Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

O 1 Ionawr 2027 ymlaen, bydd yn drosedd gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.

Bydd hefyd yn drosedd i unrhyw un 18 oed neu’n hŷn i brynu, neu geisio prynu, cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts ar ran rhywun a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.

Ar hyn o bryd, mae’n ofyniad cyfreithiol i fanwerthwyr arddangos hysbysiad sy’n weladwy mewn mannau gwerthu i hysbysu cwsmeriaid am oedran gwerthu cynhyrchion tybaco. Bydd y gofyniad hwn yn parhau mewn grym. O 1 Ionawr 2027 ymlaen, rhaid i’r hysbysiad hwn gael ei ddiweddaru er mwyn cynnwys gwybodaeth am yr oedran gwerthu newydd.

Mae’r canllawiau hyn yn egluro:

  • y cyfyngiadau ar yr oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts ledled y DU o 1 Ionawr 2027 ymlaen
  • y gofynion o ran hysbysiadau oedran gwerthu ar gyfer manwerthwyr tybaco o 1 Ionawr 2027 ymlaen
  • cyfyngiadau ar ddosbarthu’r cynhyrchion hyn am ddim o 29 Hydref 2026 ymlaen
  • cyfyngiadau ar werthu’r cynhyrchion hyn am ostyngiadau sylweddol o 29 Hydref 2026 ymlaen

Lluniwyd y canllawiau hyn ar gyfer manwerthwyr yn bennaf, y bydd angen iddynt ddeall y newidiadau yn y gyfraith. Gallant hefyd fod yn ddefnyddiol i’r rhai a ganlyn:

  • cyfanwerthwyr
  • perchnogion busnes
  • awdurdodau gorfodi
  • pobl sy’n defnyddio’r cynhyrchion hyn

Gwledydd sydd wedi’u cynnwys

Mae’r canllawiau hyn yn gymwys i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gall y cosbau am gyflawni trosedd amrywio rhwng awdurdodaethau.

Y cynhyrchion o dan sylw

Y cynhyrchion y mae’r cyfyngiadau yn ymdrin â nhw yw:

  • cynhyrchion tybaco
  • cynhyrchion smygu llysieuol
  • papurau sigaréts

Ar gyfer cynhyrchion tybaco, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • sigaréts
  • tybaco rholio â llaw
  • sigârs
  • sigarilos
  • tybaco pib
  • tybaco pib ddŵr, fel shisha
  • tybaco trwyn, a elwir yn gyffredin yn snisin (‘snuff’)
  • tybaco cnoi
  • tybaco wedi’i gynhesu
  • blyntiau tybaco

Ar gyfer cynhyrchion smygu llysieuol, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • blyntiau llysieuol
  • sigaréts llysieuol
  • shisha llysieuol

Mae snŵs a chynhyrchion tybaco perthnasol eraill a gymerir drwy’r geg (fel y’u diffinnir yn adran 7 o Ddeddf Tybaco a Fêps 2026) wedi’u gwahardd yn y DU ers 1992. Nid yw’r oedran gwerthu newydd yn gymwys i’r cynhyrchion hyn.

Oedran gwerthu

O 1 Ionawr 2027 ymlaen, bydd yn drosedd i fanwerthwyr, gan gynnwys manwerthwyr ar-lein, werthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.

Cyn gwerthu cynhyrchion o’r fath, rhaid i fanwerthwyr fod wedi’i fodloni bod y cwsmer wedi’i eni cyn 1 Ionawr 2009.

Mae gwerthu cynhyrchion tybaco i rywun o dan yr oedran gwerthu yn drosedd a gallai arwain at gamau ffurfiol, gan gynnwys dyroddi hysbysiad cosb benodedig neu erlyn.

Dylai cwsmeriaid sy’n ceisio prynu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts ddisgwyl dangos prawf adnabod os gofynnir iddynt brofi eu bod dros yr oedran gwerthu.

Am ragor o wybodaeth am yr oedran gwerthu, gweler:

Bydd y cyfyngiadau presennol ar arddangos cynhyrchion tybaco a phrisiau yn parhau mewn grym. Yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, bydd rhai newidiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i gyfrif am yr oedran gwerthu newydd. Ar hyn o bryd, dim ond gan rywun 18 oed neu hŷn y gall manwerthwyr dderbyn cais i weld cynnyrch neu restr brisiau  Bydd hyn yn newid fel mai dim ond gan rywun a anwyd cyn 1 Ionawr 2009 y caiff manwerthwyr dderbyn cais ganddo.

Gwirio oedran

Os na fydd manwerthwr yn siŵr a gafodd cwsmer sy’n ceisio prynu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts ei eni cyn 1 Ionawr 2009, dylai wirio oedran y cwsmer.

Mae’r oedran gwerthu newydd yn seiliedig ar ddyddiad penodol ac, felly, dim ond cadarnhau a yw dyddiad geni’r cwsmer cyn 1 Ionawr 2009 y bydd angen i fanwerthwyr ei wneud.

Mae hyn yn wahanol i gynhyrchion eraill sydd â chyfyngiad oed, lle mae angen i fanwerthwyr gyfrifo oedran y cwsmer ar sail ei ddyddiad geni.

Gwirio oedran yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Bydd rheoliadau yn nodi’r camau y caiff manwerthwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu cymryd i gadarnhau bod y cwsmer wedi’i eni cyn 1 Ionawr 2009. Drwy gymryd y camau hyn, gall manwerthwyr sicrhau bod ganddynt amddiffyniad os cânt eu cyhuddo o gyflawni trosedd yn ymwneud ag oedran gwerthu. Mae hyn yn golygu os gall manwerthwr brofi i lys ei fod wedi cymryd y camau hyn, ni ddylai’r llys ei euogfarnu. Bydd y rheoliadau hyn yn cael eu trafod yn Senedd y DU maes o law. Byddwn yn diweddaru’r canllawiau hyn gyda rhagor o wybodaeth ynghylch gwirio oedran.

Yn ogystal, bydd gan fanwerthwyr amddiffyniad os gallant brofi iddynt gymryd pob cam rhesymol fel arall i osgoi cyflawni trosedd.

Gwirio oedran yn yr Alban

Yn yr Alban, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fanwerthwyr sy’n gwerthu cynhyrchion tybaco weithredu polisi gwirio oedran a rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau Llywodraeth yr Alban: Busnesau cynnyrch tybaco neu fepio – polisïau gwirio oedran: canllawiau i fanwerthwyr.

O 29 Hydref 2026 ymlaen, rhaid i fanwerthwyr sy’n gwerthu cynhyrchion smygu llysieuol hefyd weithredu polisi gwirio oedran yn yr un modd.

Mae deddfwriaeth yn yr Alban yn nodi’r mathau o brawf adnabod y gellir eu defnyddio i wirio oedran cwsmer.

Ceir amddiffyniad os oedd y person yn credu bod y cwsmer wedi’i eni ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 ar ôl gwirio math cymeradwy o brawf adnabod a restrir yn y ddeddfwriaeth.

Gorfodi'r oedran gwerthu

Cosbau am werthu i gwsmeriaid dan oed

O 1 Ionawr 2027 ymlaen, bydd yn drosedd gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts i rywun a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.

O 1 Ionawr 2027 ymlaen, os bydd person yn cyflawni trosedd o werthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts i rywun o dan oed, gellir rhoi iddo hysbysiad cosb benodedig o £200 yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, yn amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon, gall person gael hysbysiad cosb benodedig o £250 am gyflawni’r drosedd hon.

Fel arall, gall person sy’n cyflawni’r drosedd hon gael dirwy fwy yn dilyn euogfarn ddiannod. Mae euogfarn ddiannod yn ganfyddiad neu’n ble euog am drosedd mewn llys ynadon yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon neu mewn llys ynad heddwch neu’r llys siryf yn yr Alban.

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gall unrhyw ddirwy a ddyroddir fod hyd at lefel 4 ar y raddfa safonol ar gyfer troseddau diannod (£2,500 ar hyn o bryd). Yng Ngogledd Iwerddon, gall y ddirwy fod hyd at lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd). Am ragor o wybodaeth am raddfeydd safonol, gweler:

Mater i’r awdurdodau gorfodi perthnasol fydd penderfynu ar 

y camau gorfodi mwyaf priodol, gan gynnwys a ddylid dyroddi hysbysiad cosb benodedig neu erlyn.

Am ragor o wybodaeth am hysbysiadau cosb benodedig, gweler y canllawiau ‘Cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin: hysbysiadau cosb benodedig’.

Rhoi gwybod am werthiannau anghyfreithlon

Os byddwch yn amau bod rhywun yn gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts i bobl o dan oed, cysylltwch â’ch:

Hysbysiadau oedran gwerthu

Gofynion hysbysu

Mae manwerthwyr yn gyfrifol am arddangos hysbysiad oedran gwerthu mewn man amlwg, sy’n weladwy ym mhob man gwerthu cynhyrchion tybaco.

O 1 Ionawr 2027 ymlaen, bydd y gofynion ar gyfer hysbysiadau oedran gwerthu tybaco yn newid i gyd-fynd â’r oedran gwerthu diwygiedig. O’r dyddiad hwn ymlaen, bydd rhaid i fanwerthwyr sy’n gwerthu cynhyrchion tybaco mewn mangreoedd ledled y DU arddangos hysbysiad yn darllen:

It is illegal to sell tobacco products to anyone born on or after 1 January 2009.

Yng Nghymru, rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys y Gymraeg, yn ogystal â’r Saesneg:

Mae’n anghyfreithlon gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.

Ffigur 1: hysbysiad enghreifftiol ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Image
Figure 1 is a rectangular sign with a red border and black text.

Ffigur 2: hysbysiad enghreifftiol ar gyfer Cymru

Image
Figure 2 is a bilingual rectangular sign in Welsh and English with a red border and black text.

Am ragor o wybodaeth am hysbysiadau oedran gwerthu, gweler:

Gofynion o ran maint hysbysiadau

Mae manwerthwyr yn gyfrifol am sicrhau bod hysbysiadau yn cael eu hargraffu i’r maint priodol. Gall manwerthwyr lunio ac arddangos hysbysiad sy’n wahanol i’r enghraifft a roddir yn y canllawiau hyn, ar yr amod y bodlonir y gofynion o ran maint gofynnol hysbysiadau.

Yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, bydd yn ofynnol i’r hysbysiadau fod o leiaf 297 milimetr (mm) wrth 420mm (maint A3), gyda phob nod yn 21mm o uchder o leiaf.

Yng Nghymru, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd yn ofynnol i’r hysbysiadau fod o leiaf 297 milimetr (mm) wrth 420mm (maint A3), gyda phob llythyren neu rif yn 12mm o uchder o leiaf.

Yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, bydd yr un gofynion o ran geiriad a maint yn gymwys i hysbysiadau oedran gwerthu y mae rhaid i swmpwerthwyr tybaco eu harddangos wrth fynedfeydd mannau tybaco yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i fod yn gymwys ar gyfer eithriadau arddangos. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am swmpwerthwyr tybaco a’r eithriadau hyn yn:

Gorfodi hysbysiadau oedran gwerthu

O 1 Ionawr 2027 ymlaen, gall manwerthwyr sy’n methu ag arddangos yr hysbysiad oedran gwerthu gofynnol a amlinellir yn yr adrannau uchod wynebu’r canlynol:

  • hysbysiad cosb benodedig o £200 yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, neu £100 yng Ngogledd Iwerddon
  • dirwy fwy yn dilyn euogfarn ddiannod hyd at lefel 3 ar y raddfa safonol (£1,000 ar hyn o bryd) yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

I gael rhagor o wybodaeth am hysbysiadau cosb benodedig, gweler y canllawiau ‘Cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin: hysbysiadau cosb benodedig’.

Lawrlwythwch hysbysiadau oedran gwerthu y gellir eu hargraffu (yn amodol ar gymeradwyaeth Senedd Cymru a Senedd y DU)

Mae modd ichi ddefnyddio’r hysbysiadau hyn fel y maent neu gallwch greu eich fersiwn eich hun (er enghraifft, gyda’ch brandio eich hun) cyn belled â bod yr hysbysiad yn arddangos y geiriad gofynnol ac yn bodloni’r gofynion o ran maint.

Argraffwch yr hysbysiadau hyn fel maint A3 neu fwy. Peidiwch ag addasu na lleihau maint yr hysbysiad printiedig.

Rydym yn darparu’r hysbysiadau argraffadwy hyn cyn i Senedd Cymru a Senedd y DU gymeradwyo’r rheoliadau i helpu manwerthwyr i gynllunio ar gyfer gweithredu.

Dim ond o 1 Ionawr 2027 ymlaen y bydd angen i fanwerthwyr arddangos hysbysiadau oedran gwerthu.

Prynu drwy ddirprwy

O 1 Ionawr 2027 ymlaen, bydd yn drosedd i unrhyw un 18 oed neu hŷn brynu, neu geisio prynu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts ar ran rhywun a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2027. Gelwir hyn yn prynu drwy ddirprwy.

Dylai staff manwerthu fod yn effro er mwyn atal prynu drwy ddirprwy. Dylid hyfforddi staff i nodi sefyllfaoedd lle y gall cwsmer fod yn ceisio prynu’r cynhyrchion hyn ar ran rhywun sydd o dan oed.

Os bydd staff yn amau bod cynnyrch yn cael ei brynu drwy ddirprwy, dylent wrthod ei werthu. Am ragor o wybodaeth am brynu drwy ddirprwy, gweler:

Gorfodi’r ddeddfwriaeth ynglŷn â phrynu drwy ddirprwy

Gall person sy’n cyflawni trosedd prynu drwy ddirprwy gael hysbysiad cosb benodedig o

£200 yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, yn amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon, gall person gael hysbysiad cosb benodedig o £250 am gyflawni’r drosedd hon.

Fel arall, gall person gael dirwy fwy yn dilyn euogfarn ddiannod. Gall y ddirwy hon fod hyd at lefel 4 ar y raddfa safonol (£2,500 ar hyn o bryd) yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gall y ddirwy fod hyd at lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd).

Ar gyfer pryniannau drwy ddirprwy, y person sy’n prynu (neu’n ceisio prynu) y cynnyrch ar ran rhywun o dan yr oedran gwerthu sy’n cyflawni’r drosedd.

I gael rhagor o wybodaeth am hysbysiadau cosb benodedig, gweler y canllawiau ‘Cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin: hysbysiadau cosb benodedig’.

Dosbarthu am ddim

Mae eisoes yn drosedd rhoi unrhyw gynnyrch tybaco, neu gwpon, i aelod o’r cyhoedd. Mae’r drosedd hon yn gymwys os mai’r diben yw, neu os mai’r effaith fydd, hyrwyddo cynnyrch tybaco.

Diffinnir cwpon fel unrhyw beth y gellir ei gyfnewid am gynnyrch, gwasanaeth, arian parod neu unrhyw fudd arall. Mae hyn yn cynnwys mathau ffisegol a mathau electronig. Gellir ei gyfnewid ar ei ben ei hun neu ynghyd â rhywbeth arall, fel cod a anfonwyd drwy e-bost.

O 29 Hydref 2026 ymlaen, bydd y gwaharddiad ar ddosbarthu am ddim hefyd yn gymwys i gynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts. Bydd y gwaharddiad hefyd yn cwmpasu pob cynnyrch sy’n gysylltiedig â smygu yn yr Alban, sy’n cynnwys:

  • papurau sigaréts a thiwbiau
  • hidlyddion
  • cyfarpar ar gyfer gwneud sigaréts, fel peiriannau rholio sigaréts.
  • dalwyr sigaréts
  • pibau ar gyfer smygu cynhyrchion tybaco

Mae’r gwaharddiad ar ddosbarthu am ddim hefyd yn gymwys i gynhyrchion sydd â’r diben, neu a fydd yn cael yr effaith, o hyrwyddo cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts, heb fod yn un o’r cynhyrchion hyn. Er enghraifft, taniwr â brand cynnyrch tybaco.

Ni ddylai busnesau gynnig samplau na rhoi cynhyrchion hyrwyddo am ddim i aelodau o’r cyhoedd. Mae hyn yn gymwys boed hynny mewn siop, ar-lein neu drwy hyrwyddiadau trydydd parti.

Mae senarios enghreifftiol a fyddai’n gyfystyr â throsedd yn cynnwys:

  • rhoi papurau sigaréts fel rhodd am ddim
  • rhoi samplau am ddim i gwsmeriaid roi cynnig arnynt

I gael gwybodaeth am sut y mae hyn yn gymwys i gynhyrchion fepio a nicotin, gweler y canllawiau ‘Gwerthu cynhyrchion fepio a nicotin’.

Gostyngiadau sylweddol

O 29 Hydref 2026 ymlaen, bydd yn drosedd gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol, papurau sigaréts neu gwponau ar gyfer y cynhyrchion hyn am ostyngiad sylweddol. Mae’r drosedd hon yn gymwys os mai’r diben yw, neu os mai’r effaith fydd, hyrwyddo unrhyw un o’r cynhyrchion hyn.

Gostyngiad sylweddol yw gostyngiad mewn pris sy’n lleihau cost cynnyrch yn sylweddol o gymharu â’i bris gwerthu safonol. Gall a yw gostyngiad yn sylweddol amrywio yn dibynnu ar y cynnyrch a’r math o hyrwyddiad.

Mae gwerthu cynhyrchion, neu gwponau, am ostyngiad sylweddol yn cael ei wahardd er mwyn atal busnesau rhag ceisio dod o hyd i ffordd o osgoi’r drosedd dosbarthu am ddim.

Mae’n debygol y byddai gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts i gwsmeriaid mewn siop neu drwy hyrwyddiadau ar-lein am swm bach, fel 10c, yn drosedd.

Mae’r drosedd gostyngiad sylweddol hefyd yn gymwys i gynhyrchion sydd â’r diben, neu a fydd yn cael yr effaith, o hyrwyddo cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts, heb fod yn un o’r cynhyrchion hyn. Er enghraifft, taniwr â brand cynnyrch tybaco.

Nid yw’r cyfyngiadau hyn yn effeithio ar arferion disgowntio arferol. Gall manwerthwyr barhau i werthu stoc heb ei gwerthu am bris gostyngol yn rhan o fusnes arferol. Gall gostyngiadau am swmp-brynu neu ostyngiadau masnach fod yn gymwys o hyd.

Rhaid i fusnesau ddilyn y rheolau presennol o ran hysbysebu a hyrwyddo wrth roi disgownt ar gynhyrchion. Mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn Neddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 a’i rheoliadau dilynol, hyd nes y caiff y rhain eu disodli gan Ddeddf Tybaco a Fêps 2026.

I gael gwybodaeth am sut y mae hyn yn gymwys i gynhyrchion fepio a nicotin, gweler y canllawiau ‘Gwerthu cynhyrchion fepio a nicotin’.

Am ragor o wybodaeth am ddosbarthu am ddim a gostyngiadau sylweddol, gweler:

Gorfodi’r ddeddfwriaeth ynglŷn â dosbarthu am ddim a gostyngiadau sylweddol

Gallai person sy’n cyflawni trosedd dosbarthu cynnyrch am ddim neu werthu cynnyrch am ostyngiad sylweddol gael hysbysiad cosb benodedig o £200 yng 

Nghymru, Lloegr a’r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, yn amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon, gall person gael hysbysiad cosb benodedig o £250 am gyflawni’r drosedd hon.

I gael rhagor o wybodaeth am hysbysiadau cosb benodedig, gweler y canllawiau ‘Cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin: hysbysiadau cosb benodedig’.

Fel arall, gall person gael euogfarn ddiannod neu euogfarn ar dditiad. Mae euogfarn ar dditiad yn ganfyddiad neu’n ble euog yn Llys y Goron yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon neu mewn trafodion difrifol gerbon y llys siryf neu’r Uchel Lys yn yr Alban.

Yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn euogfarn ddiannod, y gosb uchaf yw 12 mis yn y carchar, dirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol, neu’r ddau.

Yn dilyn euogfarn ar dditiad, gall person gael dirwy amhenodol neu ei ddedfrydu i hyd at ddwy flynedd yn y carchar, neu’r ddau.

Yn yr Alban, gall person a geir yn euog o drosedd yn dilyn euogfarn ddiannod gael dirwy o hyd at £10,000 neu ei ddedfrydu i hyd at 12 mis yn y carchar, neu’r ddau. Ar dditiad, gall wynebu dirwy amhenodol neu ei ddedfrydu i hyd at ddwy flynedd yn y carchar, neu’r ddau.

Yng Ngogledd Iwerddon, yn dilyn euogfarn ddiannod, y gosb uchaf yw 6 mis yn y carchar, dirwy nad yw’n fwy na’r terfyn statudol, neu’r ddau. Gall person a geir yn euog o drosedd yn dilyn euogfarn ar dditiad gael ei ddedfrydu i hyd at 2 flynedd yn y carchar a gall hefyd gael dirwy ddiderfyn neu wynebu’r ddwy gosb.

Pwy all werthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, nid oes unrhyw gyfyngiadau ychwanegol ar yr oedran y mae rhaid i berson fod er mwyn gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts y tu hwnt i’r cyfyngiadau ar gyfer cyflogi plant yn gyffredinol. Am ragor o wybodaeth, gweler y canllawiau Cyflogi plant: isafswm oedran y caiff plant weithio.

Yn yr Alban, rhaid i unrhyw un o dan 18 oed gael awdurdodiad ysgrifenedig gan y person cofrestredig ar gyfer y fangre er mwyn gwerthu cynhyrchion tybaco a phapurau sigaréts. O 29 Hydref 2026 ymlaen, bydd hyn yn cynnwys cynhyrchion smygu llysieuol. Rhaid i’r awdurdodiad gael ei gofnodi a’i gadw yn y fangre lle gwneir gwerthiannau. Mae person cyfrifol sy’n torri’r gofynion hyn yn cyflawni trosedd. Diffinir person cyfrifol yn adran 4C(2) Ddeddf Tybaco a Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2010.

Am ragor o wybodaeth am yr hyn y mae rhaid ei gynnwys mewn awdurdodiad yn yr Alban, gweler Rheoliadau Gwerthu Tybaco a Chynhyrchion Anwedd Nicotin gan Bersonau Dan 18 Oed (Yr Alban) 2017

I gael gwybodaeth am sut y mae hyn yn gymwys i gynhyrchion fepio a nicotin, gweler y canllawiau ‘Gwerthu cynhyrchion fepio a nicotin’.

Gwerthiannau anfanwerthol

Dim ond i werthiannau manwerthu y mae’r cyfyngiad oedran gwerthu newydd yn gymwys. Nid yw’n gymwys i werthiannau busnes-i-fusnes (cyfanwerthu) na gwerthiannau i sefydliad.

Er enghraifft, gall rhywun a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 wneud y canlynol:

  • gweithio mewn busnes manwerthu a phrynu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a stoc o bapurau sigaréts gan gyfanwerthwr
  • gweithio i sefydliad ymchwil a phrynu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts at ddibenion gwyddonol

Fodd bynnag, ni all manwerthwr werthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol na phapurau sigaréts i rywun o dan oed at ei ddefnydd personol.

Di-doll

Mae gwerthiannau di-doll yn y DU yn ddarostyngedig i gyfyngiadau ar yr oedran gwerthu yn y DU.

Os caiff cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts eu prynu y tu allan i’r DU, mae’r oedran gwerthu lleol yn gymwys.

Am ganllawiau ar ddod â chynhyrchion tybaco i mewn i’r DU o dramor, gweler:

Gorfodi o ran troseddwyr mynych

Yng Nghymru a Lloegr, gall manwerthwyr sy’n cyflawni troseddau perthnasol ar o leiaf dri achlysur mewn dwy flynedd gael gorchymyn gwerthu o dan gyfyngiad neu orchymyn mangre o dan gyfyngiad. Mae’r gorchmynion hyn yn gwahardd person neu fangre rhag gwerthu cynhyrchion penodol am hyd at 12 mis.

Yng Ngogledd Iwerddon, gall manwerthwyr fod yn destun gorchymyn mangre o dan gyfyngiad neu orchymyn gwerthu o dan gyfyngiad os byddant yn cyflawni tair trosedd berthnasol o fewn cyfnod o bum mlynedd. Mae’r gorchmynion hyn yn para am gyfnod a bennir yn y gorchymyn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau nac yn fwy na thair blynedd.

Yn yr Alban, gellir gwneud manwerthwyr sy’n cyflawni troseddau perthnasol ar o leiaf dri achlysur mewn dwy flynedd o fangre benodedig yn destun gorchymyn gwahardd. Mae hyn yn eu gwahardd rhag gwerthu cynhyrchion perthnasol o’r fangre benodedig am hyd at 2 flynedd.