Rydyn ni am glywed eich barn er mwyn llywio'r gwaith o ddatblygu ein strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd ar gyfer Cymru.
Disgrifiad o'r alwad am dystiolaeth
Rydyn ni'n agor y sgwrs ar ddyfodol diwylliant a chwaraeon yng Nghymru.
Rydyn ni’n gofyn i bobl, sefydliadau, cymunedau a phartneriaid helpu Llywodraeth Cymru i ddeall cyflwr presennol diwylliant a chwaraeon, er mwyn llunio gweledigaeth genedlaethol a rennir.
Rydyn ni am nodi'r camau ymarferol y mae eu hangen i wireddu uchelgais Cymru.
Dogfennau'r alwad am dystiolaeth
Galwad am dystiolaeth (Hawdd ei Ddeall) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 751 KB
Galwad am dystiolaeth: Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (Hawdd ei Ddeall) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 332 KB
Galwad am dystiolaeth: ffurflen ymateb (Hawdd ei Ddeall) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Galwad am dystiolaeth (fersiwn i bobl ifanc) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
Galwad am dystiolaeth (fersiwn i blant) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 8 MB
Gwybodaeth ychwanegol
Ychwanegwyd fersiynau addas i bobl ifanc a phlant, fersiwn hawdd ei ddarllen, a fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o'r alwad am dystiolaeth hon ar 25 Medi 2026.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 18 Rhagfyr 2026, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
E-bost
Dylai pob cyflwyniad gael ei anfon at: StrategaethDiwylliantaChwaraeon@llyw.cymru.
