Cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin: hysbysiadau cosb benodedig
Gwybodaeth am newidiadau i hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer troseddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchion tybaco, fepio a nicotin o 29 Hydref 2026 a 1 Ionawr 2027.
Ar y dudalen hon
Crynodeb
Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth am yr hysbysiadau cosb benodedig sy'n gymwys i amrywiaeth o droseddau sy'n ymwneud â'r canlynol:
- cynhyrchion tybaco
- cynhyrchion smygu llysieuol
- papurau sigaréts
- cynhyrchion fepio
- cynhyrchion nicotin
Cosb ariannol yw hysbysiad cosb benodedig. Mae'n rhoi cyfle i'r person osgoi cael ei erlyn am drosedd, os bydd yn talu'r ddirwy o fewn cyfnod penodedig. Mae hysbysiadau cosb benodedig eisoes yn bodoli am amrywiaeth o droseddau, o daflu sbwriel i barcio.
O 29 Hydref 2026, gall awdurdodau gorfodi ledled y DU ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig am amrywiaeth o droseddau sy'n ymwneud â chynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol, papurau sigaréts a chynhyrchion fepio a nicotin.
Gall awdurdodau gorfodi yn yr Alban hefyd ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig am droseddau sy'n ymwneud â chynhyrchion eraill sy'n gysylltiedig â smygu.
Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gall awdurdodau gorfodi eisoes ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig am amrywiaeth o droseddau sy'n ymwneud â rhai o'r cynhyrchion hyn. Mae'r cyfundrefnau hysbysiadau cosb benodedig presennol hyn yn cael eu hestyn i gynnwys troseddau newydd a throseddau wedi'u hehangu.
Lluniwyd y canllawiau hyn yn bennaf ar gyfer manwerthwyr, y bydd angen iddynt ddeall y newidiadau yn y gyfraith. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol i'r canlynol:
- cyfanwerthwyr
- perchnogion busnes
- awdurdodau gorfodi
pobl sy’n defnyddio’r cynhyrchion hyn
Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r canllawiau ar fesurau eraill yn Neddf Tybaco a Fepio 2026, sy'n rhoi rhagor o fanylion am y troseddau y bydd hysbysiadau cosb benodedig yn gymwys iddynt. Y rhain yw:
Gwledydd sydd wedi’u cynnwys
Mae’r canllawiau hyn yn gymwys i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gall y troseddau y gellir dyroddi hysbysiadau cosb benodedig amdanynt a symiau'r hysbysiadau cosb benodedig amrywio rhwng awdurdodaethau.
Y cynhyrchion o dan sylw
Y cynhyrchion sydd o fewn cwmpas yr hysbysiadau cosb benodedig yw:
- cynhyrchion tybaco
- cynhyrchion smygu llysieuol
- papurau sigaréts
- cynhyrchion fepio
- cynhyrchion nicotin
Yn yr Alban, mae cynhyrchion sy'n gysylltiedig â smygu hefyd o fewn y cwmpas (gweler isod). Ar gyfer cynhyrchion tybaco, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:
- sigaréts
- tybaco rholio â llaw
- sigârs
- sigarilos
- tybaco pib
- tybaco pib ddŵr, fel shisha
- tybaco trwyn, a elwir yn gyffredin yn snisin (‘snuff’)
- tybaco cnoi
- tybaco wedi’i gynhesu
- blyntiau tybaco
Ar gyfer cynhyrchion smygu llysieuol, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:
- blyntiau llysieuol
- sigaréts llysieuol
- shisha llysieuol
Ar gyfer cynhyrchion fepio, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:
- dyfeisiau fepio, megis pennau fepio
- sylweddau i'w fepio, megis e-hylif
- cydrannau cysylltiedig, megis coiliau a phodiau fepio.
Ar gyfer cynhyrchion nicotin, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:
- codennau nicotin (codennau heb dybaco sy'n cynnwys powdr nicotin a roddir rhwng y deintgig a'r wefus)
- stribedi nicotin (ffilmiau toddadwy sy'n cynnwys nicotin a roddir ar y tafod neu rhwng y deintgig a'r wefus)
- perlau nicotin (peli bach toddadwy sy'n cynnwys nicotin sy'n toddi o dan y tafod)
Mae pob math o nicotin wedi'i gynnwys o fewn y cwmpas, gan gynnwys nicotin synthetig sy'n cael ei gynhyrchu mewn labordy, yn hytrach na'i echdynnu o blanhigion.
Nid yw'r troseddau a amlinellir yn y canllawiau hyn yn gymwys i'r canlynol:
- cydrannau megis batris, dyfeisiau gwefru a gwifrau trydanol (mae'r cynhyrchion hyn wedi'u cynnwys o dan ddeddfwriaeth ehangach ynglŷn â diogelu defnyddwyr a diogelwch)
- dyfeisiau meddygol
- cynhyrchion meddyginiaethol
Ar gyfer cynhyrchion sy'n gysylltiedig â smygu (yr Alban yn unig) mae hyn yn cynnwys:
- papurau sigaréts
- tiwbiau sigaréts
- hidlyddion nad ydynt yn rhan o gynnyrch tybaco na chynnyrch smygu llysieuol
- cyfarpar ar gyfer gwneud sigaréts, fel peiriannau rholio sigaréts.
- dalwyr sigaréts
- pibau ar gyfer smygu cynhyrchion tybaco (a fyddai'n cynnwys pibau dŵr fel shishas)
Troseddau y gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig amdanynt: Cymru a Lloegr
Yng Nghymru a Lloegr, bydd gwasanaethau safonau masnach yn gallu rhoi hysbysiadau cosb benodedig am amrywiaeth o droseddau o 29 Hydref 2026. Bydd hyn yn disodli'r gyfundrefn hysbysiadau cosb benodedig bresennol am droseddau prynu drwy ddirprwy. Prynu drwy ddirprwy yw pan fydd rhywun sy'n 18 oed neu'n hŷn yn prynu, neu'n ceisio prynu, unrhyw gynnyrch ar ran unigolyn sydd o dan yr oedran gwerthu.
Hysbysiadau cosb benodedig o 29 Hydref 2026
Yng Nghymru a Lloegr, o 29 Hydref 2026, gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i berson sydd:
- yn gwerthu tybaco (sy'n cynnwys cynhyrchion llysieuol ar gyfer smygu) neu bapurau sigaréts i unrhyw un o dan 18 oed (hynny yw, pobl 17 oed ac iau) (yn gymwys tan 31 Rhagfyr 2026 - gweler yr adran isod am droseddau sy'n gymwys o 1 Ionawr 2027)
- yn prynu tybaco neu bapurau sigaréts drwy ddirprwy ar ran unrhyw un o dan 18 oed (yn gymwys tan 31 Rhagfyr 2026 - gweler yr adran isod am droseddau sy'n gymwys o 1 Ionawr 2027)
- yn gwerthu cynhyrchion fepio neu nicotin i unrhyw un o dan 18 oed
- yn gwerthu cynhyrchion fepio neu nicotin drwy ddirprwy i unrhyw un o dan 18 oed
- yn rhoi unrhyw gynnyrch neu gwpon i aelod o'r cyhoedd os mai'r diben yw neu os mai'r effaith fydd hyrwyddo cynnyrch tybaco, cynnyrch smygu llysieuol, papur sigaréts, cynnyrch fepio neu gynnyrch nicotin
- yn gwerthu unrhyw gynnyrch neu gwpon am ostyngiad sylweddol os mai'r diben yw, neu os mai'r effaith fydd, hyrwyddo cynnyrch tybaco, cynnyrch smygu llysieuol, papur sigaréts, cynnyrch fepio neu gynnyrch nicotin
Hysbysiadau cosb benodedig o 1 Ionawr 2027
Yng Nghymru a Lloegr, o 1 Ionawr 2027, gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i berson os bydd:
- yn gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009
- yn prynu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts drwy ddirprwy ar ran unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009
O 1 Ionawr 2027, gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i fanwerthwyr tybaco yng Nghymru a Lloegr os byddant yn methu ag arddangos arwydd oedran gwerthu tybaco mewn lle amlwg sy'n weladwy ym mhob man lle y caiff cynhyrchion tybaco eu gwerthu. Rhaid i'r arwydd hwn fodloni'r gofynion o ran maint gofynnol, a nodir yn y canllawiau 'Gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts'.
Yn Lloegr, rhaid i'r arwydd ddatgan:
It is illegal to sell tobacco products to anyone born on or after 1 January 2009.
Yng Nghymru, rhaid i'r arwydd gynnwys testun Cymraeg a thestun Saesneg:
Mae’n anghyfreithlon gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.
It is illegal to sell tobacco products to anyone born on or after 1 January 2009.
Troseddwyr mynych
Yng Nghymru a Lloegr, gall manwerthwyr sy’n cyflawni troseddau perthnasol ar o leiaf dri achlysur mewn dwy flynedd gael gorchymyn gwerthu o dan gyfyngiad neu orchymyn mangre o dan gyfyngiad. Mae’r gorchmynion hyn yn gwahardd person neu fangre rhag gwerthu cynhyrchion penodol am hyd at 12 mis.
Rhagor o wybodaeth
Troseddau y gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig amdanynt: yr Alban
Yr hysbysiadau cosb benodedig presennol
Yn yr Alban, gall safonau masnach eisoes ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig am amrywiaeth o droseddau sy'n ymwneud â thybaco a fepio, gan gynnwys:
- methu â gweithredu polisi gwirio oedran
- gwerthu cynhyrchion tybaco, papurau sigaréts a chynhyrchion fepio i unrhyw un o dan 18 oed (yn gymwys tan 31 Rhagfyr 2026 - gweler yr adran isod am droseddau sy'n gymwys o 1 Ionawr 2027)
- methu ag arddangos arwydd oedran gwerthu tybaco sy'n datgan “It is illegal to sell tobacco products to anyone under the age of 18” mewn lle amlwg sy'n weladwy yn y mannau lle y gwerthir cynhyrchion tybaco (yn gymwys tan 31 Rhagfyr 2026 - gweler yr adran isod am droseddau sy'n gymwys o 1 Ionawr 2027)
- prynu cynhyrchion tybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion fepio drwy ddirprwy ar ran rhywun o dan 18 oed (yn gymwys tan 31 Rhagfyr 2026)
- gweler yr adran isod am droseddau sy'n gymwys o 1 Ionawr 2027)
- 'person cyfrifol' sy'n caniatáu gwerthu cynhyrchion tybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion fepio gan berson o dan 18 oed heb awdurdodiad y 'person cofrestredig' - adran 4C o Ddeddf Tybaco a Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2010 i gael rhagor o wybodaeth am 'berson cyfrifol', 'person cofrestredig' ac 'awdurdodiad'.
- rheoli mangre lle mae peiriant gwerthu cynhyrchion tybaco neu fepio ar gael i'w ddefnyddio
- arddangos cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion sy'n gysylltiedig â smygu ac eithrio am y rhesymau a ganiateir mewn deddfwriaeth
Gall gwasanaethau safonau masnach hefyd eisoes ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig am unrhyw drosedd sy'n gysylltiedig â'r gofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion fepio. Mae troseddau yn cynnwys:
- rhedeg busnes cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion fepio heb fod wedi'i gofrestru yn y gofrestr o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a fepio
- rhedeg busnes cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion fepio mewn mangre ac eithrio'r un a nodir yng nghofnod person yn y gofrestr
- methu â rhoi gwybod am newidiadau penodol sy'n berthnasol i gofnod person ar y gofrestr heb esgus rhesymol
- torri gorchymyn gwahardd
- methu ag arddangos hysbysiad sy'n nodi bod mangre wedi'i phennu mewn gorchymyn gwahardd
Hysbysiadau cosb benodedig o 29 Hydref 2026
O 29 Hydref 2026, bydd y gyfundrefn hysbysiadau cosb benodedig bresennol yn cael ei hestyn i gynnwys troseddau newydd a throseddau wedi'u hehangu.
Bydd troseddau sydd eisoes yn gymwys i gynhyrchion tybaco a chynhyrchion fepio (ac y gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig amdanynt) yn cael eu hehangu i gynnwys cynhyrchion smygu llysieuol a chynhyrchion nicotin, gan gynnwys:
- methu â gweithredu polisi gwirio oedran
- gwerthu cynhyrchion sydd o fewn y cwmpas i unrhyw un o dan 18 oed
- person cyfrifol yn caniatáu i gynnyrch tybaco, cynnyrch smygu llysieuol, papurau sigaréts, cynnyrch fepio neu gynnyrch nicotin gael ei werthu/eu gwerthu gan rywun o dan 18 oed heb awdurdodiad y person cofrestredig
- prynu cynhyrchion o fewn y cwmpas drwy ddirprwy ar ran unigolyn o dan 18 oed
- rheoli mangre lle mae peiriant gwerthu cynhyrchion sydd o fewn y cwmpas ar gael i'w ddefnyddio
O 29 Hydref 2026, bydd y gyfundrefn hysbysiadau cosb benodedig hefyd yn cwmpasu'r troseddau canlynol:
- gwerthu sigaréts heb eu pecynnu
- dosbarthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol, cynhyrchion sy'n gysylltiedig â smygu, cynhyrchion fepio a chynhyrchion nicotin a'u gwerthu am ostyngiad sylweddol
- gweithgynhyrchu cynnyrch tybaco perthnasol a gymerir drwy'r geg (megis snŵs), ei werthu, ei roi ar ddangos i'w werthu neu feddu arno gyda'r bwriad o'i gyflenwi
Caiff y troseddau sy'n ymwneud â'r gofrestr o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a fepio eu hestyn i gynnwys cynhyrchion smygu llysieuol a chynhyrchion nicotin.
Caiff y newidiadau hynny eu cychwyn gan reoliadau a phan fydd y troseddau hynny mewn grym yn llawn, bydd y gyfundrefn hysbysiadau cosb benodedig hefyd yn gymwys iddynt. Y rheoliadau yw Rheoliadau Deddf Tybaco a Fepio 2026 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Yr Alban) 2026.
Hysbysiadau cosb benodedig o 1 Ionawr 2027
O 1 Ionawr 2027, gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i berson os bydd:
- yn gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009
- yn prynu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts drwy ddirprwy ar ran unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009
O 1 Ionawr 2027, gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i fanwerthwyr tybaco yn yr Alban os byddant yn methu ag arddangos arwydd oedran gwerthu tybaco mewn lle amlwg sy'n weladwy ym mhob man lle y gwerthir cynhyrchion tybaco. Rhaid i'r arwydd hwn fodloni'r gofynion o ran maint gofynnol, a nodir yn y canllawiau 'Gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts'.
Yn yr Alban, rhaid i'r arwydd ddatgan:
It is illegal to sell tobacco products to anyone born on or after 1 January 2009.
Troseddwyr mynych
Yn yr Alban, gellir gwneud manwerthwyr sy’n cyflawni troseddau perthnasol ar o leiaf dri achlysur mewn dwy flynedd o fangre benodedig yn destun gorchymyn gwahardd. Mae hyn yn eu gwahardd rhag gwerthu cynhyrchion sydd o fewn y cwmpas o'r fangre benodedig am hyd at 2 flynedd.
I gael rhagor o wybodaeth am droseddwyr mynych, gweler y canllawiau 'Gwerthu tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts'.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am hysbysiadau cosb benodedig yn yr Alban, gweler:
- adran 27 o Ddeddf Tybaco a Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2010
- atodlen 1 i Ddeddf Tybaco a Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2010
- rheoliad5 o Reoliadau Gwerthu Tybaco (CofrestruStrwythurau Symudol a Hysbysiadau Cosb Benodedig) (Yr Alban) 2011
- rheoliad 7 o Reoliadau Gwerthu Tybaco (Cofrestru Strwythurau Symudol a Hysbysiadau Cosb Benodedig) (Yr Alban)2011
- atodlen 1 i Reoliadau Gwerthu Tybaco (Cofrestru Strwythurau Symudol a Hysbysiadau Cosb Benodedig) (Yr Alban) 2011
Troseddau y gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig amdanynt: Gogledd Iwerddon
Hysbysiadau cosb benodedig o 29 Hydref 2026
Yng Ngogledd Iwerddon, o 29 Hydref 2026, gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i berson os bydd:
- yn rhedeg busnes cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion smygu llysieuol pan fo heb ei gofrestru yng Nghofrestr Manwerthu Tybaco, Fêps a Nicotin Gogledd Iwerddon
- yn rhedeg busnes cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion smygu llysieuol pan fo wedi'i gofrestru mewn mangre ac eithrio'r un a nodir yng nghofnod y person yng Nghofrestr Manwerthu Tybaco, Fêps a Nicotin Gogledd Iwerddon
- yn methu â rhoi gwybod am newidiadau penodol sy'n effeithio ar y cofrestriad, heb esgus rhesymol
- yn gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol, neu bapurau sigaréts i unrhyw un o dan 18 oed (yn gymwys tan 31 Rhagfyr 2026 - gweler yr adran isod am droseddau sy'n gymwys o 1 Ionawr 2027)
- yn methu ag arddangos arwydd oedran gwerthu tybaco sy'n datgan “It is illegal to sell tobacco products to anyone under the age of 18” mewn lle amlwg sy'n weladwy yn y mannau lle y gwerthir cynhyrchion tybaco (yn gymwys tan 31 Rhagfyr 2026 - gweler yr adran isod am droseddau sy'n gymwys o 1 Ionawr 2027)
- yn prynu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts drwy ddirprwy ar ran unrhyw un o dan 18 oed (yn gymwys tan 31 Rhagfyr 2026 - gweler yr adran isod am droseddau sy'n gymwys o 1 Ionawr 2027)
- yn gwerthu cynhyrchion fepio neu nicotin i unrhyw un o dan 18 oed
- yn gwerthu cynhyrchion fepio neu nicotin i unrhyw un o dan 18 oed
- yn rheoli mangre lle mae peiriant gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol, papurau sigaréts, cynhyrchion fepio neu gynhyrchion nicotin ar gael i'w ddefnyddio
- yn gwerthu sigaréts nad ydynt yn eu pecynnau gwreiddiol
- yn rhoi neu'n caniatáu i unrhyw gynnyrch neu gwpon gael ei roi i aelod o'r cyhoedd os mai'r diben yw (neu os mai'r effaith fydd) hyrwyddo cynnyrch tybaco, cynnyrch smygu llysieuol, papur sigaréts, cynnyrch fepio neu gynnyrch nicotin
- yn gwerthu, neu'n caniatáu gwerthu, unrhyw gynnyrch neu gwpon am ostyngiad sylweddol os mai'r diben yw neu os mai'r effaith fydd hyrwyddo cynnyrch tybaco, cynnyrch smygu llysieuol, papur sigaréts, cynnyrch fepio neu gynnyrch nicotin
- yn methu ag arddangos hysbysiad mewn mangre sy'n destun gorchymyn mangre dan gyfyngiad, a fyddai'n gwahardd gwerthu un neu fwy o gynhyrchion perthnasol yn y fangre am gyfnod a bennir yn y gorchymyn
- yn methu â symud cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol, papurau sigaréts, cynhyrchion fepio neu gynhyrchion nicotin o ardal fanwerthu pan fo gorchymyn mangre dan gyfyngiad yn gymwys
Hysbysiadau cosb benodedig o 1 Ionawr 2027
Yng Ngogledd Iwerddon, o 1 Ionawr 2027, gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i berson os bydd:
- yn gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009
- yn prynu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts drwy ddirprwy ar ran unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009
O 1 Ionawr 2027, gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i fanwerthwyr tybaco yng Ngogledd Iwerddon os byddant yn methu ag arddangos arwydd oedran gwerthu tybaco mewn lle amlwg sy'n weladwy ym mhob man lle y gwerthir cynhyrchion tybaco. Rhaid i'r arwydd hwn fodloni'r gofynion o ran maint gofynnol, a nodir yn y canllawiau 'Gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts'.
Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i'r arwydd ddatgan:
“It is illegal to sell tobacco products to anyone born on or after 1 January 2009”
Hysbysiadau cosb benodedig o 1 Mawrth 2027
Yng Ngogledd Iwerddon, o 1 Mawrth 2027, gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i berson os bydd:
- yn rhedeg busnes cynhyrchion tybaco, fepio neu nicotin pan nad yw wedi'i gofrestru
- yn rhedeg busnes cynhyrchion tybaco, fepio neu nicotin pan fo wedi'i gofrestru mewn mangre ac eithrio'r un a nodir yng nghofnod person yn y gofrestr
Troseddwyr mynych
Gall manwerthwyr fod yn destun gorchmynion mangre o dan gyfyngiad a gorchmynion gwerthu o dan gyfyngiad os byddant yn cyflawni tair trosedd berthnasol o fewn cyfnod o bum mlynedd. Bydd y gorchmynion hyn mewn grym am y cyfnod a bennir yn y gorchymyn, ond ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 diwrnod nac yn fwy na thair blynedd.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am hysbysiadau cosb benodedig yng Ngogledd Iwerddon, gweler:
- erthyglau 4B, 4C, 4H, 4I, 4J a 4L o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1978 (ar gael o 29 Hydref 2026)
- erthyglau 4A a 4D o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1978 (ar gael o 1 Ionawr 2027)
- Deddf Manwerthwyr Tybaco (Gogledd Iwerddon) 2014 o 1 Mawrth 2027
- Rheoliadau Manwerthwyr Tybaco (Cosb Benodedig) (Swm)(GogleddIwerddon) 2016, a fydd yn cael eu diweddaru i gyd-fynd â throseddau a dyddiadau cysylltiedig
- Rheoliadau Manwerthwyr Tybaco (Cosb Benodedig) (Cyffredinol) (Gogledd Iwerddon), a fydd yn cael eu diweddaru i gyd-fynd â throseddau a dyddiadau cysylltiedig
Atebolrwydd i gael hysbysiad cosb benodedig
Gall person gael hysbysiad cosb benodedig os bydd yn cyflawni trosedd berthnasol, fel yr amlinellwyd yn yr adran flaenorol. Bydd yr awdurdod gorfodi sy'n dyroddi'r hysbysiad cosb benodedig yn penderfynu pwy sy'n cael yr hysbysiad - er enghraifft a ddylid ei roi i berchennog y busnes neu i weithiwr manwerthu. Adrannau safonau masnach yw'r awdurdod gorfodi yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, a chynghorau lleol sy'n cyflawni'r swyddogaeth honno yng Ngogledd Iwerddon.
Nid yw'n drosedd i berson dan oed brynu cynnyrch perthnasol at ei ddefnydd ei hun. Ni fydd yn cael hysbysiad cosb benodedig gan nad yw wedi cyflawni trosedd. Y busnes neu'r unigolyn sy'n gwerthu'r cynnyrch i berson dan oed sy'n atebol i gael yr hysbysiad cosb benodedig.
Yn achos prynu drwy ddirprwy, mae person sy'n prynu, neu sy'n ceisio prynu, cynnyrch perthnasol ar ran rhywun sydd dan oed yn atebol i gael hysbysiad cosb benodedig
Swm y gosb benodedig
Mae swm yr hysbysiad cosb benodedig wedi'i bennu yn y gyfraith.
Yng Nghymru a Lloegr, swm yr hysbysiad cosb benodedig ar gyfer y troseddau yn y canllawiau hyn fydd £200 (wedi'i ostwng i £100 am dalu'n gynnar). Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru bwerau i newid symiau hysbysiadau cosb benodedig drwy reoliadau.
Yn yr Alban, swm yr hysbysiad cosb benodedig yw £200 (wedi'i ostwng i £150 am dalu'n gynnar). Os bydd person wedi cael hysbysiad cosb benodedig neu euogfarn droseddol am drosedd berthnasol yn y ddwy flynedd flaenorol, bydd y swm yn cynyddu fesul cynyddran o £200 am bob cam gorfodi blaenorol ychwanegol. Y swm gostyngol yw swm yr hysbysiad cosb benodedig wedi'i ostwng £50. Er enghraifft:
- am un cam gorfodi blaenorol o fewn 2 flynedd, byddai person yn cael hysbysiad cosb benodedig o £400 (wedi'i ostwng i £350 am dalu'n gynnar)
- am ddau gam gorfodi blaenorol o fewn 2 flynedd, byddai person yn cael hysbysiad cosb benodedig o £600 (wedi'i ostwng i £550 am dalu'n gynnar)
Mae gan weinidogion yr Alban y pŵer i newid symiau hysbysiadau cosb benodedig drwy reoliadau.
Yng Ngogledd Iwerddon, pennir swm hysbysiadau cosb benodedig presennol, newydd a diwygiedig gan natur y drosedd ac mae'n amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon.
Gellir dyroddi hysbysiadau cosb benodedig ar lefel o hyd at:
- £500 am droseddau sy'n ymwneud â chofrestru
- £250 am droseddau sy'n ymwneud â manwerthu cynhyrchion
Caiff swm y gosb ei ostwng 25% os caiff ei dalu o fewn y cyfnod talu'n gynnar penodedig.
Mae manylion y cyfnodau talu'n gynnar perthnasol wedi'u cynnwys yn yr adrannau ar dalu.
Talu hysbysiadau cosb benodedig
Talu yng Nghymru a Lloegr
Yng Nghymru a Lloegr, rhaid talu'r swm llawn a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y caiff ei ddyroddi.
Os telir yr hysbysiad cosb benodedig o fewn 14 diwrnod, sef y cyfnod talu'n gynnar, caiff y swm llawn ei ostwng 50%. Bydd yr hysbysiad cosb benodedig ei hun yn egluro pryd a sut y dylid gwneud taliad.
Mae talu'r hysbysiad cosb benodedig yn opsiwn amgen yn lle erlyniad troseddol. Os bydd person yn talu'r hysbysiad cosb benodedig o fewn 28 diwrnod, ni ellir dwyn achos cyfreithiol yn ei erbyn am y drosedd honno ac ni ellir ei ddyfarnu'n euog ohoni.
Os na fydd y person yn talu'r swm llawn cyn diwedd y cyfnod talu o 28 diwrnod, efallai y bydd yr awdurdod gorfodi yn ceisio ei erlyn yn y llys. Os ceir y person yn euog o'r drosedd, efallai y bydd angen iddo dalu dirwy uwch.
Ar gyfer troseddau penodol, megis dosbarthu am ddim, gall y gosb yn dilyn euogfarn gynnwys cyfnod yn y carchar. Bydd lefel uchaf y gosb droseddol yn dilyn euogfarn yn dibynnu ar y drosedd a gyflawnwyd.
Gall yr awdurdod gorfodi sy'n dyroddi'r hysbysiad cosb benodedig benderfynu ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg cyn i daliad gael ei wneud.
Talu yn yr Alban
Yn yr Alban, bydd y cyfnodau a'r mecanweithiau talu presennol yn parhau mewn grym.
Rhaid i'r hysbysiad cosb benodedig gael ei dalu erbyn y diwrnod gwaith cyntaf sydd o leiaf 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad cosb benodedig (oni chaiff y cyfnod hwnnw ei estyn gan yr awdurdod gorfodi mewn achos penodol).
Bydd y swm gostyngol yn gymwys os gwneir taliad erbyn y diwrnod gwaith cyntaf o leiaf 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad cosb benodedig, sef y cyfnod talu'n gynnar. Bydd yr hysbysiad cosb benodedig ei hun yn egluro pryd a sut y dylid gwneud taliad.
Mae talu'r hysbysiad cosb benodedig yn opsiwn amgen yn lle erlyniad troseddol. Os bydd person yn talu'r hysbysiad cosb benodedig o fewn 28 diwrnod, ni ellir dwyn achos cyfreithiol yn ei erbyn am y drosedd honno ac ni ellir ei ddyfarnu'n euog ohoni.
Os na fydd y person yn talu erbyn y terfyn amser, gellir cychwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â'r drosedd, a gallai'r person wynebu cosb uwch. Bydd lefel uchaf y gosb droseddol yn dilyn euogfarn yn dibynnu ar y drosedd a gyflawnwyd.
Talu yng Ngogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, bydd y cyfnodau a'r mecanweithiau talu presennol yn parhau mewn grym.
Os gwneir taliad o fewn y 14 diwrnod cyntaf o gyfnod yr hysbysiad cosb benodedig, caiff y swm sy'n daladwy ei ostwng 25%. Dyma'r cyfnod talu'n gynnar.
Mae talu'r hysbysiad cosb benodedig yn opsiwn amgen yn lle erlyniad troseddol. Os bydd person yn talu'r hysbysiad cosb benodedig o fewn 28 diwrnod, ni ellir dwyn achos cyfreithiol yn ei erbyn am y drosedd honno ac ni ellir ei ddyfarnu'n euog ohoni.
Os na fydd y person yn talu erbyn y terfyn amser, gellir cychwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â'r drosedd, a gallai'r person wynebu cosb uwch. Bydd lefel uchaf y gosb droseddol yn dilyn euogfarn yn dibynnu ar y drosedd a gyflawnwyd.
Herio hysbysiad cosb benodedig
Mae'r hysbysiad cosb benodedig yn rhoi cyfle i berson sydd wedi'i gyhuddo o gyflawni trosedd dalu'r gosb, fel na chymerir unrhyw gamau pellach. Os na fydd person yn talu erbyn diwedd y cyfnod talu, yna gellir ei erlyn a bydd yr achos yn mynd i'r llys.
Os bydd person yn credu nad yw wedi cyflawni'r drosedd, gall ddewis peidio â thalu'r gosb ac amddiffyn ei hun yn y llys.
Yn yr Alban, os bydd person yn credu na ddylai hysbysiad cosb benodedig fod wedi cael ei ddyroddi, gall gyflwyno sylwadau i'r awdurdod gorfodi a'i dyroddodd. Os bydd yr awdurdod gorfodi a ddyroddodd yr hysbysiad cosb benodedig o'r farn na ddylai fod wedi cael ei ddyroddi, gall ei dynnu'n ôl ac ad-dalu unrhyw swm sydd eisoes wedi'i dalu.
Hysbysiadau cosb benodedig presennol am brynu drwy ddirprwy yng Nghymru a Lloegr
Cyflwynodd adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 hysbysiadau cosb benodedig am brynu papurau tybaco a sigaréts drwy ddirprwy yng Nghymru a Lloegr. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd cynhyrchion mewnanadlu nicotin at y rhestr hon.
Bydd yr hysbysiadau cosb benodedig hyn o £90 yn parhau mewn grym tan 29 Hydref 2026, pan fyddant yn cael eu disodli gan hysbysiad cosb benodedig newydd o £200.
