Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022 yn sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, sef y corff rheoleiddio annibynnol sy’n gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru gan ddisodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae addysg drydyddol yn ymgorffori pob ffurf ar addysg ôl-16 gan gynnwys addysg bellach ac uwch, prentisiaethau a’r chweched dosbarth.

Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud darpariaeth arall ynghylch addysg drydyddol, gan gynnwys:

  • cofrestru a rheoleiddio darparwyr
  • sicrhau cyllid
  • prentisiaethau
  • diogelu dysgwyr, cwynion ac ymgysylltu
  • gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. 

Mae’r Crynodeb hwn o’r Bil a luniwyd gan y Senedd yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach:

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 143 i 146 a 148 i 149 o'r Ddeddf i rym ar 9 Medi 2022, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 148(1). Mae adran 148(2) yn darparu bod darpariaethau eraill o'r Ddeddf yn dod i rym pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion:

Mae'r gorchmynion canlynol wedi'u gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

TeitlRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) (Diwygio) 2026 ar legislation.gov.uk 2026 Rhif 9023 Mawrth 202631 Mawrth 20262026 Rhif 90: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Ddarfodol) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 724 Mawrth 2026Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)2026 Rhif 72: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 674 Mawrth 20261 Ebrill 20262026 Rhif 67: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 5425 Chwefror 20261 Mawrth 20262026 Rhif 54: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk
 
2026 Rhif 5225 Chwefror 20261 Ebrill 20262026 Rhif 52: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Cyrsiau Addysg Uwch Penodedig) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 1250 (Cy. 201)28 Tachwedd 202525 Rhagfyr 20252025 Rhif 1250 (Cy. 201): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 1241 (Cy. 200) 25 Tachwedd 202525 Rhagfyr 20252025 Rhif 1241 (Cy. 200): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 435 (Cy. 84)2 Ebrill 20255 Ebrill 20252025 Rhif 435 (Cy. 84): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru 
Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Dynodi Darparwyr) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 1126 (Cy. 188)6 Tachwedd 202411 Tachwedd 20242024 Rhif 1126 (Cy. 188): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru a Dadgofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 1121 (Cy. 187)6 Tachwedd 202411 Tachwedd 20242024 Rhif 1121 (Cy. 187): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru 
Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 803 (Cy. 128)17 Gorffennaf 20241 Awst 20242024 Rhif 803 (Cy. 128): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar 1 Tachwedd 2021, ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2022.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022.