Cynllun Cymorth Sector Creadigol Cymru
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11327 - cynllun sy'n darparu cyllid datblygu a chynhyrchu i gefnogi newid trawsnewidiol o fewn y sector.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.
1. Rhanbarth
Cymru
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Cynllun Cymorth Sector Creadigol Cymru (WCSSS)
3. Y sail gyfreithiol
Daw’r pwerau sydd gan Weinidogion Cymru i ganiatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi mentrau o dan y Cynllun o’r ddeddfwriaeth ganlynol:
- Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (adran 1) (fel y’i diwygiwyd)
- Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (adran 126)
- Deddf Datblygu Diwydiannol 1982 (adran 7), a
- Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (adrannau 58A, 60 70 a 71(1))
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Mae'r cynllun yn bwriadu cefnogi newid trawsnewidiol o fewn y sector gyda dwy amserlen ar gyfer cymorth:
1. Cyllid Datblygu
Mae datblygu a thyfu'r economïau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru yn dal yn flaenoriaeth. Bydd y cynllun hwn yn darparu cymorth i'r sectorau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru, yn enwedig yr is-sectorau canlynol:
- sgrin, HETV, ffilm
- clyweledol
- datblygu gemau
- trawsgyfrwng
- cerddoriaeth
- cyhoeddi
- sgiliau creadigol a datblygu talent
2. Cyllid Cynhyrchu
Darparu cefnogaeth ar gyfer ysgrifennu sgriptiau, datblygu, cynhyrchu, dosbarthu a hyrwyddo gweithiau clyweledol a thrawsgyfrwng. Bydd y Cynllun yn datblygu a chynnal seilwaith clyweledol o ansawdd uchel ymhellach yng Nghymru drwy gefnogi a hyrwyddo cynyrchiadau Cymreig a denu cynyrchiadau tramor mawr i Gymru. Bydd hyn yn darparu cyfrwng i hyrwyddo cyfleusterau, doniau a diwylliant Cymru a chyfrannu at dwf economaidd cyffredinol y Sector.
5. Diben y cynllun
Bydd yn:
- helpu i ddiogelu sefydliadau cynaliadwy a diogelu swyddi yn y sectorau diwylliant a chreadigol gan ei alluogi i barhau i fod yn fywiog, hyfyw a chynaliadwy yn y dyfodol
- cefnogi datblygiad gweithgareddau diwylliannol a chreadigol drwy newid trawsnewidiol.
- darparu cymorth ar gyfer datblygu creadigol megis ysgrifennu sgriptiau, cynhyrchu, dosbarthu a hyrwyddo gweithiau clyweledol yn ogystal â chymorth datblygu sector i'r sectorau cyhoeddi, cerddoriaeth, gemau a thrawsgyfrwng. Bydd y Cynllun yn datblygu a chynnal seilwaith clyweledol o ansawdd uchel yng Nghymru drwy gefnogi a hyrwyddo cynyrchiadau Cymreig a denu cynyrchiadau tramor mawr i Gymru. Bydd hyn yn darparu cyfrwng i hyrwyddo cyfleusterau, doniau a diwylliant Cymru a chyfrannu at dwf economaidd cyffredinol y sector.
Categorïau o fenter sy'n gymwys:
Bydd y rhaglen ar agor i geisiadau oddi wrth y canlynol:
- Cwmnïau cynhyrchu sgrin/teledu, ffilm, gemau a thrawsgyfrwng
- mannau cynnal cerddoriaeth
- sefydliadau cyhoeddi, y cyfryngau a newyddiaduraeth
- sinemâu annibynnol, a
- digwyddiadau o natur greadigol ddiwylliannol neu dreftadaeth
- Unrhyw sefydliadau eraill i gyflwyno gweithgareddau cymwys yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru
Telerau ac amodau cymhwystra:
Bydd y symiau dan sylw yn isafswm angenrheidiol i wneud i'r prosiect ddigwydd ac yn gymesur â maint a lleoliad y busnes/prosiect. Mae'n glir y bydd rhaid i bob cais am gyllid dangos tystiolaeth o becyn cyllid diogel a bod angen y grant y gofynnir amdano.
Bydd rhaid i geisiadau ddangos tystiolaeth hefyd fod y prosiect yn dangos un neu ragor o'r meini prawf canlynol ar gyfer cyllid, gan gynnwys:
- cydweddiad strategol
- symudedd
- cyfyngiad ariannol, neu
- cyflymiad/ychwaneged
Mae'r terfynau sy'n gysylltiedig â'r cymhorthdal hwn yn cyd-fynd â therfynau blaenorol y math hwn o gymorth er mwyn sicrhau parhad ac felly sicrwydd yn y sector. Bydd ystyriaeth yn cael ei roi ar gyfer pob dyfarniad unigol a wneir o dan y cynllun hwn er mwyn lleihau'r potensial ar gyfer ystumio negyddol.
Bydd yr holl gyllid yn seiliedig ar broffil talu ac yn ôl-ddyledus, yn ddiofyn. Gellir cynnwys proffiliau talu fesul cam lle mae'r angen yn cael ei ddangos cyn belled â bod yr allbwn cysylltiedig wedi'i gyflawni yn unol â thelerau'r gronfa a'r llythyr cynnig.
Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau o dan y cynllun:
Bernir bod cymorthdaliadau uniongyrchol yn fesur priodol i fodloni diffyg yn y farchnad mewn perthynas â buddsoddiad y sectorau uchod na fyddai'n digwydd heb y cymhorthdal a'r manteision ehangach i economïau Creadigol a Diwylliannol Cymru. Bydd cymorthdaliadau yn cael eu dyfarnu ar gyfer cwmnïau yn unig sy'n gallu tystio bod cymorth yn angenrheidiol ar gyfer cyfyngiad ariannol, symudedd a chyflymiad/ychwaneged sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â methiannau'r farchnad yn y sector. Fel rhan o'r broses, mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddangos bod bwlch ariannu, neu fod y gwahaniaeth prisiau rhwng datblygu yng Nghymru o'i gymharu â'i ddatblygu mewn mannau eraill.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categorïau o fentrau cymwys
Bydd y rhaglen ar agor i geisiadau oddi wrth y canlynol
- Cwmnïau cynhyrchu sgrin / teledu, ffilm, gemau a thrawsgyfrwng
- mannau cynnal cerddoriaeth
- sefydliadau cyhoeddi, cyfryngau a newyddiaduraeth
- sinemâu annibynnol, a
- digwyddiadau o natur greadigol, ddiwylliannol neu dreftadaeth
- Unrhyw sefydliadau eraill i gyflwyno gweithgareddau cymwys yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru.
8. Sectorau i’w cefnogi
Y celfyddydau, adloniant a hamdden
9. Hyd cyfnod y cynllun
1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2034
10. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun
£80,000,000
11. Ffurf y cymorth
Grant uniongyrchol
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Bydd y symiau dan sylw yn isafswm angenrheidiol i wneud i'r prosiect ddigwydd ac yn gymesur â maint a lleoliad y busnes/prosiect. Mae'n glir y bydd rhaid i bob cais am gyllid dangos tystiolaeth o becyn cyllid diogel a bod angen y grant y gofynnir amdano.
Bydd rhaid i geisiadau hefyd ddangos tystiolaeth bod y prosiect yn dangos un neu ragor o'r meini prawf canlynol ar gyfer cyllid, gan gynnwys:
- cydweddiad strategol
- symudedd
- cyfyngiad ariannol, neu
- cyflymiad/ ychwanegedd
Mae'r terfynau sy'n gysylltiedig â'r cymhorthdal hwn yn cyd-fynd â therfynau blaenorol y math hwn o gymorth er mwyn sicrhau parhad ac felly sicrwydd yn y sector. Bydd ystyriaeth yn cael ei roi ar gyfer pob dyfarniad unigol a wneir o dan y cynllun hwn er mwyn lleihau'r potensial ar gyfer ystumio negyddol.
Bydd yr holl gyllid yn seiliedig ar broffil talu ac yn ôl-ddyledus, yn ddiofyn. Gellir cynnwys proffiliau talu fesul cam lle mae'r angen yn cael ei ddangos cyn belled â bod yr allbwn cysylltiedig wedi'i gyflawni yn unol â thelerau'r gronfa a'r llythyr cynnig.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Bernir bod cymorthdaliadau uniongyrchol yn fesur priodol i fodloni diffyg yn y farchnad mewn perthynas â buddsoddiad y sectorau uchod na fyddai'n digwydd heb y cymhorthdal a'r manteision ehangach i economïau Creadigol a Diwylliannol Cymru.
Bydd cymorthdaliadau yn cael eu dyfarnu ar gyfer cwmnïau yn unig sy'n gallu tystio bod cymorth yn angenrheidiol ar gyfer cyfyngiad ariannol, symudedd a chyflymiad/ychwanegedd sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â methiannau'r farchnad yn y sector. Fel rhan o'r broses, mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddangos bod bwlch ariannu, neu fod y gwahaniaeth prisiau rhwng datblygu yng Nghymru o'i gymharu â'i ddatblygu mewn mannau eraill.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£999,000
15. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â: CreativeWalesFundingSupport@gov.wales
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae’r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â’r:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU
+ 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
