Trosolwg o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf’) yn ei gwneud yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys yn rhad ac am ddim) i ddefnyddiwr yng Nghymru gynhyrchion plastig untro diangen penodol. Bydd y Ddeddf yn gwahardd gwerthu neu gyflenwi’r cynhyrchion hyn yng Nghymru, oni bai bod esemptiad.
Bydd y cynhyrchion plastig untro diangen canlynol, cynhyrchion sydd yn aml yn cael eu sbwriela, yn cael eu gwahardd i ddefnyddwyr yng Nghymru:
- platiau
- cytleri
- troellwyr diodydd
- gwellt yfed (gan gynnwys gwellt sydd ynghlwm)
- cwpanau wedi'u gwneud o bolystyren
- cynwysyddion bwyd tecawê wedi'u gwneud o bolystyren
- caeadau cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê wedi'u gwneud o bolystyren
- ffyn cotwm plastig
- ffyn balwnau
- cynhyrchion ocso-ddiraddiadwy
- bagiau siopa plastig untro
Bydd y gwaharddiadau'n cael eu cyflwyno mewn "camau". Mae hyn er mwyn caniatáu amser i fusnesau ddefnyddio stoc sy'n bodoli eisoes ac i brynu neu wneud dewisiadau eraill.
Mae’r Crynodeb hwn o’r Bil a luniwyd gan y Senedd yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach:
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth adrannau 3, 4, 17, 21, 22 a 23 o'r Ddeddf i rym ar 7 Mehefin 2023, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 22(1). Daw'r darpariaethau sy'n weddill i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu fwy o orchmynion cychwyn, yn unol ag adran 22(2) o'r Ddeddf:
Mae'r gorchymyn canlynol wedi'i wneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
| Teitl | Rhif | Dyddiad gwnaed | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
|---|---|---|---|---|
| Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk | 2025 Rhif 716 (Cy. 124) | 18 Mehefin 2025 | 18 Rhagfyr 2026 | 2025 Rhif 716 (Cy. 124): Memorandwm Esboniadol ar senedd.wales |
| Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 ar legislation.gov.uk | 2023 Rhif. 1288 (Cy. 226) | 29 Tachwedd 2023 | 1 Rhagfyr 2023 | 2023 Rhif. 1288 (Cy. 226): Memorandwm Esboniadol ar senedd.wales |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd ar 20 Medi 2022, ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2022.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin 2023.
