Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw cyflym

Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer cwsmeriaid nad ydyn nhw wedi hawlio am Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Beth yw'r grant hwn

Mae'r grant hwn yn darparu cyllid tuag at offer a pheiriannau all wella iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch ar eich fferm, gwneud eich fferm yn fwy effeithlon a'ch helpu i ddefnyddio adnoddau'n well. Mae'r grant yn cyfrannu at hyd at 40% o'r costau cymwys. 

A ga i wneud cais

Gallwch wneud cais ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer bod yn gymwys.  

Faint o gyllid sydd ar gael

  • y grant lleiaf fesul cais fydd: £500
  • bob blwyddyn ariannol, fesul Cyfeirnod Cwsmer (CRN): £15,000
  • cyfradd grant: hyd at 40% o'r costau cymwys (ac eithrio Treth ar Werth (TAW) 

Gallwch gyflwyno mwy nag un cais yn ystod y flwyddyn ariannol, cyn belled na chaiff mwy na £15,000 o grant ei roi i chi mewn blwyddyn ariannol. 

Pryd ca' i ymgeisio

Gallwch wneud cais unrhyw bryd gydol y flwyddyn tra bydd ar agor. 

Sut mae'r broses ddewis yn gweithio

Mae ceisiadau yn cael eu sgorio ar sail manteision fel:

  • defnyddio adnoddau'n effeithlon
  • defnyddio technoleg yn effeithlon
  • iechyd a lles anifeiliaid
  • iechyd a diogelwch 

Mae ceisiadau sydd â sgôr uwch yn cael blaenoriaeth ar gyfer cyllid.

Cyn i chi wneud cais:

✅ gofalwch fod yr eitem rydych chi ei heisiau ar restr y canllawiau Technegol

✅ gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cael hyd i'r eitem a chael yr eitem o fewn y cyfnod hawlio

✅ gwnewch yn siŵr fod digon o grant ar ôl ichi ymgeisio amdano os ydych eisoes wedi cael peth o gyllid y flwyddyn ariannol

Pwysig: peidiwch â:

❌ phrynu eitem cyn derbyn eich Llythyr Dyfarnu Grant (GAL)

❌ prynu offer ail-law

❌ prynu eitem trwy hurbwrcas, cytundeb lesio neu nodiadau credyd

❌ cynnwys eitemau fydd yn cael eu defnyddio i wneud gwaith contractio amaethyddol

❌ rhan-gyfnewid hen offer fel rhan o'r pryniant

Beth fydd yn digwydd nesaf os bydda i'n llwyddiannus

Byddwch yn cael Llythyr Dyfarnu Grant trwy RPW Ar-lein. Rhaid ichi:

  1. Gadarnhau'ch bod yn derbyn y dyfarniad grant o fewn 21 diwrnod.
  2. Prynu'r eitemau cymeradwy.
  3. Talu amdanynt yn llawn.
  4. Cyflwyno'ch hawliad gyda thystiolaeth ategol cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio. 

Beth sydd angen i mi ei gyflwyno gyda fy hawliad

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • anfonebau
  • tystiolaeth bod yr eitem yn bodloni'r fanyleb
  • cyfriflen banc neu dystiolaeth arall sy'n dangos bod y taliad wedi gadael eich cyfrif banc 

Beth os nad ydw i'n gallu prynu eitem

Os ydych am dynnu eitem o'ch Llythyr Dyfarnu Grant, rhaid rhoi gwybod i RPW drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn gynted ag y medrwch. 

Rhaid gofyn am dynnu eitemau o leiaf 60 diwrnod cyn y “dyddiad argaeledd terfynol” wedi’i nodi yn eich llythyr dyfarnu grant. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer yr hawliad. 

Os ydych chi'n cael trafferth cael eitem am resymau y tu allan i'ch rheolaeth, cysylltwch â RPW ar unwaith a dangos tystiolaeth gan y cyflenwr. 

Dyddiadau cau pwysig:

  • cadarnhau'ch bod yn derbyn y dyfarniad grant - O fewn 21 diwrnod calendr ar ôl cael y cynnig
  • dyddiad cau ar gyfer hawlio - Fel arfer hyd at 180 diwrnod ar ôl dyddiad cynnig y grant, er y gall fod yn gyfnod byrrach os yw'r cais yn ymwneud â'r flwyddyn ariannol gyfredol

Cadw cofnodion

Rhaid i chi gadw cofnodion am o leiaf deg mlynedd ar ôl y dyddiad talu. 

  • anfonebau
  • cofnodion talu
  • dogfennau ategol

Cofiwch:

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys cyn gwneud cais.
  2. Peidiwch â phrynu unrhyw beth nes bod eich dyfarniad grant yn cael ei dderbyn.
  3. Prynwch dim ond eitemau cymeradwy sy'n bodloni'r fanyleb neu'n rhagori arni.
  4. Cadwch anfonebau a phrawf eich bod wedi talu.
  5. Dywedwch wrth RPW ar fyrder os oes problem cyflenwi eitem neu os oes angen tynnu eitem o'r rhestr.
  6. Cyflwynwch eich hawliad cyn y dyddiad cau.

Adran A: cyflawniad

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer cwsmeriaid nad ydyn nhw wedi hawlio am Haen Gyffredinol yr SFS.

Mae Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd yn cefnogi buddsoddiadau sy'n helpu busnesau fferm i wella cynhyrchiant, bod yn fwy gwydn a gwneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau. Trwy gefnogi busnesau i fabwysiadu technolegau newydd, gwella seilwaith a gwella arferion busnes, ei nod yw eu helpu i barhau i fod yn gynaliadwy a chystadleuol a'u harfogi i ymateb i heriau'r dyfodol.

Mae grant cyfalaf ar gael ar gyfer offer er mwyn gallu rheoli priddoedd a thail yn fanwl, a monitro perfformiad cnydau neu dda byw. 

Bydd hyn, yn ei dro, yn bodloni ystod o flaenoriaethau, gan gynnwys hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid, a gwella ansawdd dŵr ac aer; gan drwy hynny cynyddu cynhyrchiant trwy dargedu mewnbynnau (gwrtaith ac ati), lleihau'r risg o glefydau a thrin da byw yn fwy diogel. Mae targedu’r defnydd o fewnbynnau, ac anifeiliaid iachach, o fudd i ansawdd aer a dŵr ac yn lleihau allyriadau carbon. 

Darllenwch y canllawiau hyn yn ofalus. Os hoffech wneud cais, darllenwch 'Adran D: Y broses ymgeisio, dewis a dyfarnu grant' a'r canllawiau 'gan defnyddio RPW ar lein i wneud cais'. 

Gan adeiladu ar brofiad ac adborth cynlluniau blaenorol, dyma'r prif newidiadau:

  • gallwch gyflwyno ceisiadau unrhyw bryd yn y flwyddyn ariannol, nid oes ffenestri ymgeisio penodol
  • gall mwy nag un cais a dyfarniad grant fod yn fyw ar unrhyw adeg, cyn belled â'ch bod yn cadw at amodau penodol
  • mae gennych yr opsiwn, pan fydd hynny'n gymwys, i wneud cais am gyllid o'r flwyddyn ariannol nesaf
  • byddwn yn sgorio ceisiadau sawl gwaith gydol y flwyddyn
  • rhaid ichi gadarnhau'ch bod yn derbyn dyfarniad grant o fewn 21 diwrnod ar ôl ei gynnig

Bydd y ffurflen gais ar gael o 28 Gorffennaf 2026 a bydd ar agor tan fis Mawrth 2027. Wedyn bydd ar gau am gyfnod byr er mwyn i ni allu gwneud newidiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. 

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar ein wefan, GWLAD ar-lein ac os oes angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Rydyn ni (Llywodraeth Cymru) eisiau gweithio gyda busnesau a sefydliadau sy’n falch o’u henw da, o'r hyn maen nhw’n ei gyflawni ac o'u hymddygiad. Mae’r ddolen sy’n dilyn yn mynd â chi at ganllawiau sy’n esbonio’r mathau o ymddygiad, diwylliant a gwerthoedd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r rheini sy’n derbyn grantiau ganddi eu harddel.

Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y rhai hynny sy’n derbyn grant

Adran B: pwy sy'n gymwys

Rydych yn gymwys i wneud cais os ydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). I gael cyngor ar sut i gofrestru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004. 

Rhaid: 

  • bod gennych o leiaf tri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru (gan gynnwys eich cyfran o dir comin), sydd wedi'i gofrestru gydag RPW, 
    neu
  • eich bod yn gallu dangos eich bod yn gwneud dros 550 o oriau o lafur safonol ar weithgareddau amaethyddol neu ategol
  • eich bod yn cynnal gweithgareddau amaethyddol neu ategol ar dir amaethyddol. Diffinnir amaethyddiaeth a gweithgareddau cysylltiedig yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru)

Mae gweithgareddau amaethyddol yn cynnwys:   

  • cadw a bridio da byw. Defnyddio tir ar gyfer garddwriaeth, ffermio cnydau âr a ffermio llaeth
  • defnyddio tir fel tir pori ac fel coetir ffermydd neu ar gyfer amaeth-goedwigaeth
  • amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir, tyfu planhigion i'w gwerthu neu werthu rhan o'r planhigyn fel cynhyrchu hadau  
  • cynnal tir mewn cyflwr sy’n ei wneud yn addas ar gyfer y gweithgarwch a restrir uchod 

Mae gweithgareddau ategol yn cynnwys:

  • gweithgareddau ar dir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth i greu a rheoli cynefin, neu at ddibenion eraill sy'n gysylltiedig â chadwraeth natur, lliniaru'r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo, neu gynnal ecosystemau a'u gwneud yn fwy gwydn    
  • gwerthu, marchnata, paratoi, pecynnu, prosesu neu ddosbarthu cynhyrchion sy'n deillio o amaethyddiaeth

Byddwn yn edrych a oes gennych hawliad cymwys o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ym mlwyddyn gyfredol neu ddiweddaraf y cynllun i gadarnhau bod gennych dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru a'ch bod yn cynnal gweithgareddau amaethyddol neu ategol.  

Os nad ydych wedi cyflwyno hawliad BPS cymwys ym mlwyddyn gyfredol neu ddiweddaraf y cynllun, rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda'ch cais i gadarnhau'r canlynol;   

  • eich bod yn cynnal gweithgareddau amaethyddol neu ategol pan fyddwch yn cyflwyno'r cais
  • naill ai bod gennych dri hectar o dir amaethyddol cymwys wedi'i gofrestru gyda RPW neu dystiolaeth eich bod wedi gwneud 550 o oriau o lafur safonol yn ystod y 12 mis diwethaf 

Tystiolaeth ddogfennol dderbyniol ar gyfer 550 o oriau o lafur safonol yw:  

  • llythyr achrededig gan gyfrifydd, fydd yn cadarnhau bod y busnes wedi cwblhau mwy na 550 o oriau 
    neu 
  • dim ond os yw'n darparu lefel gyfatebol o sicrwydd y derbynnir tystiolaeth heblaw llythyr gan gyfrifydd achrededig fel prawf. Mae hynny’n golygu y dylai fod wedi’i dilysu gan rywun achrededig annibynnol, fel cyfreithiwr, sy’n deall digon am y busnes i gadarnhau’r haeriad o 550 o oriau

Os na fydd tystiolaeth ddogfennol wedi'i chyflwyno gyda'r cais, ni chaiff y cais fynd yn ei flaen ar gyfer y broses ddewis nes bod y dystiolaeth wedi dod i law, a gellir ei wrthod.

Costau cymwys 

Dim ond eitemau sydd wedi'u rhestru yn y canllawiau Technegol sy'n gymwys am grant.

Rhaid i'r eitemau y byddwch wed'u prynu fodloni'r fanyleb a ddisgrifir neu ragori arni.

Er mwyn i eitem fod yn gymwys, ni fyddai'r buddsoddiad yn digwydd heb y grant.

Costau anghymwys

  • offer ail-law
  • nwyddau traul (eitemau sy'n debygol o gael eu 'gorffen' neu eu defnyddio i fyny e.e. nid yw Meddyginiaeth i'w defnyddio yn y Dryll Drensio EID yn gymwys)
  • eitemau a brynir ar gyfer gwneud gwaith contractio amaethyddol 
  • eitemau nad ydych wedi talu'n llawn neu'n gywir amdanynt cyn cyflwyno'r hawliad
  • eitemau wedi'u prynu trwy gytundeb hurbwrcas neu lesio neu unrhyw fath arall o drefniant ariannol, gan gynnwys nodyn credyd
  • eitemau a brynwyd fel rhan o drefniant rhan-gyfnewid

Adran C: cyfradd ucha'r grant a throthwy ucha'r grant

Y grant mwyaf y byddwn yn ei ddyfarnu yw £15,000 fesul ymgeisydd, bob blwyddyn ariannol. Y grant lleiaf fydd £500 fesul cais.

Caiff cais fod yn fwy na'r cap o £15,000 os oes un eitem gymwys ychwanegol yn gwneud i gyfanswm gwerth y grant fynd dros yr uchafswm.

Ond os caiff eich cais ei ddewis, ni fyddwch yn cael hawlio mwy na'r £15,000.

Pwysig: Ni fydd unrhyw wariant sydd wedi'i gymeradwyo o dan yr hen gynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd yn cyfrif tuag at uchafswm y grant Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithiolrwydd. 

Cewch wneud cais a chael eich dewis nifer o weithiau bob blwyddyn, ond ni chewch fod â mwy na dau lythyr dyfarnu grant yn fyw ar yr un pryd. Ni chewch gyflwyno cais arall nes eich bod wedi cyflwyno hawliad ar gyfer o leiaf un o’r llythyrau dyfarnu grant.

O ganlyniad, os ydych eisoes wedi cael dyfarniad grant ar gyfer Haen Opsiynol yr SFS: Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd, a'ch bod am gyflwyno cais arall yn yr un flwyddyn ariannol, bydd y swm sydd eisoes wedi'i ddyrannu i chi yn y flwyddyn ariannol honno yn cael ei gyfrif. Dim ond am grant gwerth yr hyn sydd ar ôl y byddwch yn cael gwneud cais. Rhaid i'ch cais fodloni'r terfyn isaf o £500 o hyd. 

Er enghraifft:

Y dyfarniad grant mwyaf sydd ar gael mewn blwyddyn ariannol yw £15,000. Os ydych eisoes wedi cael £10,000 o grant ar gyfer 2026/27, gallwch wneud cais am ragor. Ond ni fydd unrhyw geisiadau ychwanegol yn 2026/27 yn cael bod yn fwy na £5,000.

Mae'r grant yn cael cyfrannu at hyd at 40% o werth buddsoddiad cyfalaf mewn cyfarpar a pheiriannau (heb gynnwys TAW).

Bydd y grant yn cyfrannu hyd at 40% o'r costau gwirioneddol fydd wedi'u hanfonebu hyd at y costau cyfeirio uchaf yn y canllawiau Technegol.

Er enghraifft:

Cynigir grant i chi ar gyfer prynu system symudol ar gyfer trin gwartheg - ei chost gyfeirio yw £17,259: 

  • os byddwch yn prynu eitem sy'n bodloni'r fanyleb neu'n rhagori arni, am £17,259 neu fwy, y grant a delir fydd £6,903 (40% o £17,259)
  • ond os byddwch yn prynu eitem sy'n bodloni'r fanyleb neu'n rhagori arni, am lai na'r gost gyfeirio (e.e. am £12,000), byddwch yn cael llai o grant, sef £4,800. (40% o'r £12,000 sef y gost a gafodd ei hanfonebu)

Adran D: y broses ymgeisio, dewis a dyfarnu grant

RPW Ar-lein

Dim ond drwy fynd i RPW Ar-lein y gallwch gwblhau cais ar gyfer Cynhyrchu Cyfalaf ac Effeithlonrwydd.  

I gael mwy o wybodaeth am RPW Ar-lein, ewch i'n wefan.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW. Mae manylion sut i wneud hyn ar ein wefan: RPW Ar-lein canllawiau i asiantau ac undebau ffermio.

Cyflwyno cais

Mae'r cais Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd ar gael drwy RPW Ar-lein. 

Canllawiau ar sut i gyflwyno cais drwy RPW Ar-lein.

Tra bod y cais ar gael, gallwch wneud cais unrhyw bryd. Gan ddibynnu ar ba adeg o'r flwyddyn y byddwch yn gwneud cais, efallai y cewch y dewis i wneud cais ar gyfer y flwyddyn ariannol hon neu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. 

Os caiff eich cais cyntaf ei ddewis a'ch bod yn cadarhau'ch bod yn derbyn y grant, bydd y cais yn agor ichi wneud cais am eitemau ychwanegol, os dyna'ch dymuniad.

Gan ddibynnu ar pryd y byddwch yn cyflwyno'ch cais a phryd y caiff y broses ddewis ei chynnal, bydd adegau yn ystod y flwyddyn pan dim ond un flwyddyn ariannol y gallwch ei dewis. 

Efallai y bydd y dyddiad cau ar gyfer prynu'ch eitemau a chyflwyno hawliad wedyn yn llai na'r dyddiad cau hwyraf o 180 diwrnod. 

Er enghraifft:

Os mai dim ond cais ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol sydd ar gael, eich bod yn ei gyflwyno a’i fod yn cael ei ddewis, bydd yn rhaid hawlio erbyn 180 diwrnod ar ôl dyddiad eich llythyr dyfarnu grant, neu 31 Mawrth 2027, pa un bynnag ddaw gyntaf.

Os ydych yn cyflwyno cais ac yn dewis y flwyddyn ariannol nesaf (h.y. 2027/28), y dyddiad cau ar gyfer hawlio fydd 180 diwrnod ar ôl dyddiad eich llythyr dyfarnu grant. 

Cyn gwneud cais, dylech ystyried yn ofalus pa mor gyflym y byddwch chi'n gallu dod o hyd i'r eitem/eitemau rydych chi am wneud cais amdanynt. Os ydych chi'n teimlo na fyddwch yn gallu cynnal yr holl weithgareddau yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod blwyddyn ariannol yn y dyfodol ar gael i chi, dylech ddewis honno pan ofynnir i chi, cyn dechrau'r ffurflen. 

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais yn cael ei lenwi’n gywir a bod yr wybodaeth i gefnogi’ch prosiect yn gywir.

Os na fydd eich cais yn gymwys, byddwn yn rhoi gwybod ichi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lenwi'ch cais, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.  Bydd yn gallu'ch helpu a'ch cynghori gan gynnwys rhoi helpu digidol os oes angen.

Tynnu'r cais yn ôl 

Ar ôl i chi gyflwyno cais Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd, gallwch dynnu'ch cais yn ôl ar unrhyw adeg cyn i chi gael cynnig grant. Gallwch wneud hynny yn 'Fy Negeseuon' ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

Os ydych wedi dewis yr eitem anghywir neu'n newid eich meddwl am yr eitem rydych wedi'i dewis neu os na sylwoch chi bod yr eitem roeddech am ei chael ar y rhestr, yna gallwch dynnu'r cais yn ôl a gwneud cais arall.   

Sgorio a dewis 

Y gyllideb fras sydd wedi'i dyrannu ar gyfer y categori hwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27 yw £2 miliwn ac mae £5 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer blwyddyn ariannol 2027/2028. 

Mae pob eitem gyfalaf yn cael ei sgorio ar sail pedwar maen prawf, gyda'r pwysoliad canlynol:

Meini Prawf SgorioPwysoliad
Defnyddio Adnoddau'n Effeithlonx3
Defnyddio Technoleg yn Effeithlonx2
Iechyd a Lles Anifeiliaidx2
Iechyd a Diogelwchx1

Bydd ymgeiswyr sydd wedi hawlio Haen Gyffredinol yr SFS (Cynllun Ffermio Cynaliadwy) bob amser yn cael blaenoriaeth dros y rhai nad ydynt wedi hawlio'r Haen Gyffredinol. Bydd pwysoliad ychwanegol i roi blaenoriaeth i'r ymgeiswyr hynny. 

Fe welwch y sgôr a roddir ar gyfer pob eitem unigol yn y canllawiau Technegol

Bydd y system yn cyfrif sgôr y cais yn awtomatig trwy gyfrif cyfartaledd y pwyntiau yn erbyn pob eitem unigol. 

Bydd pob cais yn cael ei sgorio a'i raddio. Bydd sgôr trothwy yn cael ei osod ar sail faint o gyllideb sydd ar gael a bydd y ceisiadau sy'n cael y sgôr uchaf yn cael cynnig grant.

Pwrpas y broses sgorio yw i Lywodraeth Cymru allu rhoi'r ceisiadau yn eu trefn yn erbyn yr arian sydd ar gael ym mhob blwyddyn ariannol.

Y ceisiadau sydd â'r sgôr uchaf fydd yn cael eu dewis gyntaf.

Os oes dau gais yn cael yr un sgôr a’u bod o’r un gwerth a'u bod wedi croesi trothwy’r gyllideb sydd ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i naill ai ddewis neu wrthod y naill gais neu'r llall, gan ddibynnu ar y gyllideb sydd ar gael.

Mae’r tabl isod yn dangos pan fydd ymarferion dewis yn cael eu cynnal a’r blynyddoedd ariannol a fydd yn cael eu cynnwys yn yr ymarfer dewis (mae pob dewis yn ddarostyngedig i’r cyllid sydd ar gael)

Ymarfer dewis Blwyddyn Ariannol 2026/2027Blwyddyn Ariannol 2027/2028
w/d 21/09/2026 ✓ 
w/d 02/11/2026 ✓ ✓
w/d 14/12/2026 ✓ ✓
w/d 25/01/2027  ✓
w/d 01/03/2027  ✓
w/d 22/03/2027  

Y dyddiad olaf y cewch gyflwyno cais i gael eich dewis ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2026/2027 yw 11 Rhagfyr 2026.

Os caiff eich cais ei ddewis, byddwch yn cael llythyr dyfarnu grant. 

Os yw'ch cais yn gymwys ond heb gael ei ddewis, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy'ch cyfrif RPW Ar-lein a bydd eich cais yn cael ei ystyried yn y rownd nesaf. Os nad ydych am inni ystyried eich cais yn y dyfodol, cewch dynnu'ch cais yn ôl. Bydd unrhyw gais nad yw wedi cael ei ddewis erbyn yr ymarfer dewis olaf ar gyfer y flwyddyn ariannol honno’n cael ei wrthod, a chewch eich hysbysu drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

Pwysig: Mae’n bosibl y bydd gwerthoedd ar gyfer eitemau’n newid ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2027/28. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar ddyfarniadau grant sydd eisoes wedi cael eu derbyn. 

Llythyr Dyfarnu Grant

Bydd y Dyfarniad Grant yn cael ei gyhoeddi am uchafswm o 180 diwrnod. Rhaid ichi gyflwyno eich hawliad erbyn y “Dyddiad Argaeledd Terfynol” yn eich llythyr dyfarnu grant. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer yr hawliad.

Rhaid ichi gadarnhau’ch bod yn derbyn y grant sydd wedi'i ddyfarnu i chi o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl dyddiad y cynnig drwy bwyso ar y botwm glas yn hafan RPW Ar-Lein. 

Ni chewch brynu'r eitemau sydd yn eich cais nes bod grant wedi'i gynnig i chi. 

Os na fyddwch wedi cadarnhau'ch bod yn derbyn y grant o fewn 21 diwrnod calendr, bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl. 

Caiff manylion llawn pryd y bydd yn rhaid ichi dderbyn y contract a phryd y bydd yn rhaid ichi brynu'r eitemau a'u hawlio eu nodi yn eich llythyr dyfarnu grant.

Byddwn yn eich atgoffa ar eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y dyfarniad.

Ni fyddwn yn gallu newid eitemau ar eich llythyr dyfarnu grant (h.y. cyfnewid un eitem am eitem arall) ar ôl iddo gael ei gyhoeddi.

Adran E: amodau’r grant

Ar ôl i chi gadarnhau'ch bod yn derbyn y dyfarniad grant Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd, rydych yn ymrwymo i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru ac felly'n rhywun sy'n dal cytundeb (deiliad cytundeb) at ddibenion Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025. 

Mae'r grant Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd yn dod o dan nifer o ddeddfau perthnasol (gweler Adran K). Rhaid i Lywodraeth Cymru a deiliad y cytundeb weithredu yn unol â’r deddfau hynny.  

Mae'r grant yn cael ei gynnig yn unol â’r telerau a'r amodau a fydd yn cael eu nodi yn eich llythyr dyfarnu grant, gan gynnwys y telerau a’r amodau a nodir isod.

Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad grant arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu adennill yr arian sydd eisoes wedi’i dalu i chi, neu leihau'r grant y byddwn yn ei dalu ichi.

Amodau

Gwneir y dyfarniad ar sail y datganiadau y byddwch chi neu'ch cynrychiolwyr wedi'u gwneud. Mae’n drosedd gwneud datganiadau ffug neu gamarweiniol. 

Gellid erlyn person sy’n gwneud datganiad ffug neu na fydd wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd yn y cais hwn. Gallai datganiad ffug, anghywir neu anghyflawn neu beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newid perthnasol i’r wybodaeth sydd wedi’i rhoi i Lywodraeth Cymru arwain at derfynu'r contract a/neu adennill taliadau sydd wedi’u gwneud. 

Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru’r rheolau a’r amodau os bydd newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r holl gyfreithiau neu reoliadau neu gyfarwyddebau domestig neu ryngwladol perthnasol.

Ni chewch newid y prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgarwch, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Ni chewch gael gwared ar, trosglwyddo neu werthu unrhyw offer a brynir gyda chymorth y grant yn ystod oes y prosiect ac am bum mlynedd o ddyddiad diwedd y dyfarniad grant, heb ganiatâd ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.

Rhaid ichi ddarllen a deall y canllawiau perthnasol.

Mae’r manylion rydych wedi’i rhoi yn y ceisiadau ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn.

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r dyfarniad grant, a'ch bod yn llwyr gyfrifol am bob penderfyniad busnes a wneir.

Mae gofyn ichi gydymffurfio â’r rheolau ynghylch costau cymwys a nodir yn y canllawiau.

Rhaid cwblhau buddsoddiadau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru. Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno drwy ddefnyddio ffurflen hawlio Grantiau RPW Ar-lein a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau ategol sydd eu hangen o dan y cynllun.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y llythyr dyfarnu grant. Ni chaniateir i chi newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Os nad ydych yn hawlio’r cyllid o fewn y cyfnod argaeledd, ni fydd bellach ar gael ichi.

Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi’i dalu y gellir rhoi’r grant, hynny yw, taliadau sydd wedi clirio o gyfrif banc.

Rhaid i chi ymrwymo i gael unrhyw ganiatâd cynllunio sydd ei angen.

Rhaid i chi gadarnhau nad oes eitemau yn y cais yn eitemau rydych yn eu hawlio o dan yswiriant.

Rhaid ichi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall. Os daw'n amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a'ch cosbi.

Rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf deg mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect.

Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau sy'n gymwys yn ystod cyfnod y dyfarniad grant hwn.

Mae pob cydsyniad, trwydded a chaniatâd arall wedi’i roi yn ôl yr angen

Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru neu eu hasiant awdurdodedig priodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru neu eu cynrychiolwyr fynd ar eich tir ac archwilio’r tir ac unrhyw offer, cyfleusterau a'r holl gofnodion a gwybodaeth berthnasol sydd eu hangen i gadarnhau’ch bod yn gymwys a bod y wybodaeth a roddwyd mewn cysylltiad â'r dyfarniad grant hwn yn gywir. Os gofynnir, rhaid i chi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld y dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â’r buddsoddiad.

Rhaid bod gennych yswiriant digonol ar gyfer y risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo neu unrhyw weithgaredd yr ymgymerir ag ef wrth gyflawni’r dibenion. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn ichi gyflwyno tystiolaeth o’ch yswiriant. 

Mae'n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru rannu gwybodaeth am eich dyfarniad grant â sefydliadau eraill, ac rydych yn cytuno i ni ddatgelu neu rannu unrhyw wybodaeth yn ôl yr angen. 

Gallai Llywodraeth Cymru ofyn hefyd am wybodaeth amdanoch oddi wrth sefydliadau eraill, neu roi gwybodaeth amdanoch iddyn nhw er mwyn cadarnhau cywirdeb yr wybodaeth, er mwyn atal neu ganfod troseddau, ac er mwyn diogelu arian cyhoeddus. Mae'r sefydliadau eraill hynny'n cynnwys adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff eraill, yn ôl y gofyn.

Rwy'n deall y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn datgelu gwybodaeth yn unol â’r ymrwymiadau a’r dyletswyddau sydd arni o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025. Caiff gwybodaeth arall a roddir ei datgelu hefyd os caniateir hynny o dan y gyfraith. 

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn dod o dan yr Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran F: amgylchiadau'n newid

Yn unol â'r ddeddfwriaeth lywodraethu, rhaid i chi roi gwybod i RPW cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol, am unrhyw newid yn eich amgylchiadau y gellid disgwyl yn rhesymol iddo effeithio ar eich gallu i fodloni'r meini prawf a/neu amodau'r grant. Dylech wneud hyn o fewn 60 diwrnod ar ôl i'r newid perthnasol yn eich amgylchiadau ddigwydd. 

Pan fyddwch wedi rhoi gwybod i ni, gallwn gymryd un neu fwy o'r camau canlynol: 

  1. newid, dileu neu ddisodli amod, am gyfnod dros dro neu’n barhaol
  2. newid, dileu neu ddisodli unrhyw ofynion neu amserlenni naill ai dros dro neu'n barhaol
  3. gosod sancsiynau a/neu leihau taliadau 
  4. ei gwneud yn ofynnol i chi ad-dalu rhai neu'r holl daliadau blaenorol a wnaed

Bydd Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn y gallai cyfres o ddigwyddiadau sy'n gyfystyr ag amgylchiadau eithriadol eich rhwystro rhag cadw at ymrwymiadau penodol. Ceir mwy o fanylion yn Adran H. 

Adran G: tynnu dyfarniadau grant yn ôl a thynnu eitemau

Tynnu dyfarniad grant yn ôl 

Os ydych yn derbyn dyfarniad grant ac am dynnu'ch dyfarniad grant yn ôl, rhaid i chi roi gwybod i RPW drwy eich cyfrif RPW Ar-lein o leiaf 60 diwrnod cyn dyddiad diwedd eich dyfarniad grant. 

Os na fyddwch wedi rhoi gwybod i RPW eich bod am i'ch dyfarniad grant gael ei dynnu'n ôl ac nad ydych wedyn yn hawlio unrhyw eitemau, byddwch yn cael eich gwahardd rhag gwneud cais arall i Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd am gyfnod o un flwyddyn o'r dyddiad cau ar gyfer hawlio.

Tynnu eitemau 

Os ydych am dynnu eitemau o'ch dyfarniad grant, rhaid i chi roi gwybod i RPW drwy eich cyfrif RPW Ar-lein o leiaf 60 diwrnod cyn dyddiad diwedd eich dyfarniad grant. 

Os ydych yn tynnu eitemau o’ch dyfarniad grant, bydd gwerth yr eitemau hyn ar gael ichi os ydych am gyflwyno cais arall ar gyfer yr eitemau o fewn yr un flwyddyn ariannol.

Os na fyddwch wedi rhoi gwybod i RPW eich bod am dynnu eitemau ac nad ydych wedyn yn hawlio'r holl eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich dyfarniad grant, efallai y cewch eich cosbi (gweler adran H).

Adran H: taliadau

Hawliadau

Ni fydd hawliad yn cael ei ystyried yn ddilys oni bai ei fod yn cael ei gyflwyno ar dudalen Hawlio Grantiau RPW Ar-lein gyda'r holl ddogfennau ategol. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein i wneud cais i’r categori Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd. 

Chewch chi ddim mo'ch talu nes bod eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod yr arian perthnasol wedi’i wario a bod yr eitemau yn eu lle y bydd hawliadau’n cael eu talu.

Bydd taliadau’n cael eu talu i chi drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn cael eich talu, byddwch:

  • wedi cadarnhau'ch bod yn derbyn y dyfarniad grant o fewn 21 niwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a rhaid cadw at yr holl ofynion
  • yn sicrhau nad ydych yn prynu’r eitemau a restrir yn eich Llythyr Dyfarnu Grant nes y caiff grant ei gynnig ichi
  • yn gwneud yn siŵr eich bod wedi prynu'r holl eitemau a restrir yn eich llythyr dyfarnu grant (gweler Adran G am Dynnu'n ôl a thynnu eitemau)
  • yn sicrhau fod yr holl eitemau a brynwyd ar eich safle pan fyddwch chi'n cyflwyno'ch hawliad a'u bod. lle bo hynny'n gymwys, wedi'u gosod yn eu lle a'u bod yn barod ar gyfer eu defnyddio yn unol â manyleb y grant o fewn chwe mis ar ôl cyflwyno'r hawliad
  • yn cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grant ar eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio sydd wedi’i nodi yn eich llythyr dyfarnu grant

Byddwn yn barod i dderbyn hawliadau a/neu ddogfennau ategol hwyr hyd at 10 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cau ar gyfer hawlio. Bydd yna gosbau am hawlio'n hwyr fel hyn (gweler Sancsiynau isod). 

Nid oes cyfnod hawlio hwyr ar gyfer prynu eitemau sydd wedi'u rhestru yn eich llythyr dyfarnu grant. Rhaid i'r holl eitemau fod wedi'u prynu, wedi talu amdanynt ac ar eich daliad, erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio. 

Byddwn yn anfon hyd at dau nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.

Dogfennau ategol

Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol gyda'ch hawliad:

  • anfonebau ar gyfer pob eitem sy'n cael ei hawlio
  • tystiolaeth bod yr eitemau a brynwyd yn bodloni neu'n rhagori ar y fanyleb
  • tystiolaeth bod yr arian ar bob eitem sy’n cael ei hawlio wedi'i wario

Mae angen nodi'n glir pob eitem unigol a'i chost ar yr anfoneb.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr eitemau a brynwyd yn bodloni neu'n rhagori ar y fanyleb yn y canllawiau Technegol a rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol sy'n cadarnhau hyn. 

Er enghraifft:

Os ydych chi'n hawlio am system symudol ar gyfer trin gwartheg sy'n cynnwys:

  • rhedfa 
  • craets â lled mewnol heb fod yn llai na 720mm 
  • ochrau sy'n agor i'r anifail gael mynd mewn iddo
  • corlan ar gyfer o leiaf 25 o wartheg. (dros 24 mis) 
  • trelar integredig sy’n gyfreithlon i fod ar y ffordd
  • bar ffolen y gellir ei weithredu o du allan y craets a'r rhedfa
  • iau pen hyd llawn y gellir ei haddasu
  • metel wedi'i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr

Rhaid i'r anfoneb ddangos bod y system symudol ar gyfer trin gwartheg yn bodloni pob un o'r gofynion hyn. 

Os nad yw'r anfoneb yn dangos hyn, rhaid i chi gyflwyno manyleb fanwl sy'n cadarnhau bod y gofynion wedi'u bodloni. 

Dylech ddarparu'r wybodaeth ychwanegol ganlynol, lle bo hynny'n briodol:

  • enw'r gwneuthurwr, rhif y model, y rhif cyfresol, ac ati os nad ydyn nhw wedi'u nodi ar yr anfoneb
  • rhestr fanwl o'r fanyleb, os nad yw wedi'i nodi ar yr anfoneb, neu ddisgrifiad o'r eitem sy'n esbonio sut mae'n bodloni'r fanyleb

Rhaid i chi gyflwyno cyfriflenni banc fel tystiolaeth bod gwariant wedi’i wneud ar gyfer pob eitem o gyfarpar yn eich llythyr dyfarnu grant.

Gallwch gyflwyno’r anfonebau a’r cyfriflenni banc drwy eu sganio a’u hanfon drwy ‘Fy Negeseuon’ yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Eitemau heb gyrraedd

Os oes llai na 60 diwrnod i fynd cyn dyddiad diwedd y dyfarniad grant a'ch bod wedi cael eich gwybod gan y cyflenwr/gwneuthurwr na all gael yr eitem(au) i chi cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio, rhaid i chi roi gwybod i RPW drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Rhowch brawf eich bod neilltuo amser rhesymol pan wnaethoch chi ei harchebu a thystiolaeth ddogfennol gan y cyflenwr i gadarnhau nad yw'n gallu cyflenwi'r eitem erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.   

Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau. 

Sylwer, bydd cais i dynnu eitem pan fyddwch yn cyflwyno hawliad yn arwain at sancsiynau.

Sancsiynau

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir ac wedi'i gyflwyno gyda'r dogfennau ategol. 

Bydd eich hawliad yn anghywir a byddwch yn cael eich cosbi os:

  • na fyddwch wedi cyflwyno hawliad a dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yn eich llythyr dyfarnu grant
  • byddwch yn cyflwyno'ch hawliad a/neu ddogfennau ategol ar ôl y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yn eich llythyr dyfarnu grant
  • byddwch wedi prynu eitemau cyn ichi gadarnhau'ch bod yn derbyn y dyfarniad grant
  • nad ydych wedi prynu'r holl eitemau a restrir yn y llythyr dyfarnu grant ac nad ydych wedi gofyn am gael tynnu eitemau
  • yw unrhyw un o'r eitemau a hawlir wedi'u rhestru o dan 'Costau Anghymwys' yn adran B
  • ydych wedi prynu eitemau nad ydynt yn bodloni'r fanyleb ofynnol a nodir yn y canllawiau Technegol.
  • nad ydych wedi talu'n llawn am yr eitemau
  • nad yw pob un o'r buddsoddiadau a hawlir ar y safle pan fyddwn yn ymweld â'ch safle

Y gosb am hawlio’n hwyr

Os yw'ch hawliad a/neu ddogfennau ategol yn ein cyrraedd o fewn y cyfnod hawlio hwyr, bydd cosb hawliad hwyr o 1% am bob diwrnod gwaith yn cael ei rhoi ar eich taliad. 

Bydd unrhyw hawliadau a/neu ddogfennau ategol a fydd yn cyrraedd ar ôl y cyfnod hawlio hwyr yn cael eu gwrthod.

Cosb am eitem(au) heb eu hawlio a/neu anghymwys

Os na fyddwch wedi hawlio ar yr holl eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich llythyr dyfarnu grant, bydd y taliad yn cael ei leihau i gyfateb i'r eitemau sydd wedi'u hawlio. 

Os gwelir bod gwerth yr eitemau sydd heb eu hawlio yn fwy na 10% o gostau cymwys y grant, tynnir swm sy'n cyfateb i hanner gwerth yr eitemau sydd heb eu hawlio o'ch taliad. 

Os bydd hawliad yn cynnwys eitem(au) nad ydynt yn bodloni'r fanyleb, eitemau sydd wedi'u prynu cyn i chi gael y llythyr dyfarnu grant, eitemau nad ydych wedi talu'n llawn amdanyn nhw neu nad ydyn nhw ar y safle pan fyddwch yn hawlio neu yn ystod archwiliad, bydd taliadau'n cael eu lleihau i swm yr eitemau a brynwyd sy'n cael eu hystyried yn gymwys. 

Os gwelir bod gwerth yr eitemau anghymwys yn fwy na 10% o gostau cymwys y grant, tynnir swm sy'n cyfateb i hanner gwerth yr eitemau anghymwys o'ch taliad.

Os bydd eich hawliad yn cynnwys eitemau heb eu hawlio ac eitemau anghymwys, bydd eu gwerth yn cael ei adio at ei gilydd i gyfri'r gostyngiad yn y taliad ac i weld a fydd cosb. 

Er enghraifft: 

Mae gan ddeiliad cytundeb yr eitemau canlynol yn ei lythyr dyfarnu grant sy'n werth grant o £6,847.80. 

Eitem Cyfalaf Cynhyrchu ac EffeithlonrwyddNiferGwerth y Grant
Craets gwartheg sy’n gweithio trwy system hydrolig.1£4,723
Ffensys trydan  1£162.80
Gât i ddal buwch sy'n bwrw llo1£282
Offer Trin Defaid1£1,680
Cyfanswm £6,847.80

Nid yw'r giât bwrw lloi, gwerth £282, yn cael ei hawlio. Cyfanswm y swm a hawliwyd yw £6,565.80 (o gyfanswm o £6,847.80). 

Gan fod y gwahaniaeth rhwng y swm a hawliwyd a chyfanswm gwerth y grant yn llai na 10%, cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £6,565.80. 

Ond os na fyddwch yn hawlio'r giât bwrw llo, gwerth £282 ac ystyrir bod yr Offer Trin Defaid, gwerth £1,680, yn anghymwys, gwerth yr hawliad cymwys yw £4,885.80 (£6,847.80 -£1,962 (£282 + £1,680)). 

Gan fod y gwahaniaeth rhwng yr hawliad cymwys a'r dyfarniad grant yn fwy na 10%, caiff swm sy'n cyfateb i 50% o'r eitemau anghymwys/heb eu hawlio yn cael ei dynnu o'r hawliad. 

Felly, cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £3,904.80 (gwerth yr hawliad cymwys £4,885.80 minws £981 (50% o £1,962). 

Gwahardd

Os na fyddwch wedi hawlio unrhyw un o'r eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich llythyr dyfarnu grant, efallai y cewch eich gwahardd rhag cyflwyno rhagor o geisiadau am y categori Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd am un flwyddyn o'r ddyddiad cau ar gyfer hawlio a dyddiad olaf dyfarnu grant. 

Camgymeriadau amlwg 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig darpariaeth Camgymeriad Amlwg yn unol â'r ddeddfwriaeth sy'n rheoli'r cymorth. Bydd yn seiliedig ar asesiad cyffredinol o'r achos penodol, cyn belled â bod yr ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb wedi gweithredu gyda phob bwriad da. 

Fel rheol gyffredinol, i gamgymeriad fod yn amlwg, byddwn wedi gallu ei ddarganfod gan ddefnyddio'r dogfennau a'r wybodaeth yr oeddech wedi'u cyflwyno i RPW fel rhan o geisiadau neu wrth hawlio taliadau neu i'w cefnogi, gan gynnwys dogfennau ategol a hysbysiadau perthnasol, ac o ganlyniad i wiriadau cynhwysfawr yn erbyn gwybodaeth berthnasol arall a gedwir gan Lywodraeth Cymru.  Mewn achosion o'r fath, gellir cywiro a / neu addasu'r cais am gymorth neu daliadau ar unrhyw adeg ar ôl ei gyflwyno.

Amgylchiadau eithriadol 

Amgylchiadau eithriadol yw amgylchiadau anarferol sydd y tu allan i reolaeth yr ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb, a oedd yn annisgwyl ac nad oedd modd eu hosgoi er gwaethaf pob gofal heb aberth ormodol ar ei ran. Mae enghreifftiau y gellir eu cydnabod yn cynnwys: 

  • digwyddiadau naturiol, fel cyfnod hir o dywydd drwg, llifogydd neu glefyd ar anifail neu blanhigyn  
  • salwch neu anaf difrifol neu farwolaeth sy’n effeithio ar y busnes  
  • colli rheolaeth ar y busnes mewn ffordd na ellid fod wedi’i ragweld er enghraifft bod tenantiaeth yn cael ei derfynu neu oherwydd gorchymyn prynu gorfodol 
  • amgylchiadau ariannol fel methdalaeth  
  • problemau yn y gadwyn gyflenwi, gyda thystiolaeth 
  • difrod troseddol gan drydydd parti, fel tân troseddol neu fandaliaeth  

Er mwyn i Lywodraeth Cymru ystyried a derbyn bod digwyddiad yn amgylchiad eithriadol, rhaid i fanylion ysgrifenedig ddod i'n llaw, o fewn 60 diwrnod ar ôl i'r ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb, neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran, allu gwneud hynny.  

Gall digwyddiad effeithio'n uniongyrchol ar un aelod yn unig o sefydliad neu fusnes fferm, fodd bynnag, dylid esbonio sut gwnaeth y digwyddiad effeithio ar allu pawb yn y busnes neu'r sefydliad yn ei gyfanrwydd i gyflawni eu rhwymedigaethau. Gellir gofyn am dystiolaeth ddogfennol ychwanegol a dylid ei darparu fel y bo'n briodol.

Mae'r ddarpariaeth amgylchiadau eithriadol ar gael mewn perthynas â’r canlynol:

  • cyflwyno cais neu hawliad yn hwyr
  • cyflwyno dogfennau ategol yn hwyr mewn perthynas â chais neu hawliad   
  • yr hawl am daliad mewn perthynas â rhai arwynebeddau cymwys a ddatganwyd ar gais neu hawliad ond nad ydynt bellach ar gael i'r ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb oherwydd digwyddiad amgylchiadau eithriadol
  • yr anallu i gydymffurfio â gofynion y cynllun gan gynnwys amodau bod yn gymwys
  • cosbau a osodir ar hawliadau. Y gofyn i ad-dalu'n rhannol neu'n llawn y taliadau a dderbyniwyd

Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau.  

Troseddau

Mae rheoliad 19 o Reoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 yn sefydlu troseddau mewn perthynas ag agweddau penodol ar y cymorth ariannol a ddarperir o dan y rheoliadau hynny. Mae’r rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn gymwys i Gyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ar unrhyw adeg, methu â darparu gwybodaeth, tystiolaeth neu gopïau o gofnodion pan ofynnir amdanynt ac atal neu rwystro archwiliad, gan gynnwys methu â darparu cymorth rhesymol wrth i archwiliad gael ei gynnal. 

Pan fyddwn yn barnu eich bod wedi cyflawni trosedd yn unol â'r rheoliadau, gellir tynnu eich grant yn ôl yn llwyr neu'n rhannol.

Ymddygiad annerbyniol 

Ni ddylai swyddogion Llywodraeth Cymru nac unigolion neu sefydliadau sy’n gwneud dyletswyddau ar ran Llywodraeth Cymru ddioddef ymddygiad ymosodol, difrïol na sarhaus na gofynion afresymol a di-baid gan ymgeisydd neu ddeiliad cytundeb neu ei gynrychiolwyr. Ni ddylai aelodau’r Panel Apelio Annibynnol ddioddef ymddygiad o'r fath chwaith.

Mae'r ddogfen Rheoli Ymddygiad Annerbyniol Cwsmeriaid gan Lywodraeth Cymru ar  gael ar wefan Llywodraeth Cymru sy'n esbonio beth yw ymddygiad annerbyniol yn ein barn ni. 

Gall ymddygiad annerbyniol arwain at dynnu taliadau yn ôl a/neu wrthod cais neu hawliad.

Talu taliadau yn ôl 

Os gwelir bod taliad anghywir wedi'i wneud, gellir gofyn ichi dalu'r arian hwnnw neu ran ohono, yn ôl. 

Os bydd angen ichi ad-dalu arian, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i chi am y ddyled. Os na fyddwch wedi talu'r ddyled, caiff y swm llawn ei dynnu'n awtomatig o'r taliadau cymorth amaethyddol cyntaf ddaw'n ddyledus i chi yn y dyfodol neu unrhyw gymorth eraill a sefydlwyd o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Adran I: archwiliadau

Gall dilysu amodau dyfarnu grant gan Lywodraeth Cymru gynnwys ymweld â safleoedd sampl o ddeiliaid cytundeb i sicrhau bod yr eitemau ar y safle ac yn eu lle, lle bo hynny'n briodol.

Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, archwilio’r eitemau a brynwyd o fewn 5 mlynedd ar ôl dyddiad diwethaf y dyfarniad grant.

Os byddwch yn gwrthod caniatáu ymweliad neu'n rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, gall Llywodraeth Cymru ofyn ichi ad-dalu taliadau blaenorol.

Adran J: cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio ag ymrwymiadau'r grant am ddeg mlynedd o daliad olaf y cyllid.

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • ddarparu unrhyw wybodaeth am eich grant Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd o fewn cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru
  • darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â’ch grant Cyfalaf - Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantiaid. Rhoi’r hawl i Lywodraeth Cymru gymryd dogfennau neu gofnod neu i wneud copïau neu godi darnau ohonyn nhw

Adran K: newidiadau i ddeddfwriaeth a'r rheolau

Newidiadau i’r ddeddfwriaeth (gan gynnwys dehongliadau newydd)

Mae rheolau Cyfalaf Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd yn seiliedig ar Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 Rhif 1308 (Cy219) 

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r rheolau ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i'r rheolau neu ddyfarniad y grant

Mae’n bosibl y bydd angen i ni newid rheolau’r grant a/neu eich llythyr dyfarnu grant am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen inni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio'r rheolau er mwyn ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar ein wefan ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran L: y drefn apelio a chwyno

Y drefn apelio

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd ichi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â'r rheolau a'r canllawiau, ar ôl ichi dderbyn eich dyfarniad grant. Nid oes sail dros apelio yn y cam ymgeisio.

Mae dwy ran i’r broses apelio:

  • cam 1: adolygiad gan swyddogion Llywodraeth Cymru
  • cam 2: adolygiad gan Banel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng ngham 1)

Mae’r Panel Apelio Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Rhaid i apêl, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Rhaid i apelwyr a’u cynrychiolwyr beidio â chysylltu’n uniongyrchol ag aelodau’r Panel Apelio Annibynnol. Efallai y gallwn ystyried bod hyn yn Ymddygiad Annerbyniol yn ôl y canllawiau ar rheoli ymddygiad annerbyniol cwsmeriaid Llywodraeth Cymru. Gall ymddygiad annerbyniol arwain at dynnu taliadau yn ôl a/neu wrthod cais, hawliad neu apêl.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: canllaw.

Y drefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch ragor o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan:

Tîm Cynghori ar Gwynion

Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhif ffôn:

03000 251378

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Hefyd ddewis cysylltu ag: 

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ

Rhif ffôn:

0300 790 0203

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Gwefan: Ombwdsmon

Adran M: monitro a gwerthuso

Beth yw monitro a gwerthuso 

Mae monitro yn golygu casglu data, wrth ac ar ôl cynnal y cynllun, i helpu i wneud penderfyniadau gwell yn awr ac yn y dyfodol. Gweler hefyd y Llyfr Gwyrdd (ar gov.uk).

Mae cysylltiad agos rhwng monitro a gwerthuso. Bydd gwerthusiad cyffredin yn dibynnu'n drwm ar ddata monitro. 

Mae gwerthuso yn golygu asesu dyluniad, gweithrediad a chanlyniadau'r cynllun. Mae'n cynnwys deall sut mae'r cynllun cymorth yn cael neu wedi cael ei weithredu a beth yw ei effeithiau, i bwy a pham.

Mae gwerthuso yn golygu hefyd nodi'r hyn y gellir ei wella a sut, a hefyd amcangyfrif ei gost-effeithiolrwydd ac effaith y polisi.

Ni all data monitro ar ei ben ei hun ateb pob cwestiwn gwerthuso. Bydd gwerthuso felly yn defnyddio cymysgedd o ddulliau meintiol ac ansoddol yn unol â'r Llyfr Magenta (ar gov.uk)

Pam mae angen monitro a gwerthuso

Mae monitro a gwerthuso yn ffordd bwysig o weld y gwersi y gellir eu dysgu er mwyn dylunio a darparu cymorth yr SFS yn well yn y dyfodol. 

Monitro a gwerthuso’r SFS

Llywodraeth Cymru fydd yn monitro a gwerthuso'r SFS ac yn adrodd arno, a hynny drwy: 

  1. ofynion cyfreithiol Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, gan roi sylw arbennig i amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM), a
  2. gwerthuso'r cynllun

Gofynion Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

O dan y ddeddf, mae dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i fonitro a gwerthuso cyfraniad unrhyw gymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru at gyflawni amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) ac i adrodd ar hynny. 

Mae monitro yn hanfodol er mwyn i Lywodraeth Cymru allu bod yn atebol trwy fesur ei pherfformiad ar sail amcanion SLM a dibenion y cymorth. Mae adroddiadau yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar y Senedd a'r cyhoedd i allu cadw golwg ar hynt y cynllun a'r hyn sy'n cael ei wneud trwyddo.

Mae'r ddeddf yn pennu fframwaith monitro ac adrodd clir ar lefel amcanion SLM a lefel y cynllun cymorth. Mae'n cynnwys pum lefel adrodd:

  • y Cynllun Cymorth Amlflwydd, sef rhag-gynllun pum mlynedd sy'n nodi sut mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi cymorth yn ystod cyfnod y cynllun i gyfrannu at gyflawni amcanion SLM. Cyhoeddwyd y Cynllun Amlflwydd cyntaf ym mis Rhagfyr 2024
  • mae'r datganiaddangosyddion a thargedau SLM yn nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn mesur cynnydd tuag at gyflawni'r pedwar amcan SLM. Cyhoeddwyd y dangosyddion a'r targedau cyntaf ym mis Rhagfyr 2025 
  • mae'r Adroddiad Blynyddol yn disgrifio'r cymorth ariannol ac anariannol a ddarperir o dan Adran 8 o'r Ddeddf yn ystod pob blwyddyn ariannol. Mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi hefyd fanylion y cymorth a ddarperir o dan bwerau eraill. Cafodd yr adroddiad cyntaf ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2026 
  • bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi adroddiad effaith bob pum mlynedd a fydd yn gwerthuso'r holl gymorth fydd wedi'i ddarparu. Bydd yn cynnwys asesiad o'i effaith ac o effeithiolrwydd y cymorth o ran cyflawni'r dibenion y darperir y cymorth ar eu cyfer, a'i gyfraniad at gyflawni'r amcanion. Bydd yr adroddiad effaith cyntaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2030, gan gwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd Rhagfyr 2029
  • bydd Adroddiad Rheoli Tir yn Gynaliadwy(SLM) yn cael ei gyhoeddi bob pum mlynedd i asesu effeithiolrwydd y camau a gymerir gan Weinidogion Cymru yn unol â'u dyletswydd i gyflawni amcanion SLM. Bydd yn asesu cynnydd cronnus o ran cyflawni amcanion SLM (ers i'r ddyletswydd SLM ddod i rym) yn ogystal â'r cynnydd dros gyfnod yr adroddiad. Rhaid iddo hefyd asesu'r cynnydd yn erbyn dangosyddion a thargedau SLM  ac esbonio a yw pob targed wedi cael ei gyflawni. Bydd yr adroddiad SLM cyntaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2026, gan gwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd Rhagfyr 2025 

Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 Rhif 1308 (Cy219)

Mae’r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chynlluniau cymorth y mae Gweinidogion Cymru yn darparu cymorth oddi tanynt. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cael cymorth o dan gynllun cymorth ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth i Weinidogion Cymru y gall fod ei hangen er mwyn, er enghraifft, wirio bod deiliad y cytundeb yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwysedd a sicrhau cydymffurfedd ag amodau’r cynllun:

Rheoliad 8 Rhaid i ddeiliad cytundeb ddarparu, yn y modd hwnnw ac ar yr adegau hynny a bennir gan Weinidogion Cymru, yr wybodaeth honno neu’r dystiolaeth honno sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru i:

  1. gwirio a yw deiliad y cytundeb yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cael cymorth
  2. gwirhau cydymffurfedd â’r amodau y darperir cymorth yn ddarostyngedig iddynt
  3. monitro i ba raddau y mae diben y cynllun cymorth wedi ei gyflawni, neu y bydd yn cael ei gyflawni, a 
  4. adolygu neu werthuso:

    (i) unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau a gynhelir gan ddeiliad y cytundeb o dan y cynllun cymorth, a 

    (ii) llwyddiant y cynllun cymorth yn ei gyfanrwydd

Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng monitro'r cymorth a ddarperir o dan gynllun a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o'r Ddeddf a'r fframwaith adrodd a gynhwysir yn y Ddeddf. Er mwyn bodloni'r gofynion adrodd, caiff yr holl gymorth a roddir ei fonitro i fesur effaith ac effeithiolrwydd y cymorth hwnnw, yn ogystal â sicrhau rheolaeth ariannol briodol ac effeithiol. 

Bydd tystiolaeth a gyflwynir gan ymgeiswyr / deiliaid cytundebau yn cael ei defnyddio i fonitro effaith y cynlluniau cymorth ar draws y sector amaethyddol yng Nghymru, gan gynnwys asesu cyfraniad camau gweithredu â chymorth tuag at amcanion SLM. Gall hyn gynnwys data a gesglir trwy archwiliadau a datganiadau neu wrth weinyddu cynlluniau a bydd gofyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data a hysbysiadau preifatrwydd cynlluniau.  

Gwerthuso'r SFS

Yr SFS fydd prif gyfrwng, ond nid unig gyfrwng Llywodraeth Cymru, i gyflawni amcanion SLM. Bydd yr SFS yn darparu cyfran sylweddol o'r fframwaith monitro, adrodd a gwerthuso, gan sicrhau y gellir asesu effeithiolrwydd a gwerth am arian y cynllun ei hun. Er mwyn helpu i werthuso, efallai y byddwn yn gofyn i'r rheini sydd ar y cynllun gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil. Bydd y wybodaeth a'r adborth a gesglir drwy'r gweithgareddau hyn yn cyfrannu at ddatblygu'r cynllun yn y dyfodol, a helpu i sicrhau ei fod yn parhau'n effeithiol, yn ymatebol ac yn fuddiol i'r diwydiant amaeth yng Nghymru.

Bydd strategaeth fonitro a gwerthuso yn y dyfodol yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu asesu sut y bydd amcanion SLM a chynlluniau gan gynnwys yr SFS yn cael eu hasesu o ran gwerth am arian a'u canlyniadau i Gymru, gan gynnwys canlyniadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.  

Bydd y strategaeth yn cydnabod natur hirdymor y canlyniadau a geisir ac yn nodi mesurau interim a all ddangos cynnydd ar sail data perfformiad a rheoli gan Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a darparwyr gwasanaethau eraill.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi a’ch data:

Gallai Llywodraeth Cymru rannu’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi iddi mewn cysylltiad â’ch hawliad am Haen Opsiynol yr SFS (gan gynnwys eich data personol) â chontractwyr trydydd parti er mwyn monitro a gwerthuso’r cynllun. 

O ganlyniad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn ichi gymryd rhan mewn gwaith ymchwil. Byddwn yn esbonio diben yr ymchwil ichi, ond mater ichi yn llwyr fydd cymryd rhan. Bydd eich cyfraniad yn yr ymchwil yn ein helpu i sicrhau bod y cynlluniau’n parhau’n effeithiol.

Bydd contractwyr yn defnyddio’r data a ddarperir i gynnal weithgareddau ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru a hynny'n unig, yn unol â GDPR y DU.

Adran N: hysbysiad preifatrwydd: Grantiau Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi grant i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll eraill.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y gwnawn ni wrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu roi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol i chi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu waith ichi.

Er mwyn asesu’ch cymhwysedd, efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais â’r canlynol:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • awdurdodau lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
  • swyddfeydd amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, awdurdodau lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu

Hefyd, mae’n bosibl y gwnawn ni rannu’ch gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall aelod arall o'r cyhoedd wneud cais i weld eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, Deddf Diogelu Data 2018 neu Reoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.

Byddwn yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i ddeiliaid cytundeb sydd wedi derbyn cymorth o dan Reoliadau'r Cynllun Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.  Bydd data yn cael ei gyhoeddi ar gyfer yr holl fuddiolwyr a bydd yn cynnwys yr enw llawn, y dref bost ac ardal y cod post a'r ardal lle mae deiliad y cytundeb yn preswylio. Bydd yn cynnwys manylion y symiau a'r cynlluniau y cafodd taliad ei wneud ar eu cyfer. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn gymwys i'r deiliaid cytundeb hynny sy'n derbyn llai na £1,250.00 o gymorth perthnasol yn y flwyddyn ariannol.  

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn unol â'n polisi cadw. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phan fydd pob taliad wedi'i wneud. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch
  • gofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Yr Ail Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn:

0330 414 6421

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Adran O: cysylltiadau

Ymholiadau: y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch ofyn cwestiwn drwy RPW Ar-lein ar unrhyw bryd.

Rhaid cael apwyntiad er mwyn ymweld â’n Swyddfeydd Rhanbarthol. Gall y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid drefnu apwyntiad ‘Cymorth Digidol’ i chi er mwyn ichi ymweld â Swyddfa Ranbarthol a chael help gan aelod o’r staff i wneud cais a/neu hawliad. 

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i'n wefan. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch e-bost.

Gwlad

Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n cynnwys newyddion, canllawiau a gwybodaeth hawdd eu ffeindio a'u deall. 

I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad. Gallwch wneud hyn naill ai ar Hysbysiadau neu Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth choedwigaeth.