Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Deddf 2021) yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau, democratiaeth, llywodraethiant a pherfformiad llywodraeth leol. 

Mae un o’r prif ddarpariaethau yn rhoi’r hawl i bobl 16 a 17 oed a dinasyddion tramor sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru bleidleisio mewn etholiadau lleol. Mae hyn yn adlewyrchu’r darpariaethau yn Neddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, sy’n caniatáu i’r categorïau hyn o bobl bleidleisio yn etholiadau’r Senedd. 

Gall cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol (sy’n cael eu galw’n ‘brif gynghorau’ bellach) hefyd ddewis pa system bleidleisio i’w defnyddio mewn etholiadau lleol – y cyntaf i’r felin neu’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Caiff etholiadau lleol eu cynnal bob 5 mlynedd yn awr, yn hytrach na phob 4 blynedd fel o’r blaen. 

Mae gan brif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys bwerau ychwanegol, a elwir yn ‘bŵer cymhwysedd cyffredinol’. Golyga hyn nad oes raid iddynt glustnodi pwerau deddfwriaethol penodol i wneud pethau sydd er budd i’w cymunedau. 

Rhaid i bob prif gyngor lunio a chyhoeddi strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, sy’n nodi sut y bydd yn hybu ymwybyddiaeth ac yn cynyddu cyfranogiad mewn llywodraeth leol. Rhaid i brif gynghorau ac awdurdodau eraill ddarlledu eu cyfarfodydd hefyd. Rhaid i gynghorau cymuned roi cyfle i aelodau o’r cyhoedd sy’n dod i’w cyfarfodydd wneud sylwadau. Rhaid iddynt hefyd gyhoeddi adroddiad blynyddol, sy’n amlinellu eu blaenoriaethau, eu gweithgareddau a’u cyraeddiadau yn ystod y flwyddyn. 

Mae Deddf 2021 yn nodi gofynion amrywiol o ran rolau a swyddogaethau swyddogion ac aelodau etholedig o awdurdod lleol, fel caniatáu i bobl mewn rhai swyddi penodol rannu swydd, a chaniatáu absenoldeb teuluol i aelodau o brif gynghorau. 

O dan Ddeddf 2021 caiff dau neu ragor o brif gynghorau sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, sydd â’u staff, eu asedau a’u trefniadau ariannol eu hunain. Yn 2021 gwnaed rheoliadau o dan y Ddeddf i sefydlu pedwar Cyd-bwyllgor. Mae’r rhain wedi eu rhestru yn y tabl isod. 

Cyflwynodd Deddf 2021 system newydd o hunanasesiadau ac asesiadau perfformiad gan banel i sicrhau bod prif gynghorau yn gwella eu perfformiad a’u trefniadau llywodraethiant. Gall Gweinidogion Cymru ymyrryd i ddarparu cymorth a chefnogaeth os nad yw prif gyngor yn cyflawni ei ofynion o ran perfformiad. 

O dan y Ddeddf, gall dau brif gyngor neu ragor wneud cais i Weinidogion Cymru i uno’n wirfoddol, ar ôl iddynt ymgynghori â thrigolion a rhanddeiliaid allweddol. 

Mae Deddf 2021 yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â chyllid llywodraeth leol, yn bennaf i ddelio â’r rheini sy’n ceisio osgoi talu trethi annomestig, i ddileu carchariad fel cosb am beidio â thalu’r dreth gyngor, ac i eithrio dosbarthiadau penodol o bobl rhag gorfod ei dalu.

Yn olaf, mae’r Ddeddf yn cyflwyno detholiad o ddarpariaethau eraill sydd â’r nod o gryfhau a moderneiddio’r ffordd y mae llywodraeth leol yn gweithredu. 

Mae’r Papur Briffio hwn, a luniwyd gan y Senedd, yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach:

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwadau manwl ar y gwahanol ddarpariaethau:

Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 1521 Ionawr 2026Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)2026 Rhif 15: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk
 
2025 Rhif 1087 (Cy. 180)15 Hydref 202520 Hydref 20252025 Rhif 1087 (Cy. 180): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol ac Amrywiol) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 998 (Cy. 169)4 Hydref 2024Rhannau 1 a 2 - 16 Tachwedd 2024
Rhan 3 - 1 Ebrill 2025
2024 Rhif 998 (Cy. 169): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 296 (Cy. 73)10 Mawrth 20211 Ebrill 20212021 Rhif 296 (Cy. 73): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk 2021 Rhif 327 (Cy. 85)17 Mawrth 20211 Ebrill 20212021 Rhif 327 (Cy. 85): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 328 (Cy. 86)17 Mawrth 202128 Chwefror 20222021 Rhif 328 (Cy. 86): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 339 (Cy. 93)17 Mawrth 20211 Ebrill 2021, ar wahân i reoliadau 11, 12 a 13, a ddaeth i rym ar 30 Mehefin 2022.
Daeth rheoliad 15 hefyd i rym ar 30 Mehefin 2022 (i’r graddau y mae’n berthnasol i swyddogaethau a roddwyd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gan reoliad 12 neu 13).
2021 Rhif 339 (Cy. 93): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 341 (Cy. 95)17 Mawrth 20211 Ebrill 20212021 Rhif 341 (Cy. 95): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 342 (Cy. 96)17 Mawrth 20211 Ebrill 2021, ar wahân i reoliadau 11, 12 a 13, a ddaeth i rym ar 30 Mehefin 2022.
Daeth rheoliad 15 hefyd i rym ar 30 Mehefin 2021 (i’r graddau y mae’n berthnasol i swyddogaethau a roddwyd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gan reoliad 12 neu 13).     
2021 Rhif 342 (Cy. 96): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 343 (Cy. 97)17 Mawrth 20211 Ebrill 2021, ar wahân i reoliadau 11, 12 a 13, a ddaeth i rym ar 28 Chwefror 2022.
Daeth rheoliad 15 hefyd i rym ar 28 Chwefror 2022 (i’r graddau y mae’n berthnasol i swyddogaethau a roddwyd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain gan reoliad 11, 12 neu 13).
2021 Rhif 343 (Cy. 97): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 352 (Cy. 104)17 Mawrth 20211 Ebrill 2021, ar wahân i reoliadau 11, 12 a 13, a ddaeth i rym ar 30 Mehefin 2022. 
Daeth rheoliad 15 hefyd i rym ar 30 Mehefin 2021 (i’r graddau y mae’n berthnasol i swyddogaethau a roddwyd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin gan reoliad 11, 12 neu 13).
2021 Rhif 352 (Cy. 104): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 356 (Cy. 107)18 Mawrth 20211 Mai 20212021 Rhif 356 (Cy. 107): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1166 (Cy. 288)20 Hydref 20211 Tachwedd 20212021 Rhif 1166 (Cy. 288): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1349 (Cy. 348)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 2021, ar wahân i reoliadau 10, 27 a 31, a ddaeth i rym ar 6 Mai 20222021 Rhif 1349 (Cy. 348): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1350 (Cy. 349)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 20212021 Rhif 1350 (Cy. 349): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1355 (Cy. 353)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 20212021 Rhif 1355 (Cy. 353): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1360 (Cy. 356)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 20212021 Rhif 1360 (Cy. 356): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1359 (Cy. 355)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 2021Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1361 (Cy. 357)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 20212021 Rhif 1361 (Cy. 357): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1364 (Cy. 359)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 20212021 Rhif 1364 (Cy. 359): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cynghorau Cymuned Cymwys (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol) (Cymwysterau Clercod) (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1403 (Cy. 365)9 Rhagfyr 20215 Mai 20222021 Rhif 1403 (Cy. 365): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 140 (Cy. 44)16 Chwefror 202218 Chwefror 20222022 Rhif 140 (Cy. 44): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 188 (Cy. 62)25 Chwefror 202228 Chwefror 20222022 Rhif 188 (Cy. 62): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 533 (Cy. 125)1 Mai 202213 Mai 20222022 Rhif 533 (Cy. 125): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 355 (Cy. 88)22 Mawrth 20225 Mai 20222022 Rhif 355 (Cy. 88): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 263 (Cy. 79)9 Mawrth 202210 Mawrth 20222022 Rhif 263 (Cy. 79): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 372 (Cy. 92)23 Mawrth 202225 Mawrth 2022, ar wahân i reoliad 3(8) (adroddiadau blynyddol gan bwyllgorau safonau), a ddaeth i rym ar 6 Mai 2022.2022 Rhif 372 (Cy. 92): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 412 (Cy. 101)30 Mawrth 20225 Mai 20222022 Rhif 412 (Cy. 101): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) (Diwygio) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 423 (Cy. 104)4 Ebrill 20225 Mai 20222022 Rhif 423 (Cy. 104): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 533 (Cy. 125)11 Mai 202213 Mai 20222022 Rhif 533 (Cy. 125): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 797 (Cy. 175)13 Gorffennaf 202215 Gorffennaf 20222022 Rhif 797 (Cy. 175): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (ar y pryd) ar 18 Tachwedd 2019 ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 18 Tachwedd 2020.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021.