteisio ar gyfleoedd rhanbarthol penodol, neu fynd i'r afael â bylchau hyfywedd ar gyfer ardaloedd lle y bu diffyg buddsoddi yn y gorffennol). Dylai dulliau targedu gofodol fod yn seiliedig ar ardaloedd economaidd swyddogaethol, yn hytrach na defnyddio ffiniau awdurdodau lleol yn unig, er enghraifft ardaloedd teithio i'r gwaith. Dylai targedu gofodol hefyd ystyried cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch trawsranbarthol neu drawsffiniol lle y gallai cydweithio â rhanbarthau eraill helpu i sicrhau manteision.
Mae'r blaenoriaethau a'r amcanion yn canolbwyntio buddsoddi ar feysydd sydd â'r potensial mwyaf i godi cynhyrchiant a lleihau anghydraddoldebau economaidd. Maen nhw'n cefnogi busnesau mwy cynhyrchiol ac arloesol, rhagor o gyfranogiad a dilyniant yn y farchnad lafur ar gyfer grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli, ac yn cyfrannu tuag at welliannau mewn cynhyrchiant, incwm a chynhwysiant economaidd.
Mae'r blaenoriaethau yn rhyng-gysylltiedig a dylid eu hystyried gyda'i gilydd. Nid oes angen i weithgareddau'r prosiect gael eu cyfyngu i un flaenoriaeth yn unig, ond at ddibenion monitro gwariant bydd angen i bob prosiect gael ei ddyrannu i'r flaenoriaeth y mae'r rhan fwyaf o'r gweithgareddau yn cyd-fynd â hi. Fodd bynnag, mae allbynnau a chanlyniadau o'r gyfres gyfan yn berthnasol, nid y rhai yn y flaenoriaeth a ddyrannwyd yn unig. Gweler y cynllun buddsoddi am y rhestr lawn o flaenoriaethau ac amcanion.
Cynllunio a gweithredu yn y flwyddyn bontio gan awdurdodau lleol arweiniol ar gyfer pob rhanbarth
Yn ystod y flwyddyn bontio (Ebrill 2026 i Mawrth 2027), bydd y gwaith o weithredu'r Gronfa yn cael ei arwain gan yr awdurdodau lleol arweiniol ym mhob rhanbarth (sy'n cyd-fynd ag ôl troed y CBCau), gan adeiladu ar gapasiti a ddatblygwyd drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae awdurdodau lleol arweiniol yn gyfrifol am reoli cyllid a gweithredu'r Gronfa ac am gyflwyno Cynlluniau Pontio i Lywodraeth Cymru sy'n nodi'r buddsoddiadau arfaethedig, cerrig milltir, allbynnau a chanlyniadau. Byddan nhw'n yn atebol am sicrhau bod y portffolios yn eu rhanbarth yn cyd-fynd yn strategol.
Rhaid i gyflawni yn ystod y flwyddyn bontio gyd-fynd ag amcanion y Gronfa Twf Lleol ac uchelgais y rhanbarth ar gyfer yr hirdymor. Mae cefnogi'r gwaith o newid i fodel cyflawni a arweinir gan CBCau yn ganlyniad cyflawni gorfodol ar gyfer awdurdodau lleol arweiniol. Byddwn yn gweithio gyda phob rhanbarth i asesu cynnydd tuag at barodrwydd y CBCau yn yr adolygiad chwe misol, a fydd yn llywio penderfyniadau ynghylch cyllid yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth am yr adolygiad chwe misol ar gael yn yr adran 'Gofynion Monitro'. Rydyn ni'n datblygu rhagor o fanylion ar sut y bydd parodrwydd y CBCau y cael ei asesu, a byddwn yn trafod hyn gyda chyrff rhanbarthol maes o law.
Cynllunio a goruchwylio rhanbarthol drwy Gyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau)
O 2027 ymlaen, bydd cyfrifoldeb am y dull strategol o gynllunio, blaenoriaethu, datblygu portffolios a goruchwylio yn trosglwyddo i CBCau. Bydd y CBCau yn arwain y gwaith o ddatblygu Cynlluniau Twf Rhanbarthol fel rhan o weledigaeth ranbarthol hirdymor, gan weithio gyda phartneriaid, cymunedau, Llywodraeth Cymru a dinasyddion i ddarparu fframwaith cydgysylltiedig a democrataidd atebol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol. Mae'r dull rhanbarthol hwn, sy'n seiliedig ar le, yn ystyried anghenion a chyfleoedd economaidd rhanbarthol, yn ystyried sut mae'r dirwedd fuddsoddi bresennol yn ymdrin â'r anghenion a'r cyfleoedd hynny ac yn nodi bylchau a blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi. Fel rhan o'r Cynllun Twf Rhanbarthol hwnnw, gofynnir i'r CBCau nodi sut y bydd y Gronfa yn cael ei defnyddio i fuddsoddi mewn rhai o'r bylchau hynny a'r ffordd mae'n cefnogi alinio â gweithgareddau eraill yn y rhanbarth fel Parthau Buddsoddi, Bargeinion Dinas a Thwf, Porthladdoedd Rhydd, buddsoddi preifat, cynlluniau trafnidiaeth, a mentrau economaidd eraill. Bydd canllawiau pellach ar gynnwys y Cynllun Twf Rhanbarthol yn cael eu cyhoeddi ar wahân.
Pwy sy'n gymwys
Gellir dyfarnu cyllid ar gyfer prosiect i unrhyw gorff priodol sydd wedi cael ei gymeradwyo gan y corff rhanbarthol perthnasol. Mae corff priodol yn un sydd â chyfansoddiad cyfreithiol sy'n ei alluogi i dderbyn a rheoli cyllid cyhoeddus ac sy'n dderbyniol i'r corff rhanbarthol.
Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth gan y Gronfa Twf Lleol, rhaid i brosiectau ddangos alinio strategol cryf â blaenoriaethau ac amcanion y Gronfa, blaenoriaethau ehangach Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a strategaethau rhanbarthol perthnasol, a rhaid iddyn nhw fod yn gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Un o'r prif ffactorau y dylid ei hystyried yw a all y cynnig ddangos ei fod yn cyfrannu at y nod cynhyrchiant, yn enwedig mewn ardaloedd sydd ymhellach ar ei hôl.
Dylai prosiectau a ariennir drwy'r Gronfa allu dangos yn glir y gallen nhw gyflawni (neu gyfrannu at gyflawni) rhai o'r allbynnau wedi'u cynnwys yn Fframwaith Dangosyddion y Gronfa Twf Lleol i Gymru o fewn cyfnod y rhaglen. Dylid disgwyl iddyn nhw hefyd gynhyrchu (neu gyfrannu tuag at gynhyrchu) rhai o'r canlyniadau sydd wedi'u cynnwys yn y fframwaith, naill ai o fewn cyfnod y rhaglen neu dros yr hirdymor. Ni ddylid cefnogi prosiectau drwy'r Gronfa os nad oes ganddyn nhw ragolygon realistig o gyflawni allbynnau a chynhyrchu canlyniadau sydd wedi'u cynnwys yn y fframwaith.
Rhaid i brosiectau ychwanegu gwerth, osgoi dyblygu â rhaglenni cyllid eraill ac ystyried cyfleoedd i fanteisio i'r eithaf ar fuddsoddiadau gan Sefydliadau Cyllid Cyhoeddus. Rhaid iddyn nhw gynnwys gweithgareddau cymwys sy'n rhan o bortffolio buddsoddi cydlynol a dangos bod cyflawni yn ymarferol o fewn amserlenni'r Gronfa, gyda cherrig milltir, trefniadau rheoli risg a threfniadau partneriaeth clir.
Gellir defnyddio cyllid i gefnogi astudiaethau dichonoldeb, ar yr amod bod y prosiect sy'n cael ei asesu yn cyd-fynd ag amcanion a meini prawf y Gronfa. Er nad oes allbynnau / canlyniadau penodol yn ymwneud ag astudiaethau dichonoldeb wedi'u cynnwys yn Fframwaith Dangosyddion y Gronfa Twf Lleol i Gymru, bydden ni'n ystyried bod cyllid i gefnogi astudiaethau dichonoldeb yn gymwys pe bai llwybr clir i brosiect yn y dyfodol a fyddai'n cyflawni allbynnau a/neu ganlyniadau sydd wedi'u cynnwys yn y fframwaith dangosyddion, naill ai o fewn neu y tu hwnt i gyfnod y rhaglen. Pan fydd rhanbarthau'n ystyried nifer o opsiynau buddsoddi posibl (er enghraifft, sawl safle gwahanol), ni fyddai comisiynu astudiaethau dichonoldeb ar gyfer pob opsiwn yn rhoi gwerth da am arian. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai rhanbarthau flaenoriaethu a chwynnu opsiynau cyn comisiynu gwaith dichonoldeb manwl, gan sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio mewn modd cymesur ac effeithiol. Gallai blaenoriaethu gael ei lywio gan feini prawf fel alinio strategol â blaenoriaethau'r Gronfa, y tebygolrwydd o gyflawni o fewn yr amserlenni gofynnol, gwerth dangosol am arian, effeithiau economaidd a chymdeithasol bosibl, risgiau o ran cyflawni, a'r lefel o gefnogaeth ymhlith rhanddeiliaid neu bartneriaid.
Rhaid i brosiectau fodloni safonau gofynnol ar gyfer llywodraethu, monitro a gwerthuso, a chydymffurfio â'r holl ddyletswyddau statudol perthnasol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chydraddoldeb, y Gymraeg, yr amgylchedd a hawliau plant. Rhaid bod modd datrys unrhyw fylchau a nodwyd cyn eu cymeradwyo. Disgwylir i brosiectau ymgorffori ystyriaethau'r Gymraeg yn llawn wrth gefnogi bywiogrwydd cymunedau Cymraeg eu hiaith, sy'n golygu bod y Gymraeg yn cael ei hystyried a'i hintegreiddio'n weithredol ym mhob cam o ddylunio a chyflawni'r prosiect. Mae hyn yn rhagori ar gydymffurfio â gofynion dwyieithog ac yn cynnwys ystyried effeithiau, manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, ac ymgorffori darpariaeth y Gymraeg o fewn modelau darparu gwasanaethau a chynllunio'r gweithlu.
Anogir defnyddio cyllid ychwanegol ochr yn ochr â'r Gronfa Twf Lleol i gefnogi buddsoddiadau sy'n atgyfnerthu cyflawni ac yn sicrhau'r effeithiau mwyaf posibl. Mae hyn yn cynnwys manteisio ar raglenni ategol, gan gynnwys rhaglenni Llywodraeth y DU, buddsoddiadau cyllid preifat, a ffrydiau ariannu lle mae alinio clir ag amcanion a gwerth ychwanegol clir.
Wrth wneud hynny, dylai cynigion adlewyrchu arferion da o ran defnyddio cyllid cyhoeddus, gan gynnwys defnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod unrhyw alinio â ffynonellau arian eraill yn darparu ychwanegedd clir, yn rhoi gwerth am arian ac yn osgoi dyblygu'r cymorth presennol.
Gweithgareddau anghymwys
Mae'r Gronfa Twf Lleol wedi cael ei chynllunio i gefnogi twf cynhyrchiant ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd ledled Cymru. Ni fydd yn cefnogi gweithgareddau sydd y tu hwnt i'w phwrpas economaidd craidd. Gall gweithgareddau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau ac amcanion y Gronfa, ac nad ydyn nhw ar y rhestr o weithgareddau anghymwys, fod yn gymwys i gael cyllid.
Gweithgareddau nad ydyn nhw'n cyd-fynd â blaenoriaethau ac amcanion y Gronfa
Ystyrir bod gweithgaredd yn anghymwys os nad yw'n cyd-fynd yn glir ag un neu fwy o flaenoriaethau ac amcanion y Gronfa, neu os nad yw'n glir y bydd yn arwain at allbynnau a chynhyrchu canlyniadau sydd wedi'u cynnwys yn Fframwaith Dangosyddion y Gronfa Twf Lleol i Gymru, o fewn neu y tu hwnt i gyfnod ariannu'r rhaglen. Rhaid i bob Cynllun Twf Rhanbarthol ddangos theori glir o newid sy'n cysylltu buddsoddiadau â thwf cynhyrchiant a lleihau anghydraddoldebau economaidd. Rhaid i bob prosiect allu dangos ei fod yn cyfrannu'n uniongyrchol at amcanion yn y Cynllun Buddsoddi ac unrhyw gynllun rhanbarthol y mae'n cael eu hariannu oddi tano.
Gweithgareddau sy'n dyblygu darpariaeth neu ffrydiau ariannu presennol
Ni fydd y Gronfa yn cefnogi gweithgareddau sy'n dyblygu darpariaeth neu ffrydiau ariannu presennol, gan gynnwys gwasanaethau statudol, rhaglenni sefydledig Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, neu fuddsoddiadau eraill sy'n seiliedig ar le fel Bargeinion Dinas a Thwf, Parthau Buddsoddi neu Borthladdoedd Rhydd. Ei phwrpas yw ategu'r buddsoddiadau ehangach hynny ac i dargedu buddsoddi i feysydd a allai fod eisoes yn denu lefelau sylweddol o fuddsoddi cyhoeddus a phreifat neu lle mae bylchau yn y ddarpariaeth. Pan fydd cynigion yn ategu'r ddarpariaeth bresennol, rhaid iddyn nhw ddangos ychwanegedd clir, gan ddangos sut mae buddsoddiadau'r Gronfa Twf Lleol yn ategu ac yn gwella gweithgareddau presennol drwy estyn maint, cyrhaeddiad neu ganlyniadau, yn hytrach na'u disodli neu eu hefelychu. Os bydd ansicrwydd ynghylch a yw cynnig yn dyblygu neu'n ategu'r ddarpariaeth bresennol, gellir ystyried y pwyntiau canlynol:
- Ychwanegedd
- Beth fydd yn cael ei gyflawni yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol?
- Osgoi disodli
- Pa gyllid neu ddarpariaeth bresennol sydd ar waith, a sut yr osgoir disodli'r ddarpariaeth hon?
- Ategu
- Sut mae ymyrraeth yr Gronfa Twf Lleol yn cyd-fynd â rhaglenni eraill ac yn eu gwella?
- Y sail resymegol dros gyflawni
- Pam mai'r Gronfa hon (yn hytrach na ffrydiau ariannu presennol) yw'r mecanwaith priodol?
Gweithgareddau cymdeithasol, lles neu gymunedol cyffredinol heb unrhyw effaith economaidd glir
Ni fydd gweithgareddau sy'n canolbwyntio'n bennaf ar y gymdeithas, lles neu'r gymuned yn cael eu cefnogi oni bai eu bod yn gwneud cyfraniad clir a mesuradwy at ganlyniadau economaidd fel yr amlinellir yn y Cynllun Buddsoddi a dogfennau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys datblygu cymunedol cyffredinol neu weithgareddau cydlyniant nad ydyn nhw wedi'u hymgorffori'n glir mewn tystiolaeth ehangach yn seiliedig ar ymyrraeth economaidd.
Darparu gwasanaeth refeniw yn unig heb unrhyw effaith drawsnewidiol neu barhaol
Nid yw gweithgareddau refeniw yn unig sy'n cynnal darpariaeth bresennol neu'n ariannu gwasanaethau craidd parhaus heb ddarparu effaith economaidd drawsnewidiol neu barhaol yn gymwys. Pan ganiateir cyllid refeniw, rhaid iddo fod wedi'i gyfynu o ran amser, a rhaid dangos yn glir fod ei angen er mwyn galluogi buddsoddiadau trawsnewidiol sy'n gwella cynhyrchiant, yn hytrach na darparu gwasanaethau rheolaidd. Dylai pob prosiect gynnwys strategaethau ymadael clir i osgoi creu dibyniaeth ariannu.
Prosiectau bach neu leol heb unrhyw effaith ranbarthol neu strategol
Ni fydd y Gronfa yn cefnogi prosiectau bach neu leol iawn sydd heb sail resymegol glir ar lefel ranbarthol glir nac yn cael effaith strategol. Rhaid i bob prosiect ddangos sut mae'n cyfrannu at ganlyniadau economaidd cydgysylltiedig, rhanbarth cyfan sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol y cytunwyd arnyn nhw.
Gweithgareddau wedi'u hanelu'n bennaf at blant a phobl ifanc o dan 16 oed
Er mwyn targedu'r cyllid refeniw sydd ar gael yn ofalus, nid yw gweithgareddau sydd wedi'u hanelu'n bennaf at blant a phobl ifanc o dan 16 oed yn gymwys i gael cymorth gan y Gronfa. Mae hyn yn cynnwys gwaith ieuenctid neu raglenni ymgysylltu, gweithgareddau cyfoethogi neu les sy'n canolbwyntio ar blant, darpariaeth yn ystod y gwyliau, cynlluniau gofal neu chwarae ar gyfer plant, a chymorth cyrhaeddiad neu gymorth addysg analwedigaethol ar gyfer plant oedran ysgol. Mae'n fwy priodol bod gweithgareddau o'r fath yn cael eu cefnogi drwy fframweithiau polisi addysg, ieuenctid, teulu neu gymunedol.
Eithriad yw y gall unigolion sydd wedi cyrraedd y Dyddiad Gadael Ysgol Statudol sy'n 15 oed fod yn gymwys i gael cymorth drwy'r Gronfa, ar yr amod eu bod wedi cyrraedd y Dyddiad Gadael Ysgol Statudol ar yr adeg y maen nhw'n dechrau cymryd rhan mewn gweithgareddau a ariennir gan y Gronfa. Yn ogystal, gellir ystyried buddsoddiadau cyfalaf neu seilwaith os gellir dangos yn glir y bydd effeithiau economaidd yn y dyfodol ac y bydd yr ased neu'r cyfleuster yn cael ei ddefnyddio'n bennaf gan fuddiolwyr ôl-16 neu oedran gweithio.
Canllawiau ar daliadau a chydymffurfedd
Mae rhai costau penodol yn anghymwys, gan gynnwys hyfforddiant staff gorfodol, alcohol, dirwyon, cosbau, a TAW y gellir ei hadennill.
Cyllid a thaliadau
Mae'r adran hon yn nodi'r strwythur ariannu, y fframwaith dyrannu gofodol a thematig, a'r amodau sy'n berthnasol i dalu cyllid y Gronfa Twf Lleol.
Y rhaniad rhwng cyllid cyfalaf a chyllid refeniw
Y rhaniad ar gyfer darparu'r Gronfa ledled Cymru yw 70 y cant cyfalaf a 30 y cant refeniw. Felly mae'n bosibl y bydd prosiectau unigol yn cynnwys cyllid cyfalaf yn unig neu gyllid refeniw yn unig, er y bydd llawer o brosiectau'n cynnwys cyfuniad o'r ddau.
Bwriad cyllid cyfalaf y Gronfa yw cefnogi twf cynhyrchiant, yn enwedig drwy fuddsoddi mewn seilwaith strategol, safleoedd busnes, trafnidiaeth, ynni ac asedau arloesi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio lliniaru rhwystrau'r amlen refeniw gyfyngedig drwy flaenoriaethu cyllid refeniw ar gyfer ymyriadau sydd fwyaf dibynnol arno, yn fwyaf nodedig cymorth i helpu pobl i gael gwaith ac i gynyddu sgiliau.
Os defnyddir y Gronfa i ddatblygu, creu, prynu neu wella asedau cyfalaf, yn enwedig ond nid yn unig tir ac eiddo, dylid rhoi rheolaethau a threfniadau monitro priodol ar waith sy'n sicrhau bod yr ased yn cael ei ddefnyddio at y diben mae'r cyllid yn cael ei ddyfarnu ar ei gyfer am bum mlynedd. Dylai rheolaethau a threfniadau monitro ganiatáu adennill cyllid, o fewn y cyfnod o bum mlynedd yn unig, oddi wrth y derbynnydd, os yw asedau'n cael eu gwerthu neu'n peidio â chael eu defnyddio at y dibenion mae'r cyllid wedi cael eu darparu ar eu cyfer, yn llawn neu'n rhannol.
Dyraniadau gofodol a thematig
Mae cyllid y Gronfa Twf Lleol wedi cael eu dyrannu ar draws rhanbarthau ar sail ofodol i ategu buddsoddi teg, tryloyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth ledled Cymru, yn unol ag amcanion mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd a chefnogi twf cynhyrchiant. O 2027–28 ymlaen, mae dyraniadau rhanbarthol dangosol wedi cael eu pennu gan ddefnyddio methodoleg ddyrannu sy'n pwysoli lefelau cymharol o amddifadedd, cynhyrchiant a gwledigrwydd. Yn benodol, mae dyraniadau'n cael eu llywio gan fynegai cyfansawdd sy'n cynnwys 60 y cant yn seiliedig ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, 30 y cant yn seiliedig ar lefelau cynhyrchiant cymharol, a deg y cant yn seiliedig ar wledigrwydd a theneurwydd, sy'n adlewyrchu'r rhwystrau ychwanegol i dwf mae ardaloedd mwy ymylol â phoblogaeth lai dwys yn eu hwynebu.
Yn ystod y flwyddyn bontio (2026–27), mae dyraniadau rhanbarthol yn adlewyrchu blwyddyn olaf y Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddarparu sefydlogrwydd a rhagweladwyedd at ddibenion cynllunio ac i gefnogi symud yn esmwyth i'r model cyflawni dan arweiniad CBCau. O 2027–28 ymlaen, bydd dyraniadau yn cael eu gwneud yn unol â'r fethodoleg y cytunwyd arni wedi'i nodi uchod, yn amodol ar ddatblygu a chymeradwyo Cynlluniau Twf Rhanbarthol.
Ochr yn ochr â dosbarthiad gofodol y cyllid, mae dyraniadau thematig wedi cael eu gosod ar lefel genedlaethol i gefnogi cyflawni blaenoriaethau'r Gronfa mewn ffordd gytbwys ledled Cymru, fel y nodir yn y Cynllun Buddsoddi. Mae'r dyraniadau thematig hyn yn adlewyrchu proffil ariannu cyffredinol y Gronfa, gan gynnwys y rhaniad o 70 y cant ar gyfer cyfalaf a 30 y cant ar gyfer refeniw, tystiolaeth yn y dadansoddiad economaidd-gymdeithasol a'r ymgynghoriad, a'r angen i gefnogi twf cynhyrchiant drwy gyfuniad o fuddsoddi mewn busnes, sgiliau a seilwaith galluogi.
Ar gyfer y cyfnod ôl-bontio, mae'r fframwaith thematig cenedlaethol yn darparu bod cyfran sylweddol o'r cyllid cyfalaf yn cael ei gyfeirio tuag at Flaenoriaeth 3 (Gwella seilwaith rhanbarthol), gan gydnabod bod buddsoddi mewn seilwaith yn ddwys o ran cyfalaf. Mae cyllid cyfalaf hefyd yn cael ei ddyrannu i Flaenoriaeth 1 (Busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol) i gefnogi ymchwil, datblygu ac arloesi a buddsoddi mewn busnesau twf uchel. Mae cyllid refeniw yn cael ei bwysoli'n gryfach tuag at Flaenoriaeth 2 (Cynyddu sgiliau a chefnogi pobl i gael gwaith), gan adlewyrchu pwysigrwydd mynd i'r afael â bylchau sgiliau ac anweithgarwch economaidd wrth gefnogi twf cynhyrchiant hirdymor, gyda chymorth refeniw ychwanegol ar gyfer gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar fusnesau a chyflawni seilwaith pan fydd angen.
Rhaid i gyrff rhanbarthol ddatblygu portffolios buddsoddi sy'n gweithredu o fewn eu hamlen ariannu ranbarthol gyffredinol a chyfrannu gyda'i gilydd at gyflawni'r cydbwysedd thematig y cytunwyd arno ledled Cymru. Er bod rhanbarthau'n cadw'r hyblygrwydd i lunio portffolios sy'n adlewyrchu anghenion, cyfleoedd a thystiolaeth leol, rhaid defnyddio cyllid mewn ffordd sy'n gyson â'r fethodoleg ddyrannu ofodol a'r fframwaith thematig a amlinellir yn y Cynllun Buddsoddi. Rhoddir yr hyblygrwydd i gyrff rhanbarthol i symud hyd at 30% o'r cyllid rhwng blaenoriaethau buddsoddi, gan adlewyrchu'r hyblygrwydd a roddir i Lywodraeth Cymru yn y cytundeb â Llywodraeth y DU. Os bydd newidiadau cronnol sylweddol gan gyrff rhanbarthol yn arwain at risg o fynd y tu hwnt i'r goddefiannau cenedlaethol, mae'n bosibl y bydd angen ailystyried yr hyblygrwydd hwn. Mae'n bwysig cynnal deialog reolaidd ynghylch cynlluniau a chyflawni er mwyn osgoi hyn.
Gweinyddu ac adeiladu capasiti
Mae costau gweinyddol wedi cael eu capio ar bedwar y cant o gyfanswm dyraniadau'r Gronfa ym mhob blwyddyn ariannol. Mae'r cap hwn yn berthnasol ar draws y rhaglen ac yn sicrhau bod y rhan fwyaf o'r cyllid yn cael ei gyfeirio at gyflawni, wrth ganiatáu ffordd gymesur o reoli, llywodraethu a darparu sicrwydd ynghylch rhaglenni. Gall costau gynnwys cyfuniad o wariant refeniw a gwariant cyfalaf a byddan nhw'n cael eu monitro yn erbyn costau gweinyddu gwirioneddol wedi'u hysgwyddo wrth i'r Gronfa gael ei rheoli a'i gweinyddu.
Er mwyn cydnabod yr angen i adeiladu capasiti a gallu o fewn y CBCau, cyn iddyn nhw ddechrau arwain y cyflawni'n llawn, dyrannwyd £800,000 o gyllid refeniw yn 2026–27 i gefnogi datblygu'r Cyd-bwyllgorau, sy'n cyfateb i £200,000 fesul Cyd-bwyllgor. Darperir y cyllid hwn i gefnogi gwaith partneriaeth cryfach, tryloywder a pharatoi Cynlluniau Twf Rhanbarthol ac fe'i cynhwysir o fewn y cap gweinyddol cyffredinol. Gellir defnyddio'r cyllid hefyd i adeiladu capasiti a gallu o fewn y Cyd-bwyllgor i ymgymryd â'r swyddogaethau a'r rolau wrth oruchwylio'r gwaith o weithredu'r Gronfa Twf Lleol o fis Ebrill 2027.
Buddsoddi Cymru gyfan
O 2027–28 ymlaen, bydd dyraniad cyfalaf ar gyfer Cymru gyfan o tua £25,000,000 y flwyddyn yn cefnogi ymyriadau ar lefel ranbarthol a chenedlaethol lle mae'r rhain yn cynnig manteision clir, megis arbedion maint, mynediad at arbenigedd neu lai o ddyblygu. Mae'r dyraniad hwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf yn unig, gyda'r holl gyllid refeniw yn aros ar y lefel ranbarthol. Mae dyraniadau rhanbarthol dangosol ar gyfer cyllid cyfalaf i Gymru gyfan wedi cael eu cynnwys yn y Cynllun Buddsoddi i ddangos y disgwyliadau wrth weithredu'r ymyriadau Cymru gyfan hynny ar lefel rhanbarthol a lleol.
Bydd y gwaith o gydlynu buddsoddiadau Cymru gyfan posibl ar gyfer y cyllid dangosol hwn yn cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru a bydd syniadau posibl yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â rhanbarthau a rhanddeiliaid cenedlaethol. Mae unrhyw fuddsoddi ar gyfer Cymru gyfan yn amodol ar ddatblygu a chymeradwyo achosion busnes cadarn sy'n dangos budd rhanbarthol clir ac alinio â blaenoriaethau ac amcanion y Gronfa Twf Lleol. Bydd opsiynau cyflawni'n ystyried opsiynau rhanbarthol a lleol i sicrhau gweithredu cytbwys.
Anogir cyrff rhanbarthol i ystyried opsiynau ar gyfer gweithgareddau trawsranbarthol neu Gymru gyfan ar eu pennau eu hunain neu i ofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynigion. Gallai hyn gynnwys ar draws rhanbarthau yng Nghymru, yn unol â mentrau trawsranbarthol blaenorol fel Arfor neu ar draws Blaenau'r Cymoedd, neu drawsffiniol, gyda rhanbarthau yn Lloegr neu gydag Iwerddon.
Y Broses Asesu Cynlluniau Rhanbarthol
Mae'r Gronfa Twf Lleol yn gweithredu model ariannu dan arweiniad cynlluniau. Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwahodd nac asesu cynigion prosiect annibynnol, ac eithrio prosiectau Cymru gyfan neu drawsranbarthol. Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid yn cael ei gynllunio a'i oruchwylio yn rhanbarthol, gyda phortffolios prosiectau'n cael eu datblygu ar y lefel ranbarthol honno. Felly, gwneir penderfyniadau ariannu ar sail Cynlluniau Pontio (yn ystod 2026–27) a Chynlluniau Twf Rhanbarthol (o 2027 ymlaen), y bwriedir iddyn nhw nodi portffolios cydgysylltiedig o weithgareddau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau ac amcanion y Gronfa Twf Lleol. Mae prosiectau unigol yn cael eu datblygu, eu cymeradwyo a'u rheoli o fewn y fframwaith yn y cynlluniau y cytunwyd arnyn nhw. Mae cyrff rhanbarthol yn atebol am sicrhau portffolio o brosiectau wedi'i flaenoriaethu a'i dargedu, bod penderfyniadau buddsoddi yn strategol, yn gydgysylltiedig ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a bod prosiectau gyda'i gilydd yn cyfrannu at-ganlyniadau economaidd rhanbarthol a chenedlaethol yn hytrach na chael eu hasesu ar wahân.
Anogir cyrff rhanbarthol i gydweithio ar draws pob sector a sefydliad e.e. addysg uwch / addysg bellach, y trydydd sector, y sector preifat ac ati wrth gynhyrchu eu cynlluniau rhanbarthol. Anogir cyrff rhanbarthol hefyd i fod yn ymwybodol o gynigion rhanbarthau cyfagos, yn enwedig ar gyfer cynlluniau cyfalaf, ac i sicrhau bod eu cynlluniau rhanbarthol yn mynd i'r afael ag anghenion ardaloedd gwledig a threfol yn eu rhanbarth.
Mae cynlluniau'n cael eu hasesu gan swyddogion Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio fframwaith arfarnu strwythuredig wedi'i alinio â'r templedi ar gyfer Cynlluniau Pontio a Chynlluniau Twf Rhanbarthol. Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar faterion megis a yw cynlluniau'n cyd-fynd yn strategol ag amcanion y Gronfa a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ansawdd a chydgysylltiad y portffolio buddsoddi arfaethedig, ymarferoldeb a gwerth am arian, trefniadau llywodraethu a sicrwydd, gweithio mewn partneriaeth a chynigion monitro a gwerthuso.
Ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo, cadarnheir y cyllid drwy anfon Llythyr Dyfarnu Grant, sy'n nodi amodau'r cyllid, gan gynnwys cerrig milltir cyflawni, gofynion monitro ac adrodd a disgwyliadau o ran sicrwydd. Dim ond ar ôl i'r Llythyr Dyfarnu Grant gael ei anfon a'i dderbyn y gellir tynnu cyllid y Gronfa i lawr. Dangosir y broses isod.
Cyrff rhanbarthol: camau cyflwyno cynllun
Mae'r Gronfa Twf Lleol yn gweithredu proses a arweinir gan gynlluniau ar gyfer gwneud cais, i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch cyllid yn wrthrychol, yn gymesur a bod modd eu harchwilio.
Cam 1: Y cynllun yn cael ei dderbyn oddi wrth y corff rhanbarthol
Cam 2: Mae'r Panel Asesu yn asesu'r cynllun, gan gymhwyso'r meini prawf asesu. Os yw'r cynllun yn cael ei wrthod gan y panel, mae'n cael ei ddychwelyd i'r corff rhanbarthol ac mae'r broses yn ailgychwyn. Os derbynnir y cynllun, mae'r broses yn mynd ymlaen i Gam 3.
Cam 3: Tystiolaeth yn cael ei gwirio gyda'r corff rhanbarthol yn erbyn y llinell sylfaen
Cam 4: Argymhellion yn cael eu gwneud i Banel y Bwrdd
Cam 5: Y Bwrdd yn gwneud penderfyniad
Cam 6: Cyhoeddi a dychwelyd y Dyfarniad Grant
Asesu cynlluniau pontio: meini prawf asesu
Mae Cynlluniau Pontio a gyflwynir yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol i lywio argymhellion a phenderfyniadau ariannu.
Dyma’r meini prawf:
- Crynodeb Gweithredol
- Cyd-fynd Strategol
- Trosolwg o Fuddsoddiadau
- Cynllun Cyflawni
- Llywodraethu a Sicrwydd
- Trefniadau Partneriaeth
- Monitro a Gwerthuso
- Pontio i Flwyddyn 2 (Dull Rhanbarthol)
- Rheoli Risg
- Crynodeb Ariannol
Mae gan bob maen prawf is-benawdau yn y templedi cynllun a'r Adroddiad ar y Penderfyniad Ariannu sy'n sicrhau dadansoddiad cynhwysfawr o'r holl bynciau perthnasol ym mhob un. Gall awdurdodau lleol arweiniol weld y ddogfen 'Canllawiau ar gwblhau Cynllun Blwyddyn Bontio ar gyfer y Gronfa Twf Leol' i gael rhagor o fanylion am y meini prawf o dan bob pennawd.
Bydd gofynion a meini prawf asesu ar gyfer y Cynlluniau Twf Rhanbarthol yn dilyn maes o law.
Monitro, adrodd, adolygu a gwerthuso
Mae'r adran hon yn nodi gwybodaeth lefel uchel am y trefniadau monitro, adrodd a gwerthuso sy'n berthnasol i weithredu'r Gronfa Twf Lleol. Darperir rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn i gyrff rhanbarthol ar wahân, gan gynnwys templedi ac amserlenni ar gyfer prosesau adrodd.
Gofynion monitro
Mae'r Gronfa yn gweithredu fframwaith monitro strwythuredig a chymesur i sicrhau atebolrwydd, olrhain cyflawni a chefnogi gwella parhaus dros oes y rhaglen. Mae'r monitro'n cael ei gynnal ar lefel prosiect, lefel ranbarthol a lefel genedlaethol, ac mae Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth oddi wrth awdurdodau lleol arweiniol yn ystod y flwyddyn bontio ac oddi wrth y CBCau pan fyddan nhw wedi dechrau ar eu gwaith. Yn bennaf Cyrff Rhanbarthol sy'n gyfrifol am fonitro a rheoli perfformiad yn eu rhanbarth, gyda Llywodraeth Cymru yn darparu goruchwyliaeth ar lefel genedlaethol. Mae'n ofynnol i bartneriaid cyflawni adrodd ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir lefel uchel y cytunwyd arnyn nhw, allbynnau a chanlyniadau, perfformiad ariannol a phroffiliau gwariant. Mae monitro'n cyfuno dangosyddion meintiol â thystiolaeth ansoddol i roi dealltwriaeth o heriau cyflawni ac effeithiau sy'n dod i'r amlwg, ac mae'n bwydo i lywodraethu Llywodraeth Cymru, sy'n adrodd i'r Senedd, a'r broses adolygu flynyddol gyda Llywodraeth y DU a nodir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ariannu a'r Nodyn Technegol.
Mae adolygiad chwe misol yn y flwyddyn bontio, sy'n wiriad sicrwydd ffurfiol a ddefnyddir i asesu cynnydd y cyflawni a phenderfynu ar y cynnydd tuag at y symud o gyflawni gan awdurdod lleol arweiniol i gynllunio a chydgysylltu o dan arweiniad Cyd-bwyllgor Corfforedig. Mae'n defnyddio datganiadau monitro a thystiolaeth o gynnydd i adolygu perfformiad yn erbyn cerrig milltir y cytunwyd arnyn nhw a rheoli risgiau. Mae ffocws penodol ar barodrwydd CBCau mewn meysydd fel llywodraethu, rheoli arian, gweithio mewn partneriaeth a chynllunio strategol.
Gofynion adrodd
Bydd partneriaid cyflawni'n cwblhau adroddiad cynnydd chwarterol, sy'n crynhoi'r cynnydd mewn amrywiol fetrigau ac is-benawdau allweddol. Mae rhestr o ganlyniadau a dangosyddion penodol ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yng Nghymru wedi cael eu datblygu, ac maen nhw ar gael yma. Bydd y cynnwys yn sail i'r adolygiad ffurfiol.
Cyfarfodydd adolygu cynnydd
Bydd swyddogion cymorth rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiadau a chyfarfodydd chwarterol gyda phob corff rhanbarthol i asesu cynnydd a darparu sicrwydd ynghylch cyflawni. Bydd y cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfle i Gyrff Rhanbarthol gyflwyno cyd-destun ychwanegol ar gyfer eu hadroddiadau, trafod y cynnydd hyd yma, a nodi unrhyw risgiau neu faterion a allai effeithio ar gyflawni dros y chwarter nesaf neu weddill y rhaglen. Byddan nhw hefyd yn rhoi cyfle i gytuno ar unrhyw gamau gweithredu sydd eu hangen i fynd i'r afael â risgiau neu broblemau a nodwyd..
Gwerthusiad dan arweiniad Llywodraeth Cymru
Ar hyn o bryd mae gwerthusiad ôl-rhaglen o'r Gronfa Twf Lleol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ystyried. Mae'n debygol y bydd y gwerthusiad yn asesu effeithiolrwydd, effeithlonrwydd ac effaith y rhaglen wrth gyflawni ei chanlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol arfaethedig ledled Cymru. Mae is-grŵp o fwrdd rhaglen y Gronfa Twf Lleol yn cael ei sefydlu a fydd yn trafod y dull ar gyfer cynnal y gwerthusiad. Bydd y gwerthusiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â'r cyrff rhanbarthol ac mae'n debygol y bydd yn defnyddio data monitro ar gyfer y rhaglen gyfan, ochr yn ochr â thystiolaeth ansoddol wedi'i thargedu i ddeall beth sydd wedi gweithio'n dda, ble mae heriau wedi codi o ran cyflawni a sut mae effeithiau wedi amrywio yn ôl lle a math o ymyrraeth. Bydd y canfyddiadau'n cael eu rhannu â Gweinidogion ac uwch swyddogion i lywio penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol, a byddan nhw'n cael eu cyhoeddi i gefnogi tryloywder, atebolrwydd a dysgu ymhlith partneriaid cyflawni a rhanddeiliaid.
Cydymffurfio a sicrwydd
Trefniadau cydymffurfio a sicrwydd
Fel rhan o'r Cynllun Pontio, bydd rhaid i bob awdurdod lleol arweiniol nodi'r trefniadau ar gyfer cydymffurfio a sicrwydd y bydd yn eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau sy'n cael eu hariannu gan y Gronfa. Rhaid i'r trefniadau hyn roi sicrwydd bod y cyllid wedi cael ei ddefnyddio'n briodol ac yn unol â gofynion y Gronfa, a chefnogi'r Swyddog Adran 151 i awdurdodi hawliadau a gyflwynir i Lywodraeth Cymru. Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol arweiniol fydd penderfynu ynghylch lefel eu gwiriadau cydymffurfio.
Bydd Tîm Cymorth Rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiadau cydymffurfio a sicrwydd cymesur i gadarnhau bod y trefniadau y cytunwyd arnyn nhw'n gweithredu'n effeithiol ac yn unol â'r Cynllun Pontio cymeradwy. Bydd yr adolygiadau hyn fel arfer yn cael eu cynnal ar sail sampl, ond gellir eu hestyn pan nodir pryderon ynghylch perfformiad neu gadw at brosesau adolygu y cytunwyd arnyn nhw.
Gellir cynnal yr adolygiadau hyn ary safle neu o bell, yn dibynnu ar y trefniadau cyflawni a pherfformiad hanesyddol yr awdurdod lleol arweiniol.
Bydd yr adolygiadau'n canolbwyntio ar:
- a yw'r gwariant wedi'i hawlio o dan y Gronfa yn gymwys
- rheoli gwrthdaro buddiannau
- caffael
- bodloni dangosyddion datganedig
Bydd hyn yn cynnwys profi sampl o ddangosyddion i gadarnhau bod awdurdodau lleol arweiniol wedi cael digon o dystiolaeth i ddangos cymhwystra, cyflawniad a lefel y canlyniadau wedi'i honni. Yn ogystal â bodloni'r gofynion tystiolaeth a nodir yn Fframwaith Dangosyddion y Gronfa Twf Lleol i Gymru, rhaid i awdurdodau lleol arweiniol allu dangos cysylltiad clir y gellir ei archwilio rhwng bodloni'r dangosyddion a'r ymyrraeth a gafodd ei hariannu gan y Gronfa.
Ar ôl cwblhau'r adolygiadau cydymffurfio a sicrwydd, bydd Tîm Cymorth Rhaglenni Llywodraeth Cymru yn argymell rhyddhau'r arian a hawliwyd, yn amodol ar unrhyw addasiadau sydd eu hangen ar gyfer gwariant anghymwys, cynnydd annigonol o ran cyflawni neu adennill taliadau ymlaen llaw sy'n ddyledus.
Rheoli risg ac uwchgyfeirio problemau
Mae cyrff rhanbarthol yn gyfrifol am nodi, asesu a rheoli'r holl risgiau a allai effeithio ar gyflawni canlyniadau'r Gronfa yn llwyddiannus.
Rhaid i bob corff rhanbarthol gadw cofrestr risgiau sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd, ac sy'n cael ei chyflwyno fel rhan o'r adroddiad cynnydd chwarterol. Dylid disgrifio risgiau'n glir, eu blaenoriaethu a nodi camau lliniaru priodol, perchnogion y risgiau a llwybrau ar gyfer uwchgyfeirio.
Dylid rheoli problemau cyflawni drwy drefniadau llywodraethu rhanbarthol y cytunwyd arnyn nhw. Os bydd problemau heb eu datrys, neu os ystyrir bod diffygion o ran cyflawni, perfformiad neu gydymffurfio, rhaid bod llwybr clir ar gyfer cynnydd a rhaid hysbysu Llywodraeth Cymru fel sy'n briodol. Dylid cynnal ymarfer gwersi a ddysgwyd ar gyfer unrhyw broblem ddifrifol sy'n codi, er mwyn cefnogi gwelliant parhaus a chyflawni rhaglenni'n effeithiol.
Cydymffurfio a gofynion cyfreithiol
Mae'r is-adran hon yn nodi'r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a pholisi allweddol sy'n berthnasol i weithgareddau a ariennir gan y Gronfa. Mae cyrff rhanbarthol yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl weithgareddau a ariennir yn cydymffurfio â'r gofynion hyn a bod trefniadau priodol ar waith i reoli risg a rhoi sicrwydd.
Rheoli cymorthdaliadau
Rhaid i gyrff rhanbarthol ystyried a yw gweithgaredd a ariennir gan y Gronfa yn gymhorthdal a, lle bo hynny'n berthnasol, cydymffurfio â gofynion Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 ac unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol. Rhaid i awdurdodau cyhoeddus hefyd roi sylw i'r canllawiau Rheoli Cymorthdaliadau. Mae awdurdodau cyhoeddus yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw gymhorthdal neu gynllun cymhorthdal yn gyson â'r egwyddorion rheoli cymorthdaliadau cyn iddo gael ei ddyfarnu a sicrhau bod unrhyw ofynion tryloywder yn cael eu bodloni.
Pan fydd y gofynion rheoli cymorthdaliadau yn cael eu sbarduno, dylai awdurdodau cyhoeddus gwblhau asesiad o egwyddorion rheoli cymhorthdal gan ddefnyddio'r templed priodol gan Lywodraeth Cymru a chadw hyn fel rhan o'u cofnodion prosiect.
Nid yw'r canllawiau hyn yn gyngor cyfreithiol. Mae cyrff rhanbarthol yn parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion rheoli cymorthdaliadau, a dylen nhw geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain os bydd ansicrwydd ynghylch cymhwyso neu gyfreithlondeb cymhorthdal neu gynllun arfaethedig.
Cydraddoldeb a thriniaeth deg
Rhaid i bob gweithgaredd a ariennir gan y Gronfa gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rhaid i gyrff rhanbarthol roi'r sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â'r Gronfa Twf Lleol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol o anabledd, gwrth-hiliaeth a gwrth-ormes a dim goddefgarwch o fwlio, aflonyddu, gwahaniaethu, cam-drin neu gamfanteisio. Anogir cyrff rhanbarthol i gynnal asesiadau effaith ar eu cynlluniau i sicrhau nad yw cynlluniau yn cael effeithiau annisgwyl ac i adlewyrchu'r ymrwymiadau hyn yn eu trefniadau llywodraethu, gwneud penderfyniadau a chyflawni ar gyfer y Gronfa.
Asesiad o’r effaith ar iechyd
Mae Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 yn nodi, o fis Ebrill 2027, fod yn rhaid i gorff cyhoeddus gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o fis Ebrill 2027 pan fydd yn bwriadu gwneud penderfyniad strategol ynghylch sut i arfer ei swyddogaethau. Felly, er nad yw'n orfodol bod awdurdodau lleol arweiniol yn cynnal asesiad o'r effaith ar iechyd ar eu cynllun pontio, anogir yn gryf fod awdurdodau lleol arweiniol yn gwneud hyn er mwyn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei chyflwyno. Bydd y gyfraith hefyd yn berthnasol i CBCau.
Mae gan gyrff cyhoeddus rôl i'w chwarae wrth leihau anghydraddoldebau iechyd i fynd i'r afael â'r cyfraniad a wneir gan benderfynyddion ehangach iechyd, megis ffactorau ffordd o fyw unigol, dylanwadau cymunedol, amodau byw a gwaith ac amodau cymdeithasol yn fwy cyffredinol.
Mae Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn asesiad o effaith debygol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir, gam neu benderfyniad arfaethedig ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl Cymru neu ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl rhai o bobl Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i gyrff cyhoeddus ar weithredu'r rheoliadau ac maen nhw ar gael yn y ddolen isod.
Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynnal cyrsiau hyfforddi sy'n benodol i'r rheoliadau a bydd y rhain ar gael o hydref 2026 ymlaen.
Asesiad o’r effaith ar fioamrywiaeth
Anogir prosiectau i asesu eu heffaith ar fioamrywiaeth ac i hyn gael ei wneud gan unigolyn â'r cymwysterau priodol. Anogir cyrff rhanbarthol i sicrhau bod yr asesiadau hyn yn cael eu cwblhau i safon dderbyniol, gyda digon o fanylion, ac anogir cyrff rhanbarthol i gofnodi'r asesiadau o'r effaith ar fioamrywiaeth hyn ac unrhyw benderfyniadau sy'n gysylltiedig â bioamrywiaeth.
Brandio a chyfathrebu cyhoeddus
Mae'r Gronfa Twf Lleol yn cael ei chyfarwyddo a'i goruchwylio yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru a'i hariannu gan Lywodraeth y DU. Mae'r holl bartneriaid a sefydliadau cyflawni yn rhannu cyfrifoldeb i sicrhau bod prosiectau a gefnogir drwy'r Gronfa yn cydnabod cyllid cyhoeddus mewn unrhyw weithgarwch cyhoeddusrwydd ac yn y cyfryngau ac yn dangos effaith y Gronfa yng Nghymru.
Dylid dilyn y gofynion brandio a chyhoeddusrwydd a amlinellir yn nodyn technegol Llywodraeth y DU, yn ogystal â chydnabod cyllid Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio'r canllawiau a amlinellir isod.
Gellir diweddaru neu ehangu'r adran hon o'r canllawiau wrth i ragor o drafodaethau gael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar brotocolau brandio a chyfathrebu.
Trosolwg o'r gofynion cyhoeddusrwydd
Wrth ymgymryd ag unrhyw gyhoeddusrwydd, dylai sefydliadau a ariennir:
- gydnabod cymorth gan y Gronfa Twf Lleol yng Nghymru a reolir gan Lywodraeth Cymru wrth gyhoeddi prosiectau
- hysbysu'r awdurdod lleol arweiniol priodol (ac o 2027 y Cyd-bwyllgor Corfforedig perthnasol) cyn lansio prosiectau ac am gerrig milltir allweddol a chyflawniadau sylweddol
- defnyddio logos Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ddeunyddiau printiedig a digidol pan fydd yn briodol
Brandio a defnyddio logos
Egwyddorion cyffredinol:
Dylai cyhoeddusrwydd sy'n ymwneud â phrosiect sydd wedi derbyn cymorth gan y Gronfa-adlewyrchu ei chyllid cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys:
- cyhoeddiadau printiedig, adroddiadau a deunyddiau hyrwyddo
- datganiadau i'r wasg a sesiynau briffio i'r cyfryngau
- cyflwyniadau a deunyddiau arddangos
- gwefannau, y cyfryngau cymdeithasol a chynnwys digidol arall
Logos Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
Dylid defnyddio logo Llywodraeth Cymru a logo Llywodraeth y DU ar ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â'r Gronfa.
Dylai'r ddau logo fod yr un mor amlwg, yn glir ac o faint ac ansawdd priodol.
Ni ddylid addasu, ystumio, ail-liwio na rhoi logos mewn blychau cyfyngedig.
Cydnabod cyllid mewn datganiadau i'r wasg a deunyddiau cyhoeddusrwydd
Dylai datganiadau i'r wasg sy'n gysylltiedig â gweithgareddau sydd wedi derbyn cyllid gan y Gronfa gydnabod y cyllid yn glir ym mhrif gorff y testun neu yn y nodiadau i olygyddion neu droednodiadau.
Bydd cynllun cyfathrebu sy'n amlinellu'r gofynion penodol yn cael ei rannu â Chyrff Rhanbarthol.
Lansio prosiectau, cerrig milltir a chyflawniadau
Gofynion hysbysu:
Dylai sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid hysbysu'r awdurdod lleol arweiniol priodol (ac o 2027 ymlaen, y CBC) yn gynnar am:
- lansiadau prosiect arfaethedig
- cerrig milltir neu allbynnau cyflawni allweddol
- cyflawniadau arwyddocaol neu storïau o lwyddiant
- digwyddiadau cwblhau prosiect
Bydd hyn yn golygu y gall yr awdurdod arweiniol priodol (neu'r CBC) roi rhybudd cynnar i Lywodraeth Cymru am unrhyw gyfleoedd i Weinidogion gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd prosiect o dan y Gronfa, i helpu i fanteisio i'r eithaf ar y sylw cadarnhaol a sicrhau bod cyhoeddiadau'n cael eu cydlynu fel a ganlyn:
- dyfyniadau gan Weinidog(ion) Cymru yn cael eu cynnwys mewn datganiadau i'r wasg
- presenoldeb posibl gan Weinidog(ion) Cymru mewn digwyddiadau neu ymweliadau
Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch unrhyw gyhoeddiadau mawr, fel sy'n briodol.
Gofynion gwefan a digidol
Dylai sefydliadau a ariennir gan y Gronfa gydnabod ei chymorth ar eu gwefan a phlatfformau digidol perthnasol pan fydd hynny'n briodol. Gallai hyn gynnwys arddangos logos Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU neu datganiad yn cydnabod y cymorth mae'r prosiect wedi'i dderbyn gan Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru.
Dylai cynnwys digidol fod yn hygyrch ac yn adlewyrchu safonau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys darpariaeth ddwyieithog. Pan fydd logos yn cael eu harddangos, dylen nhw fod mewn fformat hygyrch a bod yn glir ar wahanol ddyfeisiau.
Cyngor pellach
Dylai sefydliadau a ariennir gysylltu, yn y lle cyntaf, â'r awdurdod lleol arweiniol priodol yn y flwyddyn bontio (a'r CBC o 2027 ymlaen) i gael cyngor a chefnogaeth gyda chyfathrebu neu weithgarwch yn y cyfryngau. Ar gyfer prosiectau Cymru gyfan, dylai sefydliadau a ariennir gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy YGronfaTwfLleol@llyw.cymru
Caffael a rheoli contractau
Rhaid i'r holl wariant gydymffurfio â Deddf Caffael 2023, Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a chyfansoddiadau lleol a rheolau a gweithdrefnau grant perthnasol.
Mae cyrff rhanbarthol yn gyfrifol am bennu'r llwybr cyflawni mwyaf priodol ar gyfer gweithgareddau a ariennir gan y Gronfa, a rhaid iddyn nhw sicrhau bod eu Prif Swyddog Cyllid yn fodlon bod trefniadau caffael a grant yn cydymffurfio. Wrth wneud hynny, rhaid i gyrff rhanbarthol roi sylw i'r holl ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Rheoli Cymhorthdaliadau 2022, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac IR35.
Pan fydd hynny'n briodol, disgwylir i gyrff rhanbarthol hefyd ystyried:
- dulliau caffael cynaliadwy a gwyrdd;
- egwyddorion gwaith teg
- cyhoeddi piblinellau contract ymlaen llaw; a
- chyfleoedd ar gyfer caffael cydweithredol neu arloesol sy'n cefnogi canlyniadau lles ehangach a'r Economi Sylfaenol.
Asesiad Risg Twyll a Llygredd a diwydrwydd dyladwy
Rhaid i gyrff rhanbarthol sicrhau bod trefniadau cadarn, cymesur yn seiliedig ar risg ar waith i atal, nodi ac ymateb i unrhyw dwyll, llygredd ac afreoleidd-dra posibl ar draws holl weithgareddau'r Gronfa. Mae'n ofynnol cynnal asesiad risg twyll a llygredd priodol a chymesur a threfniadau diwydrwydd dyladwy yn unol â Yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y rhai hynny sy’n derbyn grant.
O leiaf, rhaid i gyrff rhanbarthol:
- gynnal asesiadau risg twyll a llygredd cadarn a diwydrwydd dyladwy ar lefel sy'n gymesur â risg y prosiect
- sicrhau bod tystiolaeth briodol yn cael ei chasglu cyn rhyddhau arian
- monitro ac adolygu risgiau a nodwyd drwy gydol y prosiect
- rhoi gweithdrefnau clir ar waith ar gyfer rhoi gwybod am bryderon ynghylch twyll, llygredd neu afreoleidd-dra (Cynllun Ymateb i Dwyll) a hysbysu Llywodraeth Cymru, a
- chadw cofnodion i gefnogi a dilysu gwiriadau diwydrwydd dyladwy ac unrhyw newidiadau i'r Asesiad Risg Twyll a Llygredd a'r Cynllun Ymateb i Dwyll, a dyddiadau pan fyddan nhw'n cael eu hadolygu at ddibenion archwilio a sicrwydd.
Rhaid i'r trefniadau hyn fodloni'r gofynion monitro ac atebolrwydd a nodir yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
Rheoli data a gwybodaeth bersonol
Pan fydd cyllid y Gronfa Twf Lleol yn cefnogi staff neu weithgareddau cyflawni sy'n ymwneud â data personol, rhaid i gyrff rhanbarthol sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion diogelu data. Rhaid hysbysu staff bod eu rôl yn cael ei chefnogi gan gyllid y Gronfa Twf Lleol a'i bod yn bosibl y bydd data personol perthnasol yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru at ddibenion monitro a sicrwydd.
Mae'r data personol a rennir â Llywodraeth Cymru at ddibenion gwerthuso a chydymffurfio wedi cael ei nodi yn y Cytundeb Rhannu Data.
Atodiad A: rhestr termau
Adolygiad chwe misol
Gwiriad sicrwydd ffurfiol yn ystod y flwyddyn bontio a ddefnyddir i asesu cynnydd cyflawni, trefniadau llywodraethu a pharodrwydd ar gyfer y trosglwyddo i gynllunio a gweithredu dan arweiniad CBC.
Adroddiad ar y penderfyniad ariannu
Y ddogfen arfarnu ac argymell ffurfiol a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i gofnodi asesiadau o gynlluniau a'r sail i benderfyniadau ariannu.
Ardaloedd sydd â'r potensial i ddal i fyny
Mae gan ardal sydd â'r potensial i ddal i fyny gynhyrchiant isel ar hyn o bryd, ond mae ganddo botensial i gynyddu ei chynhyrchiant yn gyflym gyda buddsoddi. Ni fyddwn yn diffinio hyn gan ddefnyddio ffigurau, fodd bynnag, mae cyrff rhanbarthol yn cael eu hannog i ystyried y potensial i ddal i fyny wrth feddwl am feysydd i fuddsoddi ynddyn nhw.
Arloesedd presennol
Datblygu, addasu neu fabwysiadu cynhyrchion, gwasanaethau, prosesau neu dechnolegau sefydledig i wella cynhyrchiant, perfformiad neu effaith.
Awdurdod Lleol (ALl)
Cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
Awdurdod lleol arweiniol
Yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am reoli gweithredu'r Gronfa mewn rhanbarth yn ystod y flwyddyn bontio.
Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3
Ebrill 2027 i Fawrth 2029, pan fydd CBCau yn gyfrifol am gynllunio a gweithredu'r Gronfa yn rhanbarthol.
Blwyddyn bontio (Blwyddyn 1)
Ebrill 2026 i Fawrth 2027, pan fydd awdurdodau lleol arweiniol yn gyfrifol am weithredu'r Gronfa cyn trosglwyddo i CBCau.
Bwrdd rhaglen
Strwythur Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am oruchwylio, sicrwydd a chydgysylltu strategol y Gronfa Twf Lleol.
CBCau
Cyd-bwyllgorau Corfforedig.
Cynllun pontio
Cynllun a gyflwynwyd gan awdurdod lleol arweiniol ar gyfer y flwyddyn bontio (2026–27), sy'n nodi buddsoddiadau arfaethedig, cerrig milltir, allbynnau, canlyniadau, trefniadau llywodraethu a chynlluniau ar gyfer pontio i weithredu dan arweiniad CBC.
Cynllun rhanbarthol
Cynllun pontio neu gynllun twf rhanbarthol.
Cynllun twf rhanbarthol
Cynllun amlflwyddyn a ddatblygwyd gan Gyd-bwyllgor Corfforedig o 2027 ymlaen, sy'n nodi portffolio buddsoddi rhanbarthol wedi'i alinio â gweledigaeth hirdymor ac amcanion y Gronfa.
Cynlluniau buddsoddi
Y cynllun buddsoddi cenedlaethol ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yng Nghymru, sy'n nodi blaenoriaethau, amcanion a chanlyniadau'r Gronfa, ac yn darparu'r fframwaith strategol ar gyfer datblygu cynlluniau buddsoddi rhanbarthol.
Cyrff rhanbarthol
Awdurdod lleol arweiniol yn ystod y flwyddyn bontio neu Gyd-bwyllgor Corfforedig o 2027 ymlaen.
Dangosyddion
Mesurau meintiol ac ansoddol a ddefnyddir i fonitro cynnydd ac asesu'r allbynnau a'r canlyniadau wedi'u cyflawni drwy weithgareddau a ariennir gan y Gronfa Twf Lleol.
Derbynnydd
Sefydliad sy'n derbyn cyllid y Gronfa Twf Lleol gan gorff rhanbarthol i gyflawni prosiect cymeradwy.
Gwyrdd
Gweithgaredd sy'n diogelu ac yn gwella systemau naturiol, neu'n lleihau niwed i'r amgylchedd drwy leihau allyriadau, gwastraff a defnyddio adnoddau.
Llythyr dyfarnu grant
Y cytundeb ffurfiol sy'n nodi'r telerau a'r amodau y dyfernir cyllid y Gronfa oddi tano.
Llywodraeth Cymru (LlC)
Llywodraeth ddatganoledig Cymru.
Panel asesu
Panel Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am asesu Cynlluniau Pontio neu Gynlluniau Twf Rhanbarthol a gyflwynir, yn erbyn meini prawf arfarnu'r Gronfa, a gwneud argymhellion ynghylch benderfyniadau ariannu.
Partner cyflawni
Sefydliadau sy'n ymwneud â rheoli neu gael mynediad at y cyllid e.e. awdurdodau lleol, Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, prosiectau ac ati.
Potensial uchel
Gallu sylfaenol cryf a rhagolygon realistig ar gyfer twf yn y dyfodol, cynhyrchiant uwch neu effaith economaidd ehangach, hyd yn oed os nad yw twf cyflym wedi cael ei wireddu eto.
Prosiectau
Cynigion unigol wedi'u cymeradwyo gan gorff rhanbarthol ar gyfer cyllid o dan y Gronfa Twf Lleol.
Swyddog Adran 151
Y swyddog statudol o fewn awdurdod lleol neu Gyd-bwyllgor Corfforedig sy'n gyfrifol am weinyddu materion ariannol y sefydliad yn briodol ac am ddarparu sicrwydd ynghylch defnyddio arian cyhoeddus.
Twf uchel
Gwneud cynnydd cyflym a pharhaus mewn cynhyrchiant, trosiant neu gyflogaeth, fel arfer drwy ehangu'r capasiti ar gyfer darparu cynhyrchion, gwasanaethau neu fodelau busnes arloesol.
Theori newid
Dull strwythuredig sy'n nodi sut y disgwylir i fuddsoddiadau'r Gronfa gyflawni allbynnau a chanlyniadau tymor hwy.
Ychwanegedd
Y graddau mae cyllid y Gronfa Twf Lleol yn cefnogi gweithgareddau na fydden nhw fel arall yn digwydd ac yn osgoi dyblygu â'r ddarpariaeth bresennol.
Atodiad B: egwyddorion arweiniol ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yng Nghymru
Egwyddorion arweiniol ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yng Nghymru
- Canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau i gefnogi newidiadau hirdymor. Dylai buddsoddiadau gyfrannu at flaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol a dangos effaith amlwg.
- Cefnogi a grymuso rhanbarthau drwy’r CBCau i flaenoriaethu portffolios o fuddsoddiadau sy’n seiliedig ar gyfleoedd ac anghenion rhanbarthol a lleol. Rydyn ni'n yn disgwyl i CBCau ddenu buddsoddiadau ehangach gyda’r cyllid hwn a gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid ehangach.
- Integreiddio â rhaglenni eraill Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac ychwanegu gwerth atyn nhw er mwyn osgoi dyblygu a chynyddu effaith a gwerth am arian.
- Rhoi digon o hyblygrwydd i ymateb i dystiolaeth ac anghenion newydd sy'n dod i'r amlwg, gan gyflawni uchelgeisiau cyffredin Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar yr un pryd.
- Cynllunio'n strategol ar sail amlflwydd i roi rhagor o ffocws ar ganlyniadau tymor hwy yn hytrach na gwario arian yn gyflym.
- Integreiddio cydraddoldeb, datblygu cynaliadwy a’r Gymraeg ym mhob buddsoddiad.
- Annog cydweithio ar draws ffiniau, yng Nghymru, ac ar draws y DU ac yn rhyngwladol lle mae gennyn ni anghenion neu gyfleoedd cyffredin.
- Sicrhau bod gan CBCau, awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol y gallu a’r capasiti cywir i ddylunio a gweithredu'r Gronfa Twf Lleol, gan gynnwys ar gyfer trefniadau pontio a buddsoddi mewn capasiti hirdymor.
- Cyflawni ein hymrwymiad i fod yn agored, yn deg ac yn dryloyw ynghylch buddsoddiadau drwy gyhoeddi gwybodaeth a data ar gyflawni yn rheolaidd.
Themâu trawsbynciol
Cydraddoldeb
Cefnogi twf cynhwysol drwy leihau rhwystrau i gymryd rhan mewn gweithgarwch economaidd a hyrwyddo mynediad teg at sgiliau, swyddi a chymorth busnes ledled Cymru.
Hinsawdd
Cefnogi Cymru wrth newid i economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd wrth ryddhau cyfleoedd economaidd cynaliadwy.
Lles
Cefnogi ffyniant hirdymor, cynaliadwy a lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach.
Atodiad C: llywodraethu ac atebolrwydd
Llywodraeth Cymru yw Swyddog Cyfrifyddu'r Gronfa Twf Lleol ac mae'n gyfrifol am ddarparu goruchwyliaeth, sicrwydd ac atebolrwydd strategol cyffredinol ar gyfer y rhaglen. Mae hyn yn cynnwys gosod y fframwaith polisi, cymeradwyo cynlluniau a phenderfyniadau ariannu a goruchwylio perfformiad a risg drwy lywodraethu ar lefel rhaglen wedi'i lywio gan amserlen ffurfiol ar gyfer arfarnu, monitro ac adolygu.
Y cyrff rhanbarthol sy'n gyfrifol am lywodraethu ar lefel cyflawni: sef awdurdodau lleol arweiniol yn ystod y flwyddyn bontio a CBCau o 2027 ymlaen. Mae cyrff rhanbarthol yn gyfrifol am reoli cyllid y Gronfa yn unol â'r Llythyr Dyfarnu Grant, cynnal trefniadau ariannol a llywodraethu cadarn a sicrhau bod partneriaid cyflawni yn cydymffurfio.
Mae Bwrdd Rhaglen y Gronfa yn goruchwylio ac yn cydgysylltu'r gwaith o ddatblygu a gweithredu'r Gronfa Twf Lleol yng Nghymru, a hynny mewn modd strategol, gan gynnwys asesu Cynlluniau Pontio a chefnogi gweithio cydgysylltiedig ar draws polisïau a buddiannau cyflawni.
Gyda'i gilydd, mae'r trefniadau hyn yn darparu fframwaith clir a chymesur ar gyfer atebolrwydd, rheoli risg yn effeithiol a rheoli'r trosglwyddo i gyflawni rhanbarthol.
Llywodraeth y DU
- Gosod fframwaith cyffredinol y DU ar gyfer cyllid twf lleol, gan gynnwys y bennod am Gymru.
- Dyrannu cyllid y Gronfa Twf Lleol ar gyfer Cymru i Lywodraeth Cymru.
- Monitro a gwerthuso cyllid twf lleol ar lefel y DU.
- Cynnal adolygiadau blynyddol gyda Llywodraeth Cymru.
- Ymgymryd â rôl ymgynghori a hyrwyddo.
Llywodraeth Cymru
- Yn atebol yn gyffredinol am berfformiad, gwerthuso ac adrodd ar y Gronfa Twf Lleol i Lywodraeth y DU.
- Gosod y fframwaith polisi a'r blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer buddsoddiadau'r Gronfa yng Nghymru.
- Cydgysylltu rhwng cyflawni cenedlaethol a rhanbarthol i sicrhau cysondeb.
- Gweithio gyda rhanbarthau i gytuno ar drefniadau ar gyfer CBCau ac yn goruchwylio llywodraethu a pherfformiad Cynlluniau Rhanbarthol.
Cyrff rhanbarthol
- Sicrhau atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau a darparu arweinyddiaeth wleidyddol ar lefel ranbarthol.
- Datblygu a chynnal cydymffurfedd, capasiti llywodraethu a threfniadau partneriaeth.
- Cynnal gwiriadau cydymffurfio, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, ar y prosiectau y maen nhw'n eu hariannu
- Paratoi Cynlluniau Pontio (awdurdodau lleol arweiniol) neu Gynlluniau Twf Rhanbarthol amlflwyddyn (CBCau).
- Rheoli portffolios buddsoddi rhanbarthol a sicrhau y cyflawnir y canlyniadau y cytunwyd arnyn nhw.
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar brosiectau cenedlaethol neu Gymru gyfan pan fydd hynny'n berthnasol.
Ardaloedd lleol
- Llywio a chefnogi'r gwaith o ddylunio Cynlluniau Rhanbarthol i adlewyrchu anghenion a chyfleoedd lleol.
- Datblygu a chyflawni prosiectau lleol sy'n cyfrannu at ganlyniadau'r Gronfa Twf Lleol .
- Sicrhau bod y cyflawni'n sicrhau canlyniadau y cytunwyd arnyn nhw ac yn cefnogi dysgu a'r arferion gorau.
