Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf’) yn darparu fframwaith i hybu llesiant pobl Cymru drwy wella datblygu cynaliadwy (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cymdeithasol gyfrifol. Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

  • sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
  • dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig (neu os nad oes undeb llafur cydnabyddedig) cynrychiolwyr eraill o'u staff, wrth bennu eu hamcanion llesiant a chyflawni'r amcanion hynny o dan adran 3(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 (Deddf 2015)
  • dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr drwy'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wrth gyflawni eu hamcanion llesiant o dan adran 3(2)(b) o Ddeddf 2015
  • diwygio adran 4 o Ddeddf 2015 drwy roi 'gwaith teg' yn lle 'gwaith addas' yn y nod presennol ynghylch "Cymru lewyrchus"
  • dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i ystyried defnyddio prosesau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, i bennu amcanion mewn perthynas â nodau llesiant, ac i gyhoeddi strategaeth gaffael
  • gofyniad i gyrff cyhoeddus penodol gyflawni dyletswyddau rheoli contractau er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i ganlyniadau cymdeithasol gyfrifol drwy gadwyni cyflenwi
  • rhoi dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiadau mewn perthynas â'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol a’r Ddyletswydd Gaffael

Mae’r Crynodeb hwn o’r Bil a luniwyd gan y Senedd yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach:

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllewnch yr Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

TeitlRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk
 
2026 Rhif 754 Mawrth 2026

Pob rheoliad ac eithrio rheoliad 6: 25 Mawrth 2026

Rheoliad 6: 1 Ebrill 2026

 

2026 Rhif 75: Memorandwm Esboniadol ar senedd.wales
Y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithluNOSC 2026 Rhif 60Cyhoeddwyd 24 Mawrth 202625 Mawrth 2026Nid yw'n berthnasol

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar 7 Mehefin 2022 a'i basio gan Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2023. 

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2023.