Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

O 29 Hydref 2026 ymlaen, yr oedran gwerthu ar gyfer pob cynnyrch fepio a nicotin fydd 18 oed a throsodd. Bydd yn drosedd gwerthu'r cynhyrchion hyn i berson o dan 18 oed (hynny yw, pobl 17 oed ac iau).

Bydd hefyd yn drosedd i unrhyw un 18 oed neu drosodd brynu, neu geisio prynu, cynhyrchion fepio neu nicotin ar ran rhywun o dan 18 oed.

O 29 Hydref 2026 ymlaen, bydd hefyd yn drosedd i unrhyw un wneud y canlynol:

  • rhoi cynnyrch fepio neu nicotin am ddim os mai'r diben neu'r effaith yw hyrwyddo'r cynnyrch
  • gwerthu cynnyrch fepio neu nicotin am ostyngiad sylweddol os mai'r diben neu'r effaith yw hyrwyddo'r cynnyrch
  • rhoi cwpon neu werthu cwpon am ostyngiad sylweddol ar gyfer cynnyrch fepio neu nicotin os mai'r diben neu'r effaith yw hyrwyddo'r cynnyrch

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio:

  • y cyfyngiadau ar yr oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion fepio a nicotin ledled y DU o 29 Hydref 2026 ymlaen
  • y cyfyngiadau ar ddosbarthu'r cynhyrchion hyn am ddim o 29 Hydref 2026 ymlaen
  • y cyfyngiadau ar werthu'r cynhyrchion hyn am ostyngiadau sylweddol o 29 Hydref 2026 ymlaen

Lluniwyd y canllawiau hyn ar gyfer manwerthwyr yn bennaf, y mae angen iddynt ddeall y newidiadau yn y gyfraith. Gallent hefyd fod yn ddefnyddiol i'r canlynol:

  • cyfanwerthwyr
  • perchnogion busnes
  • awdurdodau gorfodi
  • pobl sy'n defnyddio'r cynhyrchion hyn

Gwledydd sydd wedi'u cynnwys

Mae'r canllawiau hyn yn gymwys i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gall y cosbau am gyflawni trosedd amrywio rhwng awdurdodaethau.

Y cynhyrchion o dan sylw

Y cynhyrchion y mae'r cyfyngiadau yn ymdrin â nhw yw:

  • cynhyrchion fepio
  • cynhyrchion nicotin

Ar gyfer cynhyrchion fepio, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • dyfeisiau fepio, megis pennau fepio
  • sylweddau i'w fepio, megis e-hylif
  • unrhyw gydrannau cysylltiedig, megis coiliau a phodiau fepio

Ar gyfer cynhyrchion nicotin, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • codennau nicotin (codennau heb dybaco sy'n cynnwys powdr nicotin a roddir rhwng y deintgig a'r wefus)
  • stribedi nicotin (ffilmiau toddadwy sy'n cynnwys nicotin a roddir ar y tafod neu rhwng y deintgig a'r wefus)
  • perlau nicotin (peli bach toddadwy sy'n cynnwys nicotin sy'n toddi o dan y tafod)

Mae pob math o nicotin wedi'i gynnwys o fewn y cwmpas, gan gynnwys nicotin synthetig sy'n cael ei gynhyrchu mewn labordy, yn hytrach na'i echdynnu o blanhigion.

Nid yw'r cyfyngiadau'n gymwys i'r canlynol:

  • cydrannau megis batris, dyfeisiau gwefru a gwifrau trydanol (mae'r cynhyrchion hyn wedi'u cynnwys o dan ddeddfwriaeth ehangach ynglŷn â diogelu defnyddwyr a diogelwch)
  • dyfeisiau meddygol
  • cynhyrchion meddyginiaethol

Oedran gwerthu

O 29 Hydref 2026 ymlaen, bydd yn drosedd i fanwerthwyr, gan gynnwys manwerthwyr ar-lein, werthu unrhyw gynnyrch fepio neu nicotin i unrhyw un o dan 18 oed. 

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae hyn yn disodli'r cyfyngiad blaenorol a oedd ond yn gymwys i gynhyrchion fepio nicotin. Yn yr Alban, roedd fêps nicotin a fêps heb nicotin eisoes yn ddarostyngedig i gyfyngiadau oedran, ond bydd y rhain bellach yn cwmpasu cynhyrchion nicotin hefyd o 29 Hydref 2026 ymlaen.

Cyn gwerthu unrhyw gynhyrchion o'r fath, rhaid i fanwerthwyr fod yn fodlon bod y cwsmer yn 18 oed neu drosodd.

Mae gwerthu cynhyrchion tybaco i rywun o dan yr oedran gwerthu yn drosedd a gallai arwain at gamau ffurfiol, gan gynnwys dyroddi hysbysiad cosb benodedig neu erlyn.

Dylai cwsmeriaid sy'n ceisio prynu cynhyrchion fepio a nicotin ddisgwyl dangos prawf adnabod os gofynnir iddynt brofi eu bod dros yr oedran gwerthu.

I gael rhagor o wybodaeth am yr oedran gwerthu, gweler:

Gwirio oedran

Os na fydd manwerthwr yn siŵr a yw cwsmer sy'n ceisio prynu cynhyrchion fepio neu nicotin yn 18 oed neu drosodd, dylai wirio oedran y cwsmer.

Gwirio oedran yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon 

Bydd rheoliadau yn nodi'r camau y gall manwerthwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu cymryd i gadarnhau bod y cwsmer yn 18 oed neu drosodd. Drwy gymryd y camau hyn, gall manwerthwyr sicrhau bod ganddynt amddiffyniad os cânt eu cyhuddo o gyflawni trosedd oedran gwerthu. Mae hyn yn golygu os gall manwerthwr brofi i lys ei fod wedi cymryd y camau hyn, ni ddylai'r llys ei euogfarnu. Bydd y rheoliadau hyn yn cael eu trafod yn Senedd y DU maes o law. Byddwn yn diweddaru'r canllawiau hyn gyda rhagor o wybodaeth ynghylch gwirio oedran.

Bydd gan fanwerthwyr amddiffyniad hefyd os gallant brofi iddynt gymryd pob cam rhesymol fel arall i osgoi cyflawni trosedd.

Gwirio oedran yn yr Alban 

Yn yr Alban, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fanwerthwyr sy’n gwerthu cynhyrchion tybaco weithredu polisi gwirio oedran a rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau Llywodraeth yr Alban: Busnesau cynnyrch tybaco neu fepio – polisïau gwirio oedran: canllawiau i fanwerthwyr.

O 29 Hydref 2026 ymlaen, rhaid i fanwerthwyr sy'n gwerthu cynhyrchion nicotin hefyd weithredu polisi gwirio oedran yn yr un modd.

Mae deddfwriaeth yn yr Alban yn nodi'r mathau o brawf adnabod y gellir eu defnyddio i wirio oedran cwsmer.

Mae amddiffyniad ar gael os oedd y person yn credu bod y cwsmer yn 18 oed neu drosodd ar ôl gwirio math cymeradwy o brawf adnabod a restrir yn y ddeddfwriaeth.

Gorfodi'r oedran gwerthu

Cosbau am werthu i gwsmeriaid dan oed

O 29 Hydref 2026 ymlaen, bydd yn drosedd i berson werthu cynhyrchion fepio neu nicotin i unrhyw un o dan 18 oed.

Os bydd person yn cyflawni trosedd o werthu cynhyrchion fepio neu nicotin i berson dan oed, gall gael hysbysiad cosb benodedig o £200 yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, yn amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon, gall person gael hysbysiad cosb benodedig o £250 am gyflawni'r drosedd hon.

Fel arall, gall person sy'n cyflawni'r drosedd hon gael dirwy fwy yn dilyn euogfarn ddiannod. Mae euogfarn ddiannod yn ganfyddiad neu'n ble euog am drosedd mewn llys ynadon yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon neu mewn llys ynad heddwch neu'r llys siryf yn yr Alban.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gall unrhyw ddirwy a ddyroddir fod hyd at lefel 4 ar y raddfa safonol ar gyfer troseddau diannod (£2,500 ar hyn o bryd). Yng Ngogledd Iwerddon, gall y ddirwy fod hyd at lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd). Am ragor o wybodaeth am raddfeydd safonol, gweler:

Mater i'r awdurdodau gorfodi perthnasol fydd penderfynu ar y camau gorfodi mwyaf priodol, gan gynnwys a ddylid dyroddi hysbysiad cosb benodedig neu erlyn. 

Am ragor o wybodaeth am hysbysiadau cosb benodedig, gweler y canllawiau ynghylch ‘Cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin: hysbysiadau cosb benodedig’.

Rhoi gwybod am werthiannau anghyfreithlon

Os byddwch yn amau bod rhywun yn gwerthu cynhyrchion fepio neu nicotin i bobl dan oed, cysylltwch â'ch:

Prynu drwy ddirprwy

O 29 Hydref 2026 ymlaen, bydd yn drosedd i unrhyw un 18 oed neu drosodd brynu, neu geisio prynu, cynnyrch fepio neu gynnyrch nicotin ar ran rhywun sydd o dan 18 oed. Gelwir hyn yn brynu drwy ddirprwy.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae hyn yn disodli'r cyfyngiad blaenorol a oedd ond yn gymwys i gynhyrchion fepio nicotin. Yn yr Alban, mae'r cyfyngiadau hyn eisoes ar waith ar gyfer fêps nicotin a fêps heb nicotin, ac maent yn cael eu hestyn i gynnwys cynhyrchion nicotin.

Dylai pob aelod o staff manwerthu fod yn effro er mwyn atal prynu drwy ddirprwy. Dylid hyfforddi staff i nodi sefyllfaoedd lle y gall cwsmer fod yn ceisio prynu'r cynhyrchion hyn ar ran rhywun sydd dan oed.

Os bydd staff yn amau bod cynnyrch yn cael ei brynu drwy ddirprwy, dylent wrthod ei werthu. 

I gael rhagor o wybodaeth am brynu drwy ddirprwy, gweler:

Gorfodi o ran prynu drwy ddirprwy

O 29 Hydref 2026 ymlaen, bydd yn drosedd rhoi unrhyw gynnyrch fepio neu nicotin, neu gwpon, i aelod o'r cyhoedd. Mae'r drosedd hon yn gymwys os mai'r diben yw, neu os mai'r effaith fydd, hyrwyddo unrhyw gynhyrchion fepio neu nicotin.

Diffinnir cwpon fel unrhyw beth y gellir ei gyfnewid am gynnyrch, gwasanaeth, arian parod neu unrhyw fudd arall. Mae hyn yn cynnwys mathau ffisegol ac electronig. Gellir ei gyfnewid ar ei ben ei hun neu ynghyd â rhywbeth arall, fel cod a anfonwyd drwy e-bost.

Mae'r gwaharddiad ar ddosbarthu am ddim hefyd yn gymwys i gynhyrchion sydd â'r diben, neu a fydd yn cael yr effaith, o hyrwyddo cynnyrch fepio neu nicotin, heb fod yn un o'r cynhyrchion hyn. Er enghraifft, gwefrwr fêps â brand cynnyrch fepio.

Ni ddylai busnesau gynnig samplau na rhoi cynhyrchion hyrwyddo am ddim i aelodau o'r cyhoedd. Mae hyn yn gymwys boed hynny mewn siop, ar-lein neu drwy hyrwyddiadau trydydd parti.

Mae senarios enghreifftiol a fyddai'n gyfystyr â throsedd yn cynnwys:

  • rhoi podiau y gellir eu hail-lenwi fel rhodd am ddim
  • rhoi samplau am ddim i gwsmeriaid roi cynnig arnynt

I gael gwybodaeth am sut mae hyn yn gymwys i gynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts, gweler y canllawiau ynghylch 'Gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts'.

Gallai amddiffyniad rhag hyn fod yn gymwys os bydd manwerthwr wedi ymrwymo i gontract ffurfiol ag awdurdod cyhoeddus, fel gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu lleol. Mae'r amddiffyniad yn gymwys os yw'r manwerthwr yn darparu fêps neu gwponau i ddefnyddwyr gwasanaeth neu gwsmeriaid a bod y manwerthwr yn gweithredu o fewn cwmpas y cytundeb gwasanaeth hwnnw.

Dosbarthu am ddim

O 29 Hydref 2026, bydd yn drosedd rhoi unrhyw gynnyrch fepio neu nicotin, neu gwpon, i aelod o'r cyhoedd. Mae'r drosedd hon yn gymwys os mai'r diben yw, neu os mai'r effaith fydd, hyrwyddo unrhyw gynhyrchion fepio neu nicotin.

Mae'r gwaharddiad ar ddosbarthu am ddim hefyd yn gymwys i gynhyrchion sydd â'r diben, neu a fydd yn cael yr effaith, o hyrwyddo cynnyrch fepio neu nicotin, heb fod yn un o'r cynhyrchion hyn. Er enghraifft, gwefrwr fêps â brand cynnyrch fepio.

Ni ddylai busnesau gynnig samplau na rhoi cynhyrchion hyrwyddo am ddim i aelodau o'r cyhoedd. Mae hyn yn gymwys boed hynny mewn siop, ar-lein neu drwy hyrwyddiadau trydydd parti.

Mae senarios enghreifftiol a fyddai'n gyfystyr â throsedd yn cynnwys:

  • rhoi podiau y gellir eu hail-lenwi fel rhodd am ddim
  • rhoi samplau am ddim i gwsmeriaid roi cynnig arnynt

Mae hyn yn cyd-fynd â'r gofynion o ran dosbarthu am ddim ar gyfer cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllaw ar gynhyrchion fepio a chynhyrchion nicotin.

Gallai amddiffyniad rhag hyn fod yn gymwys os bydd manwerthwr wedi ymrwymo i gontract ffurfiol ag awdurdod cyhoeddus. Er enghraifft, gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu lleol. Mae'r amddiffyniad yn gymwys os yw'r manwerthwr yn darparu fêps neu gwponau i ddefnyddwyr gwasanaeth neu gwsmeriaid a bod y manwerthwr yn gweithredu o fewn cwmpas y cytundeb gwasanaeth hwnnw.

Gostyngiadau sylweddol

O 29 Hydref 2026 ymlaen, bydd hefyd yn drosedd gwerthu cynhyrchion fepio neu nicotin neu gwponau ar gyfer y cynhyrchion hyn am ostyngiad sylweddol. Mae'r drosedd hon yn gymwys os mai'r diben yw, neu os mai'r effaith fydd, hyrwyddo unrhyw un o'r cynhyrchion hyn.

Gostyngiad sylweddol yw gostyngiad mewn pris sy'n lleihau cost cynnyrch yn sylweddol o gymharu â'i bris gwerthu safonol. Gall a yw gostyngiad yn sylweddol amrywio yn dibynnu ar y cynnyrch a'r math o hyrwyddiad.

Mae gwerthu cynhyrchion, neu gwponau, am ostyngiad sylweddol yn cael ei wahardd er mwyn atal busnesau rhag ceisio dod o hyd i ffordd o osgoi'r drosedd dosbarthu am ddim. Mae'n debygol y byddai gwerthu e-hylif, dyfeisiau fepio neu gynhyrchion nicotin mewn siop neu drwy hyrwyddiadau ar-lein am swm nominal, fel 10c, yn drosedd.

Mae'r drosedd gostyngiad sylweddol hefyd yn gymwys i gynhyrchion sydd â'r diben, neu a fydd yn cael yr effaith, o hyrwyddo cynnyrch fepio neu nicotin, heb fod yn un o'r cynhyrchion hyn. Er enghraifft, gwefrwr fêps â brand cynnyrch fepio.

Nid yw'r cyfyngiadau hyn yn effeithio ar arferion disgowntio arferol. Gall manwerthwyr barhau i werthu stoc heb ei gwerthu am bris gostyngol fel rhan o fusnes arferol. Gall gostyngiadau am swmp-brynu neu ostyngiadau masnach fod yn gymwys o hyd.

Rhaid i fusnesau ddilyn y rheolau presennol ynglŷn â hysbysebu a hyrwyddo, a amlinellir yn rhan 7 o Reoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016, wrth ddisgowntio cynhyrchion nes bod y rhain yn cael eu disodli gan Ddeddf Tybaco a Fêps 2026.

I gael gwybodaeth am sut mae hyn yn gymwys i gynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts, gweler y canllawiau ynghylch 'Gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts'.

I gael rhagor o wybodaeth am ddosbarthu am ddim a gostyngiadau sylweddol, gweler:

Gorfodi o ran dosbarthu am ddim a gostyngiadau sylweddol

Cosbau am droseddau dosbarthu am ddim a gostyngiadau sylweddol

Gallai person sy'n cyflawni trosedd dosbarthu cynnyrch am ddim neu werthu cynnyrch am ostyngiad sylweddol gael hysbysiad cosb benodedig o £200 yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, yn amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon, gall person gael hysbysiad cosb benodedig o £250 am gyflawni'r drosedd hon.

Am ragor o wybodaeth am hysbysiadau cosb benodedig, gweler y canllawiau ynghylch 'Cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin: hysbysiadau cosb benodedig'.

Fel arall, gall person gael euogfarn ddiannod neu euogfarn ar dditiad. Mae euogfarn ar dditiad yn ganfyddiad neu'n ble euog yn Llys y Goron yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon neu mewn achosion difrifol gerbron y llys siryf neu'r Uchel Lys yn yr Alban.

Yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn euogfarn ddiannod, y gosb uchaf yw 12 mis yn y carchar, dirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu'r ddau.

Ar euogfarn ar dditiad, gall person gael dirwy amhenodol neu ei ddedfrydu i hyd at ddwy flynedd yn y carchar, neu'r ddau.

Yn yr Alban, gall person a geir yn euog o drosedd yn dilyn euogfarn ddiannod gael dirwy o hyd at £10,000 neu ei ddedfrydu i hyd at 12 mis yn y carchar, neu'r ddau. Ar dditiad, gall gael dirwy amhenodol neu ei ddedfrydu i hyd at ddwy flynedd yn y carchar, neu'r ddau.

Yng Ngogledd Iwerddon, yn dilyn euogfarn ddiannod, y gosb uchaf yw 6 mis yn y carchar, dirwy nad yw'n fwy na'r terfyn statudol, neu'r ddau. Gall person a geir yn euog yn dilyn euogfarn ar dditiad gael ei ddedfrydu i garchar am hyd at ddwy flynedd a gall hefyd gael dirwy amhenodol neu wynebu'r ddwy gosb.

Beth mae hyn yn ei olygu i wasanaethau rhoi'r gorau i smygu

Nid yw'r rheolau newydd yn atal gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu rhag darparu cynnyrch fepio, cynnyrch nicotin na chwpon ar gyfer y cynhyrchion hyn os gwneir hynny yn unol â threfniadau a wneir gan awdurdod cyhoeddus.

Er enghraifft, gallai hyn fod yn gymwys i gyngor lleol sy'n ariannu rhaglen rhoi'r gorau i smygu, neu un o gyrff y GIG sy'n comisiynu neu'n darparu gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu, lle darperir fêps am ddim fel dull o roi'r gorau i smygu.

Gall gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu barhau i gynnig cwponau yn gyfnewid am fêps a ddarperir gan siop fêps leol neu ar-lein, ar yr amod bod cytundeb ag awdurdod cyhoeddus ar waith.

Pwy all werthu cynhyrchion fepio a nicotin?

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, nid oes unrhyw gyfyngiadau ychwanegol ar yr oedran y mae'n rhaid i berson fod i werthu cynhyrchion fepio a nicotin y tu hwnt i'r cyfyngiadau ar gyfer cyflogi plant yn gyffredinol. Am ragor o wybodaeth, gweler Cyflogaeth plant: oedrannau isaf y gall plant weithio.

Yn yr Alban, rhaid i unrhyw un o dan 18 oed gael awdurdodiad ysgrifenedig gan y person cofrestredig ar gyfer y fangre i werthu cynhyrchion fepio neu nicotin. Rhaid i'r awdurdodiad gael ei gofnodi a'i gadw yn y fangre lle gwneir unrhyw werthiannau. Mae person cyfrifol sy'n torri'r gofynion hyn yn cyflawni trosedd. Diffinnir y person cyfrifol yn adran 4C(2) o Ddeddf Tybaco a Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2010. I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn awdurdodiad yn yr Alban, gweler Rheoliadau Gwerthu Tybaco a Chynhyrchion Anwedd Nicotin gan Bersonau Dan 18 Oed (Yr Alban) 2017.

I gael gwybodaeth am sut mae hyn yn gymwys i gynhyrchion eraill, gweler y canllawiau ynghylch 'Gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts'.

Gwerthiannau anfanwerthol

Mae'r cyfyngiad newydd ar yr oedran gwerthu yn gymwys i werthiannau manwerthu yn unig. Nid yw'n gymwys i werthiannau busnes-i-fusnes (cyfanwerthu) na gwerthiannau i sefydliad.

Er enghraifft, gall rhywun o dan 18 oed wneud y canlynol:

  • gweithio mewn busnes manwerthu a phrynu stoc cynhyrchion fepio a nicotin gan gyfanwerthwr
  • gweithio i sefydliad ymchwil a phrynu cynhyrchion fepio a nicotin at ddibenion gwyddonol

Fodd bynnag, ni all manwerthwr werthu i rywun dan oed at ei ddefnydd personol.

Gorfodi ar gyfer troseddwyr mynych

Yng Nghymru a Lloegr, gall manwerthwyr sy'n cyflawni troseddau perthnasol ar o leiaf dri achlysur mewn dwy flynedd gael gorchymyn gwerthu o dan gyfyngiad neu orchymyn mangre o dan gyfyngiad. Mae'r gorchmynion hyn yn gwahardd person neu fangre rhag gwerthu cynhyrchion penodol am hyd at 12 mis.

Yng Ngogledd Iwerddon, gall manwerthwyr fod yn destun gorchymyn mangre o dan gyfyngiad neu orchymyn gwerthu o dan gyfyngiad os byddant yn cyflawni tair trosedd berthnasol o fewn cyfnod o bum mlynedd. Mae'r gorchmynion hyn yn para am gyfnod a bennir yn y gorchymyn, na chaiff fod yn llai na 28 diwrnod nac yn fwy na thair blynedd.

Yn yr Alban, gellir gwneud manwerthwyr sy'n cyflawni troseddau perthnasol ar o leiaf dri achlysur mewn dwy flynedd o fangre benodedig yn destun gorchymyn gwahardd. Mae hyn yn eu gwahardd rhag gwerthu cynhyrchion perthnasol o'r fangre benodedig am hyd at ddwy flynedd.